Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
f,! WinHan" a'i ChyfeillioB.
f,! WinHan" a'i ChyfeillioB. 6811 y Parch John Thomas (loan Arma), [Danfonwyd y llythyr dyddorol a ganlyn at yr hybarch Mr Delta Davies, gan ddymuno arno ei drosglwyddo i'r GWYLIEDYDD. Yr ysgrifenydd ydyw Parch John Thomas (loan Arma), gweinidog yr Annibynwyr Seisnig yn White Lake, So Dakota, U,S.A. Pan yn y wlad hon flynyddau yn ol, ad- Waenid Mr Thomas fel loan Armin, It dymuna hysbysu ei hen gyfeillion tnai Eisteddfod Utica, N.Y., 1880, a gyfnewidiodd ei enw i loan Arma.- GOL.] tFy anwyl nelta,-Ðaoeth yr eiddoch Rhag. 30ain a'r Winllan" am Ionawr i law yn ^serol. Diolch yn fawr i chwi. Yn gyn- H goddefwch i mi eich hysbysu fo-d y llaw1- (eddyg medrus ibron a budduigioliaethu ar hen c;1 «lyn yn y corff oedd wedi haner caui ermig £ wysigj ac achosi -llawer o boen. Dim ond Wnwaith eto y gorweddaf ar ei fwrdd. Yr Ydych yn dangos llawer mwy o bryder na ani. Yr wyf heddyw yn teimlo mor lilawen a geneth ieuanc ar fin priodi, ac yn gwenu foawlb a phob peth. Gair hefyd am yr enwog Hugh Tegai. 'Felly yn wir. Ac ofnai thai o'r 'brodyr Wes- Waidd fod y bardd yn tueddu at gau- athrawiaeth. Dichon mai nid digon Armin- aiM oedd i foddhau ei gyfeillion. Ond dyna, gwell i mi fod yn ofalus rha,g ofn tytiu gwg_ rhai o honoch. Efallai, wedi r cyfan, fod \<j ledfryn yn lled-awgrymai y ^yiriaeth hyny yn ail linel.1 yr englyn can- tyftol ar ei fe,ddfaen:- "Bardd da, athraw da, diwyd-oedd efe, Rhydd ei farn a hyfryd A chyfaill mor wych hefyd A neb o'i ol sy'n y byd. ^^ddwyd ef yn Aberdar, Rhag. 8fed, 1864. &¡«is wrth ei. fedd lawer gwaith. Yu awr am yr hen "Winllan" anwyl ar ei '$Ui ugeinfed oed. Hi oedd y misolyn cyn- taf ddaeth i'm llaw. Cofiwch yn dda am yr hen flaenor anwyl, Lewis Lewis, yn Seion, Aberdar, bob mis, a byth yn methu, yn 11lhorth y capel gyda'r "Winllan" a'r Eur- grawn" yn ei ddwylaw. Wedi ei derbyn brysiwn .gartref i'w darllen yn ami cyn ciniaw. Cyn ciniaw yn wir Onid ciniaw Thagorol oedd ei ffrwythau aeddfed ? Mae blyllyddoedd lawer wedi myned oddiar pan y darllenais y cyhoeddiad o'r iblaen, a phan y 4aeth y rhifyn lonawr a anfonasoch i law yu cynwys gwawl-lunia'u ac adgofion hen gy- feillion, deffrodd lawer o feddyliau a theim- la.dau cysegre-dig lion a Ueddf. b b Cofiaf am yr enwau sydd wrth y darluniau byn ar gyfrif erthyglau a ddarllenais gynt Yn eich misolion, sef W 0 Evans, W H Evans, T H'ughes, a J Humphreys. Mae y cyn-lythyren "H" o finlen un o honynt yn |Peri i mi feddwl mai brawd Cynfaen yw ef. golwg benderfynol ac ymosodol arno. el, mae gyda chwithau yn Nghymru lawar 0 "bethau i ymosod arnynt ar ol i chwi godi o'<:h hunllef oesol, sef Ty'r Arglwyddi yna ?*e ymosod nes enill Ymreolaeth, ac uwcha-f- IpLetll yr hen Gymraeg i fod yn iaith y llys 4c ysgolion ac athrofeydd Cymru. Mi dyb- 7 clywaf swn Llywelyn, Glyndwr, a Pic- °n >n y gwynt. Llawen oedd genyf edrych ar ddarlun ar- „ erc'hog y Parch Hugh Jones. Mae golwg archus a gwir urddasol arno. Mae wedi ^euthur gwasanaeth gwerthfawT i'w enwad 1 wlad. Rhaid ei fod yn hen iawn, os nad I <)fs *hyw Hugh Jones arall wedi codi gyda Dichon fy mod yn camsynied, ond ^r6dwyf i tni ei wrandaw un Sabboth gynt fountain Ash. Mae llawer o flynyddau 'liar hyny. Gwnaeth argraffiadau da iawn Nid ymrwelais a Mountain Ash wedi Qoson fythgofiadwy, cyngerdd Mynyddoig. rj, aIIai «icih-"bod yn cofio iddo fethu dyfod. Th° hwnw o eiddo y llanc J i Is Aberaman, pan yr aeth i'r llwyfan Synieryd lie Mynyddog am y noson. Ond J fel a' 111,46 dPyn ° e°fndra—tipyn o cheek," ^We<^em ?ynt—yn talu weithiau. Tal- « yn dda i eglwys WTesleyaidd Mountain 7 tro hwn. Ai tybed fod D Harris, y 6ltlydd y canu yno, yn fyw ? Ond nid an ^er,<^ar mae Delta yn byw er's blynydd* °nd yn Aberdar mae fy meddwl yn bre- Y 01. an aeth urn yn weinidog ar eglwys 11 l'f ^a^^orn^a' 1889, yr oedd yno wraig i<j(Jran'Usj yr hon, ipan y gofynasom rhywlbeth 4 at€l^ai yn fyr—" I don't know; ask Feaik." Peak oedd ei mab-yn- a phrif ddinesydd y dref. A '^yddaf am wy;bod rhywbeth am Aber- r enwad yn gyffredinol, Ask Mr Delta s yw hi. 'h p a.n ed h. de i, edr chais ar ddarlun Dr Jones, Ty c^jjys gw,enais, a bum bron a chwerthin, tr0 i(jj ymddangosai i mi fel y gwelais ef y aiir^yje yn cartref, ac y cefais yr a h °.^reu^° awr f«lus yn ei gwmni 6yda ^aW^^au' Teimlais dipyn yn swil VrylliedLU ° ^ysSe^a a honeddiges ddi- y* Oed4 • y cantorion yn gyffredin tlPyn o cheek" a gwynt yn per- thyn i minau y dyddiau hyny (ac o ran hyny, y mae peth o'r gras hwn yn aros), ac aethum drwyddi yn weddol gymeradwy, gan fod Mrs Davies yn ilon a dyddorol iawn. Edrych a i eich tad yn foddhaol, ac i fesur yn wengar, fel y mae yn y darlun, a phan y gwelais ef, burn bron a gofyn, Dr Jones anw'l, shwd i chwi er ys blynyddoedd ?" Yn nghyfarfod- ydd Jubilee Seion, Aberdar, y clywais ef yn ei nerth gyda'r anfarwol T Aubrey. Am hyny mae'r cof eto yn taflu llawer o bethau i fyny; ond rhaid eu cadw i lawr. Yr oedd hyny tua 1867, efallai. Pan y sylwais ar wawl-lun y Parch Rice Owen, creodd hyny hefyd deimladau tyner, tyner, am y gorphenol, pan oedd ef ar y gylchdaith. Un didwyll, didramgwydd a ffyddlon iawn. Pwy fedrai ddigio wrth y dyn hwn? Llanc ieuanc ar y "gallery" gyda'r tenoriaid oeddwn i, yn g-wneuthur lla- weT o swn yn Seion; ond yr oedd Mr Owen bolb amseT yn rhod'di sylwedd i ni. Dywed. wch wrtho ei fod yn edrych yn ffamws. Cywir yw, caruaidd ddyn, Arlbedai yr aibwydyn." Os bydd i rai o feindd T'yddewi ymfHamychui, a gofyn i chwi paham y torais ben y gyng- hanedd yn y llinell gyutaf yna, dywedwch wrthynt mai hen Armin yw loan Arma a bod yn well ganddo dori pen y gynghanedti na thori pen Mr Rice O'wen trwy osod "oedd" yn He "yw." Golbeithio na fydd rhaid dweyd oedd am dano ef am lawer o amser. Prin yr adnabyddais y Parch T J Pritch- ard wrth ei ddarlun, canys ieuanc oedd pan y gwelais ef. Deuai yn achlysurol i Seion (o Ferndale, onide ?) gan roddi i ni bregcth drefnus, gryno, a thwt. Dangosai arwydd- ion coethder iaith a meddwl yx adeg hono. 'Da genyf ddeall ei fod ef a'i frawd Jacob yn parhau yn wir ddefnyddiol yn eich plith. Cofion Aberdaraidd atynt. # Yn sicr i chwi, ni fyddai yr Oriel haul- lunawl yna yn gyflawn heb y lleygwyr lienor- ol ac anrhydeddus, Delta a Mr John Mars- den. Cofiaf yn dda am lithau Mr Marsden gynt yn y "Winllan" a'r "Eurgrawn." Mae wedi ysgrifenu llawer, a hyny yn dda ac am ddim, mae'n debyg, fel eioh hunan teiiwng. Am ddim yn wir! Dychymygaf eich clywed chwi a Mrs Davies yn dweyd, "Ac ar ddim cerdd ymaith." Ai am ddim- y mae tad cariadus, gofalus yn ysgrifenu at ei blant ? Da genyf ddeall nad oes raid dweyd oedd, neu a fu, am dano yntau. JIefyd, mae "Delta yn ei brime" yn ed- rych cystaJ a neb o garedigion y "Winllan." Efallai fod Mrs Davies yn dweyd fod Delta a Dr Jones yn edrych cystal a ne'b i'r bobl fawr yna. Wnawn ni ddirn dadleu ar hyny. Mae r edrychiad yn naturiol, clasurol, effro fa. llygadlym, i raddau-yn fwy tebyg fel y gwelais chwi yn yr ysgol nos a'r ysgol lenoroi o dan eich arweiniad nag y gwelais chwi yn y capel neu gartref. Yr wyf wedi rnyned yn anfaddeuol o faith fel tipyn o iawn am fy hir ddistawrwydd, ac heb ddweyd dim ami y gwaith yma. Rhoddais, y misoedd gorphenol, lawer o'm hamser er mwyn adeiladu persondy. Hefyd, dirwest, &c. Corfu i'm heglwys fyw llawer ar hen bregethau (gan fy mod hefyd dan ofal y meddyg). ,Di.olch am danynt. Maent yn gynorthwy mawr mewn cyfyngder. An- hawdd yw cael arian i gyfla wni yr hyn a ddylid ei wneyd yn y winllan. Cyfarfyddais a grawn surion. Pe disgynai yr Ysbryd Glan ar ein pobl arianol, ceid digon o arian. Pan oeddwn yn Nhalaeth Maine, yn 1882, anogai gweinidog ei eglwys i gyfranu 500 o didoleri tuag at adgyweirio'r adeilad. Araf iawn oedd y bobl i ddweyd dim, gan eu bod efallai yn disgwyl i swyddog cyfoethog gych- wyn y cyfraniad gyda swrn mawr. Edrychai y bobl at y brawd a'r arian am iddo dori ar y distawrwydd. O'r diwedd, cododd yn sydyn gan ddweyd, I will given one dollar to repair the church." Ac ar hyny syrth- iodd darn o'r cymrwd ("pilaster") o'r nen- fw'd ar ei ben. Wedi iddo godi ac ymadfer. yd ei hun, dywedodd yn ddifrifol, Brethren, I made a mistake. I will give three hun. dred dollars." Yr oedd y droedigaeth mor sydyn a hyfryd fel yr aeth olwyn lywodraeth- oil ("balance wheel") un brawd selog- ychy- dig o'i lie, yr hwn a syrthiodd ar ei liniau yn y fan gan waeddi, 0 Lord, hit him again hit him again Nid wyf yn dymuno ni. waid i bobl dduwiol y wlad hon, neu hen wlad fy nhadau, ond os na ddisgyna'r Ys- foryd Glan yn ddigon nerthol arnynt, bydded i ddarn o blaster syrthio arnynt er mwyn agor eu calonau a'u llogelli. Yr wyf wedi eich Iblino a meithder. Bydd i mi ymgymeryd eto ag ysgrifenu: i'r "Drych" ar "Ddynion Nodedig Aberdar," ar ol terfynu a'r driniaeth feddygol yma. Ysgxifenais erthyglau ar Price Siloa, a Dr Price. Anfotaf rifynau i' chwi. Wei, fy ho-ffus frawd a chwaer, mae llawer o'n hen gyfeillion wedi myned at y dyrfa fawr sydd yn nofio yn ei hedd. Cawn eto eu cyfarfod; a mwy na'r oil cawn weled yr Iesu fel y mae. Clywais gynt bregethwr yn gwaeddi Y9 orfoleddus, Braint fawr fyddai ei weled yn faban yn Methlehem, ei weled ar fynydd y gweddnewidiad, a'i weled yn Gethsemane, &c. Ond beth fyddai hyny o'i gydmaru a'i weled fel y mae ?" Cofion tanllyd atoch. J. A. THOMAS (loan Arma).
$o5 Rhodd Ardderchog o Gan'IPnnt
$o5 Rhodd Ardderchog o Gan'IPnnt I GAJPEL PENDREF, TREFFYNON. iP'arodld clywted y newydd da uchod lawen- ydd mawr i garedigion yr achos yn Mhendref. Yn y Seiat y gwnaeth y Parch A Lloyd Hughes y newydd da yn hys'bys. Yr oedd y Seiat hon yn un nad a'n anghof am amser maith gan y rhai oedd yn bresenol, nid yn unig am y rhodd haelionus a gafwyd, ond hefyd oherwydd yr olygfa ddymunol a diolch- gar a gafwyd yn nerbyniad pymtheg o bobl ieuiainc yn gyflawn -aelodau. Gwnaeth y sere- moni ddwfn-ddyddorol argraff ddwys ar bawib oedd yn bresenol. Yr oedd hyn wedi rhoddi aelodau y Seiat mewn cyflwr meddwl hapus a pharod i dderbyn cynwysiad llythyr Mr Lloyd .Hughes. Ar ddiwedd ei ddarlleniad gorchwyl anhawdd a gafwyd i foeidio rhoddi "vent'' i'n teimladau trwy guriad dwylaw, ond, yn He, gwisgwyd wynebau pawb gyda gweniadau o'r mwyaf siriol a diolchus. Boddlonwyd ar i ddau frawd siarad ychydig eiriau. Yna yr aeth pob un i'w gartref, yn cael eu meddianu gan galon lawen a diolch- gar am gofio am danom. Diau y bydd yn foddhad i'n danllenwyr gael gwybod gan bwy, a thrwy iba. foddion y cafwyd y can' pu'nt. Yn fyr, dyma fel y bu. Fe gofia ein darllenwyr am y Bazaar a gynbaliwyd yn ddiweddar yn Mhendref. Er sylweddoli ei llwyddiant ni fu neb o'r cyfeillion yn fwy egniol a giweitihgar na'r Parch A Lloyd Hughes. Yr oedd yn ddiartbed yn ei lafur. Un diwrnod tra edrycsai Mr Hughes arwein- iwyd ei lygad yn rhagluniaethol at baragraff foychan pa un a gynwysai y newydd fod boneddiges wedi gadaol yn ei hewyllys olaf dros 22,000p at gynorthwyo achosion teilwng perthynol i'r eg-lwys Wesleyaidd. Heb oedi eiliad ysgrifenodd Nlr Hughes lythyr at Mr John Cooper, Manchester, un o'r "execu- tors," yn cynwys apel am help'at drysorfa y Bazaar. Nid ydym am fanylu, digon yw dyweyd na Iwfrhaodd Mr Hughes oherwydd yr atebiad gwan-obeithiol a dclerbyniodd gyntaf. Na, nid felly Mr Hughes, ond yn weddaidd ysgrifenodd i adgofio yr apel. O'r diwedd, pan ar fin rhoddi i fyny disgwyl am atebdad ffafriol, dyma lythyr i law nos Sad- wrn, Mawrth 16eg, yn cynwys y newydd ys- blenydd fod yr wedi caniatau can' punt i drysorfa capel Pendref. Hawdd genym gredu fod Mr Hughes yn prancio o lawenydd. Mae Mr Hughes i'w longyfarch yn y modd miwyaf diolchgar am ei ymcfrech diflino gyda'r mater hwn ac eraill, a'r llwydd- iant sydd wedi canlyn. Mae'r digwyddiad hwn wedi achosi i ail agor trysorfa y Bazaar fel yr ydys wedi penderfynu yn awr i syl- wteddoli y swim o 35Gp. Yn ein llawenydrt oherwydd derfbyniad y can! piunt, nid ydyw ein diolchgarwch ronyn 11 ai i'r boneddwr haelionus, Mr J Twiston Davies, U.H., Caer- lleon, am ei ddyddordeb a'i haelioni mawr yn nglyn a'n hymgymeriadau gyda'r achos yn Mhendref, y naill dro ar ol y Hall. Diolchwn am yr agwedd galonogol sydd ar drysorfa yr hen addoldy cysegredig.
-:0:-Y Diweddar Henadur Hugh…
-:0:- Y Diweddar Henadur Hugh Hughes. Couv-y. Nos Lun, Mawrth 4ydd, yn nghapel y Tabernacl, traddodwyd pregeth angladdol i'r di-weddar Henadur Hugih Hughes, Cartref, gan y Parch ,0 Madoc Roberts, Towyn. Yr oedd yr addoldy wedi ei lanw yn mhell cyn amser dechreu. DechreUlwyd gan y Parch D Tecwyn Evans, B.A., Llanddulas, a chaf- wyd pregeth goeth, fuddiol, ac effeithiol iawn gan Mr Roberts ar Rhuf. viii, 28. Yr oedd yn ami wig fod y pregethwr yn cael gwaith caled i lywodraethu ei deimladau, gan ei fod ef a Mr Hugihes yn gyfeillion my n we sol. Siaradodd y Parch Rhys Jones hefyd ychydig eiriau, ac yna diweddwyd gan y Parch J Luther Thomas (A). Dymuna Mrs Hughes a'r teulu gyflwyno eu diolchgarwch mwyaf i'r holl gyfeillion o beill ac agos a anfonasant lythyrau neu frys- negeseuau atynt i ddatgan eu cydymdeimlad a hwynt fel teulu yn eu galar dwys a'u coll- ed. Teimlant fod cydymdeimlad gWIJad yn gynorthwy ymarferol iddynt i ddal y ddvr- nod. Nodde-d n1.1\W a fo drostynt oil, a thros yr eglwys yn Nghonwy sydd w-edi cael colled mor fawr, a disgyned deuparth o'i yspryd ar ieuenctyd y lie i ddilyn ol ei droed fel giwieithiwr dros Grist. R. Ar R. UDrwigl genym i'r nodiad am y bregeth an,gladdol gael ei adael all an, mewn amry. fusedd, o'r adroddiad a ymddangosodd yr wythnos cyn y ddiwedd af.—GOL.]
Advertising
F4- T- I I&i KEBRO Mackintosh's Latest Toffee! QBol1£btaetlJ+ [Nid ydym yn gyfrifol am syniodau ein gohebwyr.—GOL.]
ogo Nodion o Lanau y rysynni.
ogo Nodion o Lanau y rysynni. [GAN ILAR.] Nos Fawrth ac ar hyd dydd Mercher, y 12tfed a'r 13eg cyfisol, cynhaliodd eglwys E'benezer, Towyn, ei gwyl flynyddol. Pre- gethwyd gan y Parchn David Jones, Bootle, a T Isfryn Hughes, Ffestiniog. Cafwyd cyfarfod rhagorol yn mhob ystyr. Ni chlyw- som well pregiethu un amser. Gallem fedd- wl fod prif wirioneddau efengyl Iesu Grist wedi cael eu hegluro yn y wedd mwyaf meistrolgar a chydag eneiniad oddi uchod. Credwn nad anghofir y gwirioneddau melus gan lawer oedd yn bresenol tra y byddant ar y ddaear. Yr oedd y cynulliadau y ddwy noson yn fawrion, ond buasem yn disgwyl mwy o ffyddlondeb yn yr oedfaon 11 a 2 o'r gloch dydd Mercher, pan yr oedd dau bre- gethwr mor boblogaidd yn traddodi y genad- wri. Yr wythnos o'r blaen cynhaliwyd y soc- ial ol'af a.m y tymor yn Nhowyn. Dyma "social" hen lanciau eglwys Ebenezer. Fe wnaethant yn rhagorol. Cyflwynasant o elw clir '10 punt a 2 swllt. "Well done F' Safantar y iblaen. Yr oedd y gwragedd a'r merched ieuainc wedi meddwl na fuasai neb yn eu curo. Ond beth a saif o flaen hen lanciau wedi penderfynu cymeryd y blaen ? Nid oes dim, ac felly y bu y tro hwn. Cyd- rhwng y pedwar "social" cyflwynwyd i dTy- sorfa yr yrnddiriedolwyr dros 28p. Da iawn. Y mae yn dda genym allu hysbysu fod Mr D R Thomas, dyn ieuanc o Lwyngwril, wedi rhoddi boddlonrwydd neillduol y Sabboth o'r tbTaen yn Nhowyn fel pregethwr ieu'anc ar brawf. Aed yn mlaen i wneyd daioni. Nid oes dim- yn ein llawenhau yn fwy na gweled yr ieuainc yn rhoi eu goreu i'r efengyl a'r eglrwys, ac i lenwi y bylohau a. wneir yn bar- haus yn y rhengau. Yr oedd yn dda genym y dydd o'r blaen weled gwynelb ein hen weinidog, y Parch P J Roberts, ar y glanau yma, ac yn edrych gys. tal. Y mae iddo le cynes yn mynwesau llawe-Toedd, nid yn unig Wesleyaid, ond pob enwad yn ddi-wahaniaeth. D-aeth yma i ro- ddi ei bleidlais dros MT J M James yn ethol- iad y Cyngor Sirol. Y mae Mr Roberts yn 'bur i'w egywyddorion, ac nid oes aberth or- mod ganddo i'w chyflaiwni dros yr hyn a gred sydd iawn.
o§o Ail BaJaeth Gogledd Cymtr.
o§o Ail BaJaeth Gogledd Cymtr. Diolchir yn garedig iawn i Arolygwyr cylchdeithiau y Dalaeth uchod os byddant garediced ag anfon Schedules" mawr y capeli i Mr G W Thomas, The Willows, Deganwy, a'r C;C Schedules ecraill i mi gynted ellir. R. ROWLANDS, Ysg., Frondeg, Bangor.
Nodion o'r Cefn-
Nodion o'r Cefn- Mae genyf bleser mawr i anion ychydig1 linellau am dri chyfarfod diwylliadol, a'r rhai diweddaf am y tymor. Cawsom bapur gan y Parch J W Davies, Cenhadwr Merthyr. c) Buom yn edrych yn mlaen am dano, ac nid yn ofer. Yr oedd torf barchus wedi d'od yn brydlon. Amlygent awydd am glywed Mr Davies, ac nid hir y buom cyn teimlo ein bod yn g'wrando ar ddyn o awdurdod. Ni welwyd papur, ond clywyd pethau oedd yn hawlio sylw pawb. Cyfarfod rhagotol iawn. Ei destyn oedd Mater mawr bywyd yr Ar- glwydd Iesn. Diolchwyd yn gynes i Mr Davies am ein gwasanaeihu. Yn mhellach yn mlaen, cafwyd papur rhagoroi gan Mr D R Jones. Yr oedd Mr Jones yn arfer dweyd nad oedd ef ddim yn ddyn cyhoeddus, ond waeth iddo heb ddweyd y stori yna mwy. Cawsom bapur arr-rierch. og ar y diweddar Barch H Price Hughes. Yr oedd yn ameuthyn gan bawb glywed hanes un a wnaeth gymaint dros deyrnas y Gwar- edwT. Yr oedd y papur yma wedi costio llawer o lafur i Mr Jones, a thraddododd ef yn eglur a blasus, a dyna oedd tystiolaeth gyffredinol y cyfarfod, ac yn diolch fod ein cyfarfodydd !wedi ateb eu dybsen pe ond dwyn un sydd yn teimlo cymaint o ddyddordeb mewn pob cylch crefyddol yn enau cyhoedd. us. Hefyd, cawsom- Arolygwr y gylchdaith i'n hanerch, sef y Parch H 0 Hughes, Treharris. Ei destyn oedd "Gwasanaeth llyfrau." Last but not the least." Cafwyd cyfarfod hwyliog ryfeddol, gwersi ag oedd yn bwysig i bawb eu cofio, yn enwedig y bobl ieuainc. Rhoddodd Mr Hughes bwys mawr ar dde- wisiad llyfrau. Teimlem ei fod yn dweyd pethau amserol iawn, ac mewn modd effeith. iol. Dywedodd mai hawdd yw adnabod dyn wrth ei lyfrau, a dangosodd y pwysig- rwydd i ddyn ddarllen pethau sylweddol, a thrwy hyny dd'od yn gryf mewn gwybodaeth. Cafwyd cyfarfod campus. Yr oedd yn ddrwg genym mai hwn oedd y diweddaf o'r gyfres. Cawsom lantern lecture" dyddorol. Bu Mr E Humphrejrs, ironmonger, Merthyr, yn garedig iawn yn rhoddi benthyg y lantern," I a'n cynorthiwyo i roi pabpeth yn ei Ie. Am fod Mr Humphreys yn gorfod bod mewn lie arall, ymddiriedwyd y gwaith i ofal Mr D R Jones a'r Parch T Oliver, y rhai a'i cyflawn- odd yn foddhaol dros ben, gyda chynorthwy Mr Stafford a Mr James Lloyd. Ar ol myn'd trwy waith y lantern," cafwyd un- awdau gan Miss Bowen, Dowlais, a Master Henry James, Cefn, ac adroddiad gan Brin- ley Price. G-w-elir nad ydym yn segur ar y Cefn. Mae pawib mewn gwaith. Llywydd- wyd gan Mr Thomas Morris. Mae genyf yn awT y gorchwyl pruddaidd o gofnodi manwolaeth Mr John Rodrick, un o flaenoriaid hynaf Capel Aubrey. Bu farw Mawrth 2il, a chladdwyd ei weddillion yn mynwent yr Hen du cwrdd, ar y 7fed. Yr oedd tvrfa fawr wedi d'od i dalu y gymwynas olaf iddo. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y gweinidogion canlynol:—Y Parchn H O Hughes, Treharris; T Oliver, Cefn; T T Pritchard, Porth; J Hathren Davies, gweinidog yr Undodwyr, a J H Davies (B). Gadawyd gw-ed aw a phI ant i alaru ar ei ol. Cafodd gystudd hir a chaled, ond aeth trwy- ddo yn hynod ddirwgnach. Yr oedd Mr Rodrick wedi treulio bywyd hynod ddiwyd. Teimla yr eglwys a'r ardal g-olled ar ei ol. STEPHANOS.
--fof--TREHARRIS.
--fof-- TREHARRIS. Saron, Capel y Wesleyaid.—Dydd Llun, Mawrth lleg, cynhaliwyd te parti mewia cysylltiad a'r eglwys bon. Deallai trigolion y dref yma, yn gynar yn y dydd, fod rhyw- beth neillduol i fod yn Saron," canys gwelid y Wesleyaid, yn feibion a merched, yn brysur iawn oddeutu'r capel yn gynar yn y prydnawn. Erbyn tua phed-w-ar o'r gloch yr oedd y byrddau wedi eu haddurno a'u llwytho gyda'r danteithion goreu Gyda hyn dechreuodd y bOibl ddyfod i'r wledd, a chafodd pawlb, yn frodyr a chwiorydd, amser prysur ryfeddol am dros dair awr. Ni wnawn enwi y a weiniasant, canys go- lygai hyny enwi jlwys i gyd, a mwy na hyny..Digon yw dweyd fod yr oil wrth eu bodd wrth y byrddau," a phob lie arall, ac i bawb gael eu 'boddhau yn fawr. Mawr gan. molir y wledd ardderchog gan bawb yn gyff- redinol. Eisteddodd 400, o leiaf, wrth y byrddau. Gan fod y nifer mor fawr, a bod y bwyd yn cael ei roddi yn rhad gan aelodau yr eglwys, bydd elw sylweddol iawn oddi- wrth y symudiad i drysorfa. yr eglwys. Da genym hysbysu darllenwyr y GWYLIEDYDD fod yr eglwys fechan hon mewn yspryd gweithio rhagorol. Hefyd y mae ganddi amrai, perthynol i enwada.u eraill, ydynt yn -gyfeillion rhagorol iddi; bob amser yn barod i gynorthwyo gyda phob symudiad sydd genym ar droed. Gwnaethant felly yn nglyn a'r symudiad hwn. DioTch yn fawr i,ddy,nt.G, oli.
Medais Miss Gee i Aelodau…
Medais Miss Gee i Aelodau Hjnaf yr Ysgol Sul. At Olygwyr Y GWYLIEDYDD. •Foneddigion,—Teimlaf yn ddioicbg-ir os oaniatewch i mi hysbysu y rhai a fwriadant ymgeisio am' Fedals Miss Gee, fod yn rhaid iddynt ddanfon eu ceisiadau i mi ar neu cyn Eibrill yr 20fed, 1907, wedi eu harwyddo gan Arolygwr ac Ysgrifenydd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion. DAvrc OLIVER, Holywell.
--0-:Awgrym Gwerthfawr.
--0- Awgrym Gwerthfawr. At Olygwyr Y GWYLIEDYDD. Foneddiigion,—iYr wyf wedi syrlwi gyda boddhad ar y gwaith rha-gorol a wneir gan y Wesley Historic Society" yn mhlith ein brodyr y Saesom Er nad yw ond o gych- wyniad cymharol ddiweddar, y mae wedi llwyddo i sicrhau cyfroddion gwerthfawr, a diau y ceir clywed llawer yn y dyfodol am waith y Gymdeithas hon. Credaf fod lie a gwaith i gymdeithas o'r fath yn Nghymru, a dymunaf awgrymu y priodoldeb o gael barn Iluaws o lenorion ein henwad ar y mater. Campus o beth fuasai cychwyn cymdeithas ar adeg y Gymanfa Gyffredinol yn Lerpwl, pryd y ceir cyfar- fyddiad o arweinwyr yr enwad o'r tair Tal- aeth wedi ymgasglu yn nghyd. Diau mai gwaith mwyaf pwysig y gym- deithas fyddai casglu llenyddiaeth yr enwad yn nghyd. Fe ddylai hyn gael ei wneyd yn fuan, neu y mae yn bur sicr y collir llawer o'r hen gyhoeddiadau fu yn cymeryd rhan mor bwysig ar ddechreu Wesleyaeth Gymreig. Yn fuan cyrhaedda yr "Eurgrawn" ei gan- milwydd, a phrin y gellid meddwl am well cynllun i ddathlu hyny na thrwy sefydlu llyfrgell yn cynwys, hyd y gellir, lenyddiaeth yr enwad. Y mae yn wir fod y Parch T J Humphreys, trwy draul a thrafterth mawr, wedi casglu rhestr deilwng o'n cyhoeddiadau yn ei Wesleyaeth Gymreig," ond diau fod eisiau symud gam yn mhellach, ac ymdrechu cael copi o'r oil yn nghyd. Diau genyf y rhoddwch anogaeth i gael barn lluaws 0'1 arweinwyr yn y mater, a hyny yn fuan.—Yr eiddoch, J. R. ELLIS. Abergele.