Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

BARDDONIAETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BARDDONIAETH. t CAN Ar effeithiau Cariad, feZ rhwymyn Cymdeithas. Mae deddf a rwym aneirif lu Pob seren yn y wybren lias, Pob llychyn yn y ddaear fras, Pob defnyn yn yr eigion du. Ac i gymdeithas dros y byd, O'r un lie uchel deddf a roed, I wneyd yn un pob gradd, pob oed, Mewn cariad byddwch byw yn nghyd, Y pen coronog ar ei sedd, Y gweithiwr ar ei aelwyd lan, A phawb cyd-rhyngddynt fawr a man, Cyd-drigent mewn hapusaf hedd. Pe llanwai cariad pur bob bron, Nes toddi gwahaniaethau i lawr, A chydgylymu bach a mawr Yn rhwymyn cydymdeimlad lion. Fe beidiai Divstyrwch cas, Cenfigen roddid yn y bedd, A blodau o hawddgaraf wedd Agorent ar au donen las. Fel ysgafnheid baich y tlawd, Trwy fod llaweroedd yn cyd-ddwyn! A chan bob un ryw gysur mwyn, I weini i drallodus frawd. Y weddw svdd a'i grudd yn wleb, Wrth gofio am y marw pell, Hi allai ddwyn ei chroes yn well, Pe'n gwybod na chai gam gan neb. Pe bwrir y tyddynwr gwan I brinder chwrw gan groes ffawd, Cai bob cymmydog iddo'n frawd, Ac o'n byd helaeth dderbyn rhan. Ac 0, ni chai'n henafgwr llwyd Fu'n ddiwyd hyd ei fywyd blin, Ddyoddef bar gauafol hin, Ac yn ei henaint, eisieu bwyd. Tawelwch drigai yn mhob bro, Cartrefai megys yn y nef, Paradwvs fyddai gwlad a thref, Pob dig a chas ar fythol ffo.. Ni rwygid un gymdeithas gan I Annghydfod brodyr ffyrnig gau, Cadwynid cynhen yn ei ffau, Gwir frodyr pawb mewn llyøa llan. Ac o addfwynaf Iesu mâd Dy eglwys flodeuai mwy, lacheid hi o lawer clwy' A'th enw folid yn mhob gwlad. Yn muchedd dyn, sy waith dy law, Ceid darlun gwan ar hedd fellli, Sy'n harddu gwedd dy drefnau Di, Ein tad! y Cariad dibendraw. p. OiiiyjiR Edwards.

HELAETHIAD SEREN CYMRU.

AT EIN GOHEBWYR A'N DARHENWYE..

Advertising

Y GATH YN YSGRABINO EI CHYNFFON.