Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
DULL NEWYDD 0 GYHOEDDI PREGETHWR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DULL NEWYDD 0 GYHOEDDI PREGETHWR. MR. GOL. Y mae yr hen ddiareb bellach fod pob peth yn cyfnewid gyda'r oes. Nid yr un fath y mae pethau yn cael eu cario yn mlaen yn yr oes hon ag oeddynt yn yr oesoedd sydd wedi myned heibio, a dichon y bydd llawer o gyfnewidiadau yn yr oesoedd dyfodol etto. Fodd bynag, ymddengys fod dull hollol newydd o gyhoeddi pregetbwr wedi ei fabwysiadu yn ddiweddar yn ardal E—r, yn mhlwyf LI—n, yn Sir B—o. Boreu Sabbath, Hyd. 7fed, wedi terfynu y cyfarfod, ac wedi i'r gwrandawwyr fyned allan ilr fynwent, wele rhyw ddyhiryn a adnabyddir wrth yr enw Dai'r Sweep, yn codi i fyny, ac yn cyhoeddi dwy o Auctiwnau yn gyntaf yna yn bloeddio yn wawdlyd fod ei frawd anwyl, y Parch. D-, yn pregethu mewn man neill- duol o'r gymmydogaeth y noson bono. Er mai dyn hollol ddigymmeriad oedd y crier, etto nid wyf yn ammeu nad oedd y parchedig dan sylw yn frawd iddo mewn ystyr, a thebyg yw ei fod wedi rhoddi gorchymyn iddo (neu o leiaf ganiatad) i'w gyhoeddi yn y man hwnw, er oowyo feallai, gael gweled faint o ddefaid a fuasai yn troi
[No title]
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
lau, Ion. lOfed.—Rhydd ledaeniad Gair Duw, abendith ar lenyddiaeth Gristioriogol. Gwener, Ion. lleg.—Tyvvalltiad helaeth o'r Ysbryd Glan ar holl esgobion, bugeiliaid, a henuriaid yr eglwysi, ar holl golegau dysgeidiaeth Gristionogol, ac ar bob cenadwr Protestanaidd yn mhlith luddewon a Chenedl- oedd, ar ddychweledigion, eu gorsafoedd, acarfaesydd eu llafur. Sadwrn, Ion. 12fed.-Dymchweliad buan pob gau- grefydd, a llawn gyflawniad y weddi, 11 Deued dy Deyrnas." Sabboth, Ion. 13eg,-Diolchgarwch am yr adfywiad boreuol; a'r cyfrifoldeb pwysig sydd yn gorphwys ar bob Cristion i dreulio ac ymdreulio i wneyd enw yr Arglwydd Iesu yn hysbys gai-tref ac oddicartref. Pregethau cenadol. Y mae y cytinygiad yma wedi ei lawnodi gan swydd- ogion y Cyngbrair Efengylaidd, a chan oddeutll cant o weinidogion enwocaf yr Eglwys Sefydledig a'r Ymneill- duwyr ac y mae yn lion genym ei gyflwyno i sylw ein darllenwyr, gan obeithio y bydd iddynt dalu sylw priodol i'r pwnc.
-. BRWYDR VOLTURNO.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BRWYDR VOLTURNO. DYFYNWN yr hanes cantynol o frwydr fawr Volturno o lythyr gohebydd newyddiadur Ffrepgig, yr hwn oedd yn bresenol yn y frwydr :— Dangosodd Garibaldi fywiogrwydd mawr yn ystod y pump lieu y ehwe diwrnod diweddaf. Y mae milwyr y brenin, o'r ocbr a rail, wedi adeiladu gweithiau aruthrol ar lenydd deheuol y Volturno; y maent yn meddiannu y se- fyllfaoedd mwyaf ffafriol, heb grybwyll am amdditfynfa Capua. Yn Maddaloni yr oedd canolbwynt gweithrediadau Garibaldi. Yr oedd eu liasgell aswy yn ymestyn o Santa Maria i Aversa, ac yn cael ei hamddiffyn yma gan gamlas sydd yn rhedeg trwy y wlad, ae yn cael ei meddiannu gan yr Is-gadben Corte, gyda gwirfoddolion Basilicate. Dydd Sadwrn, cymmerais y rheilffordd, ac ymwelais a Santa Maria. Yr oedd y milwyr blaellaf yn tanio yn ddi- baid y dydd blaenorol. Yrnddangosai milwyr y brenin yn benderfynol i ymladd, cariys cynllun Garibaldi oedd bod ar y diffynol. Cyfarfyddais ag Ardalydd Pallavicini yn dych- welyd o Caserta. Gwslais Gariba!di yn Santa Maria, ac ymddangosai yn gyffrous iawn, meddylgar, â'i vyneb wedi duo trwy fod yn agored i wres yr haul. Yr oedd yr orsaf yn llawn o gerbydau cyflegrau, gynau, &c., ac yr oedd y cadweinyddion yn gorcbymyn i bawb ymwthio yn mlaen tua'r Volturno. Yn ystod y nos, clywais swn rnagnelau yn nghyfeiriad San Angelo. Dydd Sabboth, Medi 30ain, gyda thoriad y dydd, yr oedd Santa Maria yn liawn cyffro. Yr oedd y milwyr wedi myned i'r lluestdai cycbwynodd Garibaldi i San Angelo parhaai milwyr i gyrhaedd, a rhedai cyflegrwyr trwy y dref. Yr oedd gwynebau y bobl yn llwydion a chyffrous. Yr oedd y faner drilliw wedi ei thynu i lawr mewn rhan oddiar rai o'r tai, ac yr oedd dr) sau llawer o honynt wedi eu cau. Am chwech o'r gloch, Hydref laf, gadawodd 16,000 o wyr—o ba rai yr oedd 5,000 yn wyr meireli-Capua, o dan lywyddiaeth y Cadfridog Palmieri, gyda phump o gyflegrau o dan lywyddiaeth y Cadfridog Negri. Y prif gadlywydd oedd y Cadfridog Ritucci. Yr edd y Cadfridogion Afan de Rivera Barbalogna, a Von Michel wrth ei alwad. Cefais y manylion hyn gan Cadben Perelli, yr bwn agymmerwyd yn garcharor. Ar yr un pryd, aeth corfi" o 5,000 o wfr i Maddaloni i gymmeryd y Garibaldiaid o'r tu ol, ac i'w hattal rhag encilio. Yr oedd milwyr Francis II. wedi eu rhanu yn ddau gorff—yr oedd un i ymosod ar sefyllfa y Garibaldiaid wrth fwiiau Santa Maria, ac i dynu eu sylw i'r pwynt hwnw a'r llall i groesi trwy y caeau ar eu hochr ddeheuol, ac i ymosod ar Santa Maria o'r tu ol i'r Gari- baldiaid. Yr oedd corff arall o 1,000 o v/fc i gychwyn o La Piana, ac i groesi y Volturno islaw Cajazzo, a myne trwy San Leuchio. Yr oedd Garibaldi wedi rhagwele hyn oil, ac y mae yn syndod na buasai milwyr y brenin y gwybod mwy o hanes gweithrediadau y Garibaldiaid. Am banner awr wedi chwech, deehreuodd tan cyflym o'r llawddrylliau, ac yn fuan dechreuodd y magneUu ruo yn ddychrynllyd, Ymddangosai y boblogaeth yn gy- ffrous iawn, ac ymbarotoai pawb i amddifiyn eu hunain. Prysurais i'r He a chyrhaeddais yn uniawn pan oedd mil- wyr y brenin yn croesi dros 15 bwa y ffordd haiarn, gan ymlid y Garibaldiaid o'u blaenau. Am wyth o'r gloch, yr oedd y blaenaf eisoes yn Santa Maria, ger muriau y chwa- reufa campau. Tra yr oedd y Cadfridog Ritucci yn cario y symudiad hwn allan, gorchymynodd Garibaldi, yr hwn oedd wedi cyrhaedd i faes y frwydr, i'w filwyr wneyd symudiad cy- fatebol. Efe a barodd i gatrawd Melenchini adael San Tamaro ar ei aswy a Santa Maria o'i ol, a myned i'r caeau yr oedd milwyr y brenin i'w croesi. Fel hyn cafodd yr olafeu hunain rhwng dwy golofn u Garibaldiaid, wedi eu cau i fyny rhwng y ffordd haiarn a'r ffordd fawr, a'u llwyr amgylchynu. Llwyr ddyfethwyd y 7fed gatrawd o'r chwim- filwyr, oddieithr 35 o wr, cadweinydd, isgadben, a Cad- ben Perelli, y rhai a wnaed yn garcharorion. Y mae yn hollol anmhosibl i mi ddesgrifio ffyrnigrwydd dychrynllyd y frwydr, a gwir vvroldeb tawel y dynion oeddynt yn ym- ladd. Cymmerwyd ac adgymmerwyd sefyllfaoedd y Gari- baldiaid dair gwaith gyda blaen y bidog. Torai ergydion y magnelau y dynion i lawr yn ddidrugaredd. Ni ofynwyd ac ni ddangoswyd un drugaredd. Gwelais a'm llygaid fy bun ddynion clwyfedig yn cael eu trywanu ur bidog, a'r pistol yn cael ei ddefnyddio mewn brwydr a ddechreuodd a'r reitH, Oddieithr y Siciliaid a Neapolitiaid dinas Naples, yr oedd pob dyn yn gwneyd ei ddyledswydd gyda brwd- frydedd. Y mladdodd yr Italiaid heb roddi un floedd, bron yn gwbl ddystaw. Yr oedd yn ddiwrnod hyfryd, yr haul yn tywynu yn ei holl ogoniant. Oddeutu canol dydd, trodd y frwydr yn ffafr y Garibaldiaid; darfyddodd swn y ma»nelau, a dechreuodd gwen c'nwareu ar wefusau, a'rlliw ailymddangos ar fochau llawer o'r gwladgarwyr. Yr oedd y Garibaldiaid yn fynych heb gad-ddarpariaethau yn ystod y dydd, a buont o chwech yn y boreu hyd un o'r gloch heb damaid o fara na dyferyn o ddwfr o dan haul llosgedig. "Am dri o'r gloch yn y prydnawn, ildiodd milwyr y brenin yn mhob man, a floisant i Capua. Ymosodid arnynt, a lleddid hwynt gan hyd yn oed fechgyn. Yr oedd y lladdfa yn ddychrynllyd. Ms gellir etto gyl'rif y lladdedigion. Yr oedd y brenin ei bun, mewn dillad cyffredin, yn. llywyddu y fyddin. Gwelid ef yn barhaus dan dan. Y mae yn amlwg mai hwn oedd ymdrech olsf Francis II., yr hwn, pe buasai yn fuddugol, a fuasai yn myned i'r brif ddinas."