Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Bwich yo y Llywodraeth.
Bwich yo y Llywodraeth. Pan yn ymwregysu ar gyfer Senedd-dymor arall, wele angau ya bylchu y Llywodraeth trwy dori i.lawr y Twrnai Cyffredinol (Syr J Lawson Walton). Fel mab i'r diweddar Barch John Walton, un o gyn-lywyddion y Gynhadledd, teimlai y Wesleyaid ddydd- ordeb neiilduol yn Syr John. Yr oedd yn ddyn o gyrhaeddiadau uchel ac er iddo anfoddloni Plaid Llafur gyda'i ymgais gyntaf yn nglyn a'r "Trades Disputes Bill," llwyddodd i raddau helaeth i'w boddloni gyda'i ail ymgais. YsLyrid ef fel un o brif gyfreithwyr y deyrnas a theimlir fod bwlch mawr wedi ei achosi gan ei fa-wolaeth ofnadwy o sydyn. Gwdwn fod Syr W Robson yn cael ei enwi fel clynydd iddo yn swydd o Dwrnai Cyflredinol, ac fod Cymro ae Iudjew-Mr S T Evans a Rufus Isaacs—yn cael eu henwi i'w ddilyn yntau fel Cyfreithiwr Cyffredinol -dau wr rhagorol yn y cyfeiriad hwnw.
Dyrnod i Ryddfrydiaetfo.
Dyrnod i Ryddfrydiaetfo. Mae'n debyg mai un o'r dyrnod- iau trymaf a roddwydd i Ryddfrydiaeth er yr Etholiad Cyffredinol diweddaf ydoedd yr un a roddwyd gan etholaeth Mid-Devon ddydd Gwener. Yn 1906 yr oedd mwyafrif y Rhyddfrydwr yn 1289, ond yn wythnos ddiweddaf dych welwyd y Ceidwadwr gyda mwyafrif o 559, Ceisir egluro'r cyfnewidiad trwy ddyweyd fod yr ymgeisydd Ceidwadot yn fwy adnabyddus a phoblogaidd na'r ymgeisydd Rhyddfrydol. Dichon fod rhyw gymaint o wir yn hyny ond y gwir amlycaf a phenaf, yn ddiau, ydyw fod y Rhyddfrydwyr yn rhy hyderus a digni. Pan yn rhy ddiweddar, ym- ddengys iddynt ymddeffro i wir sefyllfa pethau, yn gymaint felly nes rhedeg ohonynt i ormod rhysedd, trwy ymosod ar y Clwb Ceidwadol, ac mae lie i ofni achosi marwolaeth un o'r gweithwyr Ceidwadol. Gwers etholiad Mid-Devon yn ddiau, ydyw y dylai y Rhyddfrydwyr fod yn fwy byw a gwyliadurus, nid ya unig yn nghanol cynwrf etholiadol, ond cyn hyny a phob amser. Mae ethcliadau eraill yr ymyl, a gobeithio y gofelir am roddi pob genym ar waith i galonogi y Llywodraeth yn ei bwriad i ymgodymu gyda rhai o bynciau pwysicaf mewn hanes.
"WELE YMA, NEU WELE 'ACW."…
"WELE YMA, NEU WELE ACW." POBPETH ond y peth mewn Haw Pobman ond y man ar y pryd Dym a bolisi a dyma fariaeth, nid Eglwys Crist, ond rhan fawr o'r hyn a elwir felly. Mae'r geiriau difynedig, fel y gvvyr y darllenydd, wedi eu llefaru 'I gan y Gwaredwr yn nglyn a'i ddyfod iad-ei ddyfod yn benaf. efallai, yn ei Deyrnas, Yr oedd rhywrai yn sicr o godi a cheisio hudo eraill yma a thraw, gyda'r geiriau" Wele yma, neu wele acw." Ond gorchymyn yr Arglwydd ydyw am beidio rhoddi sylw iddynt. A gwyn fyd na fyddai ei ddilynwyr wedi cadw y geiriau hyn yn well mewn cof, ac wedi gweithredu arnynt yn fwy ffyddlon dan wahanol amgylchiadau. Mae rhyw aspri ar bobl am dreio pobpeth newydd, ac efelychu pobpeth dyeithr, a hyny ar draul gadael hen bethau nad oes wella i fod arnynt. Mae pobpeth yn well na'r hyn. sydd mae pobman yn well na'r man presenol—dyna'r polisi ffol a niweidiol. Mae llawer iawn o chwiiio am le- oedd gweiniaid yr Eglwys, a llawer o ofyn, Beth sydd o'i le arnom ? A pha fodd i wella ? Dywed un ein bod yn rhy Doriaidd, fel pe byddai gan bolisi gwleidyddol rywbeth i'w wneyd a'n llwyddiant eglwysig ac arall ein bod yn rhy Radicalaidd, o dan gy- ffelyb dybiaeth. Arall a ddywed fod gormod o Athrawiaeth, a rhy fach o fywyd ymarferol ac arall fod eisiau dadblygu mewn Athrawiaeth i gyfar- fod a nodweddion yr oes. A gellid myn'd yn rnlaen, bron yn ddiderfyn, ar linell fel hon. Diau, yn wir, fod gan yr Eglwys le i wella i lawer o gyfeiriadau. Ond mewn difrif, onid yw wedi myn'd i feindio busnes pawb ond ei busnes ei hun, ac wedi myn'd i geisio dynwared pawb yn hytrach na gwneyd ei gwaith ei hun ? Mewn gair, y mae ei meddwl wedi ei was- garu, a'i hyder ynddi ei hun a'i phethau wedi diflanu. Mae wedi myn'd yn nervous ac amheus. Beth bynag a gyfyd' yn hytrach na myn'd yn mlaen a'i gwaith yn gryf, cyson, a hyderus, rhaid codi pen a rhoddi sylw iddo. Os dichon i ryw greadur, er mwyn hynodrwydd a phoblogrwydd rhad, nyddu allan o'r hyn a eilw ei ymwybodolrwydd rhyw sothach o dan yr enw Duwinyddiaeth New- ydd," rhaid ateb trwy ysgrech o gy- ffro ac ysgrifenu erthyglau, traeth- odau, llyfrau, ac hyd yn oed appwyntio areithwyr i geisio troi y ffiloreg anghyson yn ei hoi. Rhaid i Eglwys y Duw byw, yr hon na. fedr pyrth uffern ei gorchfygu, ymrwystro gyda'i gwir waith, er mwyn gwneyd sylw o faldordd cableddus am Grist, a'r Efengylau, a Theyrnas Dduw, fyddai farw o wendid mewn pym- thegnos pe cai lonydd i hyny. Unig obaith y fath druth am fywyd ydyw i Eglwys Crist wneyd sylw o hono a gwna hyny pan y mae ganddi amgen- ach peth i feddwl am dano* Yr ydym yn nodi un engraifft o'r ofnus- rwydd hwn, ac y mae un cystal a chant. Na chyferchwch well i neb ar y ffordd" medd y Gwaredwr. Diau fod mwy nag un modd o esponio gair o'r fath ond ymddengys i ni ei fod yn briodol iawn yn ngwyneb tuedd yr Eglwys i flino a phryderu yn j nghylch pethau dibwys, yn hytrach na chredu ynddi ei hun-a Duw, a gwneyd ei gwaith. Os cyfyd y cri Sosialaidd (yr hwn sydd ardderchog yn ei Ie) rhaid i'r Eglwys gymeryd y peth i fyny fel mater neillduol,a rhaid cyhoeddi y bydd hyn a hyn o nos Sabbothau yn cael eu treulio i dra- ddodi nifer o anerchiadau ar Sosial- aeth, fel pe na byddai'r dynion sydd arweinwyr yn y peth hwn o'r tu allan yn daigon o ddynion at y gwaith A hyn, mae lie i ofni, er mwyn poblog- rwydd Mewn difrif a ydyw yr Efengvl am y Groes wedi colli y meddwl a'r gwerth a'r dyben oedd iddi fod yn rhaid syrthio yn ol ar rhyw foddion tarawiadol o'r math yma er mwyn cyrhaedd y bobl? Tybed fod eisiau i'r Eglwys a'r Weinid- ogaeth ymateb fel hyn i bob cri sydd yn codi ? Ai dyma ei gwaith ? Os ie, oni fyddai yn well iddi adael Gair Duw a gweddi," ac ymroddi o ddifrif i wasan- aethu byrddau ? Mae bron bob math o ystryw yn cael ei arfer heddyw gan eglwysi er mwyn tynu sylw y bobl. Gwelsom yn ddiweddar gyhoeddiad am- Iwg ar barwydydd Eglwys Wesleyaidd, lie y dygir yn mlaen Genhadaeth, i'r perwyl y byddai y gweinidog yn pre- gethu y nos Sul dilynol ar Diabolo Yr oedd yn ddigon i beri i ddyn wrido i wraidd ei wallt. Nid na ddylai y Diafol'' gael sylw o'r pulpud, ond fod yn rhaid ymgymeryd a'r math ysgafn hwn o hysbysebu er mwyn ceisio diogelu cynulleidfa. Tybed na ddylid gallu cyfrif yn mhob Eglwys Gristionogol, pryd ryynag yr eir yno, y prepethir yno Grist "a hwnw wedi ei groeshoelioh ? Ai nid dyma waith yr Eglwys a'i gal- wedigaeth uchel ? Onid dyma ddylai fod cenadwri ei phulpud, ac ymffrost ei phobl ? Ac oni fyddai yn well i Eglwys Crist wneyd ei gwaith ei hun yn ei ffordd ei hun, a gadael llonydd i bob Cymdeithas arall wneyd yr un peth ? Paham y rhaid iddi gymeryd sylw o bob awel dysgeidiaeth sydd yn codi ? Pe caent lonydd, byddent farw fel cicaion Jonah. Ond trwy gael sylw maent yn byw yn hwy. A chyda phob dyledus barch i gwestiynau cyhoeddus, nid gwaith eglwysi, fel y cyfryw, ydyw gofalu am danynt. Gall, a dylai, pob aelod eg- lwysig ofalu am ypethau hyn fel dinesydd; ond nid ydynt waith arbenig yr Eglwys. Mae cymdeithasau eraill yn bod er eu mwyn fedrant wneyd y gwaith yn well. Oni fyddai yn well i Eglwys Crist ymroddi yn nghyfeiriad dychweliad pechaduriaid, ac adeiladaeth y saint, a gxdael llonydd i'r hen fyd wneyd y gwaith a berthyn iddo ? Mae pob dyn sydd wedi ei wir droi trwy ras, ac yn nghwrs gwir adeiladaeth ysprydol, yn sicr o wneyd ei ddyledswydd fel dines- ydd. Posibl nad yw barod i lefaru pob shibboleth y mae'r gymdeithas yma a'r pwyllgor acw yn ofyn iddo a dyn a'i helpo os ydyw, oblegid ni ddaw byth i ben. Mae cymdeithasau wedi myn'd mor gyffredin a patent medicines; ac wrth gwrs y maent i gyd yn anffaeledig! Carwn weledydyddy bydd y pregethwr yn credu mewn gweddi a gweinidog- aeth y Gair" fel prif alwedigaeth ei fywyd, ac y byddo eglwysi yn bod, nid i ddibrisio dyledswyddau dinesig ond i roddi eu prif sylw i adeiladaeth ysprydol. Credwn, pan ddaw i hyn, na fydd byth gftyn fod yr eglwysi yn colli gafael ar y torfeydd. Mae'r torfeydd wedi colli hyder yn yr Eglwys am fod yr Eglwys wedi colli hyder ynddi ei hun ac er mwyn ceisio cael ei lie yn ol, wedi myn'd i arfer pob math o quackery. Mae wedi myn'd i ddynwared y byd bron yn mhob ffurf o'i fywyd, a hyny er mwyn ceisio sicrhau ei boblogrwydd. cl Pan ddaw i gredu yn ei hun, ei lie, a'i phethau, fe dyr gwell gwawr. Enilla iddi ei hun urddas a nerth, poblogrwydd a llwyddiant. Daw'r materion sydd yn peri blinder yn haws eu :trafod-megis cwestiwn aelodaeth, &c. Credwn y daw cwestiwn ei holl drysorfeydd hefyd yn haws ei drin. Pan ddaw Eglwys i wneyd yn iawn, a chredu yn Nuw, a meindio'i busnes ei hun, daw arian i'w choffrau, nid ar hyd y sianelau amheus (weithiau budron) y dibynir arnynt yn awr, ond mewn moddau urddasol a theilwng. Felly, os dywedant Wele yma, neu wele acw," na choelier hwynt, ond eled pob un yn mlaen gyda'i waith ei hun, yn ei ffordd ei hun. Lie y saint yw barnu y byd ac Bid thedeg yn was. aidd yn ei rigolydd. o§o
y Geninen " yn 25am Oed
y Geninen yn 25am Oed RHIFYN da dros ben ydyw "Geninen' Ionawr. Nid llawer o gylchgronau Gymreig all honi eu haniad mor bell yn ol a'r flwyddyn 1883 er, yn ol erthygl ddyddorol Anthropos, i lawer ohonynt gael eu geni tua'r flwyddyn hono, ond daeth dydd eu harwyl yn fuan iawn. Gwelir hefyd fod y clod am hyn yn disgyn i'r golygydd a'r sylfaenydd yn unig, ac y saif y Geninen i gario enw Eifionydd i'r oesau a ddaw fel gwr Hen- gar, anturiaethus a llwyddianus. Ceir cipdrem lawn yn yr erthygl gyntaf ar hanes y cyfnodolion Cymreig yn ystod y 'chwarter canrif diweddaf gan Anthropos Erthygl fywiog a graenus, teilwng o'r lienor campus hwn. Pan yn ymwneyd a'r .ftpyddyn 1890, yn mhlith pethau eraill, gweiir y geiriau canlynol ■" Un arall o'r llu ydoedd "Yr Athronydd C/mreig," dan olygiaeth y diweddar Monwyson. Credir iddo yntau ym- ddangos braidd yn anhymig, cyn i athroniaeth gael ei gwerthfawrogi yn briodol yn ein gwlad ondy mae yn dra sicr ei fod yn gyhoeddiad gwych, yn meddu ar safon uchel, ac yn rhagredeg- ydd i gyfnod gwell." Ofnwn ninau i Monwyson a'i fawredd ymddangos a diflanu cyn i'w wlad na'i enwad weled ei ogoniant. Eryr o feddyliwr oedd y diweddar Barch William Evans Mon- wyson), a ninau megis aiar y to yn hel ein tameidiau yn rhy isel i lawr. Dyma ddywed am 1894, ,( daeth y di- weddar Barch John Evans (Eglwysbach), a'i "Fwyell" i goedwig llenyddlaeth. Yr oedd yr enw yn awgrymiadol a gellir dweyd am y Golygydd, ddarfod iddo gyfodi ei "fwyell mewn dyrysgoed." Yr oedd min ac awch ar Y Fwyell," er nas gellid dweyd mai tori i Jawr," neu ddinystrio, oedd ei phrif amcar. Ond purion peth fyddai cofio fod yna ddwy "Fwyell" yn perthyn i lenyddiaeth Cymru—"Bwyall Llawdden" a "Bwyell Eglwysbach. I'r sawl a ddarllenodd y "Fwyell" nid oes eisiau son am ei rhagoriaeth llenyddol. Beirniadaeth ar Chwarter Canrif o Lenyddiaeth Cymru yw'r erthygl nesaf gan wr o fain a Chymro pur, neb llai na'r cadeirfardd T Gwynn Jones. Nid yw pobpeth y Lenyddiaeth yn dda ganddo, a dengys y rhagoriaethau a'r gwendidau yn glir a theg. Doniol iawn yw ei ymdriniaeth a'r nofelau a nofelwyr: dyry yntau Daniel Owen ar y blaen hyd yn hyn ond gesyd obaith am ei hafal eto'n fuan iawn. Yn mysg ei sylwad- aeth ceir Yn y cyfnod hwn hefyd y tyfodd yr ystori fer a chawsom samplau rhagorol o honi gan Mrs Saunders, Miss Winnie Parry, a Mr R H Williams. Nid yw'r ystori fer yn nwylaw yr ysgrifenwyr hyn yn ddim tebyg i'r ystori fer Saesneg. Danghosodd Mrs Saunders allu mawr i ddisgrifio hen gymeriadau a rhoddi 1 leferydd i deimladau crefyddol. Y mae dawn Winnie Parry yn ddawn brinnach, y ddawn i weled a deall bywyd plant a hen bobl yn enwedig. Tebycach i'r chwedl fer Ffrengig yw eiddo Mr R H Williams, a medr olrhain teimladau nes cynyrchu'r un effaith ag a gyfyd rhai o ystraeon byrion Guy de Maupassant. Gair mawr onite, cydmaru Cymro ieuanc i un o'r gwyrblaenafynnglyn a'r math yma o waith ond nid gormod, gan fod dyfodol disglaer i'r Nofelwr hwn; ac nid rhyfedd ei fod mor naturiol a theimladwy, gan ei fod yn "fab y mynydd," wedi ei dynu drwy ddyfroedd chwerwon profedigaeth ac yn gallu bwrw ei galon ar bapwr yn rhwydd mewn Cymraeg glan ac ystwyth. Ma-, y Parch D Stanley Jones, er yn fyr, yn ysgrifenu'n dda ar "Oriel Goheb- n wyr y Geninen." Cwestiwn berwol y dydd, sef "Sosialaeth," sydd gan Mr Edward Foulkes, Llanberis. Dwy dudalen gymer Elfed ar "Y Pulpud a'r Iaith," ond y maent fel Elfed, yn Mawn trysorau. Er engraifft, Y mae, eto, ryw gopgni ysgoeheigaidd yn gyfrifol am lawer o eiriau estronol. Bu raid i bawb ohonom wrth amser i ddysgu nad oedd raid codi'r terman diweddaraf o'r Ilyfr newydd tanlli, er mwyn argyhoeddi gwrandawyr meddyldrwm ein bod yn ddarllenwyr, ac ar flaen yr oes. Ond wedi cael rhyw gymaint o brofiad mewn dwy iaith, anturiaf ddweyd nad oes dim yn werth ei gyhoeddi o'r pulpud nas gellir ei osod mewn iaith ddealladwy. Dichon y bydd raid gadael y term gwy- ddon,ol heb ei arfer, ond hawdd g sod ei gynwys mewn gair neu eiriau gyfleint ei ystyr i'r gwrandawyr. Pan demtirni i arfer termau o'r fath, doeth yw gofyn yn ddystaw—A ydynt yn anhebgorol ex mwyn goleuo, neu arfgyhoeddi, neu gadarhau enaid anfarwol ? Nid oes dim eiddilach na choegni, o flaen awel o ddi- frifwch." Dyma un arall, Nid oes yn holl gylch gwirionedd Crist ddim nas gellir ei draethu mewn Cymraeg glan,— gan ddeall, wrth hyny, Gymraeg sydd yn byw heddyw, ac nid wedi gorphen byw ddoe. Os bydd arni eisiau gair o iaith arall, gwyr pa fodd i'w Gymreigio, a rhoi iddo, o leiaf, le gyda'r gweision eyffog, os na fynn ei alw'n fab." Da iawn Elfed. Aed y genadwti adref. Tir newydd, fel arfer, sydd gan y Parch Rhys J Huws. Ei destyn ydyw "Ieuengrwydd a Henamt." Gwna waith da. Gorphena gydar brawddegau hyn —" Beth a gasglwn oddiwrth hanes cy- fundebau ac enwadau am le yr ieuanc a'r hen yn yr eglwys ? Cymerer y cy- fundebau Cymreig, erengraipht. Nod- weddir yr Annibynwyr gan ryw ieuen- grwydd rhyfedd codant angor yn ami, ami, a rhoddant le eithriadol i wyr ieuainc yn eu huchelwyliau a'u bywyd eglwysig. Perthyn iddynt hanes gogoneddus. Rhoddodd yr enwad ei waed a'i arian yn ddiwarafun ar allorau rhyddid ond tybed fod pob achos a achleswyd ganddo yn deilwng o waed mor ddrud ac o olud mor brin ? Rhai o gyffelyb aidd yw y 3edyddwyr ond o orfod yn fwy cynullgar na'r adran arall o'r Cynull- eidfaolwyr. Rhydd y Wesleyaid le parchus iawn i'r hen a'r aeddfed ac y mae athrylith drefniadol fel yr eiddo Dr Rigg yn cael awyrgylch gydnaws a hi ei hun i dyfu yn nhrefniant y cyfundeb. Rhydd y Methodistiaid Calfinaidd le arbenig i'r ddawn drefn- iadol a medd y Corph athrylith i bwyllgora'n gall a threfnu'n ddoeth. Mae llwyddiant yr enwad hwn i I) w- odraethu anian wyllt y Celt, ac i reoli camrau beiddgar y Cymro, yn dystiol- aeth gref i werth amynedd, profiad, a phwyll. Gall y credwr cryf redeg pan fo enaid mewn perygl, a gall eistedd yn L amyneddgar i drin y galon glwyfus- calon y byddai colli dyferyn o'i gwaed yn peri iddi beidio a churo, ac oeri am byth. Mor wasanaethgar ac mor dlws yw trigo o ieuengrwydd a henaint yn nghyd Pawb ei farn, ynte. Nid fel yna yr edrych pawb ar y cwestiwn i Y mae yn y rhifyn dwysged o erthyg- lau penigamp ereill ar wahanol bynciau teilwng o sylw ond ni chaniata gofod i fanylu, ac yn eu mysg ceir un o waith y llenor Wesleyaidd gwych, Mr Edward Rees, Y.H., Machynlleth, ar Lyfrydd- iaeth Machynlleth." Cawn y geiriau i'w barhau ar y terfyn yn dynodi fod ychwaneg i dd'od. Diolch am hyny. Telir gwarogaeth ynddo hefyd i'r Hy- barch Owen Williams, gyda'r llinellau canlynol "Wylwn am Owen "William,—ein gwrol Ddyngarwr diadlam,— Gwr uniawn, gwHr, na wnai gam, A'r dawnus wladwr dinam. Yn y Deml yn Hawn o deimlad, dedwydd Y didwyll gymeriad Trwy ganmol y Dwyfol Dad, Codi a wnaeth y Ceidwad. Yn llawn, A'i ddagrau yn lli'—hyawdledd— Mawl-odlau addoli- A'i holl nerth cymellai ni Am Ryddid i ymroddi. T. JONES-HUMPHREYS. Dol,efus yw dy lwyfan,—O Walia !— Owen Williams ddyddan Wedt 'i gloi o'th bwlpud glftn Gred Jfol i ti yw gruddfan. Collodd ein brodir dirion-dduwinydd Emvog, collcdd Arfon Athronydd -aeth ar union Yn wyn sant i fynwes Ion. GWESFYE. Yn ddios, y mae rhifyn Ionawr o'r Geninen yn un o'r rhai goreu ac yn haeddol o sylw gan bob Cymro llengair. LEO. -n: n