Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DARLLENWCH COFIWCH :,1': r-<" YSTYRIWCH; Os ydycih yn dyoddef gan unrhyw afieohtyd yn taradai oddtLwrth Dddffyg Treuliad, neu W.aed Aomihur, defnyddiwtih. "'I BITTERS GWIOI EVANS Meddyginiaeth Effeithiol. Pawb yn ei chanmol, Nid yw bytb yn siomi, Rhydd nertb i'r gwan, Adfenad iechyd i'r claf, A mwynhad bywyd i bawb. Bitters Gwilym Evans Y mae miloiedd wedi caiel iaclhiad O'didiwrth amryw glefydiau tnwiy dldefnyddio y FEDDY GIN IA ETiH RVFKDDOL HON Pan y mae POD MEDDYGINIAETH ARALL WEDI METIIU. Meddyginiaeth Lwyddianus. Dywed MILOEDDa well/hawyd drwydldi mai hon yw Meddyginiaeth Oreu yr Oes. Bitters Gwilym Evars. Y mae. yn grwiella Gwaed Anmhur, Diffyg Treuliad, Anhtwyfldtertau y Oylllla, Llo.sg Cyllia, Gwendiid Gilsuiol, Pruiddiglwyf, Iseidier Yspryd, Clefyd yr Ysgyfainit, Gwendid Gyffnadinol, Poeri Gwaed, Doiluriaiu yr Afu, Dliffiyg Anadl, &c. &c. Bitters Gwilym Evans TYSTIOLAETHAU. Penu-wjoh, Llangeithio. Anwyl Syr,—Mae amiryw aeliodau o'm teuiu yn wennliaiid eu hrecihyd, yn emvedig un dm miercTmed sydd yn feyfu i fyny, ac wedi tyfu i fyny yn dial iawn. Mae yn diodfd/ef yn fawr otddiwrttih. ddiffyig anadi ar oi yr yimdnecih leiaf wnitta ddiilyn ei gor- cbwylion. Byddiatf yn cadw Quinine Bitters Gwilym Evians bob ams,er yn y ty, gan fy miod yn cael ei fod yn gwneyd mwy o les i'm' plant na dim a gílwsant ericed. (Parch.) D. W. JONES. 18, Railway Street, Lawistown, TTiabjarris. Anwtyl Syr,—Y mae yn blessr gennyf eich hy&bysu fod Quinine Bititers Gwilym Evans, ynigthydi a'r Digestive P'sarls, wedi bod yn fadidlion i'm gwelila ar ol diioddef yn Mr Ddsiffyg gan Trenliad. Miae caieth- iWJed fy ngialwedliga-eith mewn sáop Dra- pery yru tUleddu i nirwaidiiio fy ieiclbyd, a'm gwneud yn bruddiglwyfus; ond mae eich n'fddyjginitaettih yn cryfhiaiu. y ayfamscddiad a bywiogi yr yspryd mwy nag un a gy- irue'rais o'r bhen. Cyim(enlad(w[yaf ef i bawlb, y male yn gatffiaeliiad i'r cyihioedd'.— Yr eiiddoeih yn ffyddlawn, E. J. WARIEHAM. Bittsrc Gwiivm Evans RHYBUDD GOCHELWCH DWYLLLWYR. Edrycliwch fod enw Gwilym Evans ar bob abel, stamp, a photel. Gwerthir ef mewn poteli 2s. 9c. a 49. 6c. /r un. Blychau yn cynwys tair potel 4s. 6c., im 12s. 6c. I'w cael yn mhob man, neu danfonir hwy 'n chad am y prisiau uchod yn ddiiogel drwy post oddiwrth. y perchenoginn — IIMI BITTERS mnun cc., LIMITED, LLANELLY, South Wales. Sylwer Pris y GWYLIEDYDD trrwy y Post bob wythnos am cbwarter yd!yw Is. 8c. Am haniruer blwyddyn, 3s. 4c. Am flwyddyi, 6s. 8c. Y tailiilad ymlaen Haw gyda'r axoheb. Anfonir ped)war trwy y Post am gteiniog yr un wedi talu y draul. Anfoner pob peth yn ragihylch y busnes wedi ei gyfeirio fel hyn MANAGER, GWYLIEDYDD ,r OFFICE, LEESWOOD, MOLD. CYFEIRIED ein Gohebwyr bob peth y dymiunanit iadiynt gael eu cyhoeddi fel hyn GOLYGYDD, "GWYLIEDYDD" OFFICE, LEESWOOD, MOLD. Gelliir amfon Gohebiaefch helb ddim o natur llythyr gyda hi am ddimai am bob dwy wns ond gadfael yr amlen yn agored. BYDDED hysbys nad ydym yn gyfrifol am syniadau ein Gohebwyr. AT EIN GOHEBWYR. Cwyna'r argraffwyr nad ydynt yn cael di- gon o am-s-er gyda'r goheibdaethau, &c., felly erfyniwn arnoch oil amfdh yr hyn fydd gen- nych i'w gyhoeddi erlbyn bore Llun yn oihob wytihnos. Anaw'dd fydd riho,ddi i mawn ad:m ddaw i law ar oil hynny. GOL., GWYLIEDYDD OFFICE, LEESWOOD, MOLD. YN EISIAU-Cyfeiriad presennol Mr E Parry, gynt o 26, Frances Street, Bargoed, Cardiff. Anfoner at 'Mla.:n,a¡ger,' GWYLIEO- YDD Office.
[No title]
ill riob &.c. 1M GENEDJGARrDHAU. WPNiNiE—Rlhag. Z/yidd, priod Mr Thomas Wynne, M-ariah, W(ydld|gnu|g, ar fab.
Y Parch. Thomas Davies.
Y Parch. Thomas Davies. r WELE, un arall o weision ffyddlon ac ymroddul y Goruchaf wedi cwympo. Galwyd ein brawd anwyl oddiwrth ei waith at ei wobr a hi eto ond canol dydd arno. Nid oedd ond 38 mlwydd oed, ac wedi teithio un-mlyntdd-ar-ddeg fel gweinidog. Dechreu dod i'r golwg yr oedd fel pregethwr galiuog a gweinidog llwyddianus, a dysgwylid pethau rnawr oddiwrtho yn y dyfodol, Yr oedd yn- ddo adnoddau oeddynt yn rhoddi hawl i broffwydo pethau disglaer am dano pe y cawsai fywyd ac iechyd. Ond galwodd y Meistr ef yn uwch i fyny, i wenu yn y Cysegr Sancteiddiolaf, a rhaid ymostwng i'w ewyllys ddceth Ef er methu a'i deall. Cafodd ein brawd ei achub pan yn fach- gen ieuanc, a chysegrodd ei ddynoliacth unplyg a chref, yn ogystal a'i dalentau disglaer yn gwbl a hollol ar allor gwas anaeth crefydd. Dechreuodd bregethu yn gynar, ac yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun yn y cyfnod boreu hwnw. Treuliodd dair blynedd yn Ngholeg Didsbury, lie yr enwogodd ei hun fel gweithiwr cydwy- bodol a tneddyliwr uwchraddol. Llwy- ddodd i gipio ami i lawryf oddiar y myfyrwyr Seisnig .oeddynt wedi cael gwell manteision nag ef. Yr oedd yn dra chymeradwy hefyd fel pregethwr Seisnig yn y cyfnod hwn. Llafuriodd gyda chymeradwyaeth cynyddol wedi hynny yn nghylchdeithiau Llanrhaiadr (ei gylchdaith enedigol), Tregarth, Dinas Mawddwy, Portmadoc a Conwy. Dech- reuodd ar ei waith yn nghylchdaith Llanfyllin yn Medi diweddaf ond dar- ostyngwyd ei nerth ar y ffordd yn fuan wedi ei symudiad yno. Fel pregethwr, yr oedd bob amser yn arlwyo bwyd iach a chryf i'r gynulleidfa. Nid dealer in small wares na usecond. hand goodsn ydoedd. 0 nage, ond hoffai aros gyda, a threiddio i mewn i bethau mawr canolog a hanfodol yr Efengyl, gan eu hegluro a'i cymwyso mewn madd. medrus a meistrolgar i'r bobl. Byddai ei bregethau bob amser yn gryfion a chyfoethog, ac wedi ei meddwl yn fanw), a'u gweilhio allan.yn ofalus. Nid swyno, ond dysgu y byddai efe, a chatfai y saint bob amser rywbeth i gnoi eu cil arno yn ei bregethau. Teimlid yn wastad fod y dyn yn fwy na'r pregethwr, ac nad oedd ei holl stock ganddo yn y ffenestr. Byddai ar ei oreu yn y gymdeithas lenyddol a'r cyfarfod darllen, a pha fwy- af a bwysid arno, mwyaf oil o'i nerth tel meddyliwr, ac o'i allu fel ymresymwr a ddeuai i'r golwg. Yr oedd yn Ilenor gwych, gydag ar. ddull gref a syml fel y prawf ei ysgrifau gwerthfawr ar Gymdeithas y Saint" yn yr Eurgrawn." Nid ydym yn gwybod am neb o'i oedran a barn ddiogelach ac addfetach ar gwestiynau duwinyddol ac athronyddol nag ef. Gallai wel'd yn mhell, a gwel'd yn glir iawn hefyd. Cyflawnodd ei waith fel gweinidog yn flyddlon, cydwybodol, a didderbyneb yn mhob cylchdaith. Yr oedd yn fugail tyner a gofalus. Cafodd y llesg a'r cystuddiol ynddo un allai gydymdeimlo a hwy. Gallai ddyweyd yn ddoeth ac arwain yn llwyddiannus gyda phethau allanol yr achos pan tyddar galw am hynny, fel y prawf ei waith yn Rhiwlas, Talsarnau a Colwyn Bay. Ond yn goron ar y cyfan yr oedd Thomas Davies yn ddyn Duw, ac yn foneddwr Cristionogol. Dywedodd ei gyfoed a'i gyfaill, y Parch David Morris, ddydd ei angladd, nad oedd yn adnabod cymeriad purach na harddach nag ef. Y rhai a'i hadwaenent oreu a'i hedmygent fwyaf. Yr oedd arogl rhosynau a myrr yn wastad ar ei wisgoedd. Addurnodd yr athrawiaeth a bregethai ei fywyd glan a'i ymddygiad boneddigaidd. Rhodd- cdd hefyd brawf ymarferol, ac amlygiad gweledig o'r nerth a'r cysur sydd yn nghrefydd Iesu Grist yn wyneb gwendid a chystudd. Nis gwyr undyn pa faint a ddioddefodd efe yn dawel a distaw yn y:t)d y blynyddoedd diweddaf hyn. Yr oedd ei ddyn oddiallan i'w weled yn llygru a darfod. Ond fel Paul, yr oedd ei ddyn oddimewn-ei yspryd a'i bender- fyniad a'i frwdfrydedd yn cael ei adnew- yddu o ddydd i ddydd. Cofiai fel yr Apostol fod Duw wedi trugarhau wrtho mewn trefn i'w wneud yn weithiwr- megis y cawsom drugaredd." Syl- weddolai werth y trysor a ymddiriedwyd yn ei lestr pridd fel gweinidog Crist yr efengyl hon." A gwelai yntau hefyd os oedd angeu yn gweithio ynddo ef, fod bywyd uwch, cyfoethocach, ac addfetach yn dod yn eiddo i'r eglwys trwy ei wein- idogaeth. Ac oherwydd hyny n phallodd er ei wendid a'i lesgedd, tynodd ei gwys i ben yn uniawn hyd nes y gal- wodd y Meistr ef adref ac y dywedodd wrtho, "Da was, da a ffyddlon, dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd." Mawrygwn Dduw yn nghoffadwriaeth gweinidog'on cymwys y Testament Newydd gan ymostwng yn dawel dan oruchwyliaeth ag sydd mor dywyll i ni. Bydded nawdd y nef dros weddw ieuanc, a rhieni oedranus ein brawd Tosturied yr Arglwydd hefyd wrth ein Heglwys sydd yn cael ei bylchu a'i cfulledu fel hyn mor fynych. Os yw'r cedyrn wedi cwympo Y mae'r Cadarn eto'n fyw. W. CAENOG JONES.
[No title]
BALFOUR YN YMDDISWYDDO. Bore Mawrth gwnawd yn hysbys fod Mr Balfour wedi cynnygei ymddiswydd- iad ef a'i Weinyddiaeth i'r Brenin, ac fod yntau wedi derbyn y cyfryw. Hys- bysid ymhellach fod Syr Henry Campbell Bannerman i ffurfio Gwein- yddiaeth Ryddfrydig.
EVAN ROBERTS YN PWLLHELI
EVAN ROBERTS YN PWLLHELI Dechreuodd y Diwgiwr ar ei genhad- aeth nos Lun, a chafwyd arwyddion fod y gwenau nerthol yn cydfyned a'i weinidogaeth o hyd. Disgwylir hanes manwl oddiwrth ein gweinidogion ag eraill, ga'r fraint o fynnychu'r cyfar fodydd.
)o( Yr Argyfwng Gwleidyddol.
)o( Yr Argyfwng Gwleidyddol. Heddyw (ddydd LIun) bydd y Prif Weinidog (Mr A J Balfour) yn eyfarfod y Brenin. Hefyd, daw Syr Henry Campbell- Bannerman i Lundain. Y mae y diweddat, meddir, yn barod i ffurfio Gwemyddiaeth os y gofynir iddo.
!of Gwrthdarawiad yn y Sianel.
of Gwrthdarawiad yn y Sianel. PUMP 0 FYWYDAU WEDI COLLI. Boreu ddydd Sadwrn aeth yr agerlong "Phillpville" i wrthdarawiad a'r agerlong Harlow." yn y Sianel Seisnig. Y tawch oedd yr achos. Suddodd yr Harlow" yn y tywyllweh. Achubwyd saith o'r dwylaw gan yr agerlong arall. Tramorwyr yw y dynion sydd ar goll.
§0§ Ffrwydriad yn yr America.
§0§ Ffrwydriad yn yr America. 60 0 FWNWYR MEWN PERYGL. CYMRY WEDI EU LLADD. Pellebyr 0 Chicago, ddydd SuI, a ddywed i danchwa gymeryd lie yn Nglofa Kemerer, yn Diamond Ville, Unol Dalaethau yr America. Cymerodd le yn Mwn No. 1. Y mae 60 0 fwnwyr yn nghauadig yn y pwll. Nis gwyddis pa nifer sydd wedi eu lladd. Eisoes dygwyd 18 0 gyrff i fyoy. Deuwyd ac un mwnwr i fyny yn fyw. Darfu i'r tfrwydriad ddinystiio y lofa yn nghyda r peirianau. Nis gellir myned at y dynion sydd eto yn y pwll am wythnosau. Y mae deg o'r rhai laddwyd yn Gymry. Newydd gyrraedd i'r wlad yr oedd y deg. American iaid yw y lleill- i
Nod iadau Cyfundebol.
Nod iadau Cyfundebol. [GAN Y LLYFRBRYF WESLEYAIDD.] Da oedd gennym weled fod y Due Connaught wedi cyfranu ugain punt ar ei waith yn gosod carreg sylfaen Cartref i'r Llongwyr a'r Milwyr yn Llundain. Casglwyd ar yr achlysur i,300p. < Yn marwolaeth Mr J Cory Monk- house mae'r Cyfundeb wedi cael colled, ac yn arbennig Methodistiaeth Lerpwl a'r cyfEniau. Cyfreithiwr amlwg a galluog ydoedd Mr Monkhouse. Yr oedd yn aelod gwerthfawr o nifer o bwyllgorau cyfundebol. « Yr oedd yn llawen gennym weled fod boneddwr dienw wedi cyfrannu mil o bunnau tuag at y ddwy fil o bunnau yn eisieu tuag at eangu y Cliffe College, adeilad er parotoi a disgyblu pregethwyr cynorthwyol. < < < < Mae'n hyfrydwch gennym gofnodi fod y Champness Memorial Fund' Lutter- woith wedi cyrraedd y swm o bum' cant o bunnau. Parha y rhoddion i dd'od i mewn yn gysson, ac ni bydd y swm a ofynir, sef mil o bunnau, yn hir heb eu haddaw. < < « Cadeiriodd Mr Charles Heaton, o Southport, am y 47 fiwyddyn yn olynol mewn cyfarfod cenhadol pentref Darcy Lever, yn agos i Bolton. Cawn fod yr achos bychan hwn yn cyfrannu yn flynyddol 53P i gymdeithas y Genhad- aeth Dramor. < < < 0 bwys i swyddogion ein capeli a'n hysgoldai fod y drysau yn cael eu cau yn saff. Torwyd i mewn i gapel Bam- ford. Dinystrwyd yr awrlais, a rhwyg- wyd Beibl y Pulpud. Mae y dyhirod ar eu prawf. < < < < Clywsom, er ein mawr lawenydd, fod golygfa tra ddyddorol i'w gweled yn Victoria Street, Caergybi, sef nifer liosog o ddynion wrthi eu goreu drwy wasan- aeth lampau yn clirio y tir er gwneud adgyweiriad i'r addoldy. Mae hyn yn cael ei wneud yn rhad ac am ddim wedi i'r gweithwyr orffen eu diwrnod gwaith arferol. « Gweler rhifyn yr wythnos hon o'r Joyful News," pa un sydd yn un dwbl ac yn un arbennig, a chyflwynir Almanac yn anrheg. Pris ceiniog. Cofier mai y Parch Samuel Chadwick ydyw'r Golygydd. < < Yn ystod y pum' mlynedd diweddaf, adeiladwyd lair o eglwysi newyddion yn nghylchdaith Durham Road, Sunder- land, gwerth 32,ooop. Er lleihau y ddyled .cynhaliwyd cariad-wledd, yn mha un apeliodd y gweinidog am gyn- orthwy i ddileu y ddyled. Addawyd 873P- < < < Da gennym ddeall fod yr ymgyrch dirwestol a gynhaliwyd dan nawdd Tal- aethau Llundain, yn Exeter Hall, bob nos yr wythnos ddiweddaf wedi bod yn llwyddiannus. Y naill gyfarfod ar ol y llall yn myn'd yn fwy poblogaidd, a'r annerchiadau felly. Gofynir y cwestiwn yn fynych, Pa bryd bydd rhaglen y Gymanfa Gerddorol Dalaethol yn barod ? A all ysgrifenydd gweithgar y gymanfa roddi atebiad ? Disgwyliwn air oddiwrth ein cyfaill, Mr Evan Thomas. < < < Gwelsom hysbysiad fod yr hybarch Ddoctor Alexander Maclaren, Manches- ter, wedi cydsynio i draddodi y Bregeth Genhadol yn nghapel Great Queen St. mewn cysylltiad a chylchwyl flynyddol y Gymdeithas Genhadol. < < w Da iawn gennym nodi fod un o'r urdd anrhydeddus y pregethwyr cyn- orthwyol, sef Mr George Royle, bar- gyfreithiwr galluog a llwyddiannus, wedi cael ei wneud yn King's Counsellor. Nid oes gan y Mutual Aid Association aelod mwy cefnogol na Mr Royle. Cynhaliwyd gwasanaeth ganol nos yn nghapel Norfolk Street, Sheffield, ddydd Sadwrn diweddaf. Aeth tua 800 o'r gweithwyr cristionogol yn orymdaith drwy'r heolydd. Darfu i hanner cant o wyr a gwragedd arwyddo yr ardystiad dirwestol a thyrfa yn ymofyn am drug- aredd. ft Yn nghyfarfod Cyngor Wesleyaidd Bolton, ddydd Gwener diweddaf, ym- ddiddanwyd ar y cwestiwn pwysig, u Lie Difyrion yn Mywyd yr Eglwys." Gwnaed ymosodiad cryf a gonest ar fynychiad aelodau eglwysig ac ysgolor- ion yr Ysgol Sulyn rhoddi eu presennol- deb mewn cyfarfodydd a chwareuon amheus. Gofidus gennym ddeall fod yr Hybarch William Hugh Evans, Rhyl, yn wael ei
§o§! Y Sefyllfa Wleidyddol.
§o§ Y Sefyllfa Wleidyddol. TRA yr ydym yn ysgrifennu y llinellau hyn nid oes wybodaeth sicr a yw Mr Balfour wedi ymddiswyddo a'i nad yw. Eithr nis gall fod amheuaeth ynglylch yr hyn a wna. Ymddiswyddo sydd raid iddo. Mae Mr Chamberlain wedi gwneud hynny yn waith anhebgorol angenrheidiol. Beth wed'yn ? A foddlona Syr Henry Campbell Bannerman gymeryd swydd a ffurfio gweinydiaeth yn awr heb gael Etholiad Cyffredinol yng- hyntaf ? Y tebygolrwydd yw y gwna-er mwyn rhyddhau'r wlad o'r caethiwed truenus y mae ynddi o dan devrnasiad Balfour a Chamberlain. Ond os, ac er, mai derbyn swydd a wna Syr Henry C.B." ar unwaith, nid yw hynny yn golygu y boddlona i fod yn bel droed i'r' mwyafrif Toriaidd yn Nhy'r Cyffredin presen- nol. Y Ty Mawr yn Ninbych ddylasai fod ei gartref pe y boddlonai i wneuthur hynny-ac nid yw Syr Henry wedi troi ei wyneb tuag yno! Yr hyn a wna efe fydd derbyn swydd er mwyn cael gwared o Balfour a'i Gwmni; cadw awenau'r llywodraeth yn ei law tan ar ol y Nadolig yna cael Etholiad Cyffredinol yn Ionawr ar y Cofrestriad newydd galw'r Senedd newydd ynghyd yn agos i'r amser arferol yn Chwefror cael yno fwyafrif cryf o Ryddfrydwyr aiddgar y tu cefn iddo ac yna gyrru cerbyd Deddfwriaeth ymlaen yn chwyrn er dadwneud rhan o'r drvvg alaethus a gyflawnwyd gan y Toriaid yn y blynyddoedd a aethant heibio. Dyna, ni a gredwn, amlinelliad teg o'r hyn a wneir yn y dyfodol. 0 bosibl y dechreuir y gwaith yr wyth- nos hon. Beth fydd cyfansoddiad y Weinyddiaeth newydd ? Pwy a wyr ? Mae ami i ddychymyg bywiog wedi bod wrth y gwaith o arbed trafferth i Syr Henry Campbell Bannerman drwy ddewis ei Weinyddiaeth iddo ymlaen Haw. Ond ffrwyth dychymyg yn unig ydyw'r cwbl. Gofid Cymru yw fod Lloyd George ymhell o dir ei wlad ar yr argyfwng presennol. Gofid m wy ganddi yw yr achos o'i absenoldeb. Gweddi cenedl gyfan yw y dychwela yn fuan wedi adennill nerth ac iechyd fel ag i'w alluogi i gymeryd y lIe blaenllaw yn y Weinyddiaeth newydd y mae ei wasanaeth i'r Blaid a'i alluoedd yntau yn ei deilyngu. Eto gresyn yw na fuasai yma yn yr argyfwng pwysig hwn. Yn ei absenoldeb nid oes gennym ond gobeithio fod ei gyfeillion yn gwylio yn fanwl pob symudiad, ac y bydd Syr Henry a'i gynghorwyr yn ddigon doeth i anrhydeddu Lloyd George yn ei absenoldeb fel pe tae yn bresennol gyda hwynt.
LLOYD GEORGE.
LLOYD GEORGE. Da fydd gan ein darllenwyr ddeall bod y gwr uchod wedi gwella o'i afiechyd ac wedi cyrraedd LIundain. Bydd ganddo swydd bwysig yn y Weinyddiaeth Newydd.
Y GWRTHRYFEL YN RWSIA.
Y GWRTHRYFEL YN RWSIA. Parhau yn gynhytfus mae pethau yn y wlad anhapus hon (Rwsia). Hysbysir bod y fyddin ar fin uno a'r werin, ac y dymchwelir y Llywodraeth rai o'r dyddiau nesaf.
GOLYGFA MEWN PULPUD YM MANGOR.
GOLYGFA MEWN PULPUD YM MANGOR. Yr wythnos hon cynhelir cyrddau Diwygiadol yn Eglwys St. Mair gan y Parch James Davies, vicar St David's, Liverpool. Dydd Llun, cynhaliodd tri o gyfarfodydd llwyddianus, ond pan newydd ddechreu y pedwerydd, tarawyd ef yn wael a gwaeddodd am ddwfr. Rhuthrwyd ato gan nifer o bersonnau a chludwyd ef i'r festri, ac oddiyno i breswylfod y Parch Edwin Jones. Hysbysid nos Lun ei fod ychydig yn well.
1 j0§ |,Cynllun 0 Gynildeb.
j0§ Cynllun 0 Gynildeb. r Y LLYNGES I ARBED l,500,000p. Gwerir llai o 1,500 OOOp ar y Llyngea yn ystod y flwyddyn nesaf, Yn mis Mehefin cymer arddangosiad Llyngesol gorwych le Bydd pob llong rhyfel yn eymeryd rhan ynddo. Adeiledir nedair o longau rhyfel yn ystod y flwyddyn nesaf.