Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
--YCHYDIG NODIADAU
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YCHYDIG NODIADAU Ar y cyfansoddiadau Barddonol i'r Athraw Da," testun cystadleuol Tabor, Hyddfref 24ain, 1860. DRWG genyf weled fod nifer y Beirdd1 yn lleihau; ond er fod v nifer yn lleihau, mae y cyfansoddiadau yn gwellhau. Barbauld Azetha. —Mae hwn wedi cyfansoddi dernyn digon call, ac wedi darlunio yr athraw yn bur dda, ac yn lied fanwl; ond y mae rhai gwallau wedi diancarno wrth ysgrif- enu rhai o honynt mewn sillebiaeth, a rhai geiriau a allai ddefnyddio yn fwy cymhwys a tharawiadol, megys, -1 Cadw amser yn ddible," Scil," Sfc. Ac nid yw rbediad y gan yn esmwyth a llithrig, na'r gynghanedd yn rhedeg yn rhwydd. Arddengys v dernyn fwy o synwyr i gyfansoddi, nag o awen i farddoni. Cymmered galon daw yn gyfansoddwr da. Athraweg.-Mae hon etto wedi cyfansoddi yn bur dda; ond y mae ganddi rai gwallau wedi dianc o'r un natur a'r blaenaf. Nid yw'r mesur yr un; mae wedi ei newid. Mae yn wir fod hyn yn oddefol, heb droseddu rheolau Barddoniaeth, mewn caniad hirfaith; ond mewn caniad fer fel hon, gwell yw cyfyngu y gan at yr un mesur, yn hytrach nag eilio ar wahanol fesurau; loblegid ni wna yf un don wasanaethu dau neu fwy. Arferir yn gyffredin gynghaneddu y mesur a ganlyn yn fanylach :— Gwr uniawn yw 0 anian gwaith, Tra eang ei wybodaeth, Sy'n deall mawrion bethau Duw, Yn nhrefn cadwedigaeth. Meddianna ch waeth uchelryw bur, A meddwl cyflym dreiddiol; Serchogrwydd ddawnsia ar ei rudd, A'i iaith sydd yn ddeniadol." Gwnaiff y pennill uchod ddernyn bynod dda, gydng yeb- ydig bach o ddiwygiad ya ei wisg fel hyn ,—
BEIRNIADAETH EISTEDDFOD BRYNHYFRYD,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Caniadau i fyned yn ddisylw, a cheir hanes eywir ganddo am hen ysgrif William Breton er na wyddys llawer am y gwaith thwn, nis gellir ystyried Traethawd ar y Cyfieithiad Cymreig yn gyflawn heb son am dano. Ymddengys fed Erasmus yn ei Destament Newydd cyntaf wedi gadael allan 1 loan v. 7 ond yn ei ail-argraffiad, gosododd y brawddegau i mewn drachefn ar awdurdod hen ysgrif Gymraeg, yr hon ysgrif, meddir, oedd un William Breton. Crybwyllir hyn gan Gill yn ei esboniad ar yr adnodau cys- sylltiedig. Brochwel ydyw'r goreu. 2. Cariad fel egwyddor anhebgorol angenrheidiol er eysur a llwyddiant unrhyw Gymdeithas." Y mae wythym- geisydd ar y testun hwn, yn dwyn y ffugenwau, Emoes Ieuanc, Traethodwr Anfedrus, Carnedd Anniben, Jabez Bach, Glan Aled, Aelod o Gymdeithas, Ennillwr os cyll, a Chaswallon. Ni ddaeth cyfansoddiad Traethodwr i law hyd ddydd Sul yr 2il o Rhagfyr, nac eiddo Emoes hyd y Mercher ar ol hyny felly y mae'r ddau yn rhy ddiweddar, ac nid oes ond chwech yn y gystadleuaeth. Traethawd ar Gariad yn gyffredin yw un Carnedd An- niben, heb ddywedyd ond ychydig ar anhebgorion y testun. Y mae'r sillebiaeth yn wallus hefyd ;—megys dai yn lie dau, trigaredd yn lie trugaredd, &c. Traethawd anmherffaith ei sillebiaeth ydyw eiddo Jabez Bach hefyd. Treulia un tudalen o bedwar cyn y daw at y testun, a chymmer un o'r tri hyny drachefn i ddangos y ffordd o gadw y cariad yn fyw. Traethawd bach lied dda ydyw eiddo Glan Aled; ond nid yw yntau ychwaith yn mantoli ei fater. Treulia bedwar tudalen o wyth i sylwi ar y ddvledswydd sydd arnom i gymdeithasu ac oddiyno, dros y pedwar tudalen arall, sonir am Gariad yn gyffredinol yn hytrach nag am Gariad fel egwyddor anhebgorot angenrheidiol er cysur a llwyddiant unrhyw gymdeithas. Nid yw hwn ychwaith yn gwybod am iawn ddefnyddiad y llythyren H. Traethawd Aelod o Gymdeithas a reda oddiwrth y testun, heb ddangos yr angenrheidrwydd o Gariad yn y cyssylltiadau gofynedig, er ei fod ar yr un pryd yn ysgrif. enu yn dda. Traethawd "Ennillwr os cyll" a gyfyngir at y gymdeith- as grefyddol yn unig, tra y gofyna y testun am ddangos ei angenrheidrwydd er cysur a llwyddiant unrhyw gymdeith. as y mae y traethawd felly yn hannerog, canys goddefir i'r crefyddol lyncu y moesol a'r dyngarol. Y mae yn sicr fod pob cymdeithas grefyddol yn foesol ac yn ddyngar- ol; ond gan nad yw pob cymdeithas foesol a dyngarol yn grefydol, dylasid dangos angenrheidrwydd cariad er cysur a llwyddiant y rhai hyny hefyd, yn ol cynnwysiad y testun -unrltyw Gymdeithas. Traethawd Caswallon, sydd draethawd trefnus, wedi ei ysgrifenu mewn iaith dda, ac yn gwir deilyngu y wobr. Hyn oil ar air a chydwybod. JNO. EMLYN JONES. Glyn Ebwy, Rhagfyr, 1860. Beirniadaeth y Cyfansoddiad Barddonol. Marwnad Mr. D. S. Lewis; pedair Pryddest, gan Pruddglwyfus, Abad o Lan Ebwy, Henafgwr, a Cyfaill. Cyfansoddiad hirfaith yw eiddo Pruddglwyfus, yn ym. gyhnyg at gynllun inawreddog, yn nghyfeillach y Duw- iesau," yr aHorau, &c. Arweinia ni hyd banner y Bryddest cyn hysbysu am bwy y llefara, nes y teimlwn ofn tramgwyddo y duwiesau yn ei gyfeillach. Buasai cynllun mwy syml yn ateb ei alluoedd ef yn well, ac yn deilyngach o wrthddrych y farwnad. O hyn allan ymolched yn nyfroedd gloywineb cerdd, sef, "gloyw iaith, gloyw ystyr, a gloywddyben;" gan vmdrwsio mewn "gweddus achaws, gweddus iaith, a gweddus drefn ar ddychymmyg," cyn anturio mor hyf i blith y duwiesau. Abad o Lan Ebwy. Marwnad hirfaith etto, yn enwi pob peth yn un llinyn. Darllena yn llithrig, ond dim tarawiadol; y mae yn wallus yn ei ysgrif, yn enwedig gyda'r blaenddawd an." Hetiafgwr."—Hysbysa ei gwyn yn fanwl, gydag am- gylchiadau bywyd y gwrthddrycli. Cyfaiil.Ciin ddarluniado), hedegog a theimladwy; gwna ei darllen i ni deimlo ar ol y gwrthddrycli, er yn anadtnibyddus i ni, yr hyn ni wna y lleill, er enwi ac eowi ei ragoriaethau a'i arferion. Y mae "Pruddglwyfus," "Abad," a" Henafgwr," yn traethu eu Hen yn y ffordd gyffredin ond y mae Cyfaill," yn tra ragori arnynt mewn dycliyrarayg a chynllun y mae wedi addurno coffadwriaeth yr ymadavvedig a blodau Parnassus. Geltir gwellhau ac ennill ambell linell wrth ei ail ysgrifenu. Rhodder y wobr i Cyfaill. Pryddest Adgyfodiad Lazarus.-Tair Pryddest, gan Job, Barnabus, a Dysgybl. Y mae Job wedi bod mor amyneddgar a threulio banner ei Bryddest cyn dod at y testun. Nid yw ei syniadiiu ar y pwne ond evifrediii- rhyw droi yr hanes ysgrythyrol ar gun, heb alluoedd awen- yddol i'w haddurno. Y mae ganddo hefyd wallau sillebol, ton, mesur, a thrwsgl aceniaeth. Y mae eiddo Barnabas yn agos dau cmt o linellau, ac o'r cwbl nid oes ond yr unig Ilinell olaf ar y testun. Pwy ond Job, ei gydymgeifeydd, a foddlona i hyny ? Defnyddia sillgollau yn anmhriodol er mwyn odl, gan droi enaid yn "ena'd" i odlu a ceidwad, &c. Hefyd, nid yw ei sillebiaeth yn gywir. Y mae eiddo Dysgybl yn cynnwys mwy o deimlad, a'i syniadau yn rhagorach na'r lleill, er y gallasai ysgrifenu ei bryddest yn well gyda mwy o ofal. Dysgybl bia y wobr Becldargraff William Brown. Pedwar par o englynion." Y mae enw un o dan sel, a'i ffugenw hefyd am wn I. Eiddo y lleill ydynt Galarwr," Shakespeare," a "Prydydd." Talcen slipaidd ydynt oil ond Prydydd; efe yw y goreu o ran synwyr, iaith, a chynghanedd. Gwobrwyer ef. o Hyn ar air a chydwybod. Rhag. 24ain, 1860. ANEURXN FARDD.