Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

Treffynnon.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Treffynnon. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y gylch- daith yn ysgoldy Pendref, Treffynnon, dydd Mercher, Ionawr 8fed, o dan lywyddiaeth y Parch A Lloyd Hughes. Cafwrl cynrych- iolaeth luoscg. Wedi gorphen gyda'r rhan .agoriadol, darllenwyd -cof nodion y cyfarfod blaenorol gan yr ysgrifenydd, Mr J D Will- iams, a chadarnhawyd hwynt. Cyfeiriodd y Llyw-ydd at y golled gafodd eglwys Pendref yn symudiad dwy o'u haelcdau ffyddlonaf oddiwrth eu gwaith at eu gwobr, sef Mrs Evans, gweddw y diweddar Barch John Evans (Iota Eta) a Mrs Davies, priod Mr Thomas Davies, saddler. Gwnaed sylwadau buddiol a phwrpasol gan Mr Daniel Pierce, ■a phenderfynwyd anfon llythyr o gydym- deimlad a'u teulucedd. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr William Williams yn ei afiechyd, gyda dymuniad am adferiad fcuan iddo. Darllenwyd y cyfrifon arianol gan Mr D Pierce, a rhoddodd ar ddeall fod safle arianol y gylchdaith yn 'wy boddhaol Tiag y bu er's llawer iawn o flynyddoedd. Cydsyniodd a chais y cyfarfod i ym weled a phob eglwys er gwneuthur trefniadau neillduol i glirio y gweddiill o'r ddyled. Cafwyd penderfyniadau Pwyllgor yr Undeb Ysgolion a'r Gymanfa Ganu gan yr ysgri- fenydd gweithgar Mr J 0 Williams, a phas- iwyd hwynt gydag unfrydedd. Rhoddodd y Parch David Roberts, yr ysgrifenydd dir- westol, ,adroddiad hynod foddhaol i'r cyfar- iod. Diolchwyd ac ail-etholwyd y swydd. ogion c.an]ynol :-Ysgrifenydd y capelau, Mr J T R Evans ysgrifenydd y Cyfarfod Chwarterol, Mr J D Williams; ysgrifenydd .addysg, y Parch David Roberts; trysorydd casgliad yr Ysgol Sabbothol, Mr William Williams; trysorydd casgliad y Gwednidog- ion Methedig, Mr Robert Richards; trysor- ydd ac ysgrifenydd Gronfa Ymgeiswyr am y Weinidogaeth, Mri John Price a John [Littler; goruchwylwyr y gylchdaith, Mri Daniel Price a Joseph Jones. Galwyd sylw y cyfarfod at rodd haelionus y mae Mr Edwin Jones, U.H., Clapham, Llundain, yn bwriadu ei gyflwyno i drigolion Treffynnon a'r cylchoedd o dir a "hospiLal," gwerth .[lras fil o bunau. Yn Nhreffyanon y gan- wyd 'M! Jones, ac yn eglwys Pendre-f y magwyd ef, ac nid yw y rhodd hon ond parhad o luaws o roddion blaenorol i'r dref a'r gylchdaith. Penderfynwyd gydag un- frydedd fod llythyr yn cael ei gyflwyno addo am y rhodd anrhydeddus agwir ang- enrheiddol i'r rhanbarth yma. Y Cyfarfod Chwarterol nesaf i fod yn Mhentref Helyg- ain. Ymwahanwyd i gael ymborth yn Peckham House. Am saith cafwyd cyfar- fod i flaenoriaid y gylchdaith, ac arwein- iodd y Llywydd y cyfarfod gyda medrus- Twydd a doethineb. Galwodd ar y Parch íDavid Roberts i anerch y cyfarfod, a chaw. som sylwadau cynwysfawr fydd yn gyfar- wyddyd ac yn gynorthwy i gyflawni y swydd bwysig a ymddiriedwyd i ni gyda mwy o sel ac arwedniad dwyfol. Cafodd pob mater yn y rhaglen sylw manwl, a siarad- wyd gan amryw o'r brodyr gyddg addfwyn- der a gonestrwydd. Cafwyd dau gjrfarfod bendith:ol, a therfynwyd Lrwy fawl a gweddi,

Wyddgrug.

o ;0--Gair o Birkenhead.

: o: YNYSYBWL.

IGair o Hanley.

I : Q : O'r Wyddgrug. -----

I'•: O: — — I 1 ; PEXCARNISIOG,…

ABERDYFI.

ABKRMAfW.

AMLWCH.

CAERGYBI.

Towyn.