Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

i§o§ * lYmadawiad Torrey ac…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

§o§ Ymadawiad Torrey ac Alexander. Cynhaliwyd cyfarfod mawreddog yn y Tournament Hall, Edge Lane, Liver- pool, i ffarwelio a hen gyfeillion i ni erbyn hyn, y cenhadon enwog, Dr Torrey a Mr Alexander. Fel y gwyddis I y maent wedi bod yn y wlad hon er yn agos i dair blynedd, a chan eu bod wedi glanio yn Llynlleifiad. Ystyriwyd mai doeth fuasai iddynt fyned yn eu hoi o'r un man, ac i'r dyben hwnnw, pender- fynodd y pwyllgor, sydd wedi bod yn gofalu am eu cenhadaeth yn Lerpwl, gael cyfarfod arbennig i ddymuno Duw yn rhwydd iddynt yn eu gwaith newydd yn yr America. Cynhaliwyd y cyfarfod nos Fawrth, Tachwedd 28ain, i ddechreu am hanner awr wedi saith, ond erbyn hanner awr wedi chwech, yr oedd y neuadd (sydd yn dal tua 15,000 o bobl) wedi llenwi bron. Gan bod yna awr o I amser cyn dechreu y cyfarfod, tybiwyd mai gwell oedd cael y dorf anferch i uno gyda'r cor o 3,600 i ganu rhai o'r emynau sydd i'w gwel'd yn llyfr Mr Alexander. Yr arweinydd am y pryd ydoedd Mr F J Foxley, yr hwn sydd yn fab i flaenor gyda'r Wesleyaid Seisnig yn Liverpool, ond y mae ef ei hun yn organydd gyda'r Eglwyswyr. Cywilydd ynte. Ar- weiniodd y canu yn wir dda, ond nid oedd ei lais yn ddigon cryf i bawb yn y lie allu ei glywed. Oddeutu hanner awr wedi saith, gofynodd Mr Foxley i'r cor ar gynnulleidfa i godi, er mwyn cydunc yn yr hen emyn adnabyddus honno, Praise God etc ar y don Hen Ganfed," a phan ddaethant at y trydydd llinell, fe welwyd y cenhadon a'i perthyn- asau yn dyfod i mewn. Ar ol canu yr emyn rhowd cheers mawr i'r ddau genhadwr, yr hyn barhaodd am yn agos i bum munud. Ar ol i dawelwch gael ¡ ei sicrhau yn y He, aeth Mr Alexander i ben y cor i arwain y gynulleidfa a'r cor i ganu yr emyn u All hail" ar y don r Miles Lane." Taflwyd rhyw ysbryd- iaeth i'r canu pan ymddangosodd Mr Alexander ar y Ilwyfan. Llais bariton- aidd sydd ganddo. Pan y maeyn siarad gyda'r bobl Y mae yn llefaru megys un ag awdurdod ganddo." Ar ol canu. yr emyn uchod, arweiniwyd y cyfarfod mewn gweddi gan Canon Woodward, yr hwn sydd yn weinidog ar yr un eglwys ag y mae Mr Foxley yn organydd. Gweddiodd yn effeithiol iawn. Yna darllenodd yr ysgritenydd (yr hwn sydd wedi gwneud ei waith yn ardderchog) nifer o lythyrau wedi eu hanfon oddiwrth ami o gyfeillion, yn cynnwys Esgob Lerpwl, ac Arglwydd Kinnaird, i gyd yn datgan eu gofid. o herwydd ei hanalluog- rwydd i fod yn bresennol, ond ar yr un pryd yn gyrru eu diolchiadau i'r cenhadon am eu gwaith ardderchog, a dymuniadau goreu iddynt yn eu gwaith newydd. Ar ol darllen rhai o'r llythyrau o blaid bod gormod o honynt i'w darllen i gyd, galwyd ar gynrychiolwyr o leoedd eraill, yn cynnwys Liundain, Manceinion, Sheffield, Bristol, etc, etc. Dywedodd y cynrychiolwr o Lundain bod y genhad- aeth yno, wedi bod yn gynorthwy i droi miloedd o bobl "o dywyllwch i oleuni." Gweinidog o Bristol a ddywedodd bod cyfarfodydd gweddio tan dwy flynedd yn aI, wedi eu cynal yn yr ysgoldai, ond erbyn hyn y mae yn rhaid iddynt eu cynal yn y capel. Onid yw hyn yn creu awydd yn ein calon am gael ail ddechreu gyda'r diwygiad ? Ar ol hyn, ymddangosodd Mr Alexander ar y box unwaith yn rhagor. ac adroddodd hanes- yn, am rywbeth a ddigwyddodd, pan oedd ef yn Sheffield yn un o gyfarfodydd yr hwyr, i ddynion yn unig. Yr oedd y cenhadwr Dr Torrey, yn pregethu oddiar loan iii, 16. Canys felly y carodd," etc, ond pan ddaeth at y geiriau pwy bynnag (whosoever) dyma un dyn o ganol y llawr yn gwaeddi a Ilef uchel, "That means me." Rhoddodd y dyn hwnnw ei hun i fyny i Iesu Grist a'i bobl y noson honno. Ond mewn ychydig o funudau, derbyniodd Mr Alexander ddarn o bapur, ac arno I s: 1: ysgrifenwyd a ganlyn u That means s m f: m d. r. m. f. s. d' me, that means me, blessed whosoever, m: r: r: s: 1: s: that means me, that means me, mi f m d. r. m. f. s. d' that means me, blessed whosoever, m: r: d that means me." Yna canodd ef y pisyn. Wedy'n galwyd ar un arall o Lundain, yr hwn oedd yn tystiolaethu am y ffrwyth mawr oedd i'r genhadaeth. Dywedodd bod yno 17,000 o ddychweled- igion yn ystod y pum mis y bu'r gen- hadaeth yn Llundain. Yn awr y maent wedi rhannu y lie i fyny i naw dosbarth, ac i gynal cyfarfodydd ym mhob dos- barth i'r dychweledigion. Siaradwyd hefyd yn hynod o dda gan y Parch J H Atkinson, ar ran y pwyllgor yn Liver- pool. Ar ol yr anerchiadau hyn, oedd yr adeg mwyaf cymwys i anrhegu y cenhadon. Yr oedd yr anrhegion mewn ffurf o anerchiad (illuminated address). Cadeirydd y cyfarfod, sef y brawd, J E Proctor, oedd y gwr ag oedd wedi ei ethol i wneyd y gorchwyl o drosglwyddo yr anrheg i ddwylaw Dr Torrey a Mr Alexander. Rhoddodd y cadeirydd anerchiad pwrpasol i'r amgylchiad wrth gyflwyno y rhodd. Yn ystod ei anerch- iad, diolchodd yntau i'r Dr am y modd yr eglurodd y gwirionedd i bobl oedd yn byw mewn tywyllwch, ac am y modd y traddododd y genadwri, i bobl o wahanol grefyddau. Ar ol i'r cadeirydd orffen ei anerchiad, ymddangosodd Dr Torrey ar y box, pryd y traddododd bregeth fyr ond amserol iawn. Cyn iddo ddechreu pregethu, dywedodd yntau mai ei waith oedd pregethu, a'i fod wedi cyfansoddi pregeth i'w thraddodi, ond bod yr amser wedi rhedeg ymhell y noson honno. Ar hynny, fe bregethodd ychydig oddiar Phil. iv, 4, a Eph. vi, 10, ar mater oedd ganddo oedd am i Gristionogion bob amser lawenhau ac i fod yn gryf yn y ffydd. Ar ol iddo bregethu, aeth Mr Alexander i fyny, ar hyn oedd ganddo fe i ddweyd oedd Acts i, 8. Yna fe ganwyd yr hen emyn adnabyddus hwnnw y Glory' song." Felly y terfyniwyd cenhadaeth Torrey a Alex- ander yn y Deyrnas Unedig (United Kingdom). "0 frodyr, gweddiwch drostynt," dymuniad. UN OEDD YNO.

Advertising

CYLCHDAITH LLANRHAIADR.

LLANRHAIADR.

--¡of--MjYNYDD SETON, LERPWL.

CAE(R!LLBON.