Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Family Notices

Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu

GANWYD,- Tachwedd 30, priod Mr. D. Samuel, Dosparthwr SEREN CYMRU, yn y dref hon, ar ferch. PRIODASAU. Tach. 22ain, yn Jabes, Dyfed, gan y Parch. D. George, Gweinidog y lie, a cherbron Mr. Havard, y Cofrestrydd, Mr. W. John, Penfeidr. plwyf Llanycbaer, a Miss. Mary Evans, merch hynaf Mr. Evans, Penrhiw, plwyf Llanychlwydog. Tach. 27ain. yn Saron, Glyn Ebwy,gan y Parch. T. Jeffreys, gweinidog, Mr. Thomas Walters, glowr, Tredegar, a Miss Mary Thomas, Tvvyn-y-Duc, ger Sirhowy. Tach. 27ain, yn Workhouse Carfyrddin, Mr. Dd. Phillips, Blaencvnlleth, a Miss Mary Howells, merch henaf Mr. Thos. Howells, tanwr, Conwyl. MARWOLAETHAU. Tach. 23ain, yn 87 oed, mewn llesgedd marw, Richard Edwards, Heol China, Llanidloes, tad Richard Edwardes (R. Powys), o'r un lie. Tach. 28ain, yn 86 oed, Mrs. Martha Mills, Heol y Bont- hir, Llanidloes, gweddwy diweddar Mr. James Mills, o'r Goleugoed, ger y dref enwwyd. Tach. 23ain, Sara Jones, Witton Park, arolpedwar diwrnod o gystudd, o'r dwmyn goch, yn 11 mlwydd oed. Merch ydoedd Sara i David a Hannah Jones, yn agos i Gastell New- ydd Emlyn. Yr oedd llawer o ragoriaethau yn perthyn i Sara, er ieuenged oedd- Un nodwedd neilldiol oedd yn perthyn iddi oedd, ei bod wedi trysori llawer iawn o air Duw yn ei chof, a'i adrodd allan ar ddechreu cyfarfodydd y Sabbothau. Ond ar ol y dysgu a'r adrodd, dyma oer air yn ein cyrhaedd, fod Sara wedi marw. Y dydd Llun canlynol i'w marwolaeth, casglodd lfewer ynghyd i dalu y gymmwynas olaf iddi, pan y pregethodd y brawd ienanc William Davies yn doddedig iawn, oddiwrth y geiriau, Trefna dy d9, canys marw fyddi, ac ni fyddi byw." Yna cludwyd ei gweddillion i'r bedd yn ngladdle Escomb. Heddwch i'w llwch.—SIMON JOHN. Tach. 27. yn Nghastellnedd, ar ol hir gystudd o'r cancr, yr hen chwaer barchus Mrs. Elizabeth Walters, gan adael ped- wSr o blant i alaru ar ei hol. Bu yr ymadawedig yn aelod ffyddlawn gyda'r Bedyddwyryn y dref uchod, a bu fyw a marw yn mynwes crefvdd. Aeth trwy y glyn yn llaw ei Harch- offeiriad nefol heb ofni niwed. Dydd Iau canlynol i'w mar- wolaeth, claddwyd hi yn meddrod ei phriod, yn ymyl Beth- ania; ac ar yr achlysur daeth llawer iawn o'i chydnabyddion, yn nghyd. Darllenodd a gweddiodd y Parch. W. Harris, Cwmbach a phregethodd y Parch. T. Evan James, gweinidog y lie, oddiar Heb. 11, 16, yr hwn hefyd a areithioedd ar lan y bpdd. Ymadawsom, ond nid fel rhai heb obaith,-Goheb. Tachwedd 18, ar ol hir a thrwm gystudd, Mr. Thomas Jeremy, Cwmdu.mawr, ger y dref hon, yn 66 mlwydd oed.

ymxmrn totofol

AMERICA.