Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

CYFRI'R AELODAU. .

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFRI'R AELODAU. MAE cyfri'r aelodau yn bwnc tra phwysig mewn cylchoedd* crefyddol yn ein hoes ni. Daw hyn i'r golwg yn nglyn a'r gwahanol bleidiau crefyddol yn y wlad hon, a dichon fod yr un peth yn bod mewn gwledydd eraill. Ond amheuwn a oes cymaint o helynt gyda chyfrif proffeswyr crefydd mewn Un wlad o dan y nefoedd ag yn Mhrydain Fawr. A braidd na ddywedwn, nad oes yr un gangen o Eglwys Crist yn gwneyd cymaint o helynt gyda'r mater hwn a'r Wesley- aid. Dichon fod rhai o'r pleidiau eraill yn cyfrif yn fwy llwyr amanwl, ond nid oes yr un ohonynt, ni gredwn, yn cyfrif mor fynych, nac yn cadw cym- niaint o ystwr. Yr ydym ni yn cyfrif ein haelodau bob chwarter trwy y flwyddyn. Ni fyddai Cwrdd Chwar- ter yn Gwrdd Chwarter heb dderbyn cyfrif yr aelodau. Mae yn gwestiwn yr ydys wedi ei ofyn i ni ein hunain ami i waith-Beth sydd yn galw am i'r aelodau gael eu cyfrif bob tri mis ? Ie, beth sydd yn galw am gyfrif unwaith yn y flwyddyn ? Paham na buasai yn gwneyd y tro gyfrif bob tair, neu bob pum mlynedd ? Dichon y bydd rhyw swyddogion a ddarllenant hyn o ysgrif yn rhyfeddu at ein han- wybodaeth. Bydded iddynt gyd- ddwyn a ninau hefyd, oblegid y Riaent yn cyfarfod a llawer o rai tebyg i ni. Dichon y dywedir fod yn rhaid cyfrif yn fanwl unwaith yn y flwyddyn er gallu rhanu yn gyfiawn yr hyn sydd yn ddyledus oddiwrth y cylch- deithiau tuag at ein gwahanol drysor- feydd. Ond paham nad ellir rhanu Rofynion y gwahanol drysorfeydd hyn bob tair blynedd ? Gwnaed peth felly yn y Talaethau Cymreig gyda'r Genhadaeth Gartrefol yn ddiweddar. Ac oni ellid gwneyd yn gyffelyb gyda'r holl drysorfeydd? Pe gellid arbedai lawer o amser a thrafferth. Efallai y dywedir y dylid cyfrif yn fynych er mwyn i ni wybod pa un a'i Uwyddo ynte aflwyddo y mae'r gwaith Ond tybed na ellir gwybod hyny heb gyfrif ? Os cymer gwir lwyddiant le ntewn unrhyw ranbarth, canfyddir hyny yn muchedd a bywyd y dynion, a deuiryn wybyddusohono drwy ryw deimlad rhyfedd, a hyny dros gylch eang. Dylid cofio hefyd nad ytv pob cynydd mewn rhifedi yn wir gynydd yn nifer dilynwyr yr Arglwydd Iesu Grist. Hwyrach mai un o'r pleidiau crefyddol ileiaf er rhif yn ein gwlad Sydd yn gwneyd mwyaf o waith ys- brydol, ac yn gwneyd mwyaf er dyr- chafu y wlad mewn ystyr dymhorol. Gwyddom fod Duw wedi defnyddio cenhedloedd bychain o ran rhifedi i fod y fendith fwyaf i'r byd, a phaham l1a.d all ddefnyddio y pleidiau crefyddol Ileiaf i fod yn fendith fwyaf 1 wledydd ac i'r byd ? Dy.sgir ni yn yr Hen Lyfr y collir ar ei wersi beunydd, i'r Ar- yn ddifawr wrth Qr YI)d, brenin Israel, am gyfrif er *n°¥ a disgynodd arno ef ac Oml ^osPe(^ISaeth drom am hyny bob! ddrwg oedd mewn cyfrif y rh Er na ddywedir diau fod yw ddrwg (mawr yn nglyn a'r gorch- ^yfrifocdd MOSES y bobl fwy nag "). unwaith, ond nid oes son iddo ddigio'r Arglwydd drwy hyny. Diau fod MOSES yn cyfrif i bwrpas daionus ond y mae'r un mor sicr fod pwrpas DAFYDD yn ddrwg. Byddwn yn gofyn yn awr a phryd arall ai boddlawn gan Dduw yr helynt a wneir flwyddyn ar ol blwyddyn gan bleidiau crefyddol y wlad, gyda chyfrif yr aelodau ? Oni ddefnyddir y cyrifon hyn weithiau i ymffrostio ar ran y pleidiau cryfion, ac i daflu diystyrwch ar allu, a dysg, os r.ad cymeriad hefyd y pleidiau Ileiaf? Addefwn mai rhai anwybodus a chnawd- ol a wna beth o'r fath, ond hyd y gellir na rodder achlysur i'r cyfryw. Hefyd, onid yw y cyfrif mynych, a'r pwysliis mawr a roddir ar nifer, yn d'od yn atalfa i bregethwyr a blaenoriaid i fod yn drwy- adl yn nghyflawniad eu gwaith ? Nid yw chwyddo y nifer bob amser yn gyn- ydd mewn nerth na dylanwad. Hwyrach yr adgofir ni nad oes gym- aint o berygl i ni orgyfrif ag ambell enwad arall oblegid mae genym ni flaenoriaid sydd yn gofalu na chyfnfir gormod, rhag iddynt orfod talu ychwaneg i'r Bwrdd Chwarterol. Addefwn y gall hyn fod yn wir ond rhydd hyn hefyd olwg annymunol ddigon ar bwnc y cyfrif. Cwestiwn godwyd fwy nag unwaith yn ein Cyfundeb ni yn ystod y deugain mlynedd diweddaf yw—A ddylai cyfar- fod mewn Rhestr fod yn deler aelod- aeth yn ein Heglwys, ynte na ddylai ? Ac ymddengys ei fod yn gwestiwn llosgedig yn nghyfrif rhyw rai yn ein Cyfundeb yn awr. Nid ydys yn meddwl fod mwyafrif ein pobl yn teimlo llawer o ddyddordeb yn y cwestiwn. Yr hyn sydd yn boenus i ni yn nglyn a chyfod- iad y pwnc yw, fod sut i gyfrif? yn meddu ar ormod o le-Pa fodd i osod allan Wesleyaeth yn ei gwir nerth ger gwydd y byd ? Ofnwn ein bod yn rhoddi gormod o bris ar gael ein cyfrif yn enwad mawr, lluosog. Ond pa gylchdeithiau a pha weinidog- ion sydd yn cymeryd mynychu y Rhestr yn safon i gyfrif yr aelodau ? Dywed- wyd wrthym fod rhai o'n Heglwysi yn Nghymru, a'r rhai hyny yn weddol gryfion, heb restrau o gwbl yn perthyn iddynt. Ac onid oes miloedd o'r rhai a gyfrifir yn aelodau flwyddyn ar ol blwyddyn, gyda'r Saeson a'r Cymry, mor ddyeithr i'r rhestrau a phe buasent yn perthyn i enwad arall ? Paham y rhaid aflonyddu ar heddwch y Cyfundeb er mwyn medru cyfrif ychwaneg o aelodau ? Ni fyddai cyfrif y bobl sydd yn dilyn ein heglwys o hir-bell yn golygu eu bod yn cael eu dwyn yn nes at Dduw, ac yn fwy newynog a sychedig am gyfiawnder. Os felly, nis gallai eu cyfrif yn aelodau fod yn nemawr o fantais i'r eglwys nag iddynt hwythau. Bydded i'r Arglwydd ein cadw rhag rhoddi mwy o bwys ar ymddangos nag ar fod yn fawr. Creadur eiddil a salw yw y dyn sydd yn rhoddi pwys gormodol ar ymddangos; ac eglwys eiddil, wan, anwadal a diddylanwad yw yr eglwys sydd yn rhoddi pwys mawr ar ymddangos yn hytrach na bod.

--:---<>10-. Cyfarfod Talaethol…

MOESOLDEBI CYMDEITHASOL-

"Y Dduwinyddiaeth Newydd."

Llongyfarchiadau.