Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
LLYFR I'R AMSERAU.—YII awr yn barod. Pris, mewn llian, is. 6d. Trwy'r Post, is. 8d. Nodion Hanesyddol o Beirniadol AR Fywyd a Gwaitli "Ift 9% Robert Owen o'r Drefnewydd Gan T. PUGH 34. Ash St, Harpurhey, Manchester Anfoner archebion, gyda blaendal, i'r Awdwr, i'r cyfeiriad uchod. M Ef FA CYCLES CYCLES CYCLES M sa M 11 THE CYCLE 11 B S' B p MAKERS: M lmCHOL8$Co.l' I QUEENSFERRY, FLINT. M 1$ ifSI °§° v- & < V; M 1 5|8S?S'Special Offer § ,JL -V- i HAWARDEN CYCLE I V •» •* TMTrmii III IIHIIil III II li III IMH» IiIMiIIHiI'i II III camirnKxyrMx.-iL.'aixii «sm V* •/ P P Fitted with everything of the m p best, including Hyde Free iff S Wheel, two Him Brakes, >3 » Si M Clincher or Clipper Tyres. a CASH P O 0 Including all PRICE ri rjjj Accessories jgf H h |w/ jw Or Twelve Monthly Payments of 12s. 6d. r6 0 P 3 l 1 Repairs of eve- v descrin-1 P 3 M tion done on tka Premises If k? §$ Now is the tirr^e to have your Cycles and Motors W Overhauled. "TYTORTII ■& SOUTH WALES BANK, LTD. ONE HUNDRED AND THIRTY-EIGHTH DIVIDEND. NOTICE IS HEREBY1 GIVEN that a dividend at the rate of 16 per cent. per annum for the half-year ended 31st ultimo, on the Capital of the Company (making: a total distribution for the year of 15 per cent.) will 'be paid to the Shareholders, on and after the 17th dnst., at the Helad Office and the various branches, and at the London and Westminster .Bank, Lothbury, London. The Income Tax will, as usual, be paid by the hank. The Transfer Books will be closed from this date to the 17th instant, inclusive. iBy order of the Directors, T. ROWLAND HUGHES, General Manager. Liverpool, 3rd January, 1908. Sylwer Pris y GWYLIEDYDD trwy y Post bob ythnos MQ chwarter ydyw Is. 8c. Am os. 8c. Y taiiad ymlaen lilaw gyder archsb. Anfonir pe4war trwy y Post am geiniog yr an wedi tain y draul. Anfomer pob peth yn aghyloh y busnes, megis taliadau, archebion am y GWYLIEDYDD, &c., wedi ei gyfeirio fel hyn:- MRI. AMOS BROS. & JONES, RHYL. Cyfeirier Gohebiaeothau a phob Hysbys- r.¡ydd a fwriedir yinddangoa yn Y Swylied- vdd fel hyn— US FOR PRESS, "CEPHAS," EDITOR "Y GWYLIEDYDD, 58, SOUTH JOHN STREET, LIVERPOOL. Gellir anion Gofoftbiaeth heb d'ddm o nutur L'ytbyr gyda bi am clidimai ama bob dwy wns end gadiael yr a ml en yn agored. BYDDED hysbya ai. ydym yn gyfrifol I a synladau ein Gohebwyr.
[No title]
IJWYLIEDYDD yr wytnnos csaiweaaar cy- feiriwyd at y ffaith na chyfodydd yr Haul" yr mis Tachwedd diweddaf! Fel y mae'n wybddus, un o oleuadau llachar" yr Eglwys Sefydledig yn Nghyrnru ydyw y cylchgrawn uchod, a'i olygydd ydyw yr anffaeledig a'r gor- gyson Ganon Williams, B.D., gwr a fynai gymeryd y maes mewn dadl a'r Parch Thomas Hughes, Llywydd y Gymanfa, ond gwr a ddiangodd am ei hoedl ar ol cael ei guro a llawer ffonod. Llawer a soniodd y Canon hyderus am I balhad didor yr Eglwys." Efallai y bydd yn ddigon hyf rhyw ddiwrnod i son am "barhad didor "Yr Haul." Modd bynag, haedda gydymdeimlad yn ei gyni diweddaf Gall ddadlu bellach fod Haul" yr Eglwys yn true to nature, oblegid onid oes diffyg ar haul natur ambell dro ? Mae'n werth difynu geiriau y Canon. Wele hwynt:— Drwg iawn genym n&d yw dygiad allan I Yr Haul' wedi bod yn rheolaidd nac yn amserol. Yr achos o hyny ydyw fod rhwystrau anorfod ar ffordd yr argraffu yn swyddfa Cwmni y Wasg Eglwysig Gymreig; ac y mae peth anhwylusdod yn gorwedd wrth ddrws y Golygydd er nid agos yr holl fai. Ond yr ydym yn gwneuthur ymddi. heurad i'r darllenwyr a'r dosbarthwyr ac yn ostyngedig erfyn am eu maddeuant. Gobeithio na bydd i'r afreoleidd-dra yn achos nac yn achly- sur i neb roddi i fyny eu cefnogaeth o'r hen gyhoeddiad sydd wedi gwas- anaethu Cymru yn ffyddlon am gynifer o flynyddau. A gawn ni ofyn i bawb ail ymaflyd yn eu gwaith o gynorthwyo cylchrediad ein cylch- grawn anwyl, o wella ei gynwysiad, ac o'i gefnogi ytnhob dull a modd ? Addawn ddiwygio yn y dyfodol, a cheisiwn beri i belydrau yr Haul' dywynu yn ddisgleiriach nag erioed." Craffer ar y geiriau-—" Addawn ddi- wygio yn y dyfodol." Da iawn, Canon J.¡
Anfoesoldeb Cymru.
Anfoesoldeb Cymru. A chasglu oddiwrth sylwadau rhai o'r ustusiaid ya Llysoedd Chwarterol Gog- ledd Cymru, gellid meddwl fod anfoes- lodeb yn,ffynu i raddau difrifol iawn yn y gwahanol siroedd. Er y rhaid cydna- bod, ysywaeth, fod ystadegaucyn dangos cynydd anfoddhaol yn y cyfeiriad a nodwyd, ai tybed mai doelh oedd dwyn y mater gerbron yn y modd a chan y gwyr y dygwyd ef o flaen y llysoedd ? Nid oedd modd peidio sylwi fod y rhai a siaradent fwyaf ar fawredd ac eangder y drwg yn perthyn i ddosbarth a phlaid arbenig. Pe gellid credu yn mhurdeb eu cymhellion a gonestrwydd eu liam- canion, byddai grym ofnadwy yn eu cyhuddiadau. Ond a ellir gwneyd hyny ? Onid oes gormod awydd yn nghalon rhai ustusiaid i bardduo Cymru, a thrwy hyny i ddifrio Ymneillduaeth y genedl, yn enwedig yn yr' argyfwng presenol ? Pa fodd bynag am hyny, mae'n amlwg fod y drwg yn bodoli i raddau nas gellir ei anwybyddu. Llysoedd eglwysig ac nid llysoedd gwladol, yn ddiau, y":ynt y cyfryngau priodol ac effeithiolaf i ddelio gyda'r mater. Gwelwn fod Cyfarfod Chwarterol Cylch- daith Beaumaris eisoes wedi symud yn yr achos. -0 o
Nodiadan Gyfundebol.
Nodiadan Gyfundebol. [GAN Y LLYFRBRYF WESLEYAIDD.] Gadawodd y diweddar Mr Dalton, o Youghal, y swm o gan' punt i Drysorfa y Genhadaeth Dramor. « Darfu i ymddiriedolwyr capel Raw- tenstall anrhegu Mr Joseph Whitehead gydag anerchiad hardd ar derfyniad gwasanaeth fel swyddog eglwysig am dros driugain mlynedd. Penderfynodd y cyfarfod chwarterol ddathlu canmlvyddiant Methodistiaeth yn Ipswich drwy godi trysorfa o dair mil o bunau er pwrcasu tai gweinidogion, Ddydd Nadolig cafodd pedwar cant o blant tlotaf Hartlepool eu diwallu a gwledd sylweddol, yn lluniaeth a chwareuon diniwaid a mwynhaol. Gwelwn fod Mr Andrew Carnegie wedi rhoddi 300p at y gost o bwrcasu organ newyåd i gapel Tyldesley, a 275P i'r un pwrpas i gapel Foster Laue, Hebdenbridge. Bu yr efengylydd enwog, y Parch F B Meyer yn cynal cenhadaeth am wythnos yn nglyn a'r Central Hall Mission, Manchester. Cafwyd cynull- iadau mawrion a llawer yn ymofyn 4m drugaredd. « ? ? Gyda phleser y gwelsom ddarlun da a braslun byw gvverthfawrogol o'r Parch John Humphreys, Llundain, Ysgrifen- ydd y Gymanfa, yn y golofn Men of the Moment" sydd yn ymddangos yn wythncsol yn y Methodist Times." « & Gwelsom nodiad fod y ''Wesleyan Methodist Sunday School Record," cy- hoeddiad wythnosol dimai, wedi peidio a bod ddiwedd 1907, a'i fod yn awr wedi ei gorffori yn y u Wesleyan Methodist Sunday School Teacher." Mae Mr George Wallace Carter, diweddar Ysgrifenydd Cyfrinachol y Chief Liberal Whip, wedi ei apwyntio yn Organising Secretary of the Free Trade Union. Tardda Mr Carter o hen wehelyth Wesleyaidd. Bu y gantores boblogaidd a galluog, Madame Strathearne, yn swyno cynull. eidfaoedd yn y Brighton Dome Concert osSadwtna nos Sabboth. Prydnawn Sabboth, rhoddodd hanes ei bywyd, yn nghapel Norfolk Road. it Ar derfyn gwasanaeth ei flwyddyn swyddogol fel cadeirydd Pwyllgor Ys- golion y Brifddinas, darfu i'w gyd- aelodau wahodd Mr Ernest Lamb, A.S., G.M.S., i wledd ardderchog. Yr oedd yn mysg eraill Dr Waller, F W Mac- donald a Dr PoDe yno. » Darfu i Frawdoliaeth Hanover, Leeds, wahodd tua mil o hen bobl a phlant i giniaw a the ddydd Gwener a Sadwrn y Nadolig. Nos Sadwrn darparwyd late supper i rai oedd yn mynychu y tafarndai. Derbyniwyd y gwahoddiad gan tua 300, a chafwyd nifer i ardystio. « Deallwn fod sefyllfa bresenol iechyd y Parch C H Kelly yn peri pryder nid bychan i'r teulu. Nid yw y meddyg yn teirnlo y gall ganiatau iddo gymeryd y fordaith fwriadedig. Mae gweithred- iad y pulse yn egwan. ? ? N Cyfaddas a gwerthfawr ydyw cynwys- iad y "Local Preachers' Magazine am y mis hwn. Cynes a Ilesol ydyw LIon- gyfarchiadau y Llywyddion-Beny a Royle (1908). Ynddi ceir darlan a braslun o Mr W G Hooper, F.R.A.S., F.S.S., pregethwr cynorthwyol gwych. « « » Gresyn na fycfd.ii i gylchrediad Y GWYLIEDYDD yn helaethach. Newydd- iadur sydd iddo amcan a phwrpas mor fuddiol a gwasanaethgar, hyny yw, cyflenwi ein pobl a chofnod;ad o hanes gweithrediadau yr enwad yn Nghymru a'r Cyfundeb. Onid ellir gwneyd rhyw- beth yn hyn o beth ? « Diau fod canoedd fel ein hunain wedi darllen ysgrif rhagorol y Parch Richard Morgan, Caernarfon, ar y diweddar Barch Owen Williams, gyda phrudd fwynhad a budd, ac yn teimlo yn ddiolchgar iddo. Gyda gofid y cofnodwn am farwolaeth yr Henadur J It Stafford (67) Brighton. Yr oedd yn Wesleyad o'r radd oreu. Bu yn Faer Brighton deirgwaith. Yr oedd yn weithiwr Cristionogol ymdrech- gar a Ilwyddianus. Bydd colled fawr am dano. Mae eglwys Wesleyaidd i gael ei chodi yn Aspinall gwerth pum' mil o bunau. Mae y site gyda rhodd o soop wedi eu rhoddi gan Mr Thomas a Miss Wild, ac ac y mae eisoes wedi ei gyfranu dwy o bunau. Mae ysgrifenyddion y Genhadaeth 9 Dramor wedi cyhoeddi a gwasgaru cylchlythyr o apel tuag at y newyn mawr sydd yn bod yn nhalaethau yn Ngogleddbarthau yr India. Tua un- mlynedd-ar-ddeg yn ol codwyd 8,ooop i gyffelyb newyn yn yr India, a chan fod nifer y dychweledigion Cristionogol wedi cynyddu er hynymae'r angen yn gymaint mwy. Gyda hyfrydwch y gwelsom fod cy- hoeddwyr y "Methodist Times"—Mri Horace Marshall a'i Fab, wedi anfon cheque i drysorwyr Trysorfa yr Hen Weinidogion am y swm anrhydeddus o bedwar can' gini. Diolch yn fawr i Syr Horace. A welsoch chwi y Methodist Times yn ei ddiwyg newydd gyd1'r cyfnewidiadau pwysig a rhagorol sydd ynddo am yr wythnos ddiweddaf? Wei, mae'n edrych yn dda, ac mae ei gynwysiad yn ddyddorol, darllenaiwy a buddiol. Mae'r darlun campus sydd yn y rhifyn yn dwyn y penawd "Do minis. ters' sons turn out well ?" Cynwysa. ddarluniau heirdd o Syr Henry Fowler, Mr Spencer Leigh Hughes, Proffessor Richard Green Moreton, Mr J Lockwood Kipling, Syr Fletcher Moulton, Syr John Lawson Walton, Syr Clarence Smith, Syr John S Randies. « Yn ystod y flwyddyn 1907 bu farw tri-ar-ddeg-ar-hugain o weinidogion, o ba nifer yr oedd tri-ar-ugain yn uwch- rifiaid. Yr oedd hyd eu gwasanaeth ar gyfartaledd yn ddeugain a thair o flyn- yddoedd. Yr oedd y rhestr yn cynwys enwau y Parch Richard Rymer, oedran yr hwn ydoedd yn 98, a'r Parch Cyril B Orton, y gweinidog ieuanc oedd ar brawf ac a foddwyd drwy achub ei frawd. Y diweddaf yn y rhestr ydoedd y Parch Owen Williams, Caernarfon. Diwrnod mawr ydoedd yr un cya y Nadolig gyda aelodau y Mission Christ- mas Club yn Bolton a'r Central Hall, Manchester. Yn Bolton yr oedd 1,500 o aelodau, a dosbarrhwyd 1,050 o tur- keys, r60 o wyddau, a 1,500 pwys o de. Dosbarthwyd yn ;y Central Hall 2,200 o turkeys, 1,400 o wyddau, 1,000 joints of oork, 7,000 o bwysi o biff, a thunelli o fara gwyn a brith, a the. Oni bai am y clybiad hyn mae'n dra thebyg na welsai canoedd o honynt wydd na dim arall. • Yr oeddym yn falch o weled foi y bardd cynyrchiol a galluog, Gwilym Dyfi wedi bod yn fuddugol tua'r Nadolig am Farwnad a Thelynegion'yn Eisteddfod Llanidloes. Hyderwn y cawn weled y dydd y bydd ein cyfaill awengar yn cael ei goroni neu ei gadeirio yn mhrif wyl y genedl. Mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn un amserol i ddefnyddio y cyfleustra i an. rhegu cyfaill neu gyfeillion fel arwydd o'n dymuniadau goreu ar ddechreu blwyddyn. Da genym ddeall ei bod yn arferiad y dyddiau hyn o'wneyd hyny Y, drwy gyfrol neu gyfrolau. Beth yn well allesid ei gael i'n pregethwyr cyn- orthwyol na rhodd o gyfrol pregethau Dr Hugh Jones, Cofiant y Parch D 0 Jones ac eraill ? Yr oedd yn foddhad i ni ddarllen yr adolygiad uchel werthfawrogol o eiddo Dr Owen Davies (B), Caernarfon, yn y u Greal," cyhoeddiad misol y Bedydd- wyr, ar y gyfrol bregethau Y GOblith Cristionogol," o eiddo Dr Hugh Jones, Bangor. Mae'n bleser genym ddifynu yr adolygiad, gan hyderu y bydd yn gymhelliad i'n darllenwyr sydd eto heb feddianu y gyfrol i wneyd hyny ar frys,