Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

OFERGOELEDD HYNOD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

OFERGOELEDD HYNOD. Yn ddiweddar profwyd achos hynod o flaen brawdlys Seine ag sydd yn peri i ni goiio am fradwriaethau rhai o gyhoeddiadau cyntaf George Sand. Cyhuddid y prif weithredydd ynddo o lofruddiaeth, ond barnodd y rheithwyr nad oedd yn ddimond annoethineb penboeth, a rhyddhasant ef. Y ffeithiau yn fyr oedd fel y canlyn Syrthiodd dau berson, un yn wraig weddw, a'r Hall yn wr priod. ac yn dad i blant, mewn cariad mor angerddol at eu gilydd, fel y pender- fynasant gyflawnu hunanladdiad, gan nad oedd un o'r ddau yn ewyllysio aros yn hwy yn yr hyn a elwid ganddynt yn bertbynasau twyllodrus. Llaw-nododdy ddau gytundeb cyn rhoddi eu cynllun i briodi yn y byd arall mewn gweithrediad: "Cyssylltir ni mewn priodas beth bynag yn nhragwyddol- deb, gan nas gallwn aros yn hwy ar y ddaear." Y dull trwy ba un yr ymdrech- asant fyned i mewn i wiad yr addewid oedd yr un a ddilvnwyd mor fynych gan gariadon Ffrengig mewn amgylchiadau cyffelyb, sef trwy roddi padellaid o olosg (charcoal) mewn ystafell wedi cau pob mynedfa i awyr ddyfod i mewn iddi. I'r dyben o gario allan eu meddylddrych yn fwy cyflawn, ym- wisgodd Madame Thomas, y wrflg weddw, mewn ddillad priodasol gwych, a thalodd ddeg ffranc i ddyn am drefnu ei gwallt mawr- eddog cyn ei mynediad i'r sefyllfa briodasol. Ar ei dymuniad hi, ceisiodd Paulin Gilbert ddillad priodasol. Penderfynwyd mai angeu oedd i fod yn offeiriad ac am hyny ymafl- odd y ddau yn nwylaw eu gilydd uwchben y babell hyd nes yr aeth y briodasferch yn ddideimlad trwy eifeithiau arogl y golosg, a syrthiodd ar y liawr, gan lusgo ei Gilbert ar ei hoi, yr hwn oedd hefyd mewn sefyllfa o ddideimladrwydd. Bu hi farw bron yn ddioed ar ol hyny, ond ni ddilynodd y dyn anffodus hi i'r byd arall, fel yr oedd efe wedi addaw. Wrth gwympo efe a syrthiodd ar draws y badell, yr hon a roddodd ei ddillad ar dan, a thynodd yr arogl a gyn- nyrchwyd trwy hyny sylw y cymmydogion. Pan dorwyd y drws yn ag)red, yr oedd y tan bron wedi treiddio atyr asgwrn, yr hyn, trwy y boen a gynnyrchwyd ganddo, a ddygodd Gilbert ato ei hun. Cariwyd ef ar unwaith i glafdy, a chydag anhawsder, iach- awyd ef, canys gwrthodai gymmeryd medd- yginiaeth, ac ymddangosai yn benderfynol o ddilyn y weddw a feddyliodd gyntaf am y meddylddrych o gyflawnu hunanladdiad, ac a'i hysbysodd i Gilbert, yr hwn a gytunodd yn ddioed i'w roddi mewn gweithrediad. Yna dadblygodd y meddylddrych o hunan- laddiad i briodas dragwyddol, a gwerthodd y ferch anffodus y dodrefn goreu a feddai i gael arian i brynu dillad teilwng i orchwyl mor ddifrifol.

COFRES O'R FFWRNEISI SYDD…

CYLCHDEITHIAU Y BARNWYR.

ABERYSTWYTH.