Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

i Lljth Lefi Jones a Finau.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Lljth Lefi Jones a Finau. Y Cylchgronau Cylchdeithiol. • f At Olygydd y GWYLIEDYDD. Foneddigion,-H wyrach y caniatewch i wneud ychydig sylwadau brysiog ar y cylchgronau cylchdeithiol sydd erbyn hyn yn bethau lied gyffredin. Y cwes- tiwn cyntaf sydd yn codi yn ein meddwl ydyw, Pa un ai mantais neu anfantais gyffredinol ydynt i ieuenctyd y cylch- deithiau ? A ydynt yn angenrhaid cylchdeithiol, ai ynteu luxuries llenyddol ydynt ? Os ceir eu bod wedi pwyso pob- peth ynglyn a hwynt yn bwyllog, o wir fantais i'r achos yn arianol, feddy)iol neu ysbrydol, mae hyny yn rheswm tros eu cyhoeddi. Pell ydym ni o'u dibrisio na thynu yr un gronyn oddiwrth eu gwerth. Maent yn gyfryngau cyfleus i wneud amgylch- iadau y cylchdeithiau yn hysbys i'r rank and jile tuallan i'r cylch swyddogol yn ddiau. Hefyd, maent mewn ychydig engreifftiau yn ffynhonell o elw i'r gylch- daith, yn enwedig mewn cylchdaith lios- og fel Cylchdaith Coedpoeth ond mae'.r esgid am y troed chwith yn y rhan liosocaf o lawer o honynt mewn ystyr arianol. Byddwn hefyd yn cael llawer o bleser ac adeiladaeth wrth ddarllen y cyfarch- iadau a'r ysgrifau galluog sydd yn ym- ddangos ynddynt o dro i dro. So far so good—oes, mae yna fanteision yn ddiau yn deilliaw o gyhoeddi cylchgronau i .cylchdeithiol. Ond ai tybed nad yw y fantais o'u cyhoeddiad yn amddifadu'r ieuenctyd o fanteision pwysicach ? Dyma'r cwestiwn a ystyriwu ni sydd yn werth sylw awdur- dodau y cylchdeithiau. Nid yw y cylch- gronau ond mewn ychydig o gykhdeith- iau yn unrhyw ffynhonell o elw, i'r gwrthwyneb, gwneir aberth mewn rhai .achosion er eu dwyn allan. Nid yw y wybodaeth a drosglwyddir trwyddynt ond yr hyn all swyddogion a gweinidog- ion y gylchdaith yn hawdd ei gyfleu i'r eglwysi a'r gwrandawyr os byddai achos. Os barnai y swyddogion y byddai an- erchiad ar unrhyw bwnc yn fanteisiol i'r achos yn y gylchdaith, y mae gennym weinidogion digon galluog a pharod i draddodi'r cyfryw yn ein cynulleidfaoedd, end cael awgrym, ac yn sicr byddai'r traddodiad o honynt yn fwy effeithiol na'u darllen. Adwaenem hen lane o ffermwr un- waith na fwytai byth damaid o pudding o fath yn y byd, a'i reswm dros hyny oedd mai rhywbeth dros ben digon oedd puddings a desserts. Os cei di lon'd dy gylla," meddai wrth un o'r gweision, o gawl beef a bara ceirch ynddo, a bara iach o hen yd y wlad ac ymenyn, a chig moch a beef a thatws, be chwaneg fynni di gael, dywed. 'Ddyliet ti ddim mai rhywbeth gyda digon ydi'r pwdin yma 'rwyt ti yn baldordd yn ei gylch o hyd." Beth bynag am boblogrwydd syniad yr hen lane, rhaid cydnabod fod ynddo fesur helaetb o wreiddioldeb a synwyr cyffredin, a chredwn na byddai yn gam a rheitheg na rhesymeg pe y cymhwysem y syniad at y pwnc mewn dadl gennym —teimlwn yn onest ac yn ddwfn fod yr ieuenctyd yn cael eu ^wlwytho a'r hyn a eilw y Sais yn light reading materials ar draul esgeuluso pethau trymach y gyfraith." Yr ydym yn edmygu llawer o bethau sydd yn Ý cylchgronau cylch- deithiol, ond yn sicr maent yn un o'r pethau sydd yn gwyro meddyliau ein pobl ieuainc oddiwrth ein llenyddiaeth cyfun- debol, oddiwrth ein Holwyddorion Athrawiaethol, ac yn sicr er hwyrach yn anfwriadol, oddiwrth y Beibl ei hun. Mae'n ffaith er ei bod yn boenus i'w hadrodd fod y to ieuanc o Wesleyaid sydd yn codi, yn hollol anwybodus yn ein hathrawiaethau duwinyddol; ac mae'n resyn gennym orfod dyweyd fod gwybodaeth ysgrythyrol yn warthus or isel yn ein heglwysi, pan gofiwn mae y Beibl yw Ilyfr safonol ein Crefydd. Gwyr y Mahomet haner paganaidd gymaint deirgwaith am y Koran ag a wyr Cristionogion ein heglwysi am y Beibl. Beth sydd yn cyfrif fod cylch- rediad y 'Winllan' a'r 'Eurgrawn' sydd yn cael eu pwrcasu trwy draul a llafur mawr, ac yn cynwys hufen llenyddiaeth l enwad mor fychan. a chanlleied o ddyddordeb yn cael ei gymeryd ynddynt? Yr oeddym yn synu fod can lleied o dderbynwyr yn nghylchdaith Coedpoeth i'r 'Winllan,' lie mae oddeutu tair mil o Wesleyaid ar yr tir. Ond pan ystyrion fod ein pobl yn cael eu trethu gan ormodedd o ddefnyddiau darllen, nid yw yn beth i'w ryfeddu. Mae llawer allai fforddio prynu y' Winllan' a fforddio amser i'w darllen nas gallant fforddio cymeryd y GWYLIEDYDD y 4 Winllan' a'r Cylchgrawn Cylchdeithiol, llawer llai fe allai fforddio amser i'r darllen. Fel hyn trwy orwneud adnoddau ac amser ein pobl gyda llenyddiaeth ysgafn nad ydyw yn hanfodol i fywyd Crefyddol maen't yn tyfu yn naturiol anwybodus yn ein hathrawiaethau a'r Beibl sydd yn anfeid- rol bwysicach i fywyd crefyddol ein heglwysi, na'r dras sydd yn cael eu bwrw trwy'r wasg er o nodwedd grefyddol. Yn y goleu yma ein barn ni a dy- dyweyd lleiaf ydyw, nad yw y fantais a geir oddiwrth y cylchgronau yn ddigon i orbwyso yr anfanteision.

- fog. Ystumtuen. 4

fIol----t Llanfairfechan.…

Advertising

§o§ , Towyn.

< )o( , Y Diweddar Mr. Cadwaladr…

Nod iadau Cyfundebol.