Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

SOSIALAETH A CHRISTIQNOGAETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SOSIALAETH A CHRISTIQNOGAETH. LLAWER 0 gymeradwyo, ac efallai mwy o gondemnio, sydd ar Sosial- aeth yn y dyddiau presenol. Myn un dosbarth mai hi yw y gyfundrefn o wleidyddiaeth a ddug iachawdwriaeth gymdeithasol i'r dosbarth gweithiol, I tra y myn dosbarth arall ei bod yn ar- wain dynion ar gyfeiliorn, ac os daw i awdurdod y bydd iddi wysio i mewn deyrnasiad dychryn (reign of terror), a fydd yn ddinystr i lwyddiant y wlad. Ond nid ydym yn meddwl fod y gwir wedi ei ddarganfod gan y naill blaid na'r Hall. Nid yw Sosial- aeth i sylweddoli y da na'r drwg a awgrymir uchod. Ar yr un pryd credwn fod yn perthyn iddi wirion- eddau ac egwyddorion yn dwyn delw I ac argraff yr hyn sydd yn sylweddau dwyfol a thragwyddol, fel nas gall yr un gyfundrefn, neu yn fwy priodol, efallai, yr un blaid wleidyddol, lwyddo trwy eu hanwybyddu. Pa fodd y gall yr un blaid wleidyddol lwyddo heb gydnabod hawliau cyffredinol cyfangorph y bobl, ac i weinyddu cyfiawnder i bob un yn ol gof- ynion yr hawliau hyny ? Hon ydyw un o egwyddorionj sylfaenol Sos- ialaeth, a phwy na chydnebydd ei thegvvch ? Yn wir, proffesa pob plaid wleidyddol yr egwyddorion hyn, a dadleuant drostynt, ond yn eu hymar- ferion gwadant hwy. Ni bu yr un blaid wle.idyddol erioed eto mewn awdurdod yn ein teyrnas, a roddas- ant fodolaeth ymarferol i'r egwyddor- ion yn eu cyfreithiau a'u deddfau. Pa gyfraith saifarddeddf-lyfrauein gwlad heddyw na welir arnynt yn amIwg 61 compromisio a mammon ac ag ang- hy-fiawnderau eraill ? Gydag ychydig iawn o eithriadau, mae deddfau ein gwlad yn fwy ffafriol i'r cyfoethog nag ydynt i'r tlawd. Na alwer Senedd ein gwlad yn SENEDD GRIS- TIONOGOL tra y mae y mesurau a besir ganddi yn ddeddfau, yn erthyl- iad o gyfiawnder, Onid yw bron yr oil o aelodau Rhyddfrydol a Thori- aidd ein Senedd yn proffesu eu bod yn Gristiongion, ond gofynwn-Pa le y mae eu Cristionogaeth yn eu deddf- wriaeth? Ac hefyd, pa le y mae Cristionagaeth yn ngweinyddiaeth y deddfau mewn llawer engrafft yn llysoedd ein gwlad ? Oddiar ystyriaeth ac ymdeimlad o hyn y cyfododd Sosialaeth yn y blynyddoedd diweddaf, ac am hyny nis gallwn ei chondemnio fel cyfun- drefn a'i bryd ar ddinystrio dedwydd- wch dynion, a thrwy hyny gynyrchu trueni. Rhaid cydnabod fod dwyfol- deb yn perthyn i bob cydymdeimlad a amlygir ar sawl sydd mewn gwasgfa CP a chyni. Ac yn wir, mynegiant o hyn yw Sosialaeth, a'i hamcan proffesedig ydyw dyrchafu y gorthrymedig a'r rlieidus i amgylchiadau yn y rhai y gallant fwynhau cysuron bywyd. Nid yw yn addaw cyfoeth i neb, ond addawa yr hyn sydd lawer gwel), sef dyogelwch o gysuron cymdeithasol. Mor bell a hyn cydnabyddwn fod Sosialaeth yn dda, ac yn haeddol o gefnogaeth. Yn wir nid yw yn ddim amgen na chymwysiad o egwyddorion Cristionogoeth at fywyd cymdeith- asol a gwleidyddol. Ac yn ol ein tyb ni, nid oes yr un gyfundrefn o wleidydd- iaeth all fyw yn y dyfodol, ond yr hon a gymwysa egwyddorion Teyrnas Nefoedd I at amgylchiadau y byd a'r bywyd hwn. Mae Cristiongaeth yn sefydliad dwyfol nid fyn unig i gynysgaeddu dynion a thrwydded i fyned trwy y porth i'r Ddinas Nefol, ond hefyd i wneyd y ddaear yn nefoedd, a dynion fel angelion Duw. Credwn mai Sosialaeth Gristionogol fydd galiu mawr gwleidyddol y dyfodol, a'r gwleidyddwyr a wnant drefn ar y byd fydd y rhai hyny ag y bydd eg- wyddorion Teyrnas Nefoedd yn ffeithiau ymarfel yn eu bywyd a'u cymeriad. Nis gall cgwyddorion mewn proffes a chredo lwyddo. Hyd yn nod pan fo'r amcan yn dda, os bydd bywyd a chymeriad y sawl a'u proffesa yn brotest yrnarferol yn erbyn y cyfryw. Gall dyq broffesu ei fod am sobri y byd, ond ni lwydda byth tra y bydd yn meddwi ei hunan. Dyma lie mae gwendid mawr Sosialaeth Anffyddol yr oes i sylweddoli yr amcan sydd ganddi mewn gohvg. Rhaid i'r rhai a.broffesaut fod yn adferwyr dynol- iaeth fod eu hunain yn engreifftiau byw o'r pywerau adferol. Nis gall neb fod ynJ offerynau i ddyrchafu plant dynion tra yn diystyru a gwawdio y moddion dwyfol a sefydlwyd i'r amcan hwnw. Un o factors hanfodol dychafiad dyn ydyw purdeb personol a cbymdeithasol. Pwy bynag sydd yn amddifad o'r cyfryw nis gall wneyd gwaith adferwr a gwared- wr i'w gyd-ddynion. Dirmyga cym- deithas ddirywiol a thrwmlwythog y cyfryw trwy daflu i'w gwynebaa yr hen ddiareb—" Y meddyg, iacha dy hun." "Os y claIl a dywys y dall, y ddau a syrthiant i'r ffos." Mae anhawsterau gwleidyddiaeth y dyfodol yn fawrion iawn, ac nis gellir eu goresgyn ond trwy bwyll a doethineb. Bydd yn rhaid llywodraethu Divvydianau y wlad yn gyfiawn a theg, trwy roddi i Gyfalaf a LIafur eu lleoedd a'u hawliau priodol. N!s gall hyd yn oed Sosialaeth lwyddo oni bydd iddi gymeryd i'r cyfrif yr unigol yn ogystal a'r cymdeithasol. Peithyna i ryw fath o Sosialaeth heddyw lawer o ddelfrydau na sylweddolir byth mo honynt ond credwn yn sicr fod holl ddelfrydau Teyrnas Nefoedd i gael eu sylweddoli yn Hawn. Ar hyn o bryd, y ddau gwestiwn mawr Scsialaidd ydyw y Tir a Pensiwn Hen Bobl. Rhaid setlo cwestiwn y tir yn hwyr neu yn hwyrach. A chredwn mai yr unig settlo cyfiawn a theg arno fydd i'r Llywodraeth ei feddianu, a hyny trwy da!u allan bawb a Jeddant yn awr fuddiant personol ynddo. Pa bryd y daw y cwestiwn hwn o fewn terfynau gwleidyddiaeth ymar- ferol, nis gallwn fynegu ond y mae Pension Hen Bobl felly yn awr. Cwestiynau eraill sydd o fewn cylch gwleidyddiaeth ymarferol ydyw Addysg, y Fasnach Feddwol, a Dadgysylltiad Nis gellir cymeryd yr holl gwestinau i fyny ar unwaith. Yn hytrach rhaid eu cymeryd i fyny bob yn un, fel y bydd y wlad yn galw am danynt, ac yn addfed i'w derbyn. Mor bwysig, gan hyny, ydyw i'r llywodraeth fyddo mewn aw- durdod i ddeall teimlad y wlad, ac i fod yn ffyddlon i'r ymddiriedaeth a roddwyd iddi ? Ofnwn fod y Weinyddiaeth bresenol wedi methu yn hyn. Anfon- wyd hi i awdurdod i settlo Cwestwn Addysg. Ond gan iddi fethu trwy i Dy yr Arglwyddi ei wrthod, dylasai y pryd hwnw apelio at y wlad a diameu y cawsid gweled mai Trech gwlad nag Arglwydd." Ymddengys i ni fod y Llywodreth fel pe yn chwareu gyda mesurau mawrion trwy fyaed yw dadleu yn Nhy y Cyfftedin, a hwythau yn gwybod y gwrthodir hwy oil gan Dy yr Arglwyddi.

" Y DDAWN ANRHAETHOL' '"

Symudiad Ymosodol i Ogledd…

..CROESOSWALLT.

CILrYNYDD.

GALLTMELYD.