Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu

AT EIN GOHEBWYR A'N DERBYNWYR. PHILOS.-Nid oes yr un Gymdeithas i'w chael ag y gellir cael, arian o boni, i'ch galluogi i fyned yn feddyg, neu rhyw swydd bwysig arall. Mae yr Insurance Socie- ties yn rhoddi benthyg arian ar y Policies, ond dim ond am werth yr arian afyddwch wedi eu talu i mewn, a gofelir cael Hog dda am y swtn hwnw. Mae i'w cael befyd y Loan Societies; gocbelwch y rhai hyny fel y gwnelech neidr ar y ffordd. Mae dynion befyd yn hysbysu fod ganddynt arian i'w gosod ar log o bum punt i gan miliwn; nid yw y rhai byn namyn twyllwyr melldigedig. Nid oes dim yn y ffordd hon ag y gellwch ymddibynu arno. PARCH. E. EDWARDS, LLANELLI.-Diolch yn fawr i chwi am eich sylw caredig o'r camsyniad yn ein rhifyn cyn y diweddaf. Freesoilers oedd y gair i fod, ac nid Freesailors. Yn awr, frawd anwyl, a fyddai yn ormod genych i anrhegu darllenwyr SEREN CYMRIT ag ysgrif ar Ddaliadau Gwleidyddol y gwahanol bleidiau yn America ? Gallwn eich sicrhau y byddai hyny yn wir dderbyniol gan gannoedd lawer o honom. PARCH. T. EVANS, MUTTRA.—Diolch yn fawr am ddau rifyn o'r Friend of India, ac yn neiltduol am eich Uytfryr Cymraeg rhagorol; bydd yn hoff genym gael un etto, pan fyddo adeg yn rhoi. 0 raor liawen genym glywed am y cyffro yn India. GOCHELIAp.-Mae rhyw fudiad newydd yn y byd etto dichon y gall rhai o'n darllenwyr roddi gwybod- aeth i ni am dano. Mae y ddau lythyr canlynol wedi dyfod i'm Haw, fel gweiniddg un o eglwysi Aberdar, a rhoddwn hwynt yma fel y maent, heb newid na gair na llythyren, fel prawf o wybodaeth, neu ddiffyg gwybodaeth, y ddau ddyn sydd yn myned i roi goleuni newydd ar bethau crefyddol. Dyma y cyntaf November 21—1860. To the Rev Mr Price Minister of Calvaria Chapel of the Babaptism Congration-Sir we are sorry to say that this world is a platform or Stage a Preching of the Gospel is like ia ballet singer or a trade or peep show Parcel of shoe black or Tinkers to make trade of it at London many places it taken as Theaters & play houses but the Gospel must be Preach all over the world first and all the Gentiles will be deceivd by saying which Mathew Mark Luke & John believing in Christ is diffrent and this the lessons that the learn in the House of Great Babylon and is sure to fall we have maid up our mind to call on you at Aberdaer allso at merthir and through Glamorgan shire and Wels all together CoRaarthen shire Pemrock shire and Cardigan shire allso Breto»rBhire and through stafford shire and back to London other parties have agreed to go through part of Great Britain Sir will you bee plase to pnplish the meting to diffrant denominations we let them know difrant languages and we endevour to let them know the diffarancs between the House of God and the House of Babylon the Apostles said the harvest is great but the work men is scarce pray that the Lord of the Harvest to send work men to his harvest it will take many days before we can let them know the secret it will take 6 or 7 night runing worthy are the worthy are work man of his wages the expence will be a Id a night Plase not to forgt sir in puplish munday December the 3 at 7 a clock Mr. Charle Daily from the Borough south wark London and Mr. John Evans from the same. Yn mhen rhai dyddiau, derbyniasom yr ail, er adgy. weirio rhai pethau ag oedd wedi myned ynannghofyn y cyntaf. Dyma yr ail:— n November 27 1860 Dear sir we have forget mention in our last letter Plase collect all the Chapels Churches both English and welch at Aerdder and let us know their number you would satisfy us very much in so-doing you will'be kind a nough to publish the metings at yours and all the rest of them it will be only a Id each at the door no more from us at present Mr. Bailv dito Mr. Evans it will be 3 of November at evening. Mae y lljthyron fel pe yn dyfod oddiwrth rhyw ddau foneddwr yn Southw&rk, Llundain; ond maey ddau wedi eu posto yn Abertaws. Nid oes genym ni un esboniad ilw roddi o'r dynion na'u petliau yn i mhellach na chynnwysiad y ddau lythyr yma; ac mae y rbai yna yn ddigon doniol i lefaru drostynt eu hun- ain. Carem wybod a oes rhai o'n brodyr yn y wein- idogaeth wedi cael cyhoeddiadau y dynion hyn. ORIEL Y GWEINIDOGION. Bydd i'r ORIEL gynnwys Ardebau y gweinidogion can- lynol:—Parch. Joshua Thomas, Llanllieni; Parch. Timothy Thomas, o'r Maes Parch. Christmas Evans Parch. Joseph Harris (Gomer), Abertawy Parch. John Herring, Aberteifi Parch. Joshua Watkins, Caerfyrddin Parch. John Jenkins, D.D., Hengoed; Parch. D. D. Evans, Pontrhydyryn; Parch. B. Price (Cymro Bach) Parch. John Williams, Drefnewydd; Parch. D. Rhys Stephen Parch. Micah Thomas, y Fenni; Parch. D. Davies, H wlffordd; Parch. Evan Jones (Gwrwst), Casbach; Parch. D. Jones, Caerdydd; a'r Patch. John Jones, Merthyr. Dymuna y Cyhoeddwr gydymdeimlad y derbynwyr am ychydig amser etto cafodd ef ragor o drafferth nag a ragolygai ar y dechreu i gael yr ardebau. Y mae yr oil yn awr mewn llaw ond nid yw yr artist yn alluog i ddweyd yn sicr pa bryd y bydd yr ORIEL yn barod: bydd mewn ffordd i wneyd hyny yn ein Rhifyn nesaf. AMSER TALU. Mae chwarter cyffredinol SEHEN CYMRU ar ben gyda'r Rhifyn presenol, a theimla y Cyhoeddwr yn dra diolchgar am daliad dioed. BLAENDALIADAU YCHIVANEGoi,I. T. Cwmsyfion, 4 b D. E. Llantwit, 4 b. Y GOHEBIABTHAU i'w hanfon i ofal y Parch. T. Price, Aberdar. Y FARDDONIAETH i ofal y Parch. John Rhys Morgan (Lieurwg) Llanelli. HANESION o bob math i ofal y Cyhoeddwr, i'r Swyddfa.

Y PYTHEFNOS.