Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

HANESION CREFYDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HANESION CREFYDDOL. CWRDD CHWARTER DOSPARTH UeHAP SWYDD GABRFYRDDTN. — Cynnelir y cyfarfod hwn yn Nghydweli, aryraiIFawrth a Mercher yn mis Chwef. nesaf, pan y dysgwylir i'r gweinidogion perthynol i'r cylch fod yn wyddfodoL—J. REYNOLDS. SPELTER, MAESTEG.—Cadwyd un o'r cyfarfod- ydd adroddiadol, a cherddorol, mwyaf dyddorol a llwyddiannus, ag oedd yn ddichonadwy i'w gael, dydd :Nadolig fdiweddaf, gan ieuenctyd ysgol Sabbothol Salem. Dechreuwyd am ddeg yn y boreu, drwy i'r Parch. H. Davies gynnyg Ph. Perkins, (Gwalch Llynfl), i gymmeryd y gadair; am nad oedd yr hen bererin, J. Jereminah, yno. Yna, cawsom ychydig o eiriau gan y Gwalch ag oedd yn llawn o DAn, ac ysbryd llenyddol. Awd drwy y cwrdd deg yn rhagorol dros ben. Erbyn y cwrdd dau, yr oedd yr hen Gristion J. Jeremiah wedi dod. Cynnygwyd ac eiliwyd ef yn unfrydol i gymmeryd llywyddiaeth y cwrdd; ac felly y gwnaeth. Yehydig wedi dau o'r gbch, aethom yn UII dorf gariadus, bach a mawr, yn orchymdaith o amgylch y lie; ac yna dychwelwyd yn ol i adrodd a chanu eilwaith, gyda'r un medrusrwydd ag oedd yn y boreu. Ac am chwech y nos, yr oedd yr holl le yn orlawn o wrandawwyr siriol ac astud. Os oedd y ddau gyfarfod y boreu yn dda, yr oedd hwn yn well yn mhob ystyriaeth. Bydd y Nadolig di. weddafyn glodac anrliydedd i'rathrawon. Ynystod y tri chyfarfod, traddodwyd saith o anerchiadau barddonol, heblaw y rhai rhyddieithol. Dadgan. wyd chwech ar hugain o wahanol ddarnau cerdd. orol, a thri ugain ar ddeg o wahanol adroddiadau. Dyna i ti, ddarllenydd anwyl, Ie i ffurfio rhyw idea am yr yagol. Y mae ei rhif wedi ychwanegu llawer yn ddiweddar; a gallwn ddweyd, ys dywed un, Ein bod ni yma'n llawen Wrth yfed ffrwyth yr awen, Heb deimlo brath, na bias, Yr adgas hyll genfigen, GWALIWR GWYLLT. BETHEL, LLANELLI. — Cynnaliwyd cyfarfod chwarterol yr ysgol Sabbothol yn y lie uchod ar ddydd Sul, londwr 5ed, am ddau o'r gloch y pryd- nawn. Dechreuwyd y cyfarfod trwy i'r brawd Rowland Morgan ddarllen rhan o air Duw, a throi at y Jehofah mawr i geisio ei wenau grasol ar y cyfarfod; ac yr ydym yn hollol gredu na fu ei gais a'i ddymuniad yn ofer. Wedi hyn cymmerodd ein parchufi a'n ffyddlon weinidog, Mr. Hughes, y swydd o lywyddu y cyfarfod, yr hyn a gyflawnodd mewn modd trefnus iawn. Yna, galwodd ar yr ysgrifenydd i roddi cyfrif o lafur yr ysgol am y chwarter oedd wedi myned heibio, yr hyn a wnaeth mewn modd byr a doeth. Yrunig beth annymunol yn hyn oedd, nad oedd cymmaint o ymdrech wedi bod ag a ddylasai fod ond y Duw mawr a'n ben. dithio o hyn allan a mwy o ffyddlondeb, Yn nesaf, canodd y cor don a elwir, "Part'owch y ftordd," yn soniarus iawn. Yna adroddwyd darnau o farddoniaeth gan rai o'r plant; ac yn ganlynol galwyd ar y brawd ieuane William Davies i areithio. Er ei fod yn areithiwr newydd, yr oedd ei ddull trefnus yn dweyd ei fod yn hen areithiwr, oblegid fe safodd i fyny yn wrol, ac fe ddywedodd am ddaioni yr ysgol Sabbothol mewn modd effeithiol a dylanwadol iawn, nes yr oedd y gynnuUeidfa, rwy'n meddwl, yn teimlo parch mawr tuag at y sefydliad gogoneddus ag oedd ef yn ei ganmol. Etto, adroddwyd llawer o ddarnau gan y plant, ac fe ganodd y cor don o'r enw Darnau Arian," nes oedd y dorf luosog yn cael boddlonrwydd. Wedi hyny galwyd ar y brawd Dan Davies i areithio ar yr Ysgol Ssbbothol, yr hyn a wnaeth mewn modd gwresog a theimladwy iawn, nes yr wyf yn credu i'r gynnulleidfa gael ei hargyhoeddi o'i dyled. swydd tuag at yr achos da, a gobeithio na fydd i'r argyhoeddiadau hyny gael eu diffodd. Y peth nesaf a wnawd oedd yr hyn ag sydd yn cael ei alw yn Ymgom yn Ilys Media," yr hyn a gyflawnwyd gan chwech o bersonau, ac fe'i gwnawd hefyd yn weddaidd ac mewn trefn, fel y mae'r Apostol yn ein cynghori, ac nid oedd dim yn yr ymgom, mi a debygwn, ag oedd yn anaddas i gael ei wneyd yn nht Dduw, oblegid y mae yn ddianmeu tod gweled Daniel yn cael ei dafla i 8air Uewod am ei grefydd yn peru i'r gynnulleidfa ddiolch am ryddid cref- yddol, ac nid wyf i'm beio os dywedaf yr un modd ag y dywedodd ein cadeirydd parchus, fod yr hen frenin wedi myned trwy ei waith yn dda. Ar ol hyn, canwyd deuawd gan John Charles a Mary Thomas, yn swynol iawn; ac hefyd Solo gan Thomas Bowen; ac yna yr oedd dadl rhwng loan a Dafydd, o berthynas i'r Ysgol Sabbothol, a llawer o ddarnau difyrus iawn, ac yr oedd y plant oil yn haeddu canmoliaetb am eu gwaith,er eu bod bob un wedi cael eu gwobrwyo a llyfr. Yn nelaf, galwodd y cadeirydd ar y brawd medrus Thomas Jones, sef ysgrifenydd yr ysgol, i areithio. Ei destun oedd Amser; ond ni chafodd y brawd chwareu teg i drin ei bwne yn bwyllog, oblegid yr oedd yr amser wedi myned yn mhell, er hyny, y mae yn haeddu canmoliaetb mawr. Yna diwedd" wyd y cyfarfod trwy i'r cor ganu Teyrnasoedd y ddaear." Er ein bod wedi bod yn agos i ddwy awr a banner, etto i nid oedd argoelion |y fod neb yn blino—yr oedd yno dorf luosog wedi ymgynnull yn nghyd, ac yr wyf yn meddwl ei bod oil yn gallu dwryd with fnned allan, Da oedd i ni fod yma." Y mae yn ddiamheu genyf fod hwn yn un o'r cyf- arfodydd chwarterol mwyaf dyddorol a gynnaliwyd genym a gobeithio y bydd yn foddion dan fendith Duw i wneyd lies mawr i'r ysgol yn y Ile. 0 dyro i ni'th gymhorth Yn Bethel, 0 fy Nuw, I weithio hyd mae ynom, Tra ar y dda'r yn byw, Er daenu son am lesu, A dysgu'r werin tlawd I ddarllen am y Cyfiawn, A ddaeth yn wrthddrych gwawd. EDWIN MONGER. CYMMANFA YsGonoN.—Cynnatiodd Undeb Ysgolion Sabbothol Blaenffos, Star, a Chilfowyr," eu cymmanfa flynyddol ar ddydd Mercher, Rhag. 25ain, 1861, yn y Star. Yr oedd yr bin yn ddy. munol, a'r ysgolion wedi dyfod yn nghyd yn lluosog a phrydlawn. Dechreuwyd y gwasanaeth cy. hoeddus gan y Parch; D. Price, trwy ddarllen y 7fed bennod yn llyfr y Pregethwr; yna cymmer- odd ysgol luosog Blaenffos ei safle ar yr oriel, a chanodd y don Ebenezer. Yna gweddiwyd am fendith Duw ar waith y dydd, a chanodd y cor drachefn yr Anthem, Can Deborah o Barac." Yna holwyd yr ysgol gan ei gweinidog, Mr. Price, ar yr Ysgol Sul," pwnc o waith y Parch. J. Rowlands, Cwmafon; ac aeth trwy ei gwaith er boddhad neillduol i'r holl gynnulleidfa, (a dymun. em gydft llaw, alw sylw yr ysgol Sabbothol yn gyffiedinol yu Nghymru at y pwnc dyddorawl hwn.)

HANESION CARTREFOL.'