Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Y Gwyliau ar Lanau y Ferswy

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Gwyliau ar Lanau y Ferswy Yn mhlith y Uuaw g.weithredoedd Crist- debyg a gytlawnir tua'r Nadolig, nid y lleiaf mewn hunan-ymwadiad, yn ddiau, ydoedd gwaith cantorion Mynydd Seion, o dan ar- weiniad Mr. Cadwaladr Owen, yn myned allan i ganu carolau er :budd trysorfa tlod- ion yr eglwys. Yr oedd yr hin yn oer, ond cafwyd noson loergan leuad. Gerddwyd rai milltiroedd, a chanwyd o flaen Iluaws o dai yn nghvmydogaeth Sefton Park, ac hyd yn oed yn Cressington o flaen ty Syr Alfred L. Jones. Bu irai o'r teuluoedd garediced a gwahodd y cantorion i'w .tai i gael lluniaeth, ac nid unwaith na dwy y gofynwyd i blant y gaetbglu.d'" iganu rai o ganåladau Seion ar donau C'ymreig, megis Aberystwyth." Yn ystod y noson casglwyd dros chwe phunt, a disgwylir hyd yn oed rhyw gymaint eto. Mae clod yn ddyledus i Mr W J Roden, y trysorydd deheuig, am ei drefniadau. Aeth miter o gantorion Oakfield hefyd allan i ganu yn blygeiniol iawn foreu Nadolig, a chasgl. wyd swm boddhaol. Yr oedd awyr y Bab- ilon hon yn liawn miwsig y Nadolig diwedd- af, yn arwydd fod y rhai oedd yn mhell o dir eu tadau wedi tynu eu telynau oddiar yr helyg. Arhosed bendith ar eu llafur. • • Yr unig gyfarfod Wesleyaidd a gynhelir yn y cylch ar ddydd Nadolig ydyw un cys- tadfleuol Claughton R/oad, Birkenhead, -a lih.roeis a,Han yn llwyddiaivus iawn elerit. Cafwyd nifer o ^ysfladleuon dyddorol, a chynulliad rhagorol. Yr ysgrifenydd oedd y pregethwr cynorthwyol ieuanc Mr Evan Ev -ans, mab Chief Inpectox (William Evans. < # Y nos Sadwrn a'r Sul olaf o'r hen flwy- ddyn cynhaliwyd cyfarfod pregethu Oak- field, lie y gwasanaethwyd gan y Parchn. Evan Isaac, Machynlleth, a D. Gwynfryn Jones, Llandudno. Lled ddyeithr-yn or- niod felly, yn ddiau-ydyw Mr Isaac yn y parthau hyn. Ond bu ei ymweliad y tro hwn yn amheuthyn yn wir i bob un sydd yn gwerthfawrogi pregethau sylweddol, yn cael eu traddodi gan un sydd yn deall ei destyn, <a.c yn traddodi gyda nerth a gwresogrwydd un mewn llawn cydymdeimlad a'i genad- wri. Ac yr oedd gan y cadeirfardd o Fach- ynlleth genadwri yn ddios yn y gylchwyl lelieni, ,Brysied yma oelto. Am Gwynfryn, yn y cylch hwn y dechreuodd efe ei yrfa w-einidogacthol ddisglaer-yn Herinon, Ash. -iton,pan oedd Hermon yn nghylchdaith Mynydd Seion, "Fel gwlith Hermon, ac fel y gwlith yn disgyn ar fynyddoedd Seion; canys yno y gorchymynodd yr Arglwydd y fendith." Pa un bynag ai yn y tueddau hyn y go,rchymynwyd y fendith i Gwynfryn ai tiad e, mae gwlith ysbrydol Hermon a myn- yddoedd Seion yn parhau i ddisgyn ar ei -weinidogaeth. I rai sydd yn gorfod byw yn -nghanol berw dinas fawr a rhodio ar hyd ei heolydd dibendraw, gwledd ddigymysg yw y 0 cael enyd fer dan vveinidogaeth o nodwedd mor swynol a delfrydol ag eiddo Gwynfryn. -Er yn dwyn arwyddion gorlafur, ni fu ei athrylith erioed o'r bron yn fywiocach a disgleiriach nag yn nghyfarfod Oakfield. Pan ofynwyd i mi gan gyfaill a glywswn fod Gwynfryn wedi "rhoddi i fyny yr ysbryd ?" aeth fel saeth i fy mron, ond d-eallais cyn hir mai siarad ar ddamhegion yr oedd y cyfaill. Caffe.d y gwir fab athrylith o Lan- dudno oes hir o iechyd a nerth. « # Mae yr hen drefniant Wesleyaidd o gynal Gwylnos ar noson olaf y flwyddyn yn cadw mewn bri mawr ar y glanau hyn. EfalUi anai "Watchnight" .Mynydd Seion ydyw yr un fwyaf poblogaidd y dyddiau hyn. Yr pedd yn neillduol felly eleni. Yr oedd y capel eang o'r bron yn llawn. 0 haner awr wedj deg i haner awr wedi unarddeg dat- ganwyd anthemau gan y c6r, dan arweiniad Mr Cadwaladr Owen; a chanwyd "Icsu, Cyfaill f'enaid cu" gan M.iss Mary Owen, a'r Penill auroddai fy Nhad" gan Miss S iBlodwen Jones, A.L.C.M. ac adrodd.wyd The Bells" (o waith Edgar Allen Poe) gan "Mr J E Lewis. Gwnaeth yr oil eu rhan yn rhagorol. I derfynu'r cyfarfod traddod- odd y Parch John Felix ane-rchhd bywiog a phwrpasol. Yn Oakfield hefyd cafwyd cyn- ulliad da. Canwyd unawdau yn effeithiol gan 'Misses Annie a Fannie Hooson a Mr „ Evans, triawd gan Misses Lizzie a Grace Roberts a Mr W J Parry; ac anthem, "Y Blpdeuyn Olaf," gan y c6r, dan arweiniad Mr W J Parry. Arweiniwyd yr Wylnos gan y Parch R Lloyd Jones, cymerwyd rhan gan y Parch Thomas Hughes, a thraddodwyd anerchiad (campus gan y Parch J Lewis 'Williams, 'M.A., B.Sc., gweinidog galluog eglwys Annibynal Great Mersey Street. Yn Claughton Road, Birkenhead, cadeiriwyd gan Mr E R Jones, ysgrifenydd cylchdeithiol y G-enhad-aeth Dramor, a chanwyd unawdau cymwys gan Miss Cassie Hughes a Mr D R 0 Jones, i gyfeiliant Miss Gladys Jones. Y Parch Edward Humphreys, Cadeirydd y Dalaeth, a draddododd yr ane-rchiad, a gwnaeth hyny yn ei ddull feistrolq- idd ei hun. Peth cymharol newydd ydyw cynil Gwylnos gan Wesleyaid Cymreig Seacombe, a diau y &w yn fwy po.blogaidd fel y daw yn fwy hysbys Y siaradwr e!eni oedd y Parch J Pryce Davies, gweinidog eglwys Annibynol Martin's Lane, yr hwn a draddododd an- erchiad priodol iawn. Cymerwyd rhan hef- yd gan y Parch W Morris Jones, B.A., ac eraill. Er yn ddiweddar yn gwneyd hyny, goddefer i mi longyfarch y cyfaill ieuanc olaf a enwyd ar ei Iwyddiant arbenig yn arhol- iad Gyfundebol y gweinidogion ar brawf. Gwelaf fod y Parchn W Morris Jones a J H Michael, B.A., yn uchaf ar y arhestr yn y Cyfundeb, gyda. anrhydedd. Yr oedd y ddau wr ieuanc talentog hyn yn sefyll arhol- iad mewn Groeg a Hebraeg, yn gystal ag mewn pethau eraill. Wrth enill anrhydedd iddynt hwy eu hunain, enillasant. anrhydedd i'w gwlad a'u cenedl. « Dydd Calan cynhaliodd eglwys Oakfield ei gwyl de a'i chyngherdd blynyddol. Bu chwiorydd caredig yr eglwys yn ddiwyd a .llwyddianus gyda threfniadau y te, a gwerth- fawrogwyd eu llafur gan dyrfa fawr o gared. igion yr achos. Yr oedd y capel yn oriawn yn yr hwyr yn y cyngherdd. Y cadeirydd cyhoeddedig oedd Mr H Lloyd Griffiths, Egremont, ysgrifenydd eglwys Serpentine Road ond oherwydd marwolaeth ei fam yn Nolgellau ychyd-ig ddyddiau yn gynt, nis gall-ai yn naturiol wynebu y gorchwyl o ga- deirio. Anfonodd, modd bynag, xodd syl- weddol, a chymerwyd ei le yn y gadair gan Mr Arthur 'Price, un o weithwyr mwyaf difefl Oak-field. Gwasanaethwyd yn dra chymeradwy yn y cyngherdd gan Misses Cassie Richards a Myra Roberts, Mri W G Haylees ac Ernest Williams, yn gyst,al a chan y crythor ieuanc galluog Master Ben- son Hodgson, yr hwn, er nad yw ond deg oed, a synodd ac a swynodd y gynulleidfa gyda'i fedrusrwydd fel crythor. Yn ddiau, mae dyfodol o enwogrwydd Vu arcs y bach- genyn hwn. Aeth yr wyl heibio drwyddi draw yn dra llwyddianus. Gweithiodd y bobl ieuainc yn ardderchog, yn arbenig felly Mr H K Fraser, yr ysgrifenydd ymroddgar. Yr un diwrnod, sef dydd^alan, cynhaliodd eglwys fechan Rock Ferry ei gwyl hithau, ac aeth heibio yn dra boddhaol, pob clod i weithgarwch Mr Wmiamsa ffyddloniaid eraill yr achos. Yn absenoldeb Mr John Edwards, Dacre Hill, yr hwn yn garedig a gofiodd yn sylweddol am yr actios Wes.ley- aidd, er mai Annibynwr ydyw ef, Uanwyd y gadair yn y cyngherdd gan y Parch Edward Humphreys. Yn tMynydd Seion, yr un dydd, cynhaliodd y :bobl ieuainc eu trydydd "social" am y tymor, ac heblaw y Parch John Felix a Mrs Felix, yr oedd tua phed- war ugain yn bresenol. Treuliwyd noson hyfryd iawn, trwy fwynhau difyrion diniwec' o wahanol natuT. Yn ystod, y noson arlwywyd swper rhagorol gan y pwyllgor oedd yn gyf- rifol .am y trefniadau. Dymunol yw gweled ^od y cyfarfodydd hyn yn cynyddu mewn ffafr, yr hyn sydd yn argoeli yn dda am ddyfodol yr achos yn y lie. Mae y cyfeill- ion ieuainc a ganlyn i'w IIongyfarch yn galonog ar y darpariadau helaeth a doeth a wn aeth ant ar yr achlysur presenol;—Misses M M Lloyd, 1M H Jones, C Benn, a I.alla Hughes, Mri R R Lloyd, W P Davies, Geo Williams, a D Jones, a Miss Amy L Roberts (y drysoryddes) a Mr J E Lewis (yr ysgrifen- ydd).

-:0:-. GALLTMELYD.

GWRECSAM.

Bazaar Johnstown.

-._-_.,n,-'.--"--'" MANCHESTER.

Gwyl Goffa y Diwygiad yn Ystumtuen.…

SOAR, TALSARNAU.

., Rben Domos."

Wesleyaeth ya Neheudir C)…

0 Ben y Foel.