Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu

AT EIN GOHEBWYRA'N DEHBYNWYR. Er arbed traul a thrafferth dauddyblyg, dymunir ar ein cyf- eillion sylwi ar a ganlyn:— IW Y Gohebiaethau oil, a phob gofyniadau bwriadol iddo ef, i'w hanfon at y Parch. T. PRICE, ABERDAR. lgg" Hanesion crefyddol o bob math, i'w hanfon i'r Parch. B. EVANS, HEOLYFELIN, ABERDAR. iW Y Farddoniaeth i'r Parch. J. R. MORGAN (Lleurwg), LLANELLI. IW Tonau i Mr. R. LEWIS, CAERDYDD. fW Hanesion Cyffredinol i'r Cyhoeddwr. Bydd cydym- ffurflad a'r uchod yn gyfleustra i'r Cyhoeddwr a'r Golyg- wyr, ac yn sicrhau sylw cyntigynnyrchioneincyfeillion. BILI BACH.—Nid ydym yn gallu gwneyd na phen na chynfton o'ch ysgrif. Dywedwch wrthym yn eich nodyn cyf-. rinachol 11 mat oferedd i chwi fyned i egluro dim sydd ynddi, na chwaith ei hamcan." Yr ydym ninnau yn barnu mai ofer- ■edd gosod ein darllenwyr i dalu am ysgrif aneglur a diumcan. PRENTIS CRITo.-Fel rheol, nid ydym yn dewis ymyraeth & gohebwyr papyr arall. Gwell fyddai i chwi anfon y Pilll i'r (iwladgaruir. Yn ol eich barn chwi, mae digon o wynt yn y bachgen yn barod, heb i ni ei godi ar drostan yn y SEREN. 'IFORIAETH .A.'U COFRBSTRu.-Mewn atebiad i'n gohebydd parchus o Glyn Ebwy, dywedwn, yn 1. Fod y gyfraith yn tybied fod gan yr Undeb neu'r Urdd Iforaidd ei reolau, a'r eyfryw reolau i lvwodraethu yr undeb fod gftn bob adran ei rheblau,fel adran, a bod y cyfryw reolau yn lly wodraethu yr adran bono; a bod gan bob cyfrinja ei. rheolau cyfrinfaol, neu y peth a eilw y Saeson yn Lodge Bye Laws. 2. Rheolau yr Undeb yw y safon-rhaid i reolau yr adran, a rheolau y gyfrinfa, fod o fewn cwmpas rheolau yr Undeb, ac heb fod yn gwrthdaraw yn eu herbyn mewn un wedd. 3. Nid yw cofrestriad c) Nredinot yr Undeb yn diogelu dim ond cyfoeth yr Undeb fel y cyfryw—nid yw yn 9icrhau dim i'r adran na'r gyfrinfa. Cyn delo yradran o dan nawdd y gyfraith, rhaid i reolau yr adran gael eu cofrestru ac er d wyn y gyfrinfa o dan nawdd y ddeddf, rhaid cael rheolau i'r gyfrinfa yn gwbl ar waban oddiwrth reolau yr Undeb, a rhaid i'r rheolau hynyo eiddo y gyfrinfa gael eu cofrestru. Rhaid befyd fod y rheolau yn Seimig, gan na fydd i Mr. Pratt gofrestru rhai Cymreig, am y rheswm na fyddai y rhai Cymreig yn un cynnorthwy i ni o flaen yr ynadon. 4. Gall y rheolau fod wedi eu hysgrifenu netf wedi ei bar- graffu ond rhaid danfon dau gopi glan a dianaf i'r cofrestrydd, gan y bydd yn rhaid iddo ef gad w un yn ei swyddfa. f 5. Y ffordd hawddaf o lawer i gyfrinfa a fyddo yn meddwl am gofrestru, fyddai danfon am gopi o reolau rhyw gyfrinfa arall a fyddc wedi gwneyd hyny; a mwy na thebyg y ceir y rheolau yn ateb gydag ychydig iawn o gyfnewidiadan. Yna, wedi cyduno ar y rheolau, cytuno a rhyw agraffydd i ariratfu y iiifer a fydd eisieu, a bydded iddo osod y type cyn anfon at Mr. Pratt yna wedi gosod y Hythyrenau yn nghyd, danfoner dau gopi i fyny, a dichon y bydd i chwi lwyddo y tro cvntaf, ond dichon y bydd iddo wneyd rhai cyfnewidiadau dibwys. Ac wedi cael y copi cofrestrpdig yn ol, gall yr argraffydd orphen ei^waith. Us bydd rhyw ddiffyg i gael copi o'r rheolau cofrestredig, danfoner bump stamp i ni, a danfon wn un o'r cyfrinoedd hyn. €S?" Pe byddai i'n gohebwyr anfon eugnfyniadau i'rOolygydd» ac nid i'r Swyddfa, byddai yr ateb yn sicr o fod bythefnos o leiaf yn gynt. SW 0 herwydd diffyg lie, yr ydym etto wedi gorfod gadnel allan luaws o hanesion cyfarfodydd ysgolion, &c. Cant ym. ddangos yn ein nesaf. Taer ddymunwn ar ein gohebwyr fy- fyrio byrdra wrth ysgrifenu hanesion cyfarfodydd. Sw, Diolchwn yn galonog i'n cyfeillion am eu hymdrech dros SEREN CYMRU yr ydym wedi derbyn amryw gan- noedd o ddeibynwyr newyddion yn ystod y pythefnos di- weddaf. GWJSLUANT GWALL.—Yn banes ordeiniad gweinidog Hill Park. Hwlffotfd, yn ein rhifyn diweddaf, dylid nodi i'r Parch, W. Jenkins, Troedyrhiw, draddodi araetk ar ddyledswydd yr tglwyu.

Y PYTHEFNOS.r