Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Yr Y m080rliad ar y Gwersyll…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Yr Y m080rliad ar y Gwersyll yn Tang-Kow. Yr oedd y gwersyll gwrthgloddiedig yn Tang- kow ar ffurf hanner lleuad, gyda'r ddau beu yn gorphwys ar yr afon. Yr oeddy muriau uwchlaw tair milltir o hyd, ac nis gellid amddiffyn y lIe yn briodol gyda llai nag 8,000 neu 10,000 o wyr. PenderiYllwyd fod yr ymosodiad gael ei wneyd ar y 14eg, o'r ochr ddeheu i'r mur—y Saeson ar yr ochr ddeheu i fyny yr afon, a'r Ffrancod ar yr ochr aswy i fyny at y ffOldd ac yr oeddy milwyr i fod o dan arfau am chwech o'r gloch boreu dranoeth. Wedi gwneyd pob peth yn barod, aeth y llinellyn mlaen, y cyflegrau yn gyntat. Yr oedd gan y Ffrancod ddwy gyflegrfa o reifflfagnelau, fel ag yr agorodd 42 o fagnelau eu titi ar yr amddiffynfa mewn 20 mynyd i wyth o'r gloch. Atebodd y rartariaid yn ddioed, a dangosasant eu bod yn meddu nifer mawr o fagnelau, ond eu bod yn rhai bychain. Ar ol tanio am beth amser, buont yo ddystaw am ychydig fynydau. Am hanner awr wedi wyth o'r gloch, aeth y llinell yn mlaen drachefn, ac agorodd y magnelau eu tan o fewn 400 o latheni. Yr oedd y tanio yn fawreddog o ochr y Ffrancod a ninnau, ond daeth tbagoriaeth magnelau Armstrong ar reiffl fagnelau y Ffrancod yn amlwg. Wedi dystewi y magnelau Chineaidd, gorchymynwyd i'r gwyr traed fyned yn mlaen 1 mewn i'r arnddyffynfa, a dilynwyd hwynt gan y Ffrancod. Cymmerodd yr ail adran, o dan lywyddiaeth y Cadfridog Napier, feddiant o Tang-kow.
Cymmeriad Amddiffynfeydd Taku.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cymmeriad Amddiffynfeydd Taku. Boreu yr 21ain o Awst, aeth y golofn Seisonig o'r gwersyll yn Tang-kow. Yn chwanegol at y cyflegrau breninol, a rhai magnelau o Madras, yr oedd y gallu yn gynnwysedig o uwchlaw 2,500 o wyr. Yr oedd y gallu Ffrengig—1,000 o wyr traed, a chwech o fagnelau 12 pwys-wedi myned i fyny i Tang-kow y prydnawn blaenorol, a chyr- haeddasant i'r He yn fuan ar ol hyny. Trefnwyd fod i'r magnelwyr danio ar yr amddiffynfa ogleddol uchaf am chwech o'r gloch yn y prydnawn, tra y byddai pedwar o wnfadau Lloegr, a phedwar o wnfadau Ffrainc, yn tanbelenu yr amddiffynia ogleddol isaf. Gyda bod, pen colofn y Saeson
Jattt5iø'tt ŒUffX'thittø't
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
weddodd y morwr lluddedig, a llenwid y rhai oedd ar y bwrdd a braw, wrtb weled un o'u cymdeithion yn cael ei lyncu gan yr anghenfil didrugaredd. Y CYTUNDEB A FFRAINC.—Deallwn fod cytundeb wedi eilawnodi vn Paris, yn estyn y tymbor penqdedig i gwblhau y cytundeb masnachol iganol mis Rhagfyr. Ar ol iddo gael ei ryddhau oddiwrrh ei lafur caled, y mae Mr. Cobden yn bwriadu treulio peth amser yn neheubarth Ffrainc, neu yn yr Aifft, i'r dyben o gryfhau ei iechyd. Y mae holl fanylion y cytundeb yn awr wedi eucwblhau, a chredir y bydd iddynt roddi boddlonrwydd cyffred- inol. CREwE.-Ymweliad Mr. Spurgeon.—Prif ymddyddan ein tref y tair wythnos diweddaf oedd am ymweliad Mr. Spurgeon. Dydd Jau, yr 8fed cyfisol, pregethodd Mr. S. ddwy bregeth yn neuadd y farchnad. Yr oedd yr oed- fa brydnawnol yn dechreu am ddau o'r gloch. Darllen- odd Salm 23, gan ei hesbonio yn ei ddull eglur ei hun. Pregethodd oddiar 2 Cor. 13, 5. Yn y nos, dechreuwyd am chwech o'r gloch. Darllenodd Mat. 28. Esboniai wrtb fyned yn mlaen, a phan ddaeth at yr unfed bennod ar,{ bumtheg, safai yn ddifrifol, nes gwneyd y dorf yn lla'wn mor ddifrifol ag yntau, a dywedai Un ar ddeg onid oedd deuddeg ? pa le yr oedd y deuddegfed ? O! yr oedd wedi myned i'w le ei bun, ac nid oedd ei golli yn gwneyd un perl llai yn nghoron yr lesu." Pregethodd ar y bnmmed adnod o'r un bennod. Yr oedd oddeutu pedair mil yn oedfa y nos. LLOFRUDDIAETH ROAD.—Yn ddiweddar, gwnaedym- chwiliad manwl i lofruddiaeth Road, o dan arolygiaeth Mr. Saunders. Parhaodd yr ymehwiliad ar hyd yr wythnos, a gohiriwyd efhyd ddechreu yr wythnos hon. Holwyd nifer hiawr o bersonau, a derbyniai Mr. Saun- ders nifer o lythyrau bob dydd yn proffesu dadguddio rhyw naith newydd yn mherthynas i'r diwygiad. Ond er y cwbl, y mae y mater mor dywyU ag erioed. Ni ddadguddiwyd un ffaith newydd o bwys yn ystod yr holl ymcbwiliad. Y mae y newyddiaduron yn gyffredinol yn condemnio yr ymebwiliad presenol fel un penrydd ac am- gylchiadol. Ymddengys yn awr yr ail gynnelir trengholiad rheolaidd, pryd y gwneir pob ymdrech i gael allan y dirgelwch. CYFANSODpiAD NEWTDD NAPLES A'R IUDDEWON.— Y mae y cyfansoddiad Sardiniaidd a gyhoeddwyd gan Garibaldi yn nheyrnas y ddwy Sicily, yn ei daflu yn agored i'r Iuddewon. Nid oedd hen gyfraith y Bourbon. iaid yn goddef un grefydd oddieithr y grefydd Babaidd. Nid oes un gynnulleidfa Iuddewig yn awr yn yr holl deyrnas. Y CNYDAU.—Rhydd y Morning Star and Dial ad rod d- iad o gynnyrch y cnydau mewn nifer mawr o leoedd yn Lloegr. Gwelir amrywiaeth mawr ynyr un dosparthiadau. Y mae y enwd ar ganolrif yn dra diffygiol, ac y mae y Bwenith yn llawer gwaelach na blynyddoedd blaenorol, ac y mae d ffyg ai sawdd gyda'u gilydd yn fwy nag y bu er vs llawer oflynyddoedd. DR. SMETHURST.—Yn y mis HWN rhyddheir y dyn hwn a gafwyd yn euog, yn eistedddiad brawdlys Llun- dain yn Hydref, 1859, o gyflawnu llofruddiaeth trwy wen- W5 niad. ac a ddiofrydwyd i gael ei grogi yn Horsemonger Lane ond achos yr hwn, ar y pryd, a achosodd y fath iryffro, ac a barodd y ^th ddadl yn y newyddiaduron fel.y cafodd faddeuant am y llofruddiaeth, ac y rhoddwyd ef ar brawf yr ailwaith am amlwreiciaeth, gan fod y ddedfryd o 12 mis o garchar a basiwyd arno ef am y trosedd olaf a enwyd wedi dyfod i ben. LIOFRUDDIAETH.—Cafodd yr Anrhydeddus James M. Davidson, ft elwir yr Areithiwr Gwyddelig," ei lof- rnddio yn Fayetteville, America, Medi 29ain, dan am. gylchiadau bvnod o dorcalonus. Enw y d) n leuanc a. gyflawnodd y llofruddiaath ydyw Canny, ac ymddengys ei fod am beth amser wedi bod yn yfed yn Fayetteville, a bod ganddo feryn swm o arian, y rbai yr oedd yn eu gwario ac yn eu difrodi. Llwyddodd Mr. Davidson a dan t'o neddwr arall, i gael ganddo ymddiried yr aiian hwy, nes y buasai yn sobri. Pan y sobrodd, dychwelod D avidsop yr arian iddo. Yn fuan ar ol hyny, ymadawod Mr. D. am Nashville, lie yr oedd i areithio, ac yr oedd » ddychwelyd gyda y gerbydres yn y boreu. Yn ystod absenoldeb Mr. D. haerai Carthy ei fod wedi cadw cyfran o'i arian, a chyhuddai ef yn gyhoeddus o'u lledrata. Wedi i Mr. D. ddychwelyd, cyfarfu a Carthv. yr hwn a ail-ad- roddodd ei gyhuddiad, a dynodd Davidson efyngelwydd- WT. Ar hyn, tynodd Carthy ei revolver, a thaniodd arno dair gwaith Bu farw yn mhen ychydig oriau.