Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
BEIRNIADAETH EISTEDDFOD ABERDULAIS.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
BEIRNIADAETH EISTEDDFOD ABERDULAIS. Rhagfyr 24ain, 1860. Y TRAETHODAU. 1. "Manteision addysg i'r radd weithgar." Y mae 11 o Draethodau wedi dyfod i law ar y testun pwysig yma, sef eiddo "Workman," Nimrod," A friend to the Working Classes," "Gwan ei Galon," Arfonwyson, Ewyllysiwr da," Carwr addysg," "Neb," carp," Self'taught," Archimedes," Ninus, Nihil, a Ned y Crydd." Traethawd byr iawn yw un "Workman," yn yr iaith Seisnig ac y mae yn ymddangos i mi taw gwaith rbyW fachgenyn ydyw. Y mae yn rhaid i'r awdwr vnia astudio gramadeg a sillebiaeth cyn y gall efe ddysgleirio let traethodwr. Traethawd bychan drachefn ydyw traethawd Nimrod," ac un Seisnig ydyw, ond rhagora yn mhell ar un Work- man." Y mae'r awdwr yn ysgrifenu yn dlws, yn ramad- egol, ac yn synwyrol; ond nid yw yn gafaelu yn agos yn holl gyssylltiadau anhebfjorol y testun. A Friend to the Working Classes traethawd Seis- nig ydyw hwn etto, ac y mae wedi ei ysgrifenu mewn iaith briodol a llithrig ond traethawd ar y cyfryngau a'r modd o weinyddu addysg ydyw, yn hytrach nag ar y manteision a ddeillia i'r radd weithgar oddiwrth addysg. Gwan ei Galon" a agora ei draethawd mewn sylwadau ar natur ae helaethrwydd addysg; ac yna y mae'n ateb rhai gwrthddadleuon o berthynas i'r priodoldeb o roddi addysg i'r Radd Weithgar. Trinia addysg dan ei brif benau, sef darllen, ysgrifenu, a rhifyduiaeth wedi hyny, crwydra oddiwrth ei destun am bedwar tudaleu, ac wedi dychwelyd, nid rhyw lawer o drefn sydd arno. Y mae yma ami i air yn cael ei gam-sillebu, ac nid yw yr awdwr yn rhyw un hyddysg iawn yn nefnyddiad priodol y llytii- yren H-byddai ycliydig addysg iddo ef ar y pen hwn yu sicr o fod yn fanteisiol. Dechreua Arfonwyson ei draethawd drwy ymholi- Beth yw addysg ? Yna a rhagddo gyda'r gofyniad-Ai y rhieni ynte y llywodraeth sydd i roddi addysg ? Cymmera i fyny un ran o dair o'i draethawd gyda'r ymholiadau ynia, yr hyn sydd yn ormod mewn traethawd bychan. Wedi hvny, sylwa ar y manteision :—(1) Personol, (2) Teuluol, (3) Gwladwriaethol neu Gyffredinol. Trinia y manteision Personol yn bur Hawn, ond y mae yn fwy cwta gyda r Teuluol, ac yn fwy ewta drachefn gyda'r Gwladwnaethol, yr hyn sydd yn gwneuthur ei draethawd yn annghydbwys, ac yn feinaeh; feiouch hyd ei ddiwedd. Ewyllysiwr Da a wna rai camsyniadau, megys haeru y gwna addysg i'r corff yr hyn a wna rhedeg a gwrol- gampau ereill, canys y mae i'r meddwl ei ymartenon, ac i'r corff ei ymarferion hefyd, ac y mae llawer meddwl mawr wedi lladd y corff, druan, o eisiau cymmeryd o r corff ei ymarferion dyladwy. Camsynia hefyd pan y dywedyd mai o blith y bobl weithgar y dyrchafodd Syr Morton Peto; y mae'n wir ei fod wedi myned drwy wahanol gangenau ei alwedigaeth yn ymarferol, ond ei ewythr a'i rhwymodd i fyned er mwyn deall a gwyboa beth oedd gwaith. Y mae gan yr awdwr yma hefyd rai ymadroddion anbapus, megys, "Gellwch syllu ar y gyda Galileo, a rhodio yn yr ardd gyda Newton. br t y frawddeg yna wedi cael ei chyfieithu o gylchgrawn se nig nid inenwog, nid yw yn un ddedwydd, canys gallaSal I gweithiwr annysgedig feddwl mai garddwr oedd Wewi • Er hyn oil, V mae'r traethawd yma yn un pur dda, bell ag y mae yn trin y pwnc. Carwr addysg," a drinia y manteision deilliiedig Yn naturiol, moesol, a chymdeithasol; nid oes genym ddlm yu erbyn y traethawd hwn can belled ag y mae yn myne Neb y mae yn bur debyg y buasai Neb y" allan o'r diwedd yn Rhywun pe buasai ynennillwr, ond yw yu dygwydd bod y waith hon. Nid ydym yn cam y
MARWOLAETH SYDYN TRI 0 BERSONAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MARWOLAETH SYDYN TRI 0 BERSONAU. Dydd Mawrth, Ionawr laf, cynnaliwyd trengholiad yn N-auadd y Dref Dinbych, o flaen Mr. Pierce, trengholydd, vn nehyd a rheithwyr parchus a deallgar, ar gyrff John Smith, Elizabeth Smith, a Margaret Smith, y rhai y tybid eu bod wedi cyfarfod a'u hangen mewn canlvniad i eisieu a rhyndod. Parodd y dygwyddiad galarus a thorcalonus hwn gytflo dirfawr drwy y dref, yn mysg pob dosparth o'r tvigolion; a thra yr oedd yr ymchwihad yn myned yn mlaen yr oedd yr ystafell yn orlawn o wrandawyr pryderus. Wedi tyngtt y rheithwyr, aeth Dr. Pierce, a hwythau, i'r t £ lie y trigai y trancedigion. Gorweddai y cyrff ar wely truenus yr olwg arno, pen yr hwn oedd wrth y pared allanol, jn ymyl ffenestr salw, ac o fewn tua dwy droed fedd, neu lai, i do gvrael, a ymddangosai yn hollol wlyb a dyferog. Wedi dychwelyd o edrych ar y cyrff, dywedodd y trengholydd na chyfarfu ef yn ystod yr amser y buasai yn y swydd ag achos mor dorcalonus a'r un presenol. Wedi boli niferi lluosog o dystion ar y mater, ystyriodd y rheith. vryr yr achos, a daethant i'r penderfyniad canlynol:— ElizabethSmith Bufarw o achosion naturioI. vn cael ei gyflym brysuro gan ddiffyg cynhesrwydd, yn fwy na diffyg bwyd. John Smith :-Conjection of the brain. Margaret Smith 0 Inflamation on the lungs, wedi ei gynnyrchu gan yr oerfel eithafol, a diffyg dillad ar ei pherson yn y gwely." Dymunodd y rheithwyr hefyd wneyd yn liysbys ei fod yn achos gofid na ddarfu i'r trancedigion wneyd eu heisieu yn wybvddus a chyng- horasant ar fod i ymcbwiliad mwy manwl gael ei wneyd gan yr awdurdodau priodol cyn attal tal plwyfol y saw I a a fyddo ar y plwyf o hyn allan.
CARTREFJJL
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
cofiiodi yr hanes er mor anhawddydyw hyny, nadarlunio teimladau yr lioff berttivnasau pan yn gorfod bod yn !!ygaid-dystion o'r olygfa doicalonus. Dydd Llun can- lynol, cynnaliwyd trengboliad ar ei gorff, pryd y dychwel- wyd y rheithfarn o "anmhwylledd." Yroedd Evan Evans yn ddyn o dymherau naturiol pwyllog, syml, mwynaidd, a syriol. Ni chlywyd braidd un gair yn ewch na'u gilydd gydag ef un amscr, gan nad beth fyddai'r amgylchiad. Yn ei deulu yr oedd yn wastad yn lion, yn dawel, ac yn ddidramgwydd ac fel y cyfryw yr oedd yn cael ei garu a.'i anwylo gan ei holl gymmydogion. Ac fel crefyddwyr, yr oedd yn fywiog, yn weithgar, yn gysson, yn selog, ac yn ddiaruyhoedd. Ni ddarfu iddo un amser, trwy gam- ymddygiadau, roddi lie i neb i ammheu ei ddidwylledd mewn crefydd ond i'r gwrthwyneb, y farn a'r siarad cyff. redin am dano oedd, ei fod yn meddu grym duwioldeb, ac nid ei flurf; a gobeithio mai felly yr oedd. Yr oedd yn nodedig iawn Olewn gweddi; yr oedd yn wastad fel un a fyddai yn gweddio, ac nid fel un yn siarad geiriau gweddi, a dim ond hyny. Pan y byddai cyfarfod gweddi yn cael ei gynnal yn y gymmydogaeth ar un- rhyw achlysur, ni byddid braidd yn ystyried y cyfarfod yn llawn osna byddai efe yno. Mewn gair, yr oedd yn addurn ae yn anrhydedd i grefydd lie bynag y byddai; ac o gan- lyniad, teimlir galar nid bycban ar ei ol yn y teulu, yn yr eglwys y pertliynai iddi, ac yn yr ardal yn gyBfedinoL— Gohebydd. Peleni Holloway ydynt yn wellhad sicr i ddolur pen, diffyg arcbwaeth, ac iselder ysbryd. Gellir cymmer.vd y pelenau hyn heb berygl oddiwrth wlybaniaeth nac oerfel, ac heb fod yn un rliwystr i alwedigaeth na phlesevau. Gweithredant yn fwynaidd ar y eoluddion, cryfhant y cvlla, ac hyrwyddant weithrediad iachus yr afu a thrwy hyny, purant y gwed, glanhant y croen, cryfhant y gew- ynau, ac adnewyddant yr holl gyfansoddiud. Rhuddir cyfarwyddiadau i'w defnyddiogyda phob blweh.