Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

. GWLADYCHFA GYMREIG.

"LLYFR HYMNAU HARRIS."

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

lyfr teilwng o'r enwad, yn cynnyrchu emynau hen a newydd ? Paham rhaid dwyn allan etto yr hyn a gyfaddefa pawb eu bod yn myned allan o'u hoes? Os dywedir nad ellir gwneyd cyfnewidiad yn Llyfr Harris am ei fod wedi ei roddi dan ddeddf gorfaeliant (imonopoly); wel, gadawer ef fel y mae, a chym- meryd yr hyn sydd dda o hono, fel mae ereill wedi gwneyd, a ffurfio un newydd. & II. Wele gynnyg o gynllun tuag at gael hyny yn mlaen.-Gellir cael ugain o frodyr teilwng, a phob uri i gymmeryd ei ran; megys un ar y Greadigaeth, Rhagluniaeth, &c.; yr ail, ar yr Efengyl; y trydydd ar y Personau Dwyfol; y pedwarydd, ar yr Ordin- hadau, &c. Gallasai y brodyr hyn, wrth chwilio am emynau perthynol i'w dosparth hwy, gynnorthwyo y lleill yn eu dosparth hwythau, trwy hysbysu y naill i'r llfcll, na bydd rhai o honynt efallai yn dygwydd eu gweled; fel hyn, gellid yn hawdd cael casgliad helaeth a da, a hyny yn fuan ac yn ddidrafferth. Diammheu fod yn ein plith 20 o frodyr galluog a ym- roddai i hyn o orchwyl, er lies yr enwad ac adeilad- aeth Seion. III. Y cynllun i'w gael trwy y wasg, yn cael ei gynnyg.—Mae oddeutu pedwar ugain a deunaw o filoedd o Fedyddwyr yn Nghymru, yn ol y cyfrifon diweddaf. Pe ceid gan bob eglwys, ond cyfranu un- waith, yn ol ceiniog am bob aelod, byddai hyny dros bedwar cant o bunnau-dyna ddigon i ddwyn allan trwy y wasg 10,000 o gopiau, mwy o faint o lawer nâ'r un presenol. Gallwn ddwyn 6,000 o'r un faint a'r argraffiad diweddaf, am £ 160. Os na ellir cael gan yr eglwysi i roddi un casgliad, yn ol ceiniog am bob aelod, onid ellir ffurfio cymdeithas o ranfeddian- wyr i'w ddwyn allan; ac yna, wedi i'r rhanfeddian- wyr gael eu harian yn ol, fod yr elw i fyned yn flynyddol at rhyw amcan daionus, fel y mae ein brodyr y Saeson yn gwneyd. Onid yvv yn llawn bryd i ni geisio lies llaweroedd bellach. yn y ffrwd hon o elw, yn lie Iles personol ? Ydwyf, &c., Minheli. HYMNOLOGIST.