Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

.YMNEILLDUWYR ,YN DORIAID.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMNEILLDUWYR YN DORIAID. Js mhob etholiad daw dyn ar ^WS y dosbarth rhyfedd hwn °r,hil ddynol ac yn sicr ddigon, esiampl od o'r ddynol natur" V^yw hefyd. Pa fodd i esbonio el darddiad a chwrsweithrediad ei fodolaeth yn llawn, nid oes yr 1111 dewin ar wyneb y ddaear a lvyr. Gwyddom beth ydyw hyddfrydwr. Gwyddom beth V19 Ceidwadwr. Gallwn ddirnad yw'r hyn a eiiw'r diweddar deon Stanley yn aelodau Ym- nelllduolo Eglwys Loegr." Ond fe- he-riwn unrhyw un i roddi darn- Ylad clir a chyson i ni o Dori ^tteillduo]. Beth yw'r egwydd- ~a gynrychiola'r dosbarth Wri ? Beth y»w gwahanol ag- ^eddau eu credo gwleidyddol ? a fodd y cysonant hwy gydag yspryd ac eawyddorion Ymneill- Uaeth ? re, fodd yr esboniant •Tl^dygiad y blaid y perthynant tuag at Ymneillduaeth yn ft°b oes ? Cymerer y ddau erm Ymneillduaeth a "Thor- haeth," craffer ar eu hystyr a'u ^es, ac yn mha le mewn difrif n o ^'r ddolen gymodol i mewn ? °nir llawer mewn athroniaeth ^ni y << Modd Cymodol (.Method Y Reconciliation). A thybir gan J11* un heblaw y Parch R. J. ^^mpbell y gellir gwneyd B^rhydri meddyliol gyda'r modd n- Ond uno gwrthgyferbynwyr ;PPosites) mewn cyfosodiad, a r/113- wirionedd newydd yn. y fan. ^^elwyd fod y syniad o dda a §" yn hanfodol er gwneyd j/rtieriad yn bosibl, drwy y modd A chyfrinion eraill a eglur- j/d drwyddo. Nid ydym yn '0^t7ru'r m°dd chwaith. Rhodd- 0j 1 ni wirioneddau a erys, yn P°b tebyg. Ond am wrth- If/rbynion y penawd hwn pa Pvf yr enw^r hwy mewn unryw os°diad ? Sut y cysonir y hyn a'u gilydd ? flVn nyddiau Shiarl II, tua'r ,n 1679, y daeth y gair 1 arferiad yn mywyd yn e*dyddol ein gwlad a hyny v Bi, nglyn a helynt yr Exclusion bla'H fel ei gelwid. Yr oedd y Ca Brotestanaidd yn ceisio oh^ allan o'r orsedd envydd mai Pabydd ydoedd I gandnreU te^ l^Ynt > Yr oedd I • ynt resymau da dros ofni I Pabyddol ar orsedd moddin>Wrth feddwl am y ar y triniwyd hwy gan Shiarl I PakUn, ^aw> a gweled gogwydd I h\vn 1°^ hys Shiarl II, ei fab (yr yn e-a h°nai'r ffydd Brotestanaidd Babvd/xWyd' ond a iu farw yn ent I ar y ^aw arall, dychryn- dioo-pf edrych i'r dyfodol. Er plant U rhyddid crefyddol i'w P'1Wd/n?idrechant 1 &au Iag°'r y blaid aQO'rorsedd. Gelwid yn tyfr ymdrechai i sicrhau hyn 1 Shiarl uS' a'r,blaid a gefnogai ivories t yS Pabyddo1 Yn Iftermau v hy.n y daeth y yddoi -p11 Syntaf i hanes gwleid- i nyddiaur cdain' Yn lh3°> yn newid,\ j yr Hobert Peel, fe J wyd yr enw yn Geidwadwr. I Yn nglyn a'r Mesur Mawr I Diwygiadol a basiwyd yn 1832 y daeth yr enw newydd hwn i arferiad. Amcan y mesur hwnw oedd glanhau'r bwrsdeisdrefi, ac estyn cylch etholaeth ein gwlad. Gelwid y blaid a wrthwynebent hyn yn Geidwadwyr. Yn awr, ond craffu ar yr hyn a nodwyd, ac astudio'r amgylchiadau gwleid- yddol, fe wel pawb fod darnodiad yr enwog Dr Johnson o Dori yn burgywir, sef. One who adheres to the ancient constitution of the state, and the apostolical hierarch of the Church of England ?" Rhywbeth tebyg yw pob darnod- iad a welsom o'r gair. Felly, egwyddor fawr hanfodol Toriaeth ydyw gwrthwynebu pob newid, a diogelu pethau fel y maent mewn Eglwys a Gwladwriaeth. Yn awr, a ellir cyfuno'r safle hon gyda ffyddlondeb i Ymneilldu- aeth ? Fe etyb pob dyn meddyl- gar nas gellir yn dragywydd Meddylier, er engraifft, am bwnc mawr Dadgysylltiad a Dadwadd- oliad yr Eglwys Wladol yn Nghymru. Yn ol eu credo gwleidyddol mae'r blaid Doriaidd yn rhwym o wrthwynebu hyn i'r eithaf. Y maent yn rhwym o ddiogelu ac amddiffyn monopoly Eglwys Loegr yn Nghymru, am eibod yn rhan o'u syniad hwy o wladwriaeth. Dim esgob, dim brenin," ebai Iago II er's llawer dydd. Mae hyn yn rhan han- fodol o syniad y Toriaid am Wladwriaeth Prydain. Ar y llaw arall, mynn Ymneillduaeth fod cysylltiad yr Eglwys a'r Wladwriaeth yn groes i egwyddor ysprydol gwir grefydd. Cl'ywsom Doriaid Ymneillduol cyn hyn yn siarad yn anwynebol am Ddadsefydliad, ac yn priodoli cymhellion isel wael anheilwng i Ymneillduaeth yn nglyn a'r mater. Gyda'u golygon byr, ac unochrog, tybiant mai trachwant sydd wrth wraidd y cri am dano. Gyda phob dyledus barch iddynt, dywedwn nad yw'r bobl hyn erioed wedi n deall safle Ymneillduaeth ar y mater. Credwn yn ddios fod gorfodi dynion i gynal Eglwys WIadol trwy dalu degwm yn groes i egwyddor ysprydol crefydd ei hun. Pe byddai Eglwys Loegr yn Brotestanaidd-yr hyn nad yw o lawer iawn,-ie, pe byddai y sect gryfaf yng Nghymru, ac yn gwneyd ei gwaith yn effeithiol, fe arosai gwrthwynebiad Ymneill- duaeth i Eglwys Wladol yr un. Y mae cysylltiad yr Eglwys a'r Wladwriaeth yn groes i egwyddor rydd, wirfoddol ac ysprydol cre- fydd. Yn awr, pa fodd y cyfunir egwyddor ysprydol Y mneilduaeth gydag egwyddor fawr hanfodol Toriaeth ? Delfryd mawr Tori- aeth yw diogelu perthynas yr Eglwys a'r Wladwriaeth, tra mae egwyddor ysprydol crefydd yn galw ar Ymneillduaeth i frwydro nes dadsefydlu yr Eglwys oddi- wrth y Wladwriaeth. Gan hyny, os yw y bobl hyn am fod yn Dori- aid, rhaid gwerthu egwyddor ys- prydol eu Hymneillduaeth ac os am fod yn Ymneillduwyr gwir, rhaid iddynt ddiarddel Toriaeth. Pegynau gwrthgyferbyniol ydynt, ac nid oes yr un dewin nac ath- ronydd all eu cyfuno yn gysbn byth. Carem wybod, hefyd, sut mae'r bobl hyn yn amddiffyn ymddyg- iad eu plaid tuag at Ymneilldu- aeth ? Hanes y blaid hon yn mhob oes ydyw amddiffyn mon- opoly yr Eglwys Wladol, ar draul erlidac anmharchu Y mneillduaeth. I Yn mhob oes, fe safodd i fynu dros ormes offeiriadol a'r syniad sefydliadol am grefydd, ac yn erbyn rhyddid crefyddol a'r syn- iad ysprydol am natur crefydd. B u adeg pryd na chaniateid i Ym- neillduwr gael swydd o dan y Goron, nac mewn unryw gorph- oraeth, heb fod yn aelod o'r Eglwys Wladol, a chymeryd y Cymru o law offeiriad y plwyf. Ni cheid swydd heb werthu Ym- neillduaeth. Am hyn dywed y bardd Cowper By statute shoved from its design The Saviour's feast, His own bless'd bread and wine, And made the symbols of atoning grace. An office key, a picklock to a place Brwydrodd Ymneillduaeth neu dileu'r ddeddf hon, ond cawsant wrthwynebiad eithaf y Toriaid. Buadeg pan y darllenid gostegion priodas ein pobl o flaen Bwrdd y Gwarcheidwaid. Symudwyd y gwaradwydd dirmygus hwn wedi hir frwydr, ond nid oes genym ddiolch i'r Toriaid am hyny. Bu adeg pan y cauid y Prif-ys- golion yn erbyn ein pobl ieuainc, ac na chaniateid i weinidogion gladdu ein mheirw cysegredig yn mynwentydd plwyfol ein gwlad. Ond erbyn heddyw, mae pethau wedi newid yn fawr. Ond pa ddiolch i'r Toriaid ? Cawsom eu gwaethaf yn ein herbyn bob am- ser. Dyna diddymu'r Dreth Eg- lwys, a phethau eraill allem eu nhodi, megis, eu gwrthwynebiad i Addysg Genedlaethol, &c. Pa fodd y gall Ymneillduwr fod yn Dori yn wyneb hyn, sydd tuhwnt i ddirnadaeth dyn. Yn sicr, nH ydynt erioed wedi deall gweL. mawr hanes fel y dylent, nac erioed wedi deall yspryd mewn- ol Ymneillduaeth na Thoriaeth. Pe gwelent yr olaf a nodwyd yn iawn, fe welent hefyd y tir an- mhosibl y safant arno neu o leiaf, y ceisiant sefyll arno. Dywed y bobl hyn drwy fod yn Doriaid, nad oedd gan Ymneill- duaeth ddim business i frwydro fel y gwnaeth; ac nad oes ganddi hawl hyd yn oed heddyw i frwydro dros gydraddoldeb, yn enw cysegredig egwyddor yspryd- ol crefydd. Am gadw pethau fel y maent y mae'r Toriaid yn mhob oes a diogelu monopoly yr Eglwys Wladol, bid sicr. I ni, mae pob Tori Ymneillduol yn poeri am ben ein dewrion Ym- neillduol, ac yn bleidlais o gerydd ar holl frwydrau Ymneillduol y gorffenol. Gwyn Fyd na welent hyn, ond efallai na fynant weled fel y Phariseaid gynt. UJJU

[No title]

ADOYFODIAD CRIST.