Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Y GATH YN YSGRABINO EI CHYNFFON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y GATH YN YSGRABINO EI CHYNFFON. MR. Got.Meddwl cyntaf y teitl hwn yw, fod y gath yn anfoddlon i'w chynffon, ac am hyny yn gosod ei gwinedd ynddi. Ni wna y creadur hwn ddangos ei ffolineb yn fwy mewn dim, yn gystal a'i natur gas a maleisddrwg, na phan yn lagrabino ei gynffon; er hyny, peth cyffredin ydyw ei weled yn gwneyd y cyfryw beth. Ail feddwl y teitl ydyw, ynte, fod y gatli yn an- foddlon iddi ei hun; o herwydd wrth anfoddloni i'w chynffon, mae hi yn dangos, ar unwaith, ei bod yn anfoddlon i'w chreadigaeth; canys heb ei chyn. ffon nid cath fyddai, o leiaf, nid cath fel y,dylai fod, nac ychwaith fel ag y mae ei Chreawdwr wedi meddwl iddi fod, gan fod mor banfodol iddi wrth ei chynffon a rhyw ranau ereill o'i chorff. Er hyny, o herwydd ei ffolineb a'i hysbryd cas, hi a 'sgrabina ei chynffon. Wrth ddarllen y Bedyddiwr cyntaf am y flwyddyn hon, gwelais Anerchiad y Golygyddion at eu dar- llenwyr ac yn y cyfryw gyfarchiad, yr oeddwn yn gweled ar unwaith, heb un math o ambwylliad, yr hyn a welir hefyd gan bob un a ddarlleno y cyfryw gyfarchiad—os gwel efe ddim-Iod y gath yn, ysprabino ei chynffon yn druenus.* Yn yr Anerchiad uchod o eiddo y Golygwyr, y mae brawddeg fel y canlyn,—" Y mae genym frodyr teilwng ac ymdrechgar—yn anrhydedd i'r areithfa, yr esgynlawr, a'r gynnadledd ond pan ymyront a'r pin, y papyr, a'r wasg, yr ydym dan rwym&u o edrych arnynt yn mhell islaw iddynt eu hunain. Y mae diffyg hunan-adnabyddiaeth, oddiar gefn parch a chlod teilwng iddynt, wedi eu gyru allan o'u hansawdd naturiol; ac os na thyn ein henwad yr hunandyb enbyd hwn oddiwrthynt, bydd ein cyflwr Uenyddol yn dra isel, a'r canlyniadau yn niweidiol. Fel ag y mae yr ysfa olygyddol yn myned yn mlaen yn bresenol, byddwn cyn hir yn wawd i'n gwrthwynebwyr." Ni wnaf nodi allan fonglerwch y geiriau hyn, fel ag y maent wedi eu taflu ar draws eu gilydd, ond yn hytrach gwnaf rai syiwadau ar yr hyn a geisiant osod allan. Y peth cyntaf a yundrechir ei osod allan ydyw, nad yw y brodyr teilwng-ymdrecngar," y rhai sydd yn anrhydedd i'r areithfa, yr esgynlawr, a'r gynnadledd," yn addas i ysgrifenu dim i'w anfon i'r wasg (yn sicr, yn ol geiriau yr Anerchiad, nix medrant osod pin ar bapyr i unrhyw ddyben, heb iddynt fyned yn mheU islaw iddynt eu bunain, pa synwyr ?) neu os bydd iddynt anfon i'r wasg, y bydd Uenyddiaeth yn gorfod dyoddef, a'r gwrth. wynebwyr yn gwawdio. Yn awr, bydded i'r darllenwr fod mor graffus a deall mai pedwar o frodyr teilwng ac ymdrechgar -yn anrhydedd i'r areitbfa, yr esgyiiawr, a'r gynnadledd," rn nghydâ Phrydydd, sydd wedi deor ar y geiriau uchod, ag ydynt yn yr Anerchiad. Byddai yn lIed chwithig gan y pedwar gweinidog hyn, ag sydd yn OLYGWYR ar y Bedyddiwr, i gael ar ddeall nad ydynt frodyr teilwng ac ymdiechol —yn anrhydedd i'r areithfa, yr esgynlawr, a'r gynnadledd etto, os ydynt yn frodyr teilwng, &c. nid ydynt yn gymhwys i osod pin ar bapyr," ac anfon eu petliau i'r wasg, heb fyned yn mhell islaw iddynt eu hunain," a bod yn warth felly i wrthwy nebwyr y Bedyddiwr, a'r blaid a wasanaetha, pa un bynag yw hono. Wel, beth yw y rheswm/W y brodyr "teilwng" hyn yn Olygwyr, ac yn ymyraeth a'r pin, y papyr, a'r wasg ?" a hwythau eu hunain yn yr Anerchiad yn gosod allan nad ydyw rhai o'u bath yn fit at y gwaith ? Yr un peth, mae'n debyg, fyddai gofyn i'r gath- Paham yr ydwyt, greadur ffol, yn lograbino dy gynffon mor ddidrugaredd ?" Yr unig ateb a roddai y creadur hwn fyddai, a'i bod yn gallu ateb ogwbl, —" Dyma fy anian. pan fyddwyf mewn natur ddrwg at ereill, ac yn methu ymddial arnynt; yr wyf, gan hyny, yn siglo fy nghwt, ac wrth weled hono yn siglo, yr wyf yn ei 'sgrabino, gan nas gallaf 'sgrabin neb araU." A gadael mai y Prydydd Golygyddol yw y pen, y worn, a'r gwinedd, ac mai y pedwar gweinidog golygyddol ydyw y gyttffon I etto, y mae yma annghyssondeb enbydus yn yr ANERCHIAD, o herwydd tra fyddo y corff a'r gyn- ffon yn nglyn a'u gilydd, ni ddylai y gwinedd Fe ddeall y rhai sydd yn gallu deall cymhariaeth, mai nid cyffelybu y Golygwyr a'u Hanercbiad i OATH yr ydwyf, oid i GATH YN 'SGBABIWO .1 CHYNJPFON- y gath ya y wsithred o 'sgrabino, a'r Golygwyr yn eu gwaith yn anerch y cyhoedd.
GOHEBIAETHAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ell lie; diolchwn yn fawr iddynt am fyned yno oddiar ein ffordd. Mae yno arch digon eang o "aerniaetb ein tirion lywodraeth i gynnwys pob rhyw species o ymlusgiaid a phedwar carnolion-glin neu aflan. Dywed Llangelerian" ei fod yn credu fod T' jwero Ddissenters Glan Teifi a Cheredigion yn eithaf parod, pe gwnelent chwareu teg a'u cydwy- •bodau, i ymuno a'r eglwys, oni bai fod rhyw gywil- ydd slafaidd yn eu cadw yn ol. Mae fy Meibl I yn dweyd y byddai i addolwyr y bwystfil a chanlynwyr annghriet, yn y dyddiau diweddaf, i gael eu rhoddi i fyny i gredu celwydd. Pwy erioed glywodd sdn am gydwybod un Ymneillduwr efengylaidd yn ei synwyrau yn ei yru i ymuno a'r Eglwys Wladol ? Mae hanes yn dweyd fod cydwybodau dwy fil o'r dynion goreu sangodd ddaear erioed wedi eu gyru fir unwaith allan o furiau treisiol a halogedig yr eglwys ddau can mlynedd i eleni; ac y mae miloedd wedi eu canlyn yn yr un ffordd o'r dynion goreu a gonestaf, o hyny hyd y dydd heddyw. A ydyw Llangelerian yn meddwl fod y Cardies wedi eu rheibio a'u Ilygad-dynu ? Dywedai un Pabydd enwog unwaith, fod yn rhaid fod Protestant pan yn dychwelyd yn ol i Eglwya Rhufain, un ai yn ynfydyn neu yn ddyhiryn (fool or a rogue). Tueddir ni i gymhwyso yr un rheol at yr hwn a ymadawo oddiwrth Ymneillduaeth efengylaidd i ymuno ag Eglwys Loegr yn ei chyf- hvr llygredig ac anysgrythyrol presenol. Nid ydym yn credu fod y rhan luosocaf o lawer o Ymneilldu- wyr Glan Teifi yn perthyn i un o'r ddau ddosparth —ynfydion na dyhirwyr. Ond y mae gan Llangelerian brawf o wirion- edd ei grediniaeth, fod yr holl sedan oddeutu iddo yn mron marw o hiraeth eisieu dychwelyd yn ol i fynwes yr hen fam. Dyma fe: —" Mae hyny yn eithaf ajnlwg, oblegid os bydd rhyw aelod gyda hwy yn cael ycbydig dramgwydd, atom ni, i Eglwys Llangeler, neu ryw eglwys gymmydogaethol arall, y maent yn dyfod, ac nid myned at un o'r sectau." Felly yn wir Ie, pobl y tramgwyddiadau a'r pechodau sydd yn ffaelu byw gyda ni,-mae i chwi gyflawn roesaw o honynt; wrth ddyfod atoch, Ynaent yn dyfod i'w Ile eu hunain. I ba le arall yr ant druain, wedi methu yn mhob man arati ? Mae y sectau yn falch o gael gwared arnynt, ac yn cau isu drysau yn eu herbyn ac y mae Mab y Dyn yn bwrw allan o'i deyrnas yr holl dramgwyddiadau, a'r rhai a wnant anwiredd ond am danoch chwi, mae genych grefydd heb ddysgyblaeth i'r afreolus, crefydd ready-made i gyfarfod ag angen yr anianol a'r dioruchwyliaeth, crefydd rad ar gost y wladwr- iaeth i'r cybydd sydd yn rhy fydol i roi ceiniog at achos y Gwaredwr, a chrefydd sydd yn claddu y dyhiryn gwaethaf mewn cyflawn obaith am adgyf- odiad gogoneddus i fywyd tragywyddol. Ond fod ambell i streglyn fel hyn yn dyfod atoch, wedi iddi fyned ynstop-shop arno yn mhob man arall, yn rhoi He i chwi gredu ein bod ar ddyfod i gyd a phridd ar ein penau, mewn dwys edifeirvvcb, i geisiopriestly absolution, a noddel yn mynwes yr hen fam, sydd yn ddull o ymresymu teilwng o Tom o Bedlam. A ydyw Llangelerian yn compos mentis I Peth arall, mae ein cystwywr yn ymffrostio ynddo ydyw, fod cyunifer o bregerhwyr Ymneillduol o blwyf Llangeler yn unig, heb son am ereill yn y cylchoedd, sydd wedi troi at yr eglwys yn y blyn- yddoedd diweddaf yn unig. Dim llai ni thri a godwyd gyda'r Annibynwyr yn Saron. Yn wir, mae hyn yn phenomenon teilwng o sylw y cyhoedd. A ydyw y ffaith yma yn profi fod Ymneillduaeth yr ardal yn bwdr a dadfeiliedig? Neu, ynte, a oes yn y parth yma ryw waedoliaeth o ddynion ag y mae eu hanianaeth foesol yn fwy arwynol na'r cyffredin, tel ag i fod yn analluog i wir brofi gtym cydwybod, ac i deimlo nerth egwyddor ? Dyma study i athronyddion y Tivy Side. Pa fodd bynag, nid yw enciliad y renegadoes bnddchwantus hyn yn fwy na llai na'r hyn sydd yn ddygwyddol i bob cym- deHfea? Griationogol o ddyddiau Judas Iscariot hyd y dydd heddyw. Trwy ymadawiad y cymmeriadau hyn, y maent trwy ddeddf dyscyrchiant yn cael eu dwyn i'w lie eu hun; mae eglwysi Crist yn cael eu puro oddiwrth eu sothach a'u swtrach, a'rysgrythyr lan yn cael ei chyflawnu, yr hon sydd yn dangos yn eglur yr ymedy rhai yn yr amseroedd diweddaf oddi- wrth y ffydd-rhai heb fod y gwirionedd ganddynt, yn tybied mai elw (elw bydol) yw duwioldeb. Yr oedd yn rhaid i "Llangelerian," wrth gwrs, gael dwyn i mewn i'w lythyr yr hen 101 goegfostiol, mai genym ni mae y weinidogaeth a'r olyniaeth Apostolaidd." Gan nad yw o un dyben i geisio dangos i ohebwyr ac edmygwyr dallbleidiol y Cymro, ynfydrwydd yr hen druth Pabyddol yma, bydd i ni ei basio heibio gyda ffrewylliad tremygus. Gwein- idogaeth Apostolaidd yn wir Gweinidogaeth ag y buasai Cymru y dydd heddyw, o'i rhan hi, yn gaddug o dywyllwch, ac yn ysgarthbwll o lygredig- aeth ;-gweinidogaetb, er ei bod yn costio i'r wlad yn flynyddol ugeiniau o filoedd o bunnau, ag sydd er ys dros dri chant o flynyddoedd, wedi ei phr fi y failure mwyaf truenusgweinidogaeth sydd yn cynnwys pob athrawiaeth, o eithafion here siau damniol Rhufain, hyd eithafion anffyddiaeth y German Rationalists. Gweinidogaeth Apostolaidd, yr hon a werthir ar auction i'r uchaf ei bris, pe byddai yn Iuddew, yn Fahomedan, neu yn Atheist! Olyniaeth Apostolaidd forsooth Pa Apostolioa wys ? Nid Apostolion yr Oen bid sicr. Yn byt- rach olyniaeth y Phariseaid a'r offeiriaid luddewig a groeshoeliasant Arglwydd y bywyd — olyniaeth Simon Magus — olyniaeth trais, gormes, traws- falchedd, ac erlidigaeth — olyniaeth esgobion y deuddeg mil punnau yn y flwyddyn, i eistedd yn Nb9 yr Arglwyddi i rwystro pob diwygiad, ac i gadw beichiau gorlethol ar ysgwyddau y bobl- olyniad yapeilio y tlawd a threisio yr angenus trwy dreth eglwys ac imposition8 ereill i gynnal sefydliad ag sydd yn brif ormes y genedl, ac yn libel ar Gristionogaeth-olyoiaeth curadiaid a phersoniaid Cymreig, yn llawn cenfigen, chwerwedd, cabledd, a chasineb at yr Ymneillduwyr ag sydd wedi efengyl. eiddio a moesoli y genedl wedi iddynt hwy ffaelu- olyniaeth Apostolaidd, serch hyny, o herwydd eu bod trwy hocus-pocus yr urdd eagobol ya gallu olrhain yn ol eu trais trwy ffosydd balogedig Pab- yddiaeth, hyd at gadair St. Pedr yn Rhutain. Edrycha Llangelerian yn mlaen yn llawen at y dydd y bydd yr holl sectau y ffordd hon wedi dychwelyd yn ol i fynwes yr hen fam. Caniataer i ninnau, ar sail mil cadarnach, i edrych yn mlaen yn fwy llawen at y dydd pan na bydd Eglwys Sefyd- ledig mwyach yn y wlad hon, nac un wlad arall dan y nefoedd. Nid yw hyn yn mhell; mae yn barod yn taflu ei gysgod o'i flaen mewn Uawer dull rhy amlwg i ni ei gamgymmeryd. Eglwyswr uchel a thra dysgedig, sef Mr. Smith, Protfeswr Hanesiaeth Ddiweddar yn Mhrif-ysgol Rhydychain, a ddywed, Os ewyllysir cadw ymddiried y bobl, fod yn rhaid llwyr ddiddymu holl ymyriad y llywodraeth a chydwybodau dynion mewn materion crefyddol; a bod Eglwys Sefydledig, yn He sicrhau trefn, yn ffynnonell sicr o annhrefu a dinyttr crefydd." Os na fydd i'r oruchwyliaeth yma fod yn effeith- iol i roddi i lawr ysbrydion aflonydd Llangeler, a dysgu iddynt beidio enllibo eu cymmydogion, bydd fy llaw yn llawer trymach arnynt y tro nesaf. Felly, good by for the present. GLANBARaOD.