Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

GWERTH YR UNIGOL !

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWERTH YR UNIGOL AR yr antur o gael ein cyfrif yn hen- ffasiwn ac yn wrth-Sosialaidd yr ydym am feiddio galw sylw yn yr erthygl hon at werth a hawliau yr unigol. Gwyddom mai tuedd yr oes ydyw pwysleisio gwerth a hawliau cym- deithas. Gwyddom hefyd mai arfer rhai Sosialwyr ydyw siarad yn erbyn Unigoliaeth (individualism) fel gelyn penaf Sosialaeth, a'u bod yn edrych yn mlaen at ddileu hawliau yr unigol fel moddion i sylweddoli eu delfryd o r gymdeithas adferedig. Clywir adlais syniadau amrwd o'r fath hyd yn oed o'r pulpud ambell dro. Gallesid tybio oddiwrth yr iaith a ddefnyddir mai cymdeithas ydyw pobpeth ac nad yw yr unigol yn ddim. Yn awr, gadawer i ni ddyweyd ar unwaith ein bod mewn cydymdeimlad llawn âg amcan gwir Sosialaeth. Wrth ddyweyd hyn golygwn mai amcan Sosialaeth ydyw gwella am- odau bywyd. Credwn i ni fyaegu ein cydymdeimlad mewn modd di- amwys yn yr erthyglau arweiniol ar y pwnc a ymddanghosodd yn ein colofnau yn ystod y misoedd diwedd- af. Ond tra yn cydymdeimlo ag amcan Sosialaeth nid ydym yn cydymdeimlo &'r moddion a gynygir gan rai Sosial- wyr er cyraedd yr amcan. Ac yn sicr nis galiwn gyttuno a'r syniad fod yn rhaid dileu hawliau yr unigol er mwyn gwella cymdeithas. Cyfrifwn y syniad hwn yn ffolineb. Mae y math hwnw o Sosialaeth sydd yn dysgu fod yn rhaid aberthu yr unigol er mwyn y lluaws nid yn unig yn anghyfiawn ond yn anymarferol ac yn anmhosibl. Ac y mae bywyd yn rhy. fyr i ddadlu yn nghylch yr an- mhosibl—o blaid nac yn erbyn. Nid ydym yn gwrthwynebu gwir Sosialaeth wrth son am werth yr unigol. Yn hytrach, credwn mai y ffordd oreu i gyraedd amcan Sosial- aeth ydyw dysgu pob dyn i barchu ei hun a'i gynorthwyo i sylweddoli ei hunan. Ni chyfyd cymdeithas byth uwchlaw graddfa yr unigolion fyddo yn ei chyfansoddi. Y ffordd i adfer cymdeithas ydyw adfer dynion bob yn un ac un. Mewn gair, nid yw Sosialaeth, yn ystyr briodol y gair, ond Unigoliaeth wedl ei sylweddoli yn llawn, yn ei dillad fgoreu ac yn ei iawn bwyll. Y cyhuddiad sydd genym yn erbyn Sosialwyr ydyw eu bod yn gwneyd cam a'u hachos eu hunain trwy anwybyddu yr unigol, trwy roddi mwy o bwys ar amgylchiadau dyn nag ar y dyn ei hun, a thrwy siarad am y Iluaws a "chymdeithas" fel pe baent yn fodau gwahanol i unigolion Dywedir wrthym weithiau mai crefydd cymdeithas ydyw crefydd y Testament Newydd a bod yr Arglwydd Iesu yn Ddiwygiwr Cym- deithasol o flaen pob peth arall. Pe dywedid mai crefydd cymdeithas ydyw crefydd yr Hen Destament gallem gyttuno yn well a'r syniad. Nodwedd y grefydd Iuddewig dan yr Hen Oruchwyliaeth oedd ei bod yn rhoi y prif bwyslais nid ar yr unigol ond ar y cenedlaethol. Bywyd y genedl ac iachawdwriaeth y genedl oedd y prif beth yn ngolwg yr Iuddew, ac nid bywyd ac anfarwoldeb yr unigol. Mae'n wir fod yr unigol wedi codi i fwy o amlygrwydd yn nghyfnod diweddarach yr Israel—ar ol i'r genedl golli ei hanibyn- iaeth a'i hunoliaeth-a bod Jeremiah ac Ezeciel yn rhoddi pwys ar gyfrifoldeb personol. Ond a siarad yn gyffredinol am Iuddewiaeth, ei thuedd oedd pwys- leisio bywyd cymdeithasol y genedl yn hytrach na chydnabod ^hawliau yr unigol. Ar y Haw arall, nodwedd amlwg crefydd y Testament Newydd yw ei bod yn rhoddi pwys arbenig ar yr unigol. Nid y genedl ond yr enaid oedd yn bwysig yn nghyfrif yr Athraw Mawr. Christianity is the discovery of the Individual, meddai rhywun. Nid ydym yn anghofio yr amlygrwydd a roddai yr Arglwydd Iesu i'w ddysgeid- iaeth am y deyrnas, nac yn anwybyddu ei ofal am amgylchiadau tymorol dyn- ion. Ar yr un pryd credwn fod yn anmhosibl darllen yr Efengylau yn ddi- duedd heb ganfod fod yr Iesu yn rhoddi gwerth anfeidrol ar yr un, a'i fod yn fwy awyddus i gadw un enaid nag i wella amgylchiadau cymdeithas. Ei amcan cyntaf oedd deffro yr unigol i sylweddoli ei hunan, ei bwysigrwydd a'i gyfrifoldeb. Nid oedd enill yr holl fyd, yn ei olwg Ef, yn dditn o'i gymharu ag enill un enaid. Darluniai y bugail yn gadael y cant namyn un ac yn myned ar ol yr un ddafad a gollasid, a darluniai y wraig yn chwilio yn ddyfal am un dryll arian a gollasid. Ac yn y darluniau hynny danghosai fel yr oedd Efe yn cymeryd trafferth diderfyn i gadw yr unigol. Er fod ei boblogrwydd fel Pregethwr yn peri fod tyrfaoedd yn cyrchu ar ei ol ni adawodd i'r dyrfa erioed sefyll rhyngddo a'r unigol. Yn wir; yr oedd bob amser yn barod i adael torf i fyned ar ol yr un. Nid cael torf o'i gwmpas oedd yn bwysig yn ei olwg Ef, ond cael un, pe dim ond gwraig afiach, i dd'od i berthynas bersonol ag Ef. Ein tuedd yn yr oes werinol hon ydyw rhoddi pwys mawr ar yr hyn ddywed y dyrfa. a The power of num- bers" ydyw'r gallu mawr yn ein cyfrif ni. Ond ychydig o ddaioni a wnaed mewn tyrfa erioed-yn hytrach, fe wnaei llawer iawn o ddrwg. Fel y dywed rhywun 11 It is in the crowd that men have done all the great in- iquities." Tyrfa ddaeth i ddal yr Iesu tyrfa a waeddodd Croeshoelier Ef" tyrfa a labyddiodd ,Stephan. Tyrfa, ychydig ddyddiau yn oj, a fynai wneyd arwr o Wood. Mae gan dyrfa nerth, mae'n wir, ond nid yw ei gwerth yn gyfartal i'w nherth. Nerth i ddinystrio, nerth i ddarostwng ydyw fel rheol, Ar y llaw arall, meddylier am werth yr zin, 1 he greatest works that have been done have been done by the ones." Nid gan dyrfa, nid gan gymdeithas, nid, hyd yn oed gan bwyllgor, y cyflswnwyd gorchestion mawr y byd, ond gan ddyn- ion unigol-megis, Columbus, Newton, Knox, Cromwell a Wesley. Aeth gwr ieuanc at Socrates unwaith i ofyn beth a gai wneyd er mwyn symud y byd. Ateb yr hen athronydd oedd Symud dy hunan i ddechreu, 'mach- gen i." Ni symudir y byd byth yn ei grynswth ac ni ailenir dynion byth mewn tyrfa. Bob yn un ac un y gwneir y gwaith. Yn hytrach nabreuddwydio am adenedigaeth cymdeithas, onid y ffordd oreu i bob gwir Sosialydd ydyw dechreu gydag un, a dechreu gyda'r un agosaf ato-ef ei hunan ? Gwir fod gan bob un ei ddyledswydd tuag at ei gymydog, ond y mae yr un mor wir mai dyledswydd gyntaf dyn ydyw ei rwym- edigaeth iddo ei hun. "Cardy gym- ydog fel ti dy hun" ie, ein cariad tuag atom ein hunain sydd i fod yn safon ein cariad tuag at ein cymydog. Nis gallwn garu ein cymydog fel y dylem heb i ni yn gyntaf garu ein hunain. Nid yw hyn yn golygu hunanoldeb. Mae byd o wahan- iaeth rhwng hunanoldeb a gwir hunan- gariad. Mae gwir hunan-gariad yn hunan-barch, huaan-gadwreeth a hunan- ddadblygiad. Mae gan bob" un o honom ein hunan i ofalu am dano. Dyma'r gwir olud-yr hanan—nid yr aur a'r arian, nid y tai a*r tiroedd. Gan wy- bod fod genych etch hunain yn feddiant gwell ac un parha^s." D/na'r cyfieith- iad priodol yn HeWeaid x 34. Nid yw'r Apostol yn cyfeijio at y golud gwell sydd gan yeredin.1tyr yn y nefoedd- fel y gallesid tybio oddiwrth y cyfieith- iad Cymraeg, ond y golud oedd iddynt ynddynt eu hunain. Hwy 'eu hunain osdd eu meddiant goreu, a chan hynny pan ysbeiliwyd hwy o'u meddianau nid oeddynt yn tori eu calon yn wir, yr oeddynt yn llawen wrth feddwl fod eu herlidwyr yn methu eu hamddifadu o'u trysor goreu—hwy eu hunain. Dyna adnod nas gall rai Sosialwyr ei deall. Tybiant ihwy mai y peth mawr ydyw dyogelu meddianau tymhorol da i ddynion. Ond yr oedd yr Hebreaid wedi dysgu cyfrinach yr Iesu nad yw bywyd neb yn dibynu ar amlder y pethau sydd ganddo. Gwerth yr hunan ydyw y gwir olud, ac amcan Cristionog- aeth ydyw dyogelu y golud hwn. Dyma'r unig olud parhaus. Diflanu a darfod mae pob golud arall. Daw yr adeg y bydd raid i'r miliwnydd adael ei benlyr- rau aur i gyd ar ei 61. Daw yr adeg cyn bo hir y bydd raid i bawb o honom adael pobpeth sydd genym-ein heiddo, ein masnach, ein dodrefn, ein llyfrau, ie. ein cyrph—bydd raid gadael ein corph i ofal eraill—mjd byddwn ni ein hunain yn aros. Ac yn ol fel y byddwn wedi ymddwyn tuag atom ein hunain y bydd ein cyflwr a'n tynged yn y byd tragwyddol. Y fath ffolineb ydyw ffwdanu gydag amgylchiadau pobl eraill tra yn esgeuluso ein henaid ein hunain ? Os ydym am fod yn ddefnyddiol i gymdeithas rhaid i ni wneyd y goreu o honom ein hunain. Nis galiwn fod yn Sosialwyr llwyddianus heb fod yn Unigolwyr ymroddol. The eternal importance of the Individual fascinated himmeddai i fywgraphydd am yr awdwr a'r pregethwr athylithgar, Dr. George ivlatheson. Perygl rhai o bre- gethwr poblogaidd yr oes ydyw syi thio dan swyn y dyrfa. Caem pregethwyr mwy grymus a mwy gwreiddioll :pe rhoddid llai o bwys ar foddio'r lluaws a mwy ar ddadblygu yr unigol. Diflana'r dyrfa, ond erys yr unigol yn ei bwysig- rwydd tragywyddol. Heb anghofio ein dyledswyddau dyledswyddau cymdeith- asol, gadewch 1 mi feith fwy fwy y gwirionedd am werth yr unigol* ofo —

YSQRECH Y DARLLAWYR.

Arweiowyr Llafur a Dirwest.