Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

■ i Iisj.-,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

■ i Iisj. PWNC AR Y DRYDEDD BENNOD 0 DANIEL. GAN Y PARCH. T. LEWIS, RHUMNI. UN o ragoriaethau yr oes bresennol yn Nghymru yw yr ymdrech a wneir gan weinidogion yr efengyl i ddarparu pjnciau ar wahanol destunau dyddorol at wasanaeth yr Ysgol Sabbathol. Amcan blaenaf ein hanwyl trawd Lewis oedd darparu y pwnc hwn at wasanaeth yr Ysgol yn Jer- usalem, Rhumni, a da genyin ddeall ei fod wedi cyhoeddi mwy nag oedd angen ar yr ysgol hono, a bod cyfle yo awr i ysgolion ereill i'w gael. Mae y pwnc yn rhoddi darluniad byr ond cynnwysfawr o'r Brenin Nebuchodon- osor-ei waith yn codi y ddelw fawr yn Ngwastadedd Dura-gwrthodiad y tri llanc i blygu iddi-eu cosp gan y Brenin—eu gweredigaeth gan Dduw—eu dyrchafiad yn y wladwriaeth. Y na cawn amry w o addysgiadau yn codi yn naturiol oddiwrth yr hanes. Mae y pwnc yn cynnwys 43 o holiadau ac atebion yr oil yn syml a dirodres, tra yn dwyn isylw y gwrandawwyr enaia y bennod sydd yn cynnwys prif hanes y brenin dan sylw. Am bris y pwnc -y ffordd i'w gael, &c., cvfeiriwn y datfllenydd at hys- bysiad o hono yn ein rhifyn presennol. Yr ydym yn ei gymmeradwyo yn galonog i sylw ein hysgolion.

NID YDYM TH YSTYRIED KIN HUNAIN…

YIt ERLIDIGAETH YN SIR ABERTElFI.