Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
GANWYD,- Tachwedd 30, priod Mr. D. Samuel, Dosparthwr SEREN CYMRU, yn y dref hon, ar ferch. PRIODASAU. Tach. 22ain, yn Jabes, Dyfed, gan y Parch. D. George, Gweinidog y lie, a cherbron Mr. Havard, y Cofrestrydd, Mr. W. John, Penfeidr. plwyf Llanycbaer, a Miss. Mary Evans, merch hynaf Mr. Evans, Penrhiw, plwyf Llanychlwydog. Tach. 27ain. yn Saron, Glyn Ebwy,gan y Parch. T. Jeffreys, gweinidog, Mr. Thomas Walters, glowr, Tredegar, a Miss Mary Thomas, Tvvyn-y-Duc, ger Sirhowy. Tach. 27ain, yn Workhouse Carfyrddin, Mr. Dd. Phillips, Blaencvnlleth, a Miss Mary Howells, merch henaf Mr. Thos. Howells, tanwr, Conwyl. MARWOLAETHAU. Tach. 23ain, yn 87 oed, mewn llesgedd marw, Richard Edwards, Heol China, Llanidloes, tad Richard Edwardes (R. Powys), o'r un lie. Tach. 28ain, yn 86 oed, Mrs. Martha Mills, Heol y Bont- hir, Llanidloes, gweddwy diweddar Mr. James Mills, o'r Goleugoed, ger y dref enwwyd. Tach. 23ain, Sara Jones, Witton Park, arolpedwar diwrnod o gystudd, o'r dwmyn goch, yn 11 mlwydd oed. Merch ydoedd Sara i David a Hannah Jones, yn agos i Gastell New- ydd Emlyn. Yr oedd llawer o ragoriaethau yn perthyn i Sara, er ieuenged oedd- Un nodwedd neilldiol oedd yn perthyn iddi oedd, ei bod wedi trysori llawer iawn o air Duw yn ei chof, a'i adrodd allan ar ddechreu cyfarfodydd y Sabbothau. Ond ar ol y dysgu a'r adrodd, dyma oer air yn ein cyrhaedd, fod Sara wedi marw. Y dydd Llun canlynol i'w marwolaeth, casglodd lfewer ynghyd i dalu y gymmwynas olaf iddi, pan y pregethodd y brawd ienanc William Davies yn doddedig iawn, oddiwrth y geiriau, Trefna dy d9, canys marw fyddi, ac ni fyddi byw." Yna cludwyd ei gweddillion i'r bedd yn ngladdle Escomb. Heddwch i'w llwch.—SIMON JOHN. Tach. 27. yn Nghastellnedd, ar ol hir gystudd o'r cancr, yr hen chwaer barchus Mrs. Elizabeth Walters, gan adael ped- wSr o blant i alaru ar ei hol. Bu yr ymadawedig yn aelod ffyddlawn gyda'r Bedyddwyryn y dref uchod, a bu fyw a marw yn mynwes crefvdd. Aeth trwy y glyn yn llaw ei Harch- offeiriad nefol heb ofni niwed. Dydd Iau canlynol i'w mar- wolaeth, claddwyd hi yn meddrod ei phriod, yn ymyl Beth- ania; ac ar yr achlysur daeth llawer iawn o'i chydnabyddion, yn nghyd. Darllenodd a gweddiodd y Parch. W. Harris, Cwmbach a phregethodd y Parch. T. Evan James, gweinidog y lie, oddiar Heb. 11, 16, yr hwn hefyd a areithioedd ar lan y bpdd. Ymadawsom, ond nid fel rhai heb obaith,-Goheb. Tachwedd 18, ar ol hir a thrwm gystudd, Mr. Thomas Jeremy, Cwmdu.mawr, ger y dref hon, yn 66 mlwydd oed.
ymxmrn totofol
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ymxmrn totofol CYNNRYCHIOLAETH SIR BEN PRO.—0 herwydd codiad Argl. Emlyn i Dy yr Arglwyddi, mae cynnrychiolaeih y sir hon wedi dyfod yn wag. Y mae dau ymgeisydd ar y maes, sef Mr. Lort Phillips a'r Colonel Hugh Owen. Tori i'r pen draw yw Mr. Phillips, ac wqdi talu mwy o sylw yn ei ddydd, fe ddichon, i gwn hela, a gyrfeydd ceffylau, nagi wleidiadaeth. Y mae Mr. Owen yn deilwng o gefnogaeth pob Rhyddgarwr ac hyderwn y rhydd pob Ymneillduwr, o leiaf, ei bleidlais iddo. RuTMNl.—Dydd Iau, y 29ain o'r mis diweddaf, fel yr oedd dyn o'r enw John Harding, yr hwn a wasanaerhai ar seiri meini, yn cynnorth wyo gosod i fyny scaffold ar ben ffwrnes a adeiledir yn y lie hwn, collodd un o'r planciau ei afael yn yr ochr oddiwrtho, a chododd y pen arall y dyn druan i fyny uwchben y ffwrnes, a syrthiodd i lawr i waelod y ffwrnes, nes y drylliwyd ef ynddarnau. Gadawodd weddw a dau o blant i alaru ar ei ol. DOWLAIs.-Drwg geuym ddeall fod 300 o fwnwyr wedi cael rhybydd gan Gwmpeini Gwaith Haiarn Dowlais. Dy- wedir fod marweidd-dra mawr yn y farchnad haiarn. Ofnwn y bydd i hyn effeithio yn ddrwg ar ein cyfeillion lluosog yn Dowlais. RIIYMNI.—Bore dydd Sadwrn diweddaf, cyfarfyddodd Leonard Davies o'r lie hwn a damwain dost. Yr oedd yn gweithio yn y mv/n, a syrthiodd darn o dir arno, gan ei anafu yn drwm; torodd ei ben yn drwm, a thorwyd gewyn yr en drwyddi. Bu y meddyg am oriau yn trin, ac yn pwytho ei glwyfau. BLAENAFON.—Dydd Mercher, yr 28aiu oir mis diweddaf, fel yr oedd dyn ieuano, o'r enw James Williams, yn gweithio yn chvvarel ceryg calch y British Company yn agos i'r lie hwn, syrthiodd careg arno, a lladdwyd ef yn y fan. Yr oedd yn byw gyda'i fam yn Llanofer, ac efe oedd ei phrif gymhorth, gan mai gweddw ydvw. Y GREAT EASTERN.Y mae y Hong fawreddog hon yn gorwedd yn bresenol ar y traeth yn agos i Neyland, heb fod unrhyw welliannau yn cael eu gwneyd iddi. Dangosir hi yn awr am swllt y pen. TOWN HILL, GER ABERTAAY. — Prynwyd fferm Y Town Hill yn ddiweddar gan Mr. T. Rees, Abertawy ac oddiwrth y darganfyddiadau a wnawd yn ddiweddar, ymddengys i Mr. Rees wneyd bargen dda. Tarawyd ar wythien pedwar.troedfedd o glai, ac un 28 modfedd o 10, ar y Norm; a chredir nad yw y wythien pum troedfedd o Io yn mhell o'r man y mae y gweithwyr yn bresenol. Mae Mr. Rees wedi sicrhau yr hawl oddiwrth Due Beaufort i weithio yr holl feteloedd ar yr ystad. GTPEITHFEYDB HAIARN PENDAREN.—Y mae gweith- feydd Pondaren wedi bod yn sefyll er ys llawer o fisoedd. Ond yr wythnos ddiweddaf, bu dirprwyaeth o Ferthyr gy^3 Mr. Forman, yn Llundain, yn ymgynghori yn nghylch ail wyn y gwaith. Yr oedd Mr. Formad, yn ymddangos yn bleidiol i olygiadau y ddirprwyaeth, a dysgwylir atebiad pen- derfynol bob dydd. Mae gobaith da am ailgychwyniad ar y gwaith. LLANDILO.—Tan. — Oddeutu wyth o'r gloch, borea dydd Mawrth, y 27ain o'r mis diweddaf, torodd tan allan mewn fferm fechan, a e]wir Glanyrhyd, yn agos i'r dref hon, yr hon a ddelir gan ddwy hen ferch—Lettice aMaiy Stephen, un o ba rai sydd allan o'i synwyrau. Gwnawa pob ymdrech i attal yr elfen dan ond er y cwbl, l^yr ddinystriwyd yr annedd-dy. Cyfrifir y golled tua Nid oes un gwybodaeth pa fodd y decbreuodd y tan.
AMERICA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
wedi cael brechdan fawr; ond heb ddigon o sugr arni yn ol ei farn ef. Dyna y frechdan yn cael ei thaflu ffwrdd, y bacbgen mawr ar ei gefn ar lawr y t. a'i faglau fyny fel broga, ac yn troi o am- gylch peg-top, ac yn gwaeddu nerth ei geg, na fuasai yn bwyta dim byth mwy. Dyna agwedd y caethfasnachwvr yn awr; maent a'u baglau fyny, yn tyngu ac yn rhegu, na fydd iddynt byth mwy werthu i, na phrynn gan, y taleithiau rhyddion. Mae amcan difrifol gan y gwyr hyn, a hyny yw, ceisio dychrynu Coleg Etholiadol Lincoln ond credwn y bydd y cwbl yn ofer ac am ddim, ond mor bell ag y mae yn dangos ffolineb y caethfas- nachwyr. Byddai yn llawer gwell iddynt hwy ddechreu gosod eu mewn trefn, gan y gallant fod yn sicr fod dyddiau caethfasnach wedi eu rhifo. Mae yr olwyn o ddechreu Mawrth nesaf yn debyg o droi yn ol, ac nid yw yn beth tebyg y gwelir Caethfasnachwr byth mwy yn Llywydd America. Mae egwyddorion rhyddid ar gynnydd yn rhwydd iawn yn y Taleitbiau, a daw etto yn fwy felly. Fel hyn mae dyddiau teyrnasiad caethiwed ei hun yn darfod yn fuan. Yr ydym o'n calon yn llongyfarch ein cyfeillion yn newis- iad Abraham Lincoln, a dymunwn iddo oes ac iechyd i lanw y swydd bwysig y dewisiwyd ef iddi. A bydded i wyr < y dehau gael digon o hunan-les, o leiaf, i beidio gwneyd ffyliaid o hon- ynt eu hunain, trwy daflu y frechdan o'u dwylaw, rhag ofn na chant gynnyg ar un arall.