Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Ger y Mor ar Gyrau Melrion.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ger y Mor ar Gyrau Melrion. Nid anyddorol yn sicr fyddai gair weithiau o'r cyrau hyn. Bu y darlith- iwr poblogaidd, Mr W 0 Jones, Aber, am y seithfed tro yn Harlech, yn dar- lithio y waith hon ar John Jones," Cafwyd cynulleidfa rhagorol ac elw sylweddol tuag at yr achos yn y lie. Tystiolaeth unfryd-unfarn y gwranda- wyr ydoedd fod y ddarlith hou i fyny a'r goreuon ac yn cynwys cenadwri amserol a buddil-I i'r genedl. Gwelir felly na syrthiodd caerau cadarn, na phinaclau uchel clod y darlithydd ar ei ymweliad am y seithfed troyn yr ardal. Clywsom iddo gael Sabboth dedwydd, hefyd, yn y lie, hwyl a dylanwad yn cyd-fyn'd a'r weinidogoeth. Parheir i gael cyfarfodydd bendithiol bob nos Sadwrn yn Nhalsarnau yn nglyn a'r Undeb Ymneillduol sydd wedi ei ffurfio yn y cyran hyn. Amcan penaf sefydliad yr Undeb ydoedd er dysgu a gwreiddio egwydd- orion Ymneillduaeth yn meddyliau a chalonau ieuenctyd y cylch. Bwriedir cynal cyfarfodydd arbenig i'r amcan a nodwyd. Goreu po gyntaf. » » a ft Deallwn i'r Parch Edward Jones, Porthmadog, fethu bod yn bresenol yn ngladdedigaeth y brawd anwyl, Mr Robert Williams, Soar. Yr oedd Mr Jones yn gwasanaethu ar yr un adeg yn nghladdedigaeth Captain Davies, Snowdon Temperance, Porthmadog. Y Sabboth canlynol yr oedd Mr Jones yn gwasanaethu, foreu a hwyr, yn Soar. Traddododd bregeth angladdol deilwng iawn o'r diweddar Robert Williams. Seiliodd ei sylwadau ar eiriau yr Apos- tol Paul, "Mi a ymdrechais ymdrech deg, &c." Cafodd Mr Jones un o'i adegau goreu—Duw yn arddel y gwir- ionedd, yn bendithio Ei bob], ac yn cynal ei genad. ? Cafodd cymdeithas y bob! ieuainc yn Mrontecwyn wledd rhagorol nos Iau diweddaf wrth wrando ar y gweinidog ieuanc galluog a gobeithiol, y Parch Evan Roberts, Harlech, yn traddodi anerchiad dyddorol ac addysgiadol ar Helyntion Llyfr Hynod." Edrychir yn mlaen am glywed ei ail anerchiad gan gymdeithas Soar. GOR.

Advertising

..0 Wlad y Gorllewin. I t…

-, MOSTYN.

CAER/WYS.

EONrrÐJDU

Cadwraeth y Sabboth.

( LLITH 0 LLUNDAIN.