Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

;-LLYWYDD NEWYDD UNOL DALEITHAU…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYWYDD NEWYDD UNOL DALEITHAU AMERICA. Dichon na fydd y braslun canlynol o hanes bywyd Mr. Abraham Lincoln, Llywydd newydd America, ya anner. byniol gan ein darllenwyr; — Ganwyd ef yn swydd Harlem, Kentucky, ar y 12fed o Chwefror, 1809. Ei dadcu, yr hwn a fudodd o Virginia i'r dalaeth hono yn 1781, a laddwyd gan yr Indiaid pan yn clirio ei dir. Ei fab, yr hwn oedd, fel efe ei hunan, yn lied dlawd, a fu farw yn gynamserol, gan adael gweddw a rhai plant ar ei ol, un o ba rai oedd Abraham, yr hwn oedd at, y pryd yn chwech mlwydd oed. Cymmerodd y weddw a'i phlant eu trigfan, yn mhen ychydig amser, yn neheubarth Indiana, a dyma lie y tyfodd Abraham i fyny yn ddyn. 0 ran uchder y mae yn chwech troedfedd a thair modfedd. Nid oedd ei fam yn alluog i roddi iddo ond ychydig o addysg; mewn gwiiionedd, ni fu ond chwech neu wyth mis yn yr ysgol o gwbl. Bu wedi byny yn weitbiwr fferm, yn dorwr coed, ac yn fadwr ar y Wa- bash a'r Mississippi. Yn 1830, aeth i Dalaeth Illinois; ac ennillai ei fywioliaeth drwy weithio ar y caeau; ac yna cafodd le fel siopwr, ae wedi hyny a ymrestrodd fel gwir- foddiad mewn cwmni a godwyd yn Salem Newydd, er cymmeryd rhan yn y rhyfel yn Florida yn erbya y llwyth- au Indiaidd, yn cael eu harwain gan y Tywysog a elwid y Black Hawk. Gwasanaethodd er anrhydedd iddo ei hun, a chafodd ei godi i'r gradd o gadben. Ar ei ddychweliad i Illinois, cymmerodd ei drigia yn agos i Springfield, y brif-ddinas, lIe arosodd byth wedi hyny. Yn 18o2, yr oedd yn ymgeisydd am eisteddle yn ngweinyddiaeth y dalaetb, ond methodd. Yn y flwyddyn ganlynol, fodd bynag, cafodd ei ethol, ac eisteddodd am bedwar tymhor. Yn ystod yr amser yma, astudiodd y gyfraith, ae, wedi pasio yn gynghorydd, cariodd ei alwedigaeth yn mlaen yn Springfield gyda chryn Iwyddiant. 0 ran daliadau gwleid- yddol, yr oedd yn Whig, ac yn un o-gefnogwyr gwresocaf Henry Clay. Yn 1846, etholwyd efyn aelod o'r Senedd, a pharhaoedd i berthyn iddi hyd 1849. Y mae yn wrth- wynebol i gaeth-iasnachaeth; ac yn 1856, ei enw ef oedd gyntaf ar gofres etholwyr Illinois a bIeidleisasant dros Fremont yn erbyn Buchanan.

* IWERDDON.

"DEWCH I FEDYDDIO EICH PLANT."i