Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Rhaglen y Llywodraeth.
Rhaglen y Llywodraeth. VN y golofn hon yr wythnos ddi- weddaf galwyd sylw at y ffaith fod nifer luosog o gefnogwyr tnwyaf pybyr y Llywodraeth yn tein-ilo yn dra siomedig yn yr Jjlwg ar ei gwaith yn oedi deddfu 1 r amcan o gyfynguary Fasnach ^eddwol. Yn ystod y dyddiau dlweddaf datganodd amryw o aelodau y Weinyddiaeth beth yd- Wyw bwriad y Llywodraeth par- thed rhai o'r mesurau sydd ar ei rhaglen, ond ni chafwyd gan un- thynv un o honynt hysbysrwydd ClI duedd i leihau ein pryder yn Ilghylch deddfu ym mhlaid achos SObrwydd. Wythnos i'r Llun di- ^ddaf ymgyfarfu nifer luosog o 4tlodau Ty y Cyffredin sydd yn t.eimlo dyddordeb dwfn ym mudd- laHau yr achos pwysig hwn i lynieryd y sefyllfa i ystyriaeth rpl y gallesid disgwyl rhoddwyd l^ith i'r ymdeimlad o siomedig- ac anfoddlonrwydd y cyfeir- eisoes atynt, ond gan faint vj1 hawydd i beidio maglu y Einyddiaeth barnwyd mai gwell Woedd peidio anfon datganiad o farn y cyfarfod i'r Prif-weinidog ar hyn o bryd. L lredwn nad oes unrhyw ram o'r ,eyrnas sydd yn teimlo yn fwy ^omedig o herwydd yr oediad dan sylw na Chymru. Ond ys- YWaeth nid hwn yw yr unig oed- 6 sydd yn.peri trallod i fwyafrif ^Wr y genedl Gymreig. Er's P^n y cafodd gwerin Cymru fan j ls i daflu oinaith iau Toriaeth deugain mlynedd yn ol y mae dal ar bob cyfleustra a gaf- i ddangos ei hangymeradwy- "th bendant i barhad y cysylltiad rhwng y Wladwriaeth ag ^§Wys Loegr yn Nghymru. Ar y blynyddoedd y mae wedi W yn curo wrth ddrws y naill \\r Einyddiaeth ar ol y llall am ym- •^red oddiwrth y gorthrwm hwn. r.euliwyd blynyddoedd lawer i J lsio argyhoeddi Gladstone, y |wJadweinydd enwog ond Uchel- ^glWysig, o resymolder y cais, g °'r diwedd cafwyd ganddo J/Jpabod hawl Cymru i ymwared ^uivvrth yr "Estrones." Ond ] gorchfygu ei gyndynrwydd ^daw diddymu y sefydliad ac Q. °1 hir ddisgwyl am gyflawniad adclewid, ni chafwyd ganddo lJîj111 amgenach na Suspensory Cv erthylaidd 1893. Pan y Ch1"odd yr Etholiad Cyffred- Sw L tua phymtheng mis yn ol *in d°dd Cymru i gymaint ag Cyffei chynrychioh yn Nhy y heb iddo ymrwymo i Yn K? Dadgysylltiad yr Eglwys £ tj^.ghymru. Vchydig cyn i'r g^n°*lad hwnw gymeryd lie dat- y Blaid Gymreig ddarfod §a^l addewid gan Syr by^y Campbell Bannerman y Fesur Dadgysylltiad leiaf 61 ddwyn ger bron y Ty o ystod y trydydd Senedd- E'C u°"d druan o Gymru! y tye^ heddyw ymddengys fod ^ddiaeth yn gwrthod cyd- fa.th kodolaeth cytundeb o'r Ar- Ily""cl ei chynrychiolwyr—Syr [I Alfred Thomas. Gwyddys fod I Dirprwyaeth wedi ei phenodi i ymchwilio i natur y ddarpariaeth a wneir gan Eglwyswyr ac Ym- neillduwyr ar gyfer anghenion ysbrydol Cymru, a gwyddys hefyd nad ymgynghorwyd a'r Blaid Gymreig gyda golwg ar y priodoldeb o benodi Dirprwyaeth o'r fath, Ac eglwr yw os bydd i'r Comisiwn helbulus hwnw weithredu yn y dyfodol fel y mae wedi gweithredu hyd yn hyn ni fyddynalluog igwblhau ei adrodd- iadamraiblynyddoedd. Canlyniad angenrheidiol hyny fydd atal i'r Weinyddiaeth basio Mesur Dad- gysylltiad trwy Dy y Cyffredin, heb son am Dy yr Arglwyddi, cyn i'r Etholiad Cyfifredinol nesaf gymeryd lie. Tra yn ysgrifenu yn y modd yma, nid ydym o gwbl yn aw- grymu fod y Llywodraeth yn anghofus o'i haddewidion gyda golwg ar Fesur Trwyddedol, ac nid ydym chwaith yn amheu cywirdeb datganiad ein cydwlad- wr enwog, Mr Lloyd George, 6 C:3 beth amser yn ol, i'r perwyl fod pob aelod o'r Weinyddiaeth yn ffafriol i Ddadgysylltiad yr Eg- lwys yn Nghymru. A phell ydym o gclli golwg ar y ffaith fod terfynau i aim y Llywodraeth i wthio mesurau trwy y Senedd. Cydnabyddwn bwysigrwydd y mesurau y bwriedir eu dwyn ger bron y Ty ar fyrder, a gwyddom mai gwir ydyw dywediad John Bright nad oes modd gyrru tair omnibus trwy Temple Bar gyda'u gilydd. Nid y mesurau eu hun- ain, ond trefn olyniaeth y mesurau ar raglen y Llywodraeth ydyw yr hyn y cwynwn oi herwydd. Yn yr olwg ar ganlyniadau dif- rifol y fasnach feddwol oni ddy- lasai y Mesur Trwyddedol gael y flaenoriaeth ar rai mesurau sydd eisoes wedi eu dwyn ger bron y Ty ? Ai pnodol tafiu mesur o'r fath dros y bwrdd am y tymhor hwn eto pan y mae y Fasnach, ddydd ar ol dydd, yn niweidio buddianau tymhorol ac ysbrydol y wlad ? A. chyda golwg ar gais Cymru Gyfan am Ddadgysylltiad ai teg ydyw troi y genedl draw yn y Senedd hon eto tra mae ceisiadau lluosog y Gwyddelod yn cad sylw par- haus ? Cafodd yr Iwerddon Fesur Tir y Senedd-dymor di- weddaf. Bwriedid rhoddi iddi fesur o Lywodraethiad Cartrefol yn ystod y tymor presenol ac yn ol Mr Birrell, ymdrinir hefyd a r Prifysgolion Gwyddelig. Yn sicr ddigon wedi'r holl sylw a roddwyd i'r Iwerddon yn ystod y blynyddoedd diweddaf, nid anweddus ydyw gofyn i'r Gwy- ddel aros ei dro, a gadael i fater pwysig iawn i'n cenedl ninau gael ei ystyried gan y Senedd.
[No title]
-010- Pasiwyd yn unfrydol yn nghyfarfod chwarterol cylchdaith Treffynnon, yr wythnos ddiweddaf fod gwahoddiad cynes i gael ei anfon i'r Parch David Richards, Llanfyllin, olynu y Parch A Lloyd Hughes fel arolygwr y gylchdaith yn Awst, 1908. Clywsom fod Mr Richards wedi cydsynio a'r gwahodd- iad.
Y CYFARFOD TALAETHOL
Y CYFARFOD TALAETHOL Y MAE Y CYFARFOD TALAETHOL yn hen sefydliad yn y Cyfundcb Wesleyaidd— i yn rh an bwysig o'i organaeth ers llawer dydd. Eithr nid ywy Cyfarfod Tal- ae thol cyn hyned a'r Cyfundeb. Ty- fiant diweddarach o hono y dyw. Angen, a galwad cynydd ac amgylchiad- au, a'i dygodd i fod. Gwyr pawb a gymerasant amser i ystyried mai nid coed sychion, wedi eu hasio wrth eu gilydd gan sacr cywraint, yw Eglwys y Trefnyddion Wesleyaidd, eithr pren byw, yn bwrw cangesau fel planigyn." Bu John Wesley farw ar yr 2il o Fawrth 1791, wedi mwy na haner can mlynedd o Iwyddiant ar ei lafur a'i wyliawriaeth fel efengylwr a threfnydd, nes fod ei Bobl," mai eu galwid yn y dyddiau hyny, yn rhifo dros cnwech ugain mil: 71,463 yn Europ, a 48,810 yn America wedi Larddu a thyfu yn ystod ei oes, o'r gymdeithas o wyth neu ddeg o ymofyn- wyr am iachawdwriaeth a gyfarfyddasant gydag ef yn Llundain, yn niwedd 1739. Pan fu farw Wesley yr oedd yn Mhry- dain (gyda Manaw ac ynysoedd y Sianel) bedwar ugain namyn un- o Gylchdeithiau-yn cynwys tair o rai Seisnig yn Nghymru—ond nid oedd son am Dalaethau. Cyfarfu y Gynadledd am y fl. 1791 yn Manchester, yn niwedd Gorphenhaf- heb John Wesley. Yr oedd efe yn ei fedd ers yn agos i b«"i ry Yr oedd y Gwagle yn aruthrol fawr. Nid oedd neb a allai gymeryd ei Ie, neb a feiddiai gynyg gwneyd hyny. Ac tto, yr oedd eisiau parhau y gwaith a wnelsai efe. Yr oedd Wesley wedi darparu ar gyfer parhad y Gynadledd. Ond yr oedd llawer achos yn dygwydd, ac yn agored i ddygwydd, rhwng y naill Gynadledd a'r llall; a thra y bu Wesley byw, nid oedd neb yn meddwl am i unrhyw achos o bwys gael ei drefnu, a'i regoli, a'i wastadu ond ganddo ef. Canfu y Gyn- adledd gyntaf wedi ei farwolaeth fod angen am ryw ddarpariaeth i gyfarfod ag amgylchiadau o'r fath ag y byddai Wesley ei hun yn aifer eu trafod. A gofynwyd, Pa drefniadau sydd yn an- genrheidiol er cadwraeth ein holl dre- fnyddiaeth mal ei gadawyd gan y Parch Mr Wesley"? Yr atebiad y cytunwyd arno oedd, Rhaner y tair teyrnas yn Dalaethau Lloegr i bedair ar bymtheg o Dalaethau Ysgotland i ddwy; a'r Iwerddon i chwech (yr oedd Wesley- aeth yn Unol Dalaethau'r America yn annibynol ers chwe mlynedd yn flaen- orol) ac yn ganlynol penderfynwyd ar y cylchdeithiau i ffurfio pob Talaeth. Ar y cyntaf ni fwriedid cynal Cyfarfod Talaethol ond pan fyddai achos yn galw. Nis gwyddom a wyr rhywun pa bryd y daeth Cyfarfod Blynyddol yn mhob Talaeth yn drefn. Ein meddwl yw na bu hyny yn hir. Modd bynag, cawn yr eginyn yn yr hanes uchod ac yr oedd yn hawdd proffwydo yn y dechreuad fod iddo fywyd, a chynydd defnyddioldeb a dyma ei hanes, bellach, ers llawer iawn o flynyddau. Y mae ei gylch yn myned yn eangach, a'i waith yn fwy a phwysicach, yn barhaus. Y mae yn awr yn Mhrydain Fawr (yn cynwys Manaw, Ynysoedd Shetland, a'r Sianel) bymtheg ar hugain o Dalaethau, yn cynwys cydrhynyddynt gydrif o 765 o Gylchdeithiau a chynelir Cyfarfod yn mhob Talaeth yn ystod mis Mai. Yn eu plith cynelir tri Cyfarfod Talaethol Cymreig Nid oes eisiau adgofio ein darJlenwyr fed y Gwaith Cymreig yn bresenol yn ffuifio tair Talaeth a'i Gwaith Seisnig yn Neheudir Cymru, yn ffurfio Talaeth arall. Gwnaed yn Nghymru Dalaeth (Seisnig) pan ffurfiwyd y Cyfundeb yn Dalaethau gyntaf. Yr oedd yn y Dalaeth hon dair Cylchdaith Penfro (tri gweinidog) Morganwg (tri; a Brycheiniog (dau.) Y Cadeirydd cyntaf oedd Thomas Roberts, M.A. A wyr rhywun o'r darllenwyr rywbeth am ei achau ? Eir trwy yr un Rhaglen yn Nhgyfar- fod pob Talaeth, ac felly ceir adroddiad i'r Gynadledd am sefyllfa a gwaith y Cyfundeb yn ystcd y flwyddyn. Ond y y mae rhai pethau eraill yn perthyn i'r Cyfarfod Talaethol—yn perthyn iddo, ac nid yn rhanau hanfodol o hono. Ac y mae rhai o honynt yn dra dyddorol— yn fwy felly, hwyrach, na'r rhan fwyaf o'r gweithrediadau yn eisteddiadau y Cynnrychiolwyr. Y mae cryn swm o'r gweithrediadau hyn yn perthyn i ddos- parth angenrheidiol, oLd nid poblogaidd, y Routine. Nid yr oil, nac yn agos, wrth gwrs. Nid oes achos, na galwad, na gofod ini ymarcs gyda'r Cwestiynau parth holl ranau y Gwaith. Dysgwyliwn adroddiadau da o'r Tair Talaeth pan y daw yr amser. Y mae i'r Cyfarfodydd Cyhoeddus cysylltiol a'r Cyfarfodydd Talaethol Cymreig hen swyn y Seiat Fawr, a'r pregethu, yr arbenig ac ers rhai blynyddau, bellach, y mae Cyfarfod Cyhoeddus i ymwneyd a rhai o faterion pwysig y dydd yn cymeryd ei le yn naturiol, ac y mae yn enill o'i gael. Y mae Plan y Cyfarfod Talaethol wedi hen arfer a bod yn boblogaidd. A da genym hyny. Dyweder fod cryn swm o gywreinrwydd yn nglyn a'r mater Purion. Y mae y cywreinrwydd hwn yn eithaf cyfreithlon, ac heblaw hyny, fel rheol, yn arwydd o gydymdeimlad, ac nid yw hwnw heb ei werth. Cawsom Blfln Cyfarfod y Rhyl, a Phlan Cyfarfod Caergybi. Ac ym ddengys i ni fod y naill a'r llall yn addaw yn dda, yn rhagorol. Ac nid ydym yn ameu y bydd i'r addewidion. gyda bendith y Goruchaf, gael eu cy- flawni. Yn Nghyfarfod Cyhoeddus y Rhyl, nos Fawrth, y 30m cyf; a Mr E R Parry, U.H., Llangollen, yn y gadair, ymdrinir a rhai o gwestiynau pwysig yr oes yn eu perthynas a'r Efengyl, gan wyr o allu. Y mae mater y Seiat Fawr foreu Iau, Mai yr 2il, yn newydd a phwysig bob amser. Diau fod ein dar. llenwyr wedi darlien a dal sylw ar yr hyspysrwydd o'r arlwy yn yr rhifyn am wythnos a aeth heibior ac fod y dysgwy- liadau ar i fyny, ac fod llawer o weddio am i Arglwydd Dduw y Lluoedd fod gyda ni. Yr un peth sydd genym i'w ddyweyd am Blan Cyfarfod Talaethol Caergybi Mater y Cyfarfod Cyhoeddus, nos Fawrth (Ebrill 30), yw Ffyddlondeb i Broffes Grefyddol yn nglyn a Moddion Gras; ag Addysg Grefyddol y Plant ac a Dirwest. Y siaradwyr ydynt Mr Rowlands, U.H., Aberdyfi a'r Parchn H Evans, ac I Evans. Rhoddir boreu lau i gyd (yn dechreu am ddeg), i'r Seiat Fawr. Nid oes fater i lawr ar y Plan, ond y mae enwau y siaradwyr—Y Parchn H Jones, D D., Evan Jones, L Owen, R Rowlands, a'r Mri E Mills, Owen Jones, G Jones, ac Edward Roberts — yn gwarantu sylwedd a gwerth, ac awydd ac ymdrech i fod yn gyfryngau bendith. Wrth gwrs, fel y dylai fod, rhoddir y lie mwyaf amlwg i bregethu yn y naill gyfarfod a'r llall—a'r trydydd yn ddigwestiwn, Goddefer i ni gymell pob Wesleyad, i fod yn bresenol yn eu cyfarfod priodoi, neu y mwyaf cyfleus iddynt. Na fodd- loned un Wesleyad y flwyddyn hon fod un arwydd yn ymddangos tod ein prif wyliau crefyddol yn gwanhau yn eu dylanwad yn y wlad.
[No title]
-:0:- Yr oedd yn hyfrydwch genym wepd y darllenir papur gan y Parch D Gwyn- fryn Jones yn y Gynadledd Dduwinydd- ol cysylltiol a Chyfarfod Talaethol Caergybi ar y testyn amserol, Y modd goreu o gyfaddasu Wesleyaeth i gyfarfod ag anghenion presenol y Dalaeth." Agorir yr yu ddiddan ar gynwysiad y papur gan y Parch Richard Morgan, Caernarfon.
Tri Chedyrn Ymneillduol.
Tri Chedyrn Ymneillduol. Hysbysir yn swyddogol fod Mr S T Evans, y Proffeswr Henry Jones, a'r Prifathraw Fairbairn wedi rhoddi ffurf ychwanegol i'w "Hymneilldu. aeth" trwy ymneillduo o'r Ddirprwy- aeth Eglwysig. Myn rhai fod y triwyr hyn wedi cilio yn nydd y frwydr, a thrwy hyny wedi bradychu yr achos a bleidiant mor selog tra y myn eraill eu bod wedi gwneyd yr hyn a hawlid ganddynt fel dynion unplyg ac egwydd- orol. Mae'n rhaid addef fod rhyw gymaint i'w ddyweyd o'r ddeutu ond tueddir ni i gredu fod mwy i'w ddy weyd dros iddynt aros yn y Ddirprwy- aeth hyd derfyn ei gweithrediadau-pa bryd bynag y dichon i hyny fod. Ym, ddengys i ni fod yr holl helynt yn codi o'r diffyg cyd-ddeall a fodolai o berthynas i'r terms of reference. Yr anffawd yw na fuasid wedi sicrhau y cyd-ddeall hwnw ar ddechreuad y gweithrediadau ac o ddiffyg hyny, yr anffawd arall yw fod y Cadeirydd mor unbenaethol yn ei ddyfarniadau. Enwir Syr Brynmor Jones, Mr J H Davies, a'r Parch J Scott Lidgett, M.A., fel rhai i gymeryd lie y tri ymneillduwr." Eisteddodd y Ddirprwyaeth am rai dyddiau yr wyth nos ddiweddaf, ond tila iawn fu y cynyrch. Anfonwyd pellebr o Gym- deithasfa y Methodistiaid i hysbysu y Ddirprwyaeth fod Methodistiaid y Gogledd yn barod ac yn awyddus i gyflwyno eu tystiolaethau. Eithaf peth oedd hyn, oblegid mae perygl i wrth- wynebwyr Dadgysylltiad wneyd cyfalaf annheg o'r helyntion divieddar.
Y Gynbadledd Drefedigaethol.
Y Gynbadledd Drefedigaethol. Wrth fyrddau gwlad, ac nid wrth' fwrdd Cynhadledd, y treuliodd Prif- weinidogion y tretedigaethau y rhan fwyaf o'r wythnos ddiweddaf. Gweddus oedd eu croesawu yn mhob modd rhesymol ond yn ol tystiolaeth rhai o honynt, ymddengys fod Sion Darw wedi arddangos mwy o awydd i foddhau ei gylla nag i gydawni gwaith. Fodd bynag, cafwyd rhai eisteddiadau, a llu- aws mawr o areithiau. Traddododd Syr H Campbell-Bdnnerman araeth ragorol iawn, a derbyniwyd cenadwri gelonogol oddiwrth Iorwerth VII. Dy- munol iawn oedd sylwi ar y croesaw brwdtrydig a roddwyd i'r Cadfridog Botha, ac ar y geiriau o wirionedd a sobrwydd a lefarodd y gwron hwnw. Fel y gallesid disgwyl, mae y Llywod- raeth yn dra awyddus i'r Gynhadledd beidio ymyryd ag egwyddorion Masnach Rydd a mawr hyderir y llwyddir yn hyn o beth. Os felly, bydd y Gynhad- ledd yn sicr o fod yn foddion effeithiol i glymu yn dynach, a hyny gyda rheffynau cariad, y Trefedigaethau eang a breision hwnt i'r morcedd wrth Bryd- ain, y famwlad.
Y Oyllideb.
Y Oyllideb. Mewn araeth a gymerodd yn agos i ddwy awr a haner i'w thraddodi dadguddiodd Mr Asquith gyfrinion ei Gyllideb. Nis gellir dyweyd fod y Gyllideb yn un boblogaidd, os nad ydyw felly yn mhlith y dosbirth canol. I'r rhai sydd a'u hincwm yn £2000 ac isod gostyngir treth yr incwm o swllt i naw ceiniog. Ni thynwyd treth oddiar ddim sydd yn cyffwrdd llogellau y dosbarth gweithiol, er fod gan Ganghellydd y Trysoilys dros da; nil o bunau o gyn- yrch clir. Yr un.^ beth boddhaol i'r werin ydyw ymgymeriad Mr Asquith i ofalu fod railiwn a haner o bunau o leiaf yn cael eu gosod o'r neilldu y flwyddyn nesaf tuag at ddarparu blwydd-dal i hen' bob!. Cyn belled ag y mae yn myned -ac y mae'n rhaid cydnabod ei fod yn myned bellder lied obeithiol-mae y trefniant yn gwystlo'r Llywodraeth i wynebu'r cwestiwn gwir angenrheidiol hwn, a hyny yn bur fuan. Dywedai Mr Asquith fod y Llywodraeth yn awyddus i osod y mater o flwydd-dal i'r hen ar sylfaeni dyogel. Os gwneir hyny gwell o lawer, yn ddiau, ydyw aros am ychydig fisoedd yn hwy cyn i'r trefniant ddyfod i rym, yn hytrach na chael un anhymig ac annigonol.