Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
LLANFYLLIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANFYLLIN. Dymuna y frawdoliaeth yn y lie uchod gydnabod gyda diolcbgarwch, y derbyniadau canlynol o'r20fed o Ragfyr, 1861, hyd yr 20fed o Ionawr, 1862. s. c. Llangerniw 8 8 Seion, Brynmawr. 9 6 Trecynoa,Aberdar. 2 11 Mr. Roberts, Ty'nrhos 0 6 Ysgol Sabbothol Caersalem, Sir Benfro i. 2 6 D.S. — Y mae yn dda iawn genym weled yr ysgol Sabbothol yn dechreu gwneyd sylw o achosion teilwng a Christionogol fel byn. Nid ydym heb wybod am amryw orchestion a wnaed gan yr ang- yles alluog hon, a diau pe ymaflai o ddifrif yn y gwaith a ddechreuodd yr ysgol Saboothol uchod, y 1 caem yn fuan resttu llawer o'i rhagorgampau yn yr ystyr hwn hefyd. Allan o £7f), nid oes yn awr ond JGIO yn aros ar ysgwyddan y brodyr uchod, a phe y gwnai dim ondpedwar ugain o ysgolion Sabbothol Cymru ddilyn esiampl ysgol Caersalem i anfon dim ond banner coron yr un, diflanai y cyfan fel y niwi o flaen haul y boreu. Da chwi ynte, frodyr ein heglwysi, a ebyfeillionein hysgolion Sabbothol, gwnewch un egni fach etto, a tharewir yr auadl olaf, allan o'r gelyn dyled hwn, acbaiffy brodyr fawrhau yr Arglwydd am y waredigaetb o'i afaelion poenus, ac ymunioni i fyned rhagddynt yn llewyrchus yn nyledswyddau ereill efengyl Crist. IOAN GWYNDUD.
ABERYSTWYTH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ABERYSTWYTH. Os amser o seibiant ac esmwythdra aolygirwrth y term Gwyliau," nid oes iddo fawr o ystyr o'i gymhwyso at ddull trigolion Aberystwyth a'i chym- mydogaeth o dreulio y tymhor hwn eleni, gan y treuliaaant ef mewn ymdrechion brwd ar faes Llenyddiaeth. Dydd Llun, Rhag. 23, 1861, ar- holwyd ysgolheigion Oxford House Grammar and Mathematical School, gan y Parch. E. O. Phillips, A.M., gynt o Lanymddyfri, ond yn awr ficer yn y dref hon. Arholwyd yr holl ddoaparthiadau oddigerth y cyntaf viva voce. Dechreuodd arhol- iad y dosparth cyntaf am 10 o'r gloch y boreu, a pharhaodd yn ymdrechfa dyn rhyngddynt hyd 5 yn y prydnawn. Cyflwynid y gofyniadau mewn ysgrifen, ac atebid hwy trwy yr un cyfrwng, ac yr oedd nifer o farks, mwy neu lai, yn ot y buasai yr atebiad yn dda ynte yn wael, yn cael eu gosod yn gyferbyniol i bob atebiad, ac yr oedd yr ymrysonfa i'w phenderfynu yn ol cyfanswm y marks byn. Y papyr cyntaf a osodwyd ger eu bron oedd yn cynnwys gofyniadau mewn Latin Composition, a darn o Latin i'w gyfieitliu i'r Saes- oneg. Cynnwysai yr ail bapyr ofyniadau mewn Plane Geometry; a'r trydydd, gofyniadau mewn Arithmetic ac Algebra. Wedi cwblhau y rhai hyn, aeth yr ysgolheigion tung adref yn bryderus mewn dysgwyliad am foreu dranoeth, pryd yr oeddynt i gael gwybod result yr ymdrechfa. Boreu dranoeth a ddaeth, ac hysbysodd yr arholwr mai y goreu yn y dosparth cyntaf, a chymmeryd yr holl ganghenau yn nghyd, oedd John Dav:es, o Ben- rhyncoch, ac, o ganlyniad, efe a dderbyniodd y first prize. Y goreu mewn Classics oedd Isaac Jones, o Lanbadarn y goreu mewn Mathematics oedd John Davies; etto, y goreu mewn Arithmetic oedd John Williams, mab y Parch. E. Williams. Sal'ai y tri uchod fel y canlyn Cliss. Math, Total John Davies 93 126 119 Isaac Jones 103 50 153 John Williams — 57 57 Dylid crybwyll na chystadleuodd J. W. ond mewn Arithmetic ac Algebra yn unig, tra yr oedd y lleill yn yingystadlu mewn cangen arall dan y pen Mathematics. Dywedai Mr. Phillips pan yn cvf- Iwyno y gofyniadau mewn Mathematics y buasai i'r ysgolheigion wneyd fwy nag a ddysgwyliai os gwnaent ateb yr holl ofyniadau; ond y mae yn glod i Mr. Jones fod y standard wedi profi yu rhy isel, gan i'r ysgolheiajion (rai o honynt) ateb yn foddhaol bob gofyniad a osodwyd iddynt. Mae yr ysgol hon, er ys blynyddau bellach, yn cael ei hystyried y benaf yn y dref a'r gymmydogaeth, ac wedi bod yn fagwrfa i ugeiniau o weinidogion, ya offeiriaid a phregethwyr. Ond, mae yn debyg mai dyma y waith gyntaf iddi fyned dan arholiad cy- hoeddus ond deallwn y bwriada Mr. Jones o byn allan ddwyn yr ysgol yn mlaen ar gynlluB helaethacli, a'u dwyn danarholiad bob chwech mis; ac y mae yn ddiammheu y bydd i sefyllfa uchel Mr. Jones fel Classical Scholar, ac un o'r Mathe- maticiam goreu yn Nghymru.sicrliau ei lwyddiant- Yn gynnar yr un dydd, gwelwn barotoadau yl1 cael eu dwyn yn mlaen gogyfer a chyfarfod cystad- leuol a fwriedid gynnal dranoeth (Nadolig), meWØ
RUMNI A'I CHYMMYDOGAETH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
yn cyfarfod ag ef, rhoddasai ef rhwng ei fys a'i fawd, a dywedasai wrtho, fel ag y dy- wedodd wrth Bucer, Thou art a good-for- nothing fellow and a knave," Ond y mae gan Bob ryw ychydig gyfeillion ag y mae yn eu hanerch fel ag y gwnelai un enwog gynt, Courage, rogues! you have still ONE friend-steal on Nid yw o un gwerth dweyd rheswm wrth Bob, gan hyny, bydd i ni chwipio tipyn arno, gan roddi iddo ddys- gyblaeth y corgwh. Paham, Bob, yr ai di i'r Cymro-papyryn uohel-eglwysig ? A oes rhyw berthynas rhyngot ti a'r hen fam P neu, a wyt ti am gael ewyllys da Eglwys Loegr erbyn rhyw amser sydd i ddod r A wyt ti'n deall fod y Cymro yn cashau dy enwad i'r eithaf, ac y mae yr offeiriaid yn chwerthin am ben dy lythyr. Er cymmaint wyt yn ffieiddio y Bedyddwyr, byddai yn gan mil gwell i ti ymwasguahwy erbyn yr amser a ddaw nag ymwasgu a gwyr Eglwys Loegr; cofia hyn o nyn allan, a meddwl dipyn yn sobr am dy fater. Yr wyt ti yn beio llawer ar ysgrif Iota yn y SEBEN, ac yrwyt yn ei galw yn "erlidgar." Cofia, nid yw y SEREN yn erlid dim ond twyll a chelwydd; a. chan mai gvda'r cyfryw yr wyt ti yn dewis rhedeg, y mae y SEEEN of course yn cwrso ar dy ol, ac yn yr ystyr hyny, y mae yn erlid. Yr wyt ti yn dweyd llawer iawn o gelwyddau yn dy lythyr. Yr wyt yn son am Iota," ei fod yn ddiweddar yn ymdreiglo yn ffosydd dyfnion a drewllyd iaeddwdod ac annuwioldeb." Anwiredd i gyd, nid oes purach cymmeriad nag eiddo Iota" yn Rhumni; os nid gwir hyn, y mae rhyddid i ti brofi yr hyn a haeri. Dichon dy fod ti yn ddigon annuwiol i ddymuno mai un yn ol ay ddesgrifiad di fuasai Iota ond Un cyfan ei gvmmeriad ydyw, ac y mae groesaw i ti ddweyd y gwaethaf am dano, ond i ti gadw at y gwir. Yr wyt yn galw pregethau Williams a Lewis, mewn atebiad i Mr. Hughes, Pen- main, yn enllibiaeth adolygiadol.' Anwir- edd yw hyn etto, fel ag y gwyr y rhai dirag- farn oedd yn eu gwrando. Bhaid i ti ddeall beth yw enllib cyn yr ysgrifenot y gair etto. Paid dweyd dim ar amcan. Nid gwir ych- waithiMr. Lewis fethu dangos pa bryd y daeth taenellu plant i'r byd. Dangosodd Mr. Williams nad oedd taenellu plant yn yr oes Apostolaidd; dangosodd Mr. Lewis nad oedd taenellu yn fuan ar ol yr Apostolion, a dyg- odd y tystion canlynol o'i blaid, sef Knapp a Neander. A wyt ti yn cofio i Mr. Lewis ddweyd nad yw y tadau apostolaidd yn son dim am daenellu plant ? dywedodd hefyd, na cheir y cyfryw ddefod yn Justin Ferthyr, Irenaeus, Tertulian, &c. A wyt ti ddim yn cofio i Mr. Lewis ddweyd fel hyn, "Yr wyf yn addef fod bedyddio babanod yn amser Cyprian, yn Affrica, tua chanol y drydedd ganrif, sef A. D. 250, ond cofier mai trochi y rhai bach wneid P" Pa fodd, Bob, y gallaset ti ddweyd na ddangosodd Mr. L. pa bryd y dechreuwyd bedyddio babanod ? Gofala ddweyd y gwir, was. Yr wyt yn gofyn, Pa dwyll, pa anwireddau oedd yn mhregethau Mr. Hughes, Penmain P" Dywedwyd wrthyt unwaith, pe gwrandawset; a dywedir wrthyt ti a'th frodyr etto, morfuan ag y daw pregeth Mr. Hughes o'r wasg. Os yw MT. Hughes yn caru ei hun, ac yn caru llwyddiant y gwirionedd, efe a newidia lawer yn ei bregeth cyn ei chyhoeddi; ond gwneled fel y myno, efe a gain atebiad llawn mor fuan ag y daw allan h.y., bydd i'w holl gyfeiliornadau gael eu dynoethi gerbron y cyhoedd, Gwell i ti, Bob, adael y Parch. R. Ellis, Sirhowy, yn llonydd. Paid dimeddwl eifod o'th ochr di. Yr ydym yn dy gynghori i ddarllen pum darlith y gwr parchedig ar Fedydd, a charem glywed dy farn am dano wedi'n. Yr wyt yn dweyd anwiredd ar R. E., canys ni ddangosodd un annghymmeradwy- aeth i syniadau Mr. Williams. Yr ydym yn appelio at Mr. Ellis ei hun. Dywedi, na wyddot ti ddim pwy yw y llanc y sonia Iota am dano ac ychydig nes yn mlaen, dangosi yn eglur mai ti vw, a thi hefyd yw y gwalch. Paid annghofio dy hun beth bynag. Yr wyt ti yn achwyn fod Iota yn ysgrifenu ac yn trin personau dan ffugenw. Pwy ddechreuodd gyda y ffug- enwau? Onid y ti a'th frodyr r. Gelwi bregeth Mr. Lewis ar Daenelliad yn bamphled plentynaidd." Syndod pa fodd y gelli roddi y fath enw iddi ? Pe y buasai yn amddiffyn bedydd plant, neu, pe buasai plant yn gallu ei throi yn ol, buasai rhyw briodoldeb yn dy ddesgrifiad. Ond, cofia, y mae yn rhy Samsonaidd i Golias penaf y daenell i'w gorchfygu. Paid son am Adri- catos, canys ni wna Mr. Lewis sylw o neb dan ffugenw. Arddeled ef ei waith, ac yna atebir ef gan Mr. Lewis. Y mae Mr. Lewis yn foddlon ei gydnabod yn feistr mewn rhyw ystyr; canys y mae yn feistr ar anwybod- aeth, twyll, annhrefn, haerllugrwydd, a phob celwydd; y maent wrth ei gommand, ac yn ffyddlawn weision iddo. Yr wyt yn bygwth taflu Iota" i goll am byth! Cofia, dyna fwv na elli di wneyd. Y mae Iota yn penderfynu na chei di a'th fath lonydd ac os na adewi dy ddrygau, bydd y fflangell ar dy war yn ami. Yr wyf am ofyn rhyw bethau i ti cyn dy adael y tro hwn: B'le mae'r adnod, "Nid âi mewn yno ddim celwydd ?" Ai gwir dy fod wedi cael dy ddi- raddio yn dy gapel gan dy frodyr, a'th droi o'r set fawr P Ai gwir dy fod wedi digio wrthynt am na chawset ddechreu y cwrdd yn y pwlpid ar nos Sul, a'th fod wedi gofyn am lythyr i fyned i S- ? Ai gwir fod dy fam yn bygwth dy fonclusto yn y ty ? Ateb di bethau bach fel yna, canys ofer fyddai gofyn i ti bethau uwch. Y mae helaethiad y SEBEN wedi rhoddi y boddlonrwydd mwyaf-gwnawn a allwn drosti.