Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DARLLENWCH COFIWCH YSTYRIWCH! Ois ydyah yn dyoddef gan unrihyw afiecihiyd yn tardldiu oddHiWrtih Dddffyg Tareuliad neu Wiaedi Anmhur, defnyddiwdh: mm it L VA I 6WILTM EMS Meddyginiaeth Effeithiol. Pawb vn ei chanmol, Nid yw byth yn siomÎ, Rhyfid nerth i'r gowan, AireWftd iechyd i'r claf, A mwjnhad bywyd i bawb. Bitters Gwilym Evans Y miaie miloedd wedi caiel iaidhiad oddiwrth aimryw glafydiau tmVIY dldofnyddio y FEDDYGIXIAKTU RYFEDlDOL HON Pan y mae POD MEDDYGINIAETH ARALL WEDI METHU. Meddyginiaeth Lwyddianus. Dywed MILOKDD a wellihawyd drwydd: miai hon yw Meddygmiaefch Oreu yr Oes. Bitters Gvi/ym EV8.rs, Y mae yn gweila Gwaedi Ammihur, Diffyg Tmeuliad, Anfuwyddieriau y CjyllDa, Llosg Cylla, Gwencdd G/ileiuiol, Pruiddglwyf, Iseldler Yspqyd, Clefyd yr Ysgyfainit, Gwoenidid Ciyffreldinol, Poeri Gwraed, D:otaria)u yr Afu, Diiffyg Aniadl, &c. &c. Bitters Gwiiyra Evans TYSTIOLAETHAU. Penrawioh, Llangeithio. AUlwlYl Syr,—iM'ae amiryiw aelo,dau o'm teulu yn wefnfian.d eu hieiclhyd, yn enwedli.g un o'm mleriahied sydd yn ifey-fu i fyny, ac wedi tyfu i fyny yn dial iawn. Mae yn diodid/ef yn, faiwr oddiiwittlh. dddffyg anadl ar ol yr ymdrieclh leiaf wmtihi ddiilyn e.i gor- dhwyfldon. Byddiajf yn cadw Quinine Bitters Gwiilyim Evians bob amser yn y ty, ,gan fy miod yn cael ei fod yn gwneyd mwy 00 les I'm piliant na, dim a guwsant earioed. (Parch.) D. W. JOiNES. 18, Railway Sitreet, EawistO'wni, Tiieihiarris. Anwyl Syr,—Y mas yn bleser gennyf each hysbysu fod, Quinine Bitters Gwilym Evans, ynigfhyd a'r Digestive Pieiarls, wedii iboidl yn fodldion. i'm gwslila ar. oil ddoddef yn hiT Ddiffyg gan; Treuliad. Mae oaeth- iwiad fy ngialwediiga'afch mewn siop Dra- pery YTII tuieddu i niwaiddio fy icichy,d, a'm giwneud yn bruddlglwiyfus ond mae: eicli nj'«ddygin:iae)tih yn cryfhiaju y ciyfamscddiad a bywiogi yr yapByd mwiy nag' un a gy- merais o'r bliaen. Cym!ecad<wjya.f eof i oowlb, y mae yn gaffiajeliiad i'r cyihiaedd'.— Yr edddoeih yn ffyddlrnvn, E. J. WAREiHAM. Bitterf: Gwilym Evans 997- RHYBUDD GO C H EL W C H DWYLLLWYR Edrrychwch fod enw Gwilym Evans ar bob -abel, stamp, a photel. o-werthir ef mewn poteli 2s. 9c. a 4s. 6c. yr un. Blychau yn cynwys tair potel 4s. 6c., am 12s. 6c. I'w oael yn rabob m;an, neu danfonir hwy vn rhad am y prisaJau uchod yn ddiogel drwy ¡r, post oddiwrth y percbenogT-n — SITTERS WJU CO., LIMITED, LLANELLY, South Wales. Sylwer Pris y GWiYLIEDYDD trrwy y Post bob wythnos am cbwarter ydiyw Is. 8c. Am hianinier blwyddyn, 3s. 4c. Am flwyddya, 6s. 8c.. Y tailiad ymlaen llaw gyda'r aroheb. Anfonir pedwar trwy y Post am, geiniog yr un wedi talu y draul. Anfoner pob peth yn nighylch y busnes wedi ei gyfeirio fel hyn MANAGER, GWYLIEDYDD OFFICE, LEESWO'OD, MOLD. CYFEIRIED ein Gohebiwiyr bob peth y dymmnanit iddynt gael eu cyboeddi fel hyn GOL YiGYiDD, "GWYLIEDYDD" OFFICE, LEESWOOD, MOLD. Gellir amfon Gohebiaeftli hdb ddim o natur llythyr gyda hi am ddimai am bob dwy wns ond gadael yr amilen yn agored. BYDDED hysbys nad ydym yn gyfrifol am synladau ein Gohebwyr. AT EIN GOHEBWYR. Cwyna'r argraffwyr nad ydynt yn. cael di- gon o amser gyda'r goliabaaethau, &c.feil}^ erfyniwn larnoch oil anifon yr hyn fydd gen- nych i'w gyhoeddi erfbyn bore Llun yn mhob wythnos. Arawddi fydfd rho'dd'i i meiwn adun dldaw i law ar oil hynny. GOL., GWYLIEDYDD OFFICE, LEESWOIOD, MOLD. YN EISIAU-Cyfeiriad presennol Mr E Parry, gynt o 26, Frances Street, Bargoed, Cardiff. Anfo.ner at 'Mian¡ager,' GWYLIEO- YDD Office.
Y Gwyddel. ynte'r Cymro ?
Y Gwyddel. ynte'r Cymro ? MAE yn amlwg y bydd yn ofynnol Gymru fod yn fanwl ar ei gwyliad- wriaeth cyn y delo'r Etholiad Cyffredinol. Er's deugain mlynedd bellach mae wedi codi ei llef yn ddigamsyniol o blaid Rhyddid Cydwybod a Chydraddoldeb Cref- yddol. Dioddefodd yn 1868 fwy nag un rhan o'r wlad o herwydd ei hym- lyniad wrth yr egwyddor fawr honno. O'r dydd hwnnw hyd heddyw ni phallodd godi ei llef yn heolydd y byd gwleidyddol o blaid cymhwyso'r egwyddor fawr hon at ei hamgylch- iadau ei hun. Ond pa le y saif Dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru heddyw ? Oni buasai am ddewrder Syr Alfred Thomas yn codi yr hen faner i'r gwynt dri mis yn ol, ni fuasai son am y cwestiwn gan ein harweinwyr gwleidyddol! Pa Ie mae aelodau eraill Cymru ? Hyd yn oed yn Meirion. y ddaear a sancteiddiwyd ag ymdrechion Tom Ellis, ac a gyseg- rwyd i Genedlaetholdeb y dydd y gosodwyd ei gorff yn ei phriddell, ie, hyd yn oed yn Meirion, buasai yr Aelod presennol yn foddlon claddu Dadgysylltiad yn medd Tom Ellis! Mae ami i gwestiwn arall heblaw Dadgysylltiad,yn hawlio sylw gwleid- yddwyr y dyddiau yma, ebe Mr Osmond Williams. Gwir—ond a oes cwestiwn pwysicaeh na hwn i Gymru? A oes gwestiwn arall y dylasai Aelodau Cymreig fod yn foddlon ei weled yn cael ei wthio i'r ffrynt ? Cymered Cymru wers oddiwrth ddi- gwyddiadau'r wythnos ddiweddaf. Bu Syr Henry Campbell-Bannerman -ac efe fydd y Prif Weinidog cyn pen deu fis-yn annerch ei etholwyr, a dywedodd mewn geiriau plaen fod yn rhaid iddo wrando ar Pat y Gwyddel a'i gri am "V mreolaeth. Ni soniodd air am Shon Gymro a'i gais ef am gyfiawnder Bai pwy oedd hyn? Ai bai Syr Henry? N'age- ond bai John Jones ei hun am ei fod wedi caniatau i'w gynrychiolwyr Seneddol, o Lloyd George i lawr i fod yn ddistaw cyhyd ar y cwestiwn. Casgla Syr Henry a Mr Asquith a'u cyfeillion oddiwrth y distawrwydd hwn nad yw Cymru am wasgu'r cwestiwn ymlaen, a'i bod yn foddlon i Tom Dick a Harri gael y blaen arni yn sylw'r Senedd newydd Yn awr beiddwn ddweyd yn enw Cenedlaetholwyr Cymru, ac yn enw Ymneulltuaeth Cymru, nad ydynt hwy yn bwriadu caniatau i gerbydres Dad- gysylltiad Shon Gymro gael ei shuntio eto i wneud lie i Express Ymreolaeth Pat. Gwnaed hynny unwaith—a chostiodd ugain mlynedd o anialwch i'r Blaid Ryddfrydol. Os oes gan y Gwyddel hawl o gwbl i ystyriaeth ar- bennig oddiar ddwylaw'r Weinyddiaeth nesaf, mae gan y Cymro fwy. 0 ba safbwynt bynnag yr edrychir ar y cwestiwn—ffyddlondeb di-\Vyro i'r Blaid, aberth dros ei hegwyddorion, hir-ymaros, gw'ir angen, angerddolrwydd zel, pob- peth-mae hawl Shon Gymro yn tra ragori ar eiddo Pat. John Jones, pa beth ydwyt ti am wneud ? A yw dy holl lafur, aberth mawr y deugain mlynedd diweddaf i fyned yn ofer, ie, a gwaeth nag ofer yn awr ? Ai ffrwyth dy aberth di yw myned eto i beryglu unoliaeth Rhydd- frydiaeth er mwyn gwobrwyo'r Pabydd Gwyddelig gynorthwyodd yr Esgobion Seisnig i rwymo'r Ddeddf Addysg orthrymus am dy wddf ? Deffro, John, ti yr hun wyt yn cysgu-neu can wired a'th eni fe a Pat o dy flaen, ac efe a gipia y wobr sydd yn gyfiawn a theilwng eiddo i ti!
fo§ — Yr Archdderwyddiaeth.
fo§ — Yr Archdderwyddiaeth. Nid ydym hyd yn hyn wedi yngan gair o berthynas i'r Archdderwyddiaeth. Da fuasai gennym weled pawb eraill yn ddistaw am ychydig bach ymhellach. Ond mae'r holl ysgrifennu miniog yn y papurau Cymraeg a Seisnig wedi gorfodi Pwyllgor yr Orsedd i weithredu ynghynt nag a fuasai o bcsibl yn ddymunol o dan amgylchiadau eraill. Gan fod ymgeis- wyr mor sychedig am y swydd, a chan fud iddynt gyfeillion a gelynion, y rhai y mae eu sel gymmainl yn fwy na'u doethineb, goreu po gyntaf bellach y gwneir y penodiad, ac y gosodir terfyn ar ymgecraeth sydd mor annghysson ag urddas Barddas a'r Orsedd. Da felly fod Pwyllgor yr Orsedd yn cyfarfod yr wythnos hon i ddewis ac i ethol olynydd i Hwfa Mon. Pwysleisiwn y geiriau ac i ethol I am fod y Wasg Seisnig, gyda'i hanwybodaeth arferol o bethau Cymreig, yn cyhoeddi mai' enwi' ymgeisydd yn unig wna'r Pwyllgor yr wythnos hon, i'r Beirdd gael bwrw barn arno yn Eisteddfod Caernarfon y flwydd- yn nesaf! Dichon nad yw'r Beirdd y doethaf o ddynion, ond yn sicr ni buasent mor ffol a chodi neb i fod yn nod saethau pob gelyn cyhoeddus a dirgel am naw mis o amser. Canys pe y dewisent Gabriel yr Archangel o fyd y goleuni buasai o dan laid ei elynion can ddued a Belial cyn pen y naw mis, os wrth fwrw llaid y buasai rhuth gobaith, y caffai Belial ei ethol yn lie Gabriel Na. Nid dewis un i'w I gynnyg fel Archdderwydd, ond ethol Archdderwydd yw gwaith y Pwyllgor yr wythnos hon, Hynny, a hynny yn unig, sydd yn cyf- iawnhau galw'r Pwyllgor ynghyd mor fuan ar ol marw Hwfa. Nid ydym yn dadleu ai doeth ai an- noeth yw fod yr awdurdod hwn yn cael bod yn nwylaw'r Pwyllgor. Ond yn ol cyfansoddiad Cymdeithas yr Orsedd yn nwylaw'r Pwyllgor, ac yn nwylaw'r Pwyllgor yn unig y gorffwys yr hawl i ethol. Myn rhai na ddylasai awdurdod mor fawr gael ei weithredu gan bersonnau annghyfrifol nad ydynt yn cynrychioli neb ond hwy eu hunain.' Oud mae dyweyd hynny yn bradychu anwybod- aeth ddygn. Nid personnau annghyf- rifol' yw aelodau'r Pwyllgor. Cynhwysa y Pwyllgor rai o'r dynion mwyaf adna- byddus yn Nghymru-ac maent yn gyfrifol i Gymdeithas yr Orsedd am yr hyn a wnant, Nid I cynrychioh eu hun- ain y maent ychwaith-eithr cynrych- ioli holl Farddas Cymru y maent, gan y rhai yr etholir hwyut. Cymdeithas 'yr Orsedd yn ei chyfarfod blynyddol sydd yn ethol Pwyllgor yr Orsedd, ac yn rhoddi i'r Pwyllgor awdurdod i weith- redu. Mae gan bob Ofydd, a Bardd a Cherddor Gorseddol trwyddedig lais yn y Cyfarfod Blynyddol. Os nad yw yn dewis codi ei lais vno, ni ddylasai godi ei lais i feirniadu yr hyn a wneir yno. Am yr Archdderwydd newydd, prin y gellir disgwyl gweled Hwfa arall. Eto ceir ymhlith Beirdd Cymru fwy nag un a all gynhal urddas Archdderwydd a Gorsedd Beirdd -Ynys Prydain yn an- rhydeddus. Rhaid i'r neb a deilynga'r swydd fod yn gredwr diysgog yn yr Orsedd a'i detion dylasai fod wedi profi drwy ffyddlondeb di-wyro yn y gcr- ffennol ei ymlyniad wrth yr orsedd dy- lasai fod yn wr o athrylith yn wr o gymeriad gloew yn wr o bwyll ac yn wr o awdurdod. Ac mae maes dewisiad y Pwyllgor yn cynwys nifer digonol yn d'od i fyny a'r safon i wneud eu dewisiad terfynnol yn fater anhawdd. Bydded iddynt gael eu breintio a doethineb i ddewis y teilyngaf. — §0§ ■ 1
[No title]
Hysbysir y byddys ar fyrder yn paro- toi ar gyfer dwyn allan gyfrol yn cyn- hwys Bywyd y diweddar Barch Thomas Champness. Nid oes angen dyweyd na fydd honno yn gyfrol ddyddoro a gwerthfawr.
Marwolaeth y Parch. Thomas…
Marwolaeth y Parch. Thomas Davies, Llanfechain. Gyda gofid dwys y croniclwn eto am farwolaeth un o'r gweinidogion ieuanc mwyaf addawol. Cymerodd yr am- gylchiad pruddaidd le dydd Sadwrn diweddaf, a ddoe (dydd Mercher) cladd- wyd ei weddillion marwol ym mynwent Croesoswallt. Bydd hanes cyflawn o fywyd, marwolaeth a chladdedigaeth yr ymadawedig yn y Gwyuedydd am yr wythnos nesaf. Cydymdeimlir a'r weddw ieuanc yn ei thrallod blin.
Ymweliad Mr. Evan Roberts…
Ymweliad Mr. Evan Roberts a Sir Gaernarfon. Y TREFNIADAU. I DDECHREU YN MHWLLHELI. Prydnawn ddydd Sadwrn cynhaliwyd cyfarfod yn festri Capel Salem (A.), Caernarfon, o gynrychiolwyr eglwysi rhyddion Sir Gaernarfon, er trefnu gogyfer ag ymweliad Mr Evan Roberts (y Diwygiwr) a'r sir. Daeth dros 60 o gynrychiolwyr yn nghyd o wahanol ranau o'r sir. Llyw- yddwyd gan y Parch D Stanley Jones (llywydd Cynghrair Eghvysi Rhyddion Caernarfon). Pasiwyd a ganlyn :— "Fod ceisiadau o Benmaenmawr, Llanfairfechan, Beddgelert, Trefor, a Dinorwig, am gael ymuno yn y mudiad, yn cael eu derbyn." Fod yr un telerau yn cael eu cy- mhwyso at bob lie fydd yn derbyn cynygiad y Pwyllgor i Mr Evan Roberts ymweled a hwy,—pob lie i ddwyn eu treuliau eu hunain." "Fed y genhadaeth i ddechreu yr wythnos gyntaf yn Rhagfyr. Dechreuir ar y genhadaeth yn Mhwllheli, a hynny ar ddydd Llun, Rhagfyr 4ydd. Bydd y Diwygiwr yn Mhwllheli am dair nos- waith, ac yn Lleyn am y gweddill o'r wythnos." Fod y cyfarfod hwn yn cymeradwyo taflen o emynau a gyhoeddir gan Eglwysi Rhyddion Caernarfon fel un gymhwys i gael ei defnyddio yn yr oil o'r cyfarfod- ydd. Gwerthir hi am 5s y cant. Prydnawn ddydd Iau, o dan lywydd- iaeth y Parch D Stanley Jones, Caernar- fon, cynhaliwyd cyfarfod o is-bwyllgor o gynrychiolwyr Eglwysi Rhyddion Sir Gaernarfon yn festri capel Salem. Yr oedd cynrychiolaeth dda yn bresenol. Ar ol cryn drafodaeth, penderfynwyd yn derfynol fod trefn ymweliad Mr Evan Foberts a'r sir i fod fel y canlyn Yr wythnos gyntaf—Pwllheli, Rhagfyr 0 4ydd, 5ed, a'r 6ed. Manau ereill yn lleyn, Rhagfyr 7fed, 8fed, a'r 9fed. Yr ail wythnos- Trefor (Llanael- haiarn), Rhagfyr neg. Penygroes, Rhag- C, fyr Izfed a'r I3eg. Talysarn, Rhagfyr 14eg. Llanllyfni, Rhagfyr 15eg. Bryn- aerau, Rhagfyr i6eg. Y drydedd wythnos-Criccieth, Rhag- fyr i8fed. Porthmadog, Rhagfyr 19eg, 10 2ofed, a'r 2 lain. Beddgelert, Rhagfyr 22ain. Y bedwaredd wythnos—Caernarfon, Rhagfyr 26ain, 27ain, a'r 28ain. Waen- fawr, Rhagfyr 29am a'r 30am. Y Burned wythnos-Deiniolen, Ionawr laf a'r 2il, 1906. Dinorwig, Ionawr 3ydd. Rhostryfan, Ionawr 4ydd. Carmel, Ionawr sed. Bryn'rodyn, Ionawr 6ed. Y chweched wythnos-Bangor, Ionawr 8fed, 9fed a'r lofed. Llanfairfechan, Ionawr neg. Penmaenmawr, 12fed. Bethel (Llanddeiniolen), Ionawr I3eg. Y seithfed wythnos—Porthdinorwig' Ionawr Isfed.- Llanrug, Ionawr I6eg. Llanberis, Ionawr 17eg a'r i8fed. Hysbyswyd fod Mr Evan Roberts yn gorffwyso ar y Sul, ac nad yw y trefniadau arferol ar y dydd hwnw i gael ymyryd a hwy. Hefyd, ni chynhelir cyfarfod nos Lun Nadolig (Rhagfyr 25ain). Darllenodd Mr W Gwenlyn Evans (yr ysgrifenydd cylfredinol) amryw awgrymiadau, a bu trafodaeth arnynt. Yr ardal neu y dref a enwir yn y rhestr uchod. Trefnir y capelau y bydd Mr Roberts ynddynt gan y pwyllgorau lleol.
1 E. R. YN CADARNHAU
E. R. YN CADARNHAU Derbyniodd Mr Gwenlyn Evans y pellebyr canlynol oddiwrth Mr Evan Roberts, boreu Gwener, yr hwn sydd yn cadarnhau trefniadau y pwyllgor Rhydd i ddyfod yr wythnos gyn taf "EVAN ROBERTS."
Nodiadau Cyfundebol.
Nodiadau Cyfundebol. [GAN Y LLYFRBRYF WESLEYAIDD.] Deallwn fod y Parch John Wesley Hughes, Croesoswallt, wedi cydsynio i dderbyn gwahoddiad i Brymbo yn Awst, 1908. < < Gwelwn fod y Parch Trevor H Dav- ies yn un o'r pregethwyr arbennig aryr achlysur o agoriad y Liverpool Central Hall Newydd. « < < 2,5oop ydoedd y swm yr oedd y Parch S F Collier yn gwneud apel am dano yn nghylchwyl flynyddol Cenhadaeth Man- chester dydd Mawrth diweddaf. Der- byniwyd dros dair mil. 1 < w Rhyfedd y fath boblogrwydd mae Gipsy Smith wedi ei ennill. Gwelwn fod argraffiad arall wedi ei gyhoeddi o Fywyd Gipsy Smith. Gwna hyn fod 60,000 o gopiau wedi eu hargraffu. « Hysbysir fod dau foneddwr o Lerpwl wedi addaw tair mil o bunnau rhyng- ddynt tuag at sicrhau y swm o 16,000p y gofynir am dannynt ddydd agoriad y Central Hall newydd yn Lerpwl. As Jesus Passed By ydyw teitlllyfr newydd o eiddo Gipsy Smith, yr hwn a gynnwysa nifer o annerchiadau goraf yr Efengylydd poblogaidd. Yn ddiau bydd i'r gyfrol gylchrediad mawr. < < Yr wythnos ddiweddaf ymddangosodd darlun da iawn o'r Parch John Telford, B.A., y Golygydd Cyfundebol newydd, yn y "Christian Age," gyda braslun o'i fywyd. Am yr eilfed waith gwasanaethodd y Parch T Wynne Jones, Llundain, yn nghapel yr enwog Barch Joseph Hock- ing, South Woodford. Yr oedd cynull- eidfa fawr yno. « Hyderwn fod. cylchlythyr rhagorol oddiwrth y Parchn Owen Evans a Dr Hugh Jones wedi cael y sylw dyladwy y Sabboth o'r blaen, ac fod y gwaith da wedi cael ei ddechreu o ddifrif. Un teilwng o'i goffadwriaeth yma ydoedd yr anwyl John Price Roberts. Pwy Wesleyad sydd heb wybod am yr enw Josiah Nix, yr Efengylydd Dirwes- tol ? Yn ysiod y flwyddyn ddiweddaf llwyddodd i gael 10,000 i gymmeryd yr ardystiad dirwestol. j Ardderchog Mae tyrfaoedd mawrion yn cyrchu ar ei ol. Nid rhyfedd, un o ddisgyblion Hugh Price Hughes ydyw Mr Nix. < y Parch W 0 Evans, Golygydd "Y Winllan," ar gynnwys ei brogram ar gyfer y flwyddyn nesaf. Yn ychwanegol at rai o'r hen ohebwyr mae wedi sicrhau llenorion o allu a chym- hwysder i ysgrifennu ar gyfer ein pob ieuainc. Ceir atdyniadau newyddion am 1906. 'Representation of Members in Local Church Management' ydoedd testyn papur a ddarllenwyd gan y Parch J Scott Lidgett, M.A. yn Nghyngor Wes- leyaidd Llundain, Tachwedd 13eg, 1905. Dyma fater pwysig ag sydd yn cael sylw y Cyfundeb. Mae'r hyn a ddywed y gwr galluog a dylanwadol, Mr Scott Lidgett, yn bwysig. Mae Gipsy Smith wedi bod yn cynhal Cenhadaeth fawr yn nghapel enwog Westminster, Llundain. Ar y Sul cyntaf yr oedd yr addoldy anferth wedi bacio a channoedd yn methu cael myn- ediad. Nos Lun yr oedd yn y gynull- eidfa 500 o ddeillion, y rhai a ganasant yr emyn fyth boblogaidd, Count your Blessings.' Cyfarfod ydoedd nad an- nghofir byth mohonno. < < 'John Evans, Eglwysbach,' ydoedd testyn darlith a draddodwyd i aclodau Cymdeithas Lenyddol a Dfowinyddol Mynydd Seion. Lerpwl, gan y Parch John Felix. Mwynhaodd y gymdeithas y ddarlith yn fawr iawn. Dylai y wlad yn gyffredinol gael clywed Mr Felix ar y testyn atdyniadol ac anwyl yr Eg- lwysbach.' • » • Anfonwyd gwahoddiad i Gipsy Smith i fyned i gynnal cyfres o gyfarfodydd yn yr Unol Dalaethau, America. Gwnelr rhagdrefniadau mawrion a phwysig ar gyfer ei ymweliad yno y flwyddyn nesaf. Bu yn ymdeithio yn yr America ddwy waith neu dair yn flaenorol, ac nid oes amheuaeth o'r derbyniad cynes a brwd- frydig a gaiff yno eto. < Cynhaliwyd Cymanfa Ddirwestol yn Manchester yr wythnos ddiweddaf, yn St James' Hall, yr hon a orlenwid yn nosawl-tua thair mil. Y cenhadwr ydoedd yr Americanwr enwog, Mr Geil. Yr oedd y naill gyfarfod ar ol y Hall yn cynnyddu mewn dylanwad a gallu. Cymmerodd dros 700 yr ardystiad dir-