Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
PORTHMADOG.
PORTHMADOG. p Cyfarfod Blynyddol Plant y Goheitblu.— rydnawn ddydd Mercher, Ebrill lofed, trwy garedigiwydd arferol Mrs Hugheston Roberts, J^adoc. Cafodd y plant eu gwledd de flyn- yaaol. Daeth oddeutu 90 i 100 o blant a phobl yn nghyd i gyfranogi o'r wledd ardderchog oedd cyfer. Yr oedd yr amrywiol ddanteithion ar y bwrdd yn bob peth allesid ei ddisgwyl a 1 ^dymuno, a gwnaeth pawb yn helaeth ohonynt Wedi eu digoni, cyflwynwyd gwobrwyon, llyfra?« ir P*ant am eu presenolieb a'u vn ,wy^d i ymgymcryd a'u gwahanol dasgau wythnosol y gobeithlu. Yr W T &w°brwyon hyn yn rhoddedig gan Mr SVdH %wydd y gobeithlu, yr hwn jo ?.yu nodedig o ymdrechgar a ffyddlon gyda'r hefvd William Morris, fel arfer, aur_ y plant trwy an fon basgedaid lawn o Plant W r^anu iddynt Ar ol hyny aeth y Pbwv'll yU Cael e.u d%n 8an y gweinidog a iijj. ,^2'" y gobeithlu, i ffrynt y capel i wynebu Clay> photographer, Caergybi, i gael eu ia^n> fod y darlun yn un campus iaeth v °'r yn y capel, .dan lywydd- J arc^ Edward Jones, ac arweiniad Mr W i gadw niS' cyubaliwyd cyfarfod terfynol y plant iriawr am mewn hwyl a dyddordeb Caneunn ?s j '^y. awr 0 amser. Yr oedd eu danpne hadroddiadau yn gampus iawn, ac yn yr orpan r mawr- Gwasanaethwyd wrth Jonef a ArWn deheuig gan Miss E M 8an y ParJh1^ laTyS Thomas- Cynygiwyd H. Thorn ac f^'Uircl Jones' ac eiliwyd gan Mr D ddiolchgarwch i Mrs Hugheston Roberts am ei charedigrwydd mawr yn rho ddi gwledd mot rhagorol i'r plant eleni eto. Diolch- wyd hefyd i bawb oedd wedi bod yn helpu, ac i'r brodyr a'r chwiorydd oedd wedi bod yn ffydd- Ion a gwasanaethgar yn nghyfarfodydd y plant yn ystod y tymor.-H.J. -<)10-
©oijetnaetlj.
[Nid ydym yn gyfiifol am syniadau ein gohebwyr.-GoL. ]
At Olygwyr Y GWYLIEDYDD.
At Olygwyr Y GWYLIEDYDD. Foneddigion,—Nid wyf yn ei barnui yn ddoeih i ateb "Zeitgeist" o berthvnas i'r ychydig nodiadau a ysgrifenais ar y Parch R J Campbell, M.A., a'i Dduwinyddiaeth, a hyny yn hollol am nad oes genyf jimser nac awydd i ateb un sydd yn ysgrifenu mor honiadol dan ffugenw. Os barnaf ei fod yn deilwng o sylw, bydd yn bleser genyf ei a.teb pan yr ysgrifena dan ei enw priodol, ac nid cynt. Cofier nad wyf yn gwarafun i "Zeitgeist" yr hawl i farnu drosto ei hun, fel y gwara- funa efe i mi. <0 nd gan ei fod yn gofyn cwestiwn, Pwy a'i gosododd yn farnwr ?" gofynaf inau iddo yntau, "Pwy a'i gosod- odd yn brophwyd ?" .Pwy roddodd hawl iddo brophwydo am y dyfodol ? Sut y gwyr fod rhai o ohebwyr y GWYLIEDYDD yn anaeddfed, yn gul eu barn, ac yn anwy- bodus ? Os yiN,, ei sylwadau am y Dduwin. yddiaeth Newydd felly, yn sicr y maent hwythau yr un fath. Pwy ddywedodd wrtho fod sylwadau y rhai hyn yn peri mwy o niwed i Wesleyaeth nag a feddyliai ? Pwy hefyd ddywedodd wrtho fod yn rhaid i'r en- wad Wesleyaidd, os am fod yn allu er dai- .ani, symud gyda ysbryd yr oes ? Beth, atolwg, ,a feddyliai avrth ysbryd yr oes ? Sut y gwyr y bydd i hanesydd y dyfodol ddyweyd am y digwyddiadau diweddar fel dechreuad cyfnod newydd yn ,natblygiad y meddwl crefyddol ? Ar ba sail y dywed mai esboniadau o'r fath a gynyrchwyd gan Adam1 Clarke, Albert Barnes, a John iBrown yw arweinyddion ein pregethwyr i ddeall y BeibI ? Gan fod "Zeitgeist" yn honi gwy- Ibodaeth lied helaeth, ac yn ymddangos yn bur gyfarwydd a'r sefyllfa bresenol, credaf y ibydd yn dda gan olygwyr a gohebwyr y GWYLIEDYDD, a dringwyr y pwlpudau, dder. byn goleuni "Zeitgleist." Wedi hyny gellir ei farnu am ei werth. 0 berthynas i'r hyn a ysgrifenais am dder- byniad a syniadau y Parch R J Campbell, nid oes genyf ond dyweyd yn ngeiriau gwlad. weinydd adnabyddus, "Yr hyn a ddywedais a ddywedais, ie, a mwy, yrhyn a ddywedais a ddywedaf eto." Ni ysgrifenais yr ych. ydig nodiadau yn y niwl, nac mewn culni, nac ychwaith mewn .anwybodaeth. Mae yn ddiamheu y cydndbydd. Zeitgeist," sydd yn hawlio cvmaint, mai rhydd i bob dyn ei farn," "ac i 'bob barn ei Ilafar." Dywedaf yn mhell.ach ,am syrtiada-u y Parch R 'J Campbell eu bod yn wyllt, ie, yn ngeir- iau Dr A 'M irairbairn, 'Rhydychen, yn "gymysgfa o ffoledd." Cyn terfynu, cyf- lwynaf i ddarllenwyr y GWYLIEDYDD farn Dr W H Fitchett, "Fernley lecture" 1905, am y iDduwinyddiaethNewydd. ;:Oyma ei eiriau, yn yr iaith y cawsant eu hysgrifenu —" We do not need a committee of theolog- ians to tell us that, whatever this is, it is not Christian doctrine. Nor do we need a committee of sages to warn us that it is not common-sense. We ought to have suffic. ient intellectual courage, indeed, to describe it as PURE XOXSENSE." Ni wnaf sylw pellach o Zeitgeist os na ysgrifena dan ei enw priodol, oblegid, a barnu oddiwrth yr hyn a ddywed, ni ysgri- fen.a o dan argyhoeddiad jdwfn o'r angen am y Dduwinyddiaeth Newydd, ond ysgrifena. mewn ysbryd chwerw, honiadol, er ergydio ar yr Eglwys (Wesleyaidd a dringwyr eiphwl. pudau. IFe ofala Dr Davison a ,Dr Beet ami danynt eu hunain. iParod wyf i alw syn- iadau) y Parch R J Campbell yn "efengyl Campbell," fel y gwna eich gohebydd "Zeit. geist," oblegid sicr wyf nad Efengyl ein Harglwydd lesu Grist ydyw. JOHN E. THOMAS. 3, Ruthin Gardens, Caerdydd, .Ebrill 13eg, 1907.
1 |o| ! -Tloty Caernarfon.
|o| Tloty Caernarfon. Yng nghyfarfod y-Gwarcheidwaid, dydd Sadwrn,gwnaed yn eglur fod swyddogion y Tloty 3-11 methu cytuno a'u gilydd, ac ym. ddengys fod y gwarcheidwaid yn analluog i dawelu'r storm, a phenderfynwyd gofyn i Awdurdodau Bwrdd y Llywodraeth Leol ddod i wneud ymchwiliad i'r helynt. Diau y daw John Burns i'r dre un o'r dyddiau nesaf a gwialen fedw yn ei law.
Family Notices
Priodas MR..JAMES LEWIS, DERWENLAS, A' MISS N OWEN, EGLWYSFACH. Dydd Mercher, Ebrill 3ydd, yn blygeinio! iawn, deffrowyd trigolion Eglwys- fach gan swn saethu, a mawr yr holi beth oedd yn bod. Tua naw o'r gloeb, modd bynag, deallwyd beth oedd achos yr holl helynt pan welwyd cerbyd yn cael ei dynu gan ddau geffyl-solygus wedi eu haddurno a chlustiau gwynion, yn aros 0 flaen y Post Office. Yn fuan ar ol naw gwelwyd Miss Nancie Owen a nifer 0 gyfeillion yn myned i'r cerbyd, a chludwyd hwy i Fachynlleth, yn mha le yr unwyd Miss Owen mewn glan bi iodas a Mr James Lewis, Derwenlas. Cymerodd yr amgylchiadj dyddorol Ie yn y Tabernacl, capel y Wesleyaid. Gwas- anaethwyd ar yr achlysur gan y Parch G 0 Roberts (W), yn cael ei gynorthwyo gan y Parch E Wnion Evans (A). Cyflawnodd Miss Nellie Owen, chwaer y briodasferch, ddyledsvfyddau y forwyn, tra y cyfiawnwyd y rhan gyferbyniol bwysig, sef rhan y gwas, gan frawd y priodfab, Mr John LewiE, Tynohir. Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan ei brawd, y Parch E T Owen, Battersea, Llundaiu Ar ol y gwasanaeth yn y capel aeth y cwmni dyddan i'r Temperance Hotel ar gvfer y capel, yr hwn le a lywodraethir gan Mr H Pugh, ac yno y mwynhawyd y breakfast." • Cafwyd anerchiadau dyddorol a buddiol gan y Parch G 0 Roberts, ac E Wnion Evans, ac atebwyd ar ran y briodferch a'r priodfab gan y Parch E T Owen. Ymadawodd y par ieuanc gyda'r tren un am Aberystwyth i fwynhau awelon iachusol y mor ar lanau Ceredigion. Yr oedd y rhoddion 0 bell ac agos yn lluosog a gwerth- fawr. Dymunwn i'r ddau fywyd hir a dedwydd. a gwenau y nef fyddo arnynt yn wastadol. -Cardi.
.-tol-Cyfarfod Talaethol Rhyl.
-tol- Cyfarfod Talaethol Rhyl. EBRILL 28—MAI 2. iMae adeg cynhaliad Cyfarfod Talaethol Rhyl yn agoshau, a deallwn fod y trefaiadau erbyn hyn wedi eu cwblhau. Edrychir yn ml-aen at Gyfarfod Talaethol poblogaidd a Hwyddianus. Sicrhawyd gwasanaeth tiens rhad gan gwmni y Rheilffordd o Gaer, o'r Wyddgrug ac o Gonwy. 'Bydd modd cyr. aedd irhyl ddydd Lau erbyn adeg y S-eiat, o'r rhan fwyaf o'r gorsafoedd rhwng y lle- oedd hyn a Rhyl. <A iganlyn (Jdyw treifn y cyhoeddiadau. Nos Lun, Ebrill 29ain, yn 'Brunswick pre- gethir gan y Parchn W. Price, Llansilin, a T C. Roberts, Corwen. Yn Soar yr un adeg pregethir gan y Parchn R. Jones, B.A., a A W .Davies, Brymbo. Yn Rhuddlan hefyd pregethir gan y Parchn Charles Jones a D Meurig Jones. Pwnc y Gynhadledd Dduw. inyddol a gynhelir nos 'Lun ydyw llyfr Dr Forrest ar "The Authority of Christ." Dar. llenir papur arno gan y Parch M E Jones, ac agorir yr ymddyd-dan gan y Parchn R Jones-Williams a W R Roberts. Nos Fawrth cynhclir cyfarfod cyhoeddus, dan lywyddiaeth Mr E R Parry, Y.H., Llan- gollen. 'Y mater cyffredinol dan sylw fydd "Yr Efengyl a Chwestiynau yr Oes." Dos. renir y mater fel y canlyn :—"Yr Efengyl a Defodaeth," gan y Parch W R Roberts; Yr Efengyl a'r Dduwinyddiaeth New}-dd,'J gan y Parch Thomas Hughes, Lerpwl; a'r Efengyl a Dirwest," gan y Parch D Mor- ris. Gwelir fod y mat-erion yn amserol a. phwysig, a'u bod wedi eu hymddiried i frodyr cymwys. 'Nos Fercher cynhelir dwy oedfa, un yn Saesonaeg a'r Hall yn X gh ym. raeg. Y pregethwr Saesn.eg fydd y Parch E Lloyd Jones, Manchester, a'r pregethwyr Cymraeg fydd y Parchn R Jones.Williams, Llangollen, a D Thomas, Rhuthy-n. ,Dydd Tau, iMai 2il, fydddydd mawr yr wyl. Cynhelir Seiat Fawr am 9 a.m. yn Brunswick.' Pwnc y Seiat fydd "Nodan Eglwys y Diwygiad" (Act. ii, 42), a siaredir ar ibedwar n6d yr adnod gan y Parchn R Lloyd Jones, T N Roberts, a Cvlri J W Jones, Wrexham, a 'W R Roberts, L'.anfair. Ar ol y .Seiat pregethir gan Gadeirydd y Dalaeth, ac yna cynhelir Oedfaon am ddau a chwech o'r giloch yn Brunswick a chapel Clwyd Street "(MJC.), pryd y pregethir gan y Parchn R Mon Hughes, J Felix, D Jones, Robert Lewis, D 'Morris, T 0 Jones, T Hughes, ac R Lloyd Jones. Rhoddirhyspysrwydd pellach am. adeg y trens a'r "fares" yn Y GWYLIEDYDD yr wythnos nesaf. Disgwyliwn luoedd i Rhyl y diwrnod mawr o'r ddwy Dalaeth OgleddoL
Advertising
The Original Cocoa, and a Speciality. EPPS Distinguished from all others by its invigorating nutritious qualities and delicious flavour. It contains all the substance of the choicest Nibs, and main- tains its leading position as C A the best form of Cocoa f.r every-day use.
-:0:-CYLCHDAITH ABERAERON.
-:0:- CYLCHDAITH ABERAERON. Sul y Pasp, pregethwyd yn Nghilcenin ac Aberaeron, gan Sir Evan Davies, ysgolfeistr, o y allh'amstow, Llundain. Cafodd y ddwy gyn- ^Heidfa eu boddloni yn fawr ynddo, ac yn QJiriuno cael ei glywed yn fuan eto. Nos Lun <Mynol pregethodd yn nghapel Vicar-yn y capel Ie y codwyd ef i fyny ac y dechreuodd bregethu. Y oedd yr eglwys yn falch iawn o'i weled a'i itywed unwaith yn rhagor. Yr oedd ei chwaer ar ymvveliad a ni—Miss Davies, Barry ^°ck. Llawenydd o'r mwyaf oedd genym weled y naill a'r llall. Nid oes eu rhagorach i'w cael ^ttevvn ffyddlondeb i'w cartref, ac mewn sel at y capel He y dygwyd hwy i fyny ynddo. Daliant ar bob cyileustra i gael addoli ynddo pan ar eu fi^yliau, ac yn hyn yn esiampl ragorol i lawer, Yr Arglwydd a'u cadwo am flynyddoedd i wasan- aethu eu Harglwydd.-Goh.
ABERDYFI.
ABERDYFI. Y Sabboth cyn y diweddaf, darfu ein hanwyl ^einidog, y Parch H Curry, newid pwlpud gyda'r Parch T Jones-Humphreys, Ty Cerrig, a rhyfedd genyrn glywed mai dyma y tro cyntaf i Mr Hum- phreys fod yn pregethu yn Aberdyfi, er ein bod yn adnabyddus a chynyrchion ei feddwl llydan ^eWn llawer cyfeiriad. Mae Esboniad yr Efrydyddyn llyfr teuluaidd gan bob Wesley ad yina. Ond, rhyfedd iawn, dyna y tro cyntaf i *ai Weled gwyneb y boneddwr rhadlawn. Er ein wedi gosod nod uchel i'n disgwyliadau, Cawsom wledd ardderchog-" Brechdan a menyn ary ddau du," chwedl loan Jones, ac nid pobl fcewynllyd, hawdd eu boddhau, sydd yma, Oberwydd yr ydym mewn gwleddoedd yn wastad. Diolch am efengyl bur, ac athrawiaeth iach. Dy- Inunwn ddyddiau lawer i Mr Humphreys i gloddio trysorau o hen fwngloddiau yr efengyl, a'u gosod mor ddealladwy ger bron cynuilleidfaoedd. Newydd Da.—Llawenydd i'r ardal bon oedd cly\ved fod Mr E L Rowlands (Dyfi) wedi cael I1 benodi yn ynad heddweh. Mae Mr Row- lands wedi Ilenwi bron bob swydd sydd yn perthyn i'r Cyfundeb Wesleyaidd, ac wedi bod ar J blaen yn mhob swydd yn y dref hon. Ac erbyn hyn dyma yr awdurdodau wedi gweled fod ynddo dcilyngdod a chymwysder i eistedd ar y fainc yoadol. Dymunwn iddoswc dda, yn ei swydd Newydd, ac anrbydeddus; ac os gwir y stori, cawn gyfle cyn hir i roddi "swc dda" iddo ^\ewn cyfeiriad arall. Dyma farn un o'i gy- 'eillion am dano. Llafn o ddyn, llyfn ei ddoniau,-yw Rowlands, Rheolwr talentau; Mae fel dur o bur i'w bau A noddwr pob rhinweddau.
MANCHESTER.
MANCHESTER. CoUyhurst.—Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y capel uchod, nos Sadwrn a'r Sabboth, Ebrill y £ eg ar 7ed. Pregethwyd nos Sadwrn a'r Sab- bath, fore a hwyr, gan y Parch Richard Mergan, Caernarfon. Prydnawn Sabbath cawsom bregeth ^aesnaeg gan y Parch Arthur Barritt, yn dda ac efengylaidd. Mae y gwr parchedig hwn yn gwneyd gwaith ardderchog yn nghapel Wesley, ■i*esey Street. Pregethodd Mr Morgan yn anarferoI o rymus nos Sadwrn a'r Sabbath. Yr Oedd dylanwad ac eneiniad ar y gwasanaeth ar 3jd yr wyl. Cawsom gynulliadau rhagorol yn yr o'r oedfaon. Daeth atom o wahanol gapelau ygytchdaith amryw o'r cyfeillion. Yr oedd yn ada genym weled cynifer wedi dod. Da oedd genym weled Mr Morgan yn edrych mor dda, ac b bregethu cystal, os nad yn well, nag y yddai arfer gwneyd pan ar y gylchdaith. Yr edd y cyfarfod yn hynod lwyddianus mewn nifer, elw, ac mewn pregethau da a dylanwadol. ^yjenvn y gwelir ffrwyth lawer, yn y-dyfodol.—
Yr Amen Eto.
Yr Amen Eto. At Olygwyr Y GWYLIEDYDD. Foneddigion.-Darllenais lytbyr Hem- an gyda chryn ddyddordeb, a theimlais el fod yn myned at wraidd y pwnc pan yn gofyn am reswm. "Poser" i'r amenwyr ydyw cwestiwn fel hyn. Os ydym i gymeryd Asaph fel cynrychiolydd, mae eu hamddiffyniad dros ddwyn i mewn yr arferiad yn dangos eu diffyg i amgyffred y mater mewn llaw, ac yn dangos i mi fod sefyllfa eu meddwl yn debyg i eiddo y llongwr Gwyddelig, pan y dywedodd am y rhaft oedd yn ei law, "the end is cut off sor." Na, credaf nad oes gan "Asaph" na'r un o'i gyfeillion reswm i'w roddi ond yr un llipa a geisiwyd ei ddwyn yn mleen, sef fod y cyfryw arferiad yn un Beiblaidd! Ond a all y cyfeillion hyn nodi y benod a'r adnod o'r Beibl lie y cenir rieu yr adroddir yr Amen fel mawl ? Onid fel atsbiad neu o gydsyn- iad a'r byn a ddywedir wrth y gynuileidfa ydyw Amenau y Beibl yn mhob engraifft posibl 0 gydmariaeth ? Gofynir o ba le y daeth yr Amen ? Atebant ei fod yn argraffedIg yn y IIyfr Ond nis gwelaf fod hyn yn gosod unrhyw orfodaeth arnom i'w defnyddio. Anhawdd, os nad anmhosibl, fuasai argraffu ein llyfr yn wahanol trwy fod y "plates'' eisoes yn meddiant yr| argraffwyr gyda'r Amen ynddynt, a phlentynaidd ynom fuasai eu hargraffu yn wahanol yn ein llyfr ni. Cyfrwng arall trwy ba un y daeth yr Amen ydyw y gymanfa ganu, gan y tybiai rhai o'r arweinyddion fod y cyfryw yn addurniant i'r dadganiad; ac Did wyf yn ameu nad yw, gyda rhai tonaa pan eu cenir fel perfformiad sych, y modd y gwneir yn ein eymanfaoedd canu yn gyffredin, Ond os fel mawl y cenir yr emyn, a hyny gyda theimlad a gwres, nis gwn am odid i don nac emyn ag y buasai ychwanegu Amen fel cynffon yn welhant 0 gwbl. Ac hyd ag yr ydwyf wedi sylwi, ag eithrio ychydig enwau y rhai sydd yn gwybod leiaf am gerddoriaeth a chanu sydd yn fwyaf ifafrioi i gael y newydd beth hwn i mewn. Nis gellir dibynu lawer ychwaith ar wybodaeth a chwaeth pob pwyllgor cymanfa ganu Onid oes yna lawer yn cael eu penodi nas gwyddant ddim am ganu, nac erioed wedi rhoddi awr i ymholi am ei le a'i wasanaeth -dynion ag y byddai canu nodau yr Hen Ganfed yn ormod gorchwyl iddynt! Dyma y fath rai a geir yn ffafriol i boen- ydio ein pobl duwiolfrydig a gwresog eu hysbryd ond dihoced a gonest—gydag Amen ar derfyn pob emyn Yn ddiweddar yr wyf wedi bod yn ymholi a galw i gof, ac yn d'od i'r casgliad mai y dull hen ffasiwn sydd yn cael ei ddilyn yn ddieithriad yn ein Central Halls, a'n capel- au mwyaf cenhadol — lleoedd ag y ceir ymofynwyr am lachawdwriaeth. wrth y degau. Yn sicr fel eglwys genhadol y cawsom ein bodolaeth, a thrwy aros ar yr un llinellau y gallwn obeithio am lwyddiant yn y,dyfodol ar ein hymdrechion i ddwyn pobl ar ddarfod am danynt at draed y Gwaredwr. I gyflawni "gwaith o'r fath y mae angen am danom fel cangen 0 Eglwys Crist. Gadawer y cain a'r celfydd i eglwys arall nad ydyw yn proffesu dim yn wahanol. Credaf na fu ein henwad ni erioed mor gyffredinol lwyadianus a'r pryd pan ydoedd yr old Methodist tunes" mewn bri a gogoniant. a fy nghred gywir ydyw mai ar linellau syml a gwresog o'r fath y mae yn bosibl i ni lwyddo yn y dyfodol. Os gwyr noddwyr yr Amen am eglwys yspiydol ei chymeriad, a llwyddianus yn rhif ei dych- weledigion, ond ar yr un pryd yn rhoddi pwys ac yn arfer yr Amen yn ei gwasanaeth gyhoeddus, carwn yn fawr gael gwybod am dani, pe bai ddim ond i'm hargyhoeddi fod bywyd ysprydol.uchela'r ymgab at ddefosiwn o'r fath a nodwyd yncydfodoli. Hyd yn hyn nis gwn am gymaint ag un engraifft. Purion peth fuasai cael rhyddymddiddan ar y mater yn y Cyfarfodydd Talaethol, er mwyn rhoddi ein gweinidogion ar eu gwyliadwr- iaeth, os ydyw yr hyn a dybiaf yn gywir.- Yr eiddoch, fee., HEN GERDDOR.
Y Dduwinyddiaeth Newydd^
Y Dduwinyddiaeth Newydd^ At Olygwyr Y GWYLIEDYDD. Foneddigion. — Cydnabyddaf ar unwaith eich e ^lurhad yn Y GWYLIEDYDD diweddaf parth y gwall argraffyddol am y Blaid Lafur mai nid y Keir Hardie a Ramsay Macdonuld yw ei hunig arweinwyr. Lleddfodd hyny gryn dipyn'ar fy nheimlad digofus; eto, nis gallaf liniaru fy nghyhuddiad o fod yn sarhaus o'r blaid, gan y rhoddasoch nodyn o syndod ar ol eich mynegiad o farn Mr Campbell am dani, ei bod yn cyfan- soddi y wir eglwys gatholig. Credaf, i chwi ddarllen neu glywed ei arawd yn y cyfarfod mawr hwnw yn Lerpiwl, ond y mae yn am,- hens genyf a gredwch ei bod yn amlygu craffder y pwffvryd i ganfod "arwyddion yr amserau." iSynw'ch neu beidio, giallaf daer- u'n hyderus fod mwy o yspryd Cristionogol, —mwy o'r hyn a ddylai fe-ddianu yr eglwysi i hyrwyddo lledaeniad Teyrnas Dduw ar y ddaear gan y Blaid Lafur na rhan y bo>bl sydd yn crcfydda yn unig ar y Sul, ond heli wneyd dim ar hyd yr wythnos. Gan bwy o'r ddwyiblaid y ceisir sylweddoli dyheuad hir. a,ethus dynoliaeth am i gyfiawnder lywodr- a-ethu yn y byd, ac i nodweddion personol y 'Saer o Nazareth dreiddio trwy gymdeithas yn iachawdwriaeth i'w chyflyrau- ? 'Gan bwy y mae cydyradeimlad ymarferol ar gorthrym- edig sydd jar dangos ei hun yn fwy mewn gweithredoedd nag mewn proffes ? Pwy sydd yn symud gyflym f dan arweiniad y ddelfryd angylaidd hono: "Ar y ddaear tangnefedd, ac i ddynion ewyllys da. ?"' Nid y boibl sydd yn dysgu sut i fyned i'r nefoedd, ond y rhai sydd yn ceisio sylweddoli y nefoedd ar y ddaear, iCawsoch flasj mae'n ddiau, ar ddyfynu brawddegau- Golygydd anffyddol y Clar- ion i brofi mor ddiraddiol yw R. J. Camp- bell. iDichon y llwyddwch i foddhau cryn lawer o ddarllenwyr y GWYLIEDYDD gyda gweddiad o'r fath, ond nid pavrfx Pa fodd y tyfodd Robert OBlatchford yn anffyddiwr ? Onid trwy weled difaterweh diesgus yr eg- lwysi at y 'bottom dog.' Gan filoedd ed- rychir ar gydnahyddiaeth Campibell o wir- ionsddau, moelion diwrthdro awdwr 'God and my Neighbour' yn gredyd uchel i dduw- inyddiaeth y City Temple. Mae Campbell yn cynwys Blatchford, a niwy-y mwy hwnw y yn llif o feddyliau ysprydoledig yn tarddu, nid o farwolaeth, ond o fywyd Crist yn fo- ddion dyrchafiad a. chynydd. Mae dynol- deb Duw yn ,gweithio yn Rob-ert Blatchford, ibeth bynag y mae yn ei wadu; a dwyfoldeb dyn trwy R. J. Campbell yn cael esboniad yn miherson Tesu Grist. Ped unir eu syniadau yn ddirnadaeth a gweithgarweh moesol yn yr eglwysi ni fyddai angen am Blaid Lafur gan deyrnasiad cyfiawnder. Os oes rai yn me. ddwl, fel golygydd y British ,Veekly,' mai ystyriaethau yn nghylch bwyd, cyflog, tai, ac felly yn mlaen sydd yn symio i fyny amcan- ion Sosialaeth, yr oil a ddywedaf yw nad yd. ynt yn deall y symudiad. .Do, foned'digion, galwodd Prif-athraw Col. eg Mansfield athrawiaethaui Cam-pbell yn "farrago of nonsense," heblaw ei drywanu a chyhuddiadau 'brwnt. Ond a ddarfu i chwi sylwi ar y gwahaniaeth dirfawr yn ysbryd Cristionogol atebiad yr olaf iddo, yn llawn o naws maddcugar el Arglwydd, ?Fe saif cym. eriad luwchlaw dysgeddiaeth academyddol. Nid wyf yn ol a ne'b mewn parch i Dr Fair- bairn, oblegid derbyniais fudd a boddhad yn h.e1.aeth o'i lyfrau, end nid digon o lawer i leddfu fy nyheuadau, uchaf. Gyda golwg ar ei farn darfu ,i feirniad 0 gyffelyb safle i'r Prif-athraw ddesgriflo "Sartor 'Resartus" o eiddo Carlyle fel a heap of clotted non- sence."—Yr eiddoch, &c., ZEITGEIST.
--Heresi Hen
Heresi Hen At Olygwyr Y GWYLIEDYDD. Foneddigion,—IMae galw y syniadau cy- feiliornus a gwylltion a ledaenir draws y byd y dyddiau hyn gan. fugail y City Temple yn Dduw:inyddiaeth Newydd yn drais ar iaith, ac yn gam a'r gwirionedd. Nid ydyw amgen na hen heresi yr oesau, yn cael ei chodi i .fyny gan un yn ngwisg gwein- idog yr efengyl. Mae goddef i un ag y maeanffyddiwr mwyaf adnabyddus y clydd yn ei gydnabod yn gymaint o anffyddiwr ag ef ei hun, i fod yn yr areithfa, ac yn aelod o Unde>b Eglwysi Rhydd y wlad, yn arwydd o dcliffyg gwroldeb, a ffyddlondeb i'r gwirion- edd. Wrth gwrs, y mae dweyd hyn yn gamwedd, ac yn bechod yn marn "Zeit- geis a'i debyg. Os y daw rhywun allan i amddiffyn yr athrawiaeth ddiledrith am bsr- son Crist, am yr lawn, ac am bechod, ac i ymosod yn deg a gonest ar Cambelliaeth y dyddiau hyn, ymae hwnw yn aufrawdol, ac anghrefyddol, ac yn gyru llawer o ddyn- ion da {?) oddiwrth grefydd. Os ydyw ym- osod ar gyfeiliornadau y 'Parch R J Campbell yn gypu rhywrai oddiwrth grefydd, goreu pa gyntaf i'r rhai hyny fyn'd. Nid ydyw cref. y I ydd erioed wedi bod ar ei mantais drwy- ddynt, ac ni Ibydd yn golled i grefydd i'r dosbarth hwn fyn'd yr wythnos nesaf i or. wedd at esgyrn heresw}' yr oesau o'r blaen. "Edrychwch na. bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi a gwag dwyll yn ol traddod. iadau dynion, yn ol egwyddorion y byd, ac nid yn ol Crist," meddai Paul, a gwell genyf wrando ar Paul ganwaith drosodd nag ar arwr diweddaraf "Zeitgeist." Tybed nad ydyw Dr Beet, Dr Davison, a Dr Fairbairn yn m-eddu ar gystal awdurdod i siarad ar wirioneddau sylfaenol crefydd a'r gwr sydd yn ceisio gwisgo mantell Dr Parker ? Na, mae'n debyg nad oes ? Welsant hwy, yn fwy nag Adam Clarke, Albert Barnes, a John Brown, ddim o'r Duw Mawr "yn natgudd- iadau gwyddonol; yn ng-hyfnodau ion yr oesau, ac yn meddyliau ymledol yr ysgolhaig a'r doethawr." Babanod yaynt hwy o'u, cydmaru ag adgyfodwr yr hen her- esi, ond babanod sydd yn uwch yn syniad- au'r byd r- ddechreu yr ugelnfed ganrif nag a fydd y r • -h R J Campbell ar ei diwedd. Mentraf t)- )hwydo y Ibydd, cyn pen blwy- ddyn, i he: I y (gwr o'r City Temple ail farw wrth ei dr; 1, ac yn y cyfamser ni wnant niwed i neb. Gwelwyd pethau tebyg o'r blaen yn cyn- hyrfu yr awyr, ond throdd y byd ddim tu chwith i fyny. Yr wyf yn cofio yn dda dwrw! mawr iDamcaniaeth Datblygiad, a thybiwyd y pryd hwnw y buasai Datguddiad Ysprydoledig yn ,myn'd yn 11 wch. Ond sut y saif pethau heddyw ? Y mae datguddiad Duw o greadigaeth dyn yn arosj ond DamL caniaeth y Datblygiad yn gorwedd yn dawel 7 ar estyll llychlyd ei chreawdwyr. Yr wyf yn cofio hefyd yr ymosodiad mawr a wnaea ar weddi. Ceisiwyd: profi oddiwrth ddeddfau sefydlogi natur, &c., nad oead i weddi ei lie, ac fel yr ofnodd llawer hen bererin fod lladron gwyddonol yr oes am ddwyn ei weddi oddiarno. Y mae'r ymosodwyd yn eu beddau, a hen weddi ISeion yn fyw; ac mor ddiweddar y Ibu dadwrdd yr uwch feirniadaethj giollyngwyd tan beleni, at gaerfa y giwirionedd gan ddisgwyl cael murian yn fuan i'r llawr. iNid oedd Genesis yn waith i Moses, nac yn haner cywir, ac Esaiah ddim ond cymysgfa o baragraffa-u anghyson ond y mae Genesis yn Genesis ac Esaiah yn Esaiah hyd y dydd hwn, a'r uwch-feirniaid trystfawr wedi distewi yn. ogofeydd anghof. Ni wnaed dim niwed, ac fe a Campbelliaeth beibio yn union yr un fath. Ni raid i ni bryderu. "Y mae cadarn sail Duw yn sefyll." Fe fydd Duwinyddiaeth Paul a Wefeleyr a holl *weinidog]ion uniongred yn aros hyd nes y daw y diwrnod hwnw na bvdd eu hangen mwy. -I' BUGAIL Y DYFTRVX.
Un arali o Blant Diwygiad…
hyd y gallai fel athraw, blaenor, a thrysorydd y Trust. Yr oedd diwyd- Twydd a darbodaeth yn amlwg yn ei SytDeriad, ac yr oedd hyny yn esiampl dellwng i'r ardal i'w efelychu. Yr oedd yn bur ofalus ac yn gwneyd ei oreu gyda'i enillion, a gofalai rhag eu gwas- traffu. Meddai hefyd ffydd gref yn Nuvy. Gwelodd ef a'i briod adegau o gyfyngder yn hanes eu bywyd-ac ar un fdeg neillduol heb le i droi, ond troisant 111 dau at yr Arglwydd mewn gweddi yn yr amgylchiad, a thra yn gofyn am yr yniwared, daeth curo ar y drws gyda siiyflenwad at eu hangen, ac ni bu byth wedi hyny mewn eisiau. Coded Duw eto rai ffyddlon i'r achos. Wedi canu emyn ac i'r Parch D Morris weddio, aed tua'r fynwent, ac Jvedi cyrhaedd gwasanaethwyd ar lan y oedd gan y Parch David Morris a Daniel Marriott, a rhoddwyd ei weddillion i wrth draed beddau y divveddar John Evans (Iota Eta) a Mr Richard Gratton. Bu y tri hyn yn gWneyd llawer a'u gilydd ar y ddaear, a chant gydadgyfodi yn yr adgyfodiad i fyned gyda'u gilydd i fod byth gyda'r Iesu. Gadewir un mab a thair merch i .alaru ar ei ol. S.O.