Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Sibrydion yr Awel.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Sibrydion yr Awel. [GAN LEO. J Caernarfon. Nid yw gwres y Diwygiad wedi llwyr ado'r dref, rnae yma gryn dipyn o hono ar gael a chadw ond fel pob man arall, o'r bron, bu y fewnol fflam yn nghudd tra yr oedd gwres yr Haf yn twymno yn allanol, ac ofnem na chawsid gweled na theimlo pethau cyffelyb i'r hyn a gafwyd yn ystod y gauaf ddiweddaf. Mae y rhagolygon lawer disgleiriach na'n hofnau, a'r fflam yn fwy byw a gwresog nag a dybiem. Nid oes foddion hafal i gyfarfod gweddio am enyn gwres a brwdtrydedd crefyddol. Bu eglwys Ebenezer yn hynod o ffortunus yn parhau i gadw cyfarfod i weddio nos Sadwrn a foreu Sul yn ddidor drwy yr haf,—cyfarfodydd ag y teimlwyd mwy o nerthoedd yr Yspryd ynddynt na dim ag a gatwyd drwy ys'.od gwres mwyaf y Diwygiad. Yr oedd moddion nos Sadwrn, wythnos i'r diweddaf, yn eithriadol o ddylanwadol (diwrnod angladd yr anwyl "J.P.") pawb fel pe wedi ymgolli mewn hiraeth a llawenydd, a'r nefoedd yn cyfranu o'u gorfoledd i saint trallodedig y llaivr. Cafwyd cyfarfod da y boreu Sal dilynol, ond nid mor ysgubol a chyffredinol ei ddylanwad a'r nos Sadwrn cyn hynny. Mae'r Eglwys yn sicr o dderbyn adgyfnerlhiad o'r cyfarfodydd bendithiol hyn. Maent eisoes wedi bod yn feithrinfa i weddiwyr ieuainc, ac yn foddion i'w codi o dir ofnadwyaeth, fel ag y maent heddyw yn addurno pob gwasanaeth gyhosddus. Caed prawf amlwg iawn o hyn yn y cyfarfodydd diolchgarwch eleni. Nid oedd brinder doniau a llanwyd y bylchau a wnaed drwy angeu y rhan fwyaf, gan ffrwyth uniongyrchiol y Diwygiad, nes peri llonder yn nghalon pawb oedd yn teimlo dros yr achos yn y lie. Dangoswyd fod yn eglwys Ebenezer ddefnyddiau ardderchog ond iddynt yn gael pob chwareu teg i ddad- blygu. Credaf fod ein parchus arolygydd wedi canfod hynny, ac yn ol a glywais ganddo y mae'n angerddol awyddus am eu cynorthwyo. -:0:- Teimlaf fod baich arolygwr cylchdaith Caernarfon yn ormodol. Yr wyf o'r farn fod y dref ynddi ei hun yn ddigon o gylchdaith i unrhyw ddyn, ac fod ynddi ddigon o waith Wesleyaidd ac efengylaidd i'w gadw yn yr harness o o Sabboth i Sabboth. Gresyn na welid y ffordd yn glir i wneud pob tref gyffelyb iddi yn un maes mawr i'r gweinidog cawsai Wesleyaeth well chwareu teg, mi warantaf; ond chwedl John Jones— fel y mae hi, mae hi ora," neu o leiaf, fel yna mae'n debyg y bydd pethau tra rhed yr afonydd i'r mor. -:0:- Dechreuwyd y gymdeithas Idnyddo* gyda swper achyfarfod adloniadol. Caf- wyd cynulliad da a chryno,-a swper teilwng o ferched Ebenezer. Yr wyth- nos ddilynol traddododd y Parch Daniel Williams, Penisa'rwaen, anerchiad ar Ei ymweliad a'r America." Mawr ganmolir y gwr ieuanc addawol am ei bertrwydd a'i hyawdledd. Llwyddiant iddo yn ei gylch newydd. Rhoddodd ein parchus weinidog, Mr Morgan, anerchiad ar y Bywyd Goreu y nos Fercher canlynol; yn ol ei arfer ef, gwnaeth waith rhagorol, a theimlid fod ei wersi ymarferol yn cael dyfnder daear." Mewn cymdeithas ag sydd yn cael ei gwneud i fyny o ieuenctyd nis gallesid meddwl am destyn a sylwadau mwy pwrpasol. Llywydd y ddwy noson ydoedd y ffyddlon a'r ymroddol frawd Mr John Price, Bryn Arfon. -0:- Nos Lun, o dan lywyddiaeth yr Henadur D J Lake (y cynfaer), tradd- ododd y Parch Richard Morgan ei ddarlith ar "Bedwar Dyn y Byd." Yr oedd y cynulliad yn eithriadol o dda. Nid. yw darlithoedd yn boblogaidd yn Nghaernarfon ond cafodd Mr Morgan fwy o wrandawyr nag arferol, ac, yn sicr, pe yr ymgymerid a'i thraddodi etc, ceid cymaint arall i'w gwrando. Mae y ddarlith hon yn un o'r rhai mwyat entertaining a sylweddol ag y cefais y fraint o'u gwrando, heblaw yr 1zumour dI-ben-draw, mae ynddi wersi gwerth eu dysgu, a cheir y darlithydd yn ei element, yn arddangos gallu a medr anesgrifol. Yn ddigamsyniol nid oes ar lwyfan ein gwlad cystal darlithydd a Mr Morgan a dywedaf fwy, mae yn anmhosibl cael iachach, purach, a godid- ocach darlith na Phedwar Dyn y Bydd." Carwn i bawb gael ei chywed end gwell genyf iddo gael heddwch, yr ydym yn rby hoff o honno i'w adael i fyned ar grwydr yn mhell ac yn ami. Cychwynwyd Dosbarth Duwinyddoli efrydu Holwyddorydd Pricharu, o dan arweiniad y Parch Richard Morgan. Cafwyd 64 o enwau, ond gan nas gellir lei gynal yn ei noson briodol, nos Lun, y mae y nifer sydd yn presenoli yn llawer Ilai. Daw rhywbeth yn rhwystr yn barhaus, ac fel mae gwaetha'r modd, ceir fod symud o'r naill noson i'r llall yn tynu oddiwrth ddyddordeb yr aelodau ynddo. Rhaid cadw yn ddigwymp at nos Lun, neu waeth taro'r mwgwd ar ei wyneb. -:0' Hysbysir ni fod Mr Evan Roberts yn do'd yma eto,-yr amser heb ei bender- fynu. Da gennym glywed y newydd ond byddai yn ganmil gwell gennym gredu a gweled eglwysi y dref wedi dod i ofyn ac i chwilio am eu Duw. Nid Evan Roberts sydd i wneud y gwaith ond ei Feistr. Gwendid eglwysi y wlad a'r dref yn gyffredinol ydyw dibynu yn ormodol ar allu dyn. Ddaw hi ddim yn wir. Methiant oedd ymweliad diweddaf Mr Roberts, a methiant fydd ei ail- ymweliad hefyd, os na fydd ei Dduw yn ngweddiau ac yn nghalonau y bobl sydd yn ei ivahodd. Mae Evan Roberts ei hunan yn alright; ond mae eglwysi'r dref, a'u cymmeryd fel cyfangornF, yn all-wrong. Rhaid symud yr aflvvydd ein hunain os yr ydym am i Genhad- aeth Evan Roberts fod yn llwyddiant- digarregwn y ffordd drwy ymddiosg oddiwrthym yr hyn ag sydd yn rhwystr i Dduw weithio ynom, arnom, a tal worn. -:0. Mae yr Yspryd Glan yn cynyg ei Hun mewn modd amlwg iawn i eglwys Ebenezer, nid oes eisieu dim ond agor y drws led y pen, a gadael iddo wneud ei waith arnom. Yr wyf wedi bod mewn ami i gyfr arfod gweddi a Seiat yn ddiweddar a'r Yspryd bron wedi do'd i siarad yn y lie ond rywfodd aeth y cyfleustra ymaith heb wneud y defnydd goreu o honno. Mae rhywbeth fel pe yn dweud wrthwyf mai Ebenezer ddylai arwain y dref, nis gan paham os nad mai hi garwn fod ar y blaen. 0 am lygaid i weled ein cyfleusterau, calon i deimlo'r sefyllfa, ac ysbryd penderfynol a gwrol i wneyd ein gwaith. Mae y Ceidwadwyr wedi codi eu calonau ar ol yr etboliad diweddaf. Ennillasant sedd ar y Cynghor Trefol a chawsant y tri lie blaenaf ar y rhestr. I'r sawl na wyr amgylchiadau'r dref gallesid tybio fod popeth ar ben ar y Rhyddfrydwyr, druain ond, ha wyr, na ddychryned neb, pan ddaw y gwron a'r glewaf o'r holl wyr ar y maes mae ei ddiogelwch gadarned a'r Wyddfa. Personolaeth y ceidwadwyr a bwngler- eiddiwch yr Hen Gynghor gariodd ddylanwad yn yr etholiad. Mae pobl wedi hen flino ar egwyddorion marw credant gymaint ag erioed mewnRhydd- frydiaeth, ond nid ydynt am lynu wrth Ryddfrydwyr Toriaidd er mwyn enw yn unig, rhaid cael gweithredoedd clir, pendant ac ymarferol cyn y sicrheir cydymdeimlad. Cymmered y miliwnau edmygwyr sydd gan Lloyd George gysur, bydd ei fwyafrif y tro nesaf yn fwy nag erioed. Mae Lloyd George yn berson byw yn nghalonau yr etholwyr. Drwg gennym ei fod yn dioddef oddi- wrth anhwylder neulltuol y dyddiau hyn. Dymunwn iddo adferiad buan. Fedr y byd mawr, crwn, a llydan, ddim gwneud hebddo efe ydyw leading light y byd politicaidd. Dywedwch, ein bod yn eithafol, waeth p'run, dyna ydyw barn mwyafrif etholwyr Bwrdeisdrefi Arfon.

log Marwolaeth Watcyn Wyn.

!Nodiadau Cyfundebol.

Advertising