Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Family Notices

Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu

GANWYD,- Hyd. 4, Mrs. Lewis, priod Mr. L. Lewis, Cigydd, Bron- eim, C ayo, ar fab. Hyd. 11, priod Mr. W. Williams, Tredomos, Caledfwlch, ar fab. Hyd. 18, priod Mr. Evan Evans, Cylchwr, Caledfwlch, ar ferch. Hyd. 25, priod Mr. John Davies, Cilgadan Uchaf, Llan- defei!og, ar ferch. Hyd. 25, priod Mr. W. Evans, Meidrim, Llandefeiliog, ar ferch. PRIODWYD,— Hyd. 20, yn eglwys Llensamlet, Mr. Evan Evans, Craig- yduke, a Miss Sarah Williams, Llansamlet. Hyd, 27, yn eglwys y Bedydwyr, Llanidloes, o flaen Mr. W. Jarman, ieuaf, gan y Parch. J. Vaughan, Staylittle, Mr. Robnrt Williams, llifiwr, a Miss Catherine Jones, y diau o'r lie ac yn aelodau gyda'r Bedyddwyr., Tachwedd 2, yn eglwys plwyf Talyllychau, gan y Parch. Mr. Thomas, Ficer y lie, Mr. Thomas Jones, Plas Taly- llychau, a Miss Anne Thomas, Pwllecochion, Llansadwrn. MARWOLAETHAU. Yn ddeg mis oed, dau o efeilliaid, plant i Mr. Joseph Lewis, ger Nofle Newydd, Llanelli. Gosodwyd hwynt, o ran eu cyrff, yn mynwent gwahanol enwadau y lie. Bu un farw Hyd._19, a'r Hall ar yr 21ain o'r un mis. Gadawodd y rhai bychain hyn Y byd a'i holl drafferthion, I etifoddu'r gwynfyd pur, 0 fewn i'r dilyth Sion. Boed i'r rhieni yma'r fraint 0 wasanaethu'r Arglwydd, Fel caffont yn y byd a ddaw, Ei wenau yn dragywydd. Llanelli. CADWGAN. Hyd. 18, yn 28 oed, Mr. Richard Peregrine, Cilywaen, Llandilo Fawr, Tach. 3, Elizabeth Hancock, hen wraig barchus, yn 82 mlwydd oed, gwraig Mr. George Hancock, Rhydyfran, ger St. Clears. Hyd. 30, yn 36 oed, Margaret, gwraig Mr. J. Thomas, Arolygwr yn N gwaith Balckow a Vaughan, Middlesbro', sv.-ydd Gaerefrog Merch ydoedd i'r caredig a'r hybarch Edward Oliver, gynt o Lyn Ebbw. Bu yn aelod ffyddlon a iwyd yn nghyfundeb y Bedyddwyr am fwy nag ugain lyiedd. Gadawudd briod a pbucijt o rat tacb, iieUaw lluaws o gyfeillion, i alaru ar ei hoi. Dydd Gwener canlynol hebryngwyd ei gweddillion marwol i d9 ei hir gartref, yn ngladdia Middlesbro. Bu farw, yr ydym yn hyderus gredu, a phwys ei henaid ar ei Hanwylyd. Hyd. 22ain, yn 78 mlwydd oed, terfynodd Mr. William Bowen, Pantyffynnon, ger Cross Inn, Llandybie, ei yrfa yn y bywyd hwn. Bu yn aelod parchus gyda'r Bedyddwyr am 40 mlynedd, ac yn/ddiacon hefyd am 35 mlynedd, ac yr oedd yn llanw ei swydd yn ardderchog. Yr oedd yn gynghorwr pwyllog, yn weddiwr gafaelgar, a theimlir galar dwys gan eglwys Ebenezer, Cross Inn, o herwydd colli ei hen flaenor parchus. Y dydd Iau canlynol, ymgasglodd tyrfa luosog ynghyd, er hebrwng ei ran farwol i dp ei hir artref, a chladd- wyd ei weddillion yn mynwent Ebenezer. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Brodyr D. Williams, Gerazim, a J. Tho- mas, Saron.-G. H. Hyd. 28ain, yn 56 mlwydd oed, Mr. Thomas Thomas, Cillinfach, plwyf Talyllychau. Yr oedd yr ymadawedig yn a lod hardd a rheolaidd gan y Methodistiaid Calfinaidd, yn Esgairnant, er ys llawer o flynyddoedd, ac yn cael ei ystyried yn un o'r bechgyn mwyaf tawel a diniwed yn y plwyf. Hyd. 30ain, yn 66 mlwydd oed, Mr. Evan Parry, Peny- rhiw, plwyf Llandilofawr, mab y diweddar John Parry, gynt o Lwynyrhebog, cludwr coed. Yr oedd ef a'i dad yn eu hamser yn cael eu hystyried y cludwyr coed enwocaf yn Sir Gaerfyrddin.

-..iattmmt CartreM.

[No title]

WIDE-AWAKES.