Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

ANRHEGU EGLWYS GAN WEIN1DOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ANRHEGU EGLWYS GAN WEIN1DOG. Efallai ybyddambell un yn medd.wl fod yma gamsyniad, pan yr ydym yn dywedyd H Anrhegu Eglwys gan Weinidog," oblegid mai fel arall y mae yn dygwydd fynychaf; ond yn awr, dyma eithriad i'r rheol gyffredin, ac fel y cyfryw yn teilyiigu sylw neillduol darlleuwyr SEREN CYMRU. Y Rhoddwr yw y Parch. D. Davies, gweinidog parchns eglwys y Bedyddwyr yn Glandwr, ger Abertawe, yr hwn a fu or ymweliad a'r Cymry gwasgaredig yn Ngogledd Lloegr yn ystod yr liaf diweddaf, ac a fu yn pregethu yn amrywiol fanau yn y wlad hono yn ystod ei arosiad byr yn y lie. Ond os byr oedd, ennillodd iddo ei hun barch mawr fel dyn, Cristion, a gweinidog da i Iesu Grist; a phri- odol iawn y gellir dywedyd am dano, fod iddo air da gan bawb, a chan y gwiriouedd ei hun. Y Rbodd-Beibl mawr 4 plyg, wedi ei rwymo yn hardd, ac yu adtlas i'w osod ar areithfa unrhyw eglwys yn y deyrnas ac fel y cyfryw, yn bwrpasol jawn i'r Cymry yn y parthau pellenig hyn o wlad ei genedigaeth. oblegid pan yr oeddem gartref yn Nghymru, y Beibl oedd y llyfr a arferem yn ein ysgolion a'n teuluoedd, ein cymmydogaethau a'n eglwysi; pregethutr Beibl fyddaj ein gweinidogion, athrawiaethau'r Beibl a gredid gan ein cyndeidiau, a thrysorau mawr cynnwysedig yn y Beibl sydd wedi gwneyd miloedd o honynt yn etifeddion an- llygredig y gogoniant; ac o ran gwybodaeth Feibl. aidd, credwn fod y Cymry yn sefyll yn uwch ¡;¡â'r un genedl arall. Felly, priodol y gellir dweyd am y rhodd hon, The right gift to the right people." Cyflwynwr y Rhodd oedd v Parch. T. Price, Aberdar. Gwnaeth hyn mewn ychydig o syhvadau byr, ond pwrpasol iawn, a phregethodd y bregeth gyntaf o hono ar nos Sul, Rhagfyr laf, oddiar Esec. 37. 9, 10. Afraid yw dweyd dim am y Cyflwynwr, oblegid mae ei glod trwy yr holl eglwysi. Derbynydd y Rhodd oedd eglwys y Long Row, Witton Park, a'r hon yn fwyaf neillduol yr ymwel- odd ein hanwyl frawd Davies, a brodyr da ereill o Gymru. Mae yr eglwys fechan hon wedi gwneyd ymdrech neillduol dros burdeb gweinidogaethol, a theimlir fod yr Arglwydd wedi bendithio yr ymdrech yn mhell tuhwnt i ddysgwyliad y frawdoliaeth a phawb ereill; ac yn awr, y maent yn dymuno cyf- lwyno trwy gyfrwng y Ilinellau hyn eu diolchgar- wch gwresocaf i'r Parch. D. Davies a'i briod hawdd- gar, a phawb oil o gyfeillion Glandwr, am y rhodd werthfawr hon. Taer erfyniwn am i Awdwr y Rhodd roddi i ni mewn gwlad estronol gymhorth i fyw yn deilwng o'r Rhodd ac os na chawn y fraint o weled ein hanwyl frawd Davies etto ar dir y byw, hyderwn y cawn gyd-gyfarfod ar fryniau an- farwoldeb, i gydganu am y fuddugoliaeth fawr a gaed ar Galfari, am ba un y daethom i wybod trwy gyfrwng y Beibl. Arwyddwyd dros y frawdoliaeth, "SIMON JOHN, 1 ROGER SMITH, j"-D"lC0",au** W. GRIFFITHS, Ysg.

YSGOL SABBOTHOL SILO, TREDEGAR.

FFRWYDRIAD MYNYDD VESUVIUS.

CYLCHWYL FLYNYDDOL Y LONG…