Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
AT Y DERBYNWYR. G;w Canu Llun y Sulgwyn yn Ngheredigion" yn ein nesaf. Hoffem glywed etto oddiwrth ein gohebydd. Diolchwn i'r cyfeilJion hyny ag ydynt wedi anfon enwau newyddion i rii at SEREN CVMRtr. Gwelir fed y Rhifyn preSenol yn cynnwys dau dudalen yn rhagor nag arferol, drwy fod yr hysbysiadau wedi eu gadael allan; gwneir yr un fath yn y Rhifynau dyfodoL Pris SEREN CYMRU yw 2g. yr un, heb ei stampio a 3c. wedi ei stampio. Lie nad ellir cael y SEREN drwy Ddosparthwr, os cytunti dau neu dri i'w der- byn, ac anfon y taliad yn mlaen am chwarter, gofalir am eu hanfon yn rheolaidd drwy y post yn rhad. TALIADAU. Derbyniwyd taU&dan-oddiwrth—E. E. Parselle, D. It. D. Pentre- poetb, M. T. Abersychan, T. J. Llanelli, J. T. Llwynhendy, W. G. Felihfoel, I, G. Horeb, J. R. Myrtle Hill, D. D. Witton Park, T. D. Caefylchi-, L. E. Llandilo, H. J. Tafarnaubach, W. J. Merthyr, E. D. Pentrebachj I. H. Llundain, J. L. Maesteg, D. O. Trefdraeth, B. It. Granant, J. E. Glasgoed, I. G. Glanymor, I). W. Clydach, D. J. Gilfách, J. W. T. Talywerti, J. D. Rumni, J. D; Ystalvvera, D. S. Castellnedd, D. S. Caerfyrddin, D. G. Rhydnanty, B. T. Penrhiw- goch, J. J. Llandyssil, a J. T. Towyn.
ETHOLIAD SIR GAERFYRDDIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ETHOLIAD SIR GAERFYRDDIN. DRWY farwolaeth ddisymmwth Saunder Davies, Ysw., daeth cynttrychiolaeth Sir Gaerfyrddin yn wag. Enw- wyd amryw foneddigion fel rliai cymhwys i lanw y swydd; ond dau yn unig a anerchasant yr etholwyr, sef y Meistriaid J. Lloyd Davies, BlaendyfFryn, a D. Pugh, Manarafon. Rhag rhanu y Ceidwadwyr yn y sir, trefnwyd gan Charles Bishop, Ysw., ysgrifenyddy blaid Geidwadol, fod cyfarfod i gael ei gynnal ar yr achos, yr hwn a gymmerodd le yn Ngwestdy y Llwyn Eiddew, yn y dref lion, ar y 3ydd o'r mis hwn. Galw- wyd Syr John M-ansell i'r gadair, yr hwn a hys-bysodd fod amryw foneddigion yn barod i ateb i'w gwahodd- iadau. Enwodd Mr. Lloyd Davies, Mr. Pugh, Mr. Arthur Davies (mab yr hen aelod), Syr James Hamil- ton, a Mr. Howel Gwyn (yr aelod diweddar dvos Fal- mouth). Penderfynodd y gwyddfodolion fodyfrwydr i fod rhwng Mr. Lloyd Davies a Syr J. Hamilton a phleidleisiodd y mwyrif o du y blaenaf. Fodd bynag, nid oedd ey.feillion Mr. Pugh yn foddlawn i weithred- iadau y cyfarfod, ac yr oedd amryw o honynt wedi ymadael cyn dyfod i'r penderfyniad uchod; a'r can- lyniad fu, i Mr. Pugh, ar gefnogaeth ei gyfeillion, benderfynu cynnyg ei hun fel eynnrychiolwr. Yr ydym wedi darllen anercliiad Mr. Dayies at yr etholwyr, ac nid ydym yn canfod dim yn neillduol yn- ddo, ond yn unig ei fad yn cae I cryn foddlonrwydd ynddo ei hun. A phe buasai yn gwneyd addewidion, pwy roddaiymddiried ynddynt? Cof genym am ei addewidlon pan etholwyd ef dros fwrdeisdrefi Sir Aberteifl, ac am ei ymddygiad yn y Senedd ar y mater. Mae anerchiad Mr. Pugh yn rhoddi boddlonrwydd i latfer o Ddiwygwyr, am nad yw yn cylymu ei hun wrth un blaid neillduol; ond awgryma ei fod dros welliant, diwygiad Seneddol, cynnildeb yn ngwariad arian y wlad, a diddymiad y dreth Eglwys. Saif Mr. Pugh yn uchel yn y sir ac er nad yw yn egluro ei hub. yn Ddiwygiwr trwyadl, etto mae yn dra thebyg y pleidir ef gan y mwyrif o'r Ymneillduwyr, pe na bydd- 3i ond er attal Mr. Davies i ennill y fiuldugoliaetb. Gall llawer ofyn, Faham na fuasai yr Ymneillduwyr yn dyfod a divvygiwr trwyadl i'r maes, gan mai hwy yw y dosparth lluosocaf yn y Sir ? Yr ateb yw,-eu bod yn ohii anturio i'r frwydr hyd nes y ceir y Tugel a chan fod Mr. Pugh yn proffesu ei hun yn bleidiwr i weinyddiaeth Argl. Pahnerston, barnwyd gan laweryn ddoethineb ei gefnogi. Wedi ysgrifenu y sylwailau blaenorol, deallwn fod Mr. Lloyd Davies wedi ffoi o'r maes Cafodd allan yn ddiau fod ei wrthwynebwyr yn rhy gryf; ac, o ganlyniad, mai ofer fyddai iddo ef sefyll brwydr. Caf- odd Mr. Pugh felly y maes iddo ei hun, ac etholwytl ef ddoe yn Llandilo yn ddiwrthwynebiad.
SPURGEONIAETH. -' :'1
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SPURGEONIAETH. 1 FOD pregethu dylanwadol aphoblogaidd y gwr ieuanc, Mr. Spurgeon, yn Nghaerludd, wedi effeithio ar lawer 0 enwogion yn yr Eglwys Sefydledig, ac wedi codi awyddfryd ynddynt i'w efelycliu, sydd wirionedd di- ymwad. Nid yw liyn yn rhyfedd canys pawb ag ydynt yn gyfarwydd a hanes Diwygiadau Crefyddol yn Mhrydain Fawr, a wyr fod pob cyffroad o wir werth yn yr Eglwys Waddoledig wedi ei achosi gan fyvviog- rwydd a chyfFrbadau. yn mhlith yr Ymneillduwyr. Hwy ynt geiliog y Diwygiad, yn deffroi y cysgadurion. Felly yn awr, mae dynion da yn Eglwys Loegr a ddy- munant fod yn offerynol yn iechydwriaeth dynion. Sychedant am fyned i'r Balm o Gilead at y bob!. Ni ddaw y tlodion i'r eglwysi ardderchog, ag ydynt wedi eu llawr-Ieni a'n gwrthleinio. Edrychant ar y rhai hyn fel yn eiddo i'r cyfoethogion, ac nid eu lieiddo hwy. Mae cynnvg wedi ei fabwysjada yn ddiweddar, mewn efelychiad i'r Parch. C. H. Spurgeon, dan nawdd a chymmeradwyaeth Esgob Caerludd, gyd&'r atnean o gael gafael yn y bobl. Hiriwyd ystafelleang Exeter Hall (gwrthodwyd lion i Mr. Spurgeon), a deehrenwyd pregethu yno nos Sul ddiweddaf yn mis Mai, i'r tlodion nad oeddynt wrandawwyr yn un man avail; a bwriedir cynnal cyfarfodydd yno am ddeuddeg Sabboth. Esgob Carlisle a bregethodd gyntaf, oddi- wrth Gal. 4, 30, yr hon oedd yn bregeth gymhwysiad- 01 i'r achlysur, ac yn deilwng e ddoniau Mr. Yilliers. Yr oedd yr ystafell yn llawn. Y Sul canlynol, preg- ethodd y Parch. W. Cadman, St. George; Soutbwark, oddiar Jer. 13, 23. Gorfu ar gannoedd fyned ymaith o eisieu lie y Sabboth hwn. Pan ag yr efelychir mesurau yr Ymneillduwyr gan swyddogion Episcopalaidd, mae hyny yn sicr o ennyn anfoddlonrwydd yn yr Uchel Eglwyswyr. Hyn a gyn- hyrfodd Arglwydd Dungannon i godi i fyny yn Nhy yr Arglwyddi, gan gyflwyno gofyniad i Esgob LIun- dain, gyda golwg ar fod ofFeiriaidyr Eglwys Sefydledig yn pregethu yn Exeter Hall. Barn ei Arglwyddiaeth oedd, "nad oedd hyn ond arwain i mewn i'r Eglwys- math o Spurgeoniaeth, ac na allai fod o un lies iddi." Gofynai hefyd, os oedd hyn dan nawdd ei Arglwydd- iaeth, ac yn gyfreithlawn, ac yn unol a rheolau a dys- gyblaeth yr Eglwys Sefydledig ? Nid oedd efe yn gwybod fod Exeter Hall wedi ei chyssegru at wasan- aeth crefyddol." Esgob Llundain a gyfaddefai "fod y cyfarfodydd hyn yn cae! eu dwyn yn mlaen drwy ei ganiatad; a'u bod yn gyfreithlawn yn ol yr ysgrif a ddygwyd i mewn y llynedd gan Iarll Shaftsbury. Ys- tyriai ef hyn yn wir angenrheididl, er mwyn i'r Eg- lwys gyfaddasu ei liuu i amgylchiadau y bobl." Gwrthwynebir hyn gan yr Uchel Eglwyswyr, yn gyntaf, am ei fod yn efelychiad i'r Ymneillduwyr, Nid ynt yn gofyn a yw y mesur yn debyg i fod o !«#■>.