Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

TRAETHODAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TRAETHODAU. PETHAU CARTREF. MR. GOL.—YR wyf yn deallyn awr mai SERKN CYMRU ydyw un o'r marchnadoedd mwyaf poblogaidd yn y dywysogaeth, bod ynddi bob math o'r nwyddau goreu ar werth, a bod mil- oedd lawer o bobl, o bob parth o'r wlad, hyd v nod rhai o'r lleuad, yn prynu ynddi angen- rheidiau bywyd bob pythefnos; felly y mae yn naturiol i ddyn i feddwl ei bod hi yn un o'r lleoedd mwyaf manteisiol i werthu nwyddau da; yn neillduol felly, os byddant wedi eu gosod i fyny mewn agwedd chwaethus a marchnadol. Ac os gwelwch yn dda, Syr, yr wyf fi am rentu stall yn rhywle tua cbanol y farchnad, i werthu pethau cartref (home goods) am y flwyddyn hon. A chan fod cymmaint o ragfarn yn meddwl y cyhoedd yn erbyn pob peth, os na bydd yr awdwr yn adnabyddus, mai yn rhaid i mi, er mwyn ei blesio fe, ymostwng yn y fan hyn i ddweyd ychydig am danaf fy hun, am y tro cyntaf, ac am byth. Fe'm ganwyd I yn Aberffeldy ys blynyddau bellach ac 0 mae enw'r fan yn para i gyff- wrdd a thanau mwyaf cyssegredig fy nghalon I hyd heddyw; mae y fan hono i mi y lie mwyaf dymunol ar y ddaear! Tlysni ei choedwigoedd, ffrwythlondeb ei dolydd. uchder ei chreigiau, cwympiadau ei dyfroedd, peroriaeth ei hadar, a dedwyddwch ei tbrig- olion, ollyn ddiail i'm golwg I. Ond feallai nad oes dim ynddi o ran hyny. Achan fod fy rhieni mor Wodus aboduwch- ben y byd, penderfynwyd rhoddi i mi bob addysg angenrheidiol yn moreu fy nyddiau, fel, cyn fy mod yn bumtbeg oed, yr oedd y gair ar led fy mod yn well ysgolhaig na fy Meistr. A phan welodd fy rhieni fy mod yn debyg o yfed addysg felly, anfonwyd fi i'r coleg, lie cefais gyfleusdra i ddyfod yn gyf- arwydd â gweithiau y prif awdwyr hen a di- weddar. Treuliais fy amser yno gyda llawer o ddiwydrwydd, a pheth ymdrech. Nid oeddwn yn arfer myned allan gyda'r bechgyn i rodio yn y prydnawn, ond bob amser yn y llyfrgell; nid oeddwn un amser yn siarad, ond pan fyddai yn angenrheidiol; nabythyn chwerth- in mewn unrhyw amgylcbiad; ennillais barch yr Athrawon, ac edmygedd y bechgyn, fel ag vr anrhydeddwyd fi wrth ymadael a'r teitl o P.S.O.F. Fy mhrif efrydiaeth erioed ydyw deall y naturddynol; ac fe feddyliais unwaith mai y ffordd rwyddaf i wneyd hyny oedd, dar- llen y llyfrau sydd yn proffesu egluro H Ath- roniaeth y Meddwl," a bod modd trwy hyny i mi allu deall y byd, ac ar yr un pryd ysgoi y pervgl oddifwynofy ngwisgoedd wrth fyned trwyddo. Ond nid hir y bum cyn gweled fy Bghamsyniad; ac yr wyf er ys blyayddoedd bellach, wedi fy ngweithio i'r penderfyniad,- Fod y byd mewn gwirionedd yn wahanol iawn i'r hyn y gosodir ef allan mewn llyfrau—nad oes dim modd i'w ddeall ef, heb weled dau tu y ddalen, ac nad yw y term athroniaeth y meddwl" ddim ond enw gwag, er y myn pro- ffeswyr y gelfyddyd mai hi ydyw colofn a sylfaen teral gwirionedd, ac mai doethineb yr oesau yw ymgrymu mewn addoliad. Ond y mae yn vniddangos i mi ar hyn o bryd, nad oes rheolau ar y ddaear trwy ba rai y gellir deall y natur ddynol, ac nad oes un moddion yn fwy effeithiol nag ymchwiliadau personol i arferion a tbeimladau dynolryw. A chan fy mod yn bvw yn bresenol yn ardal boblogaidd Glanhaffet, yr wyf yn cael cyfleus- tra rhagorol i wneyd hyn; ac yr wyf yn tynu llawer o ddifyrwch i mi fy bun, wrth fod yn spectator cymdeithas. Yr wyf yn cadw llygad manwl ar bob mudiad pwysig yn y lie, ac yn adwaen yn agos holl enwau a chymmeriadau y tystion. Ond m&e yn rhaid i mi ymattal rhag dweyd rbagor am danaf fy hun, rbag ofn i'r darllen- ydd gredu fy mod yn myned yn hen oblegid mai hen bobl yn gyffredin yn dueddol i siarad llawer am danynt eu hunain. Ond fe welir oddiwrth yr hyn a ddywedwyd, y gallai fod genyf gymhwysder i werthu pethau cartref yn masnach v SKREN. Gair etto am y pethau.—Pethau Cartref ydynt i fod i gyd. Mae gormod o duedd ynom yn gyffredin i fyned ar olforeign goods. Mae yma foneddwr o Gymro, yn byw yn y gvm- mydogaeth hon, yn awryn troi Cymry i ffwrdd o'i wasanaeth, a derbyn Ysgotiaid yn eulle, yn unig am eu bod ynforeigners Mae yn ddigon hawdd condemnio y dyn am ei ymddygiad; ond beth gwell fyddai; yr ydym oil yn euot; o esgeuluso ein pethau iartrefol, a dyna un o'n gwendidau ni. Mae dyeithriaid yn gwerth- fawrogi ein pethau ni. Adwaenwn I gigydd o'r dref hon, sy'n arfer cyflawnu teuluoedd yn Llundain a chig bob wythnos, am y barn ant ef yn well nag unrhyw gig arall; ac onid yw uwlenyn, ymenyn, a glo Cymru yn fwy gwerthadwy yn y farchnad nag eiddo unrhyw wlad Am hyny, pa raid i ni esgeuluso ein pethau ein hunain, a rhedeg ar ol pethau pobl ereill ? Ond yr wyf fi yn penderfynu yn awr cyf- lawnu y farchnad 4 phethau cartref; nid wyf yn meddwl ymgadw at betbau i'r ardal hon I. yo unig, er fod yma gyflawnder o bob nwyddau i gael; ond bwriadwyf gasglu def- nyddiau o bob ardal trwy Gymru. Byddaf yn prynu llawer gan blwyfolion Cwmgwyddil, pobl y Rhos, a thrigolion y Cefn ac yr wyf yn bwriadu cyrchu ambell i lwyth o foesoldeb cyfrinachau carwriaethol i ieuenctyd Swydd Benfro; galwaf heibio i golliersj glo mor, ar brydiau arhoddafambeit i dro trwy siop y cwmni h.y., mae genyf factory fawr, yn cael ei gweithio wrth ager, a dim ond rhoi y pethau yna i mewn, fe'u gweitbia nhw allan yn nwyddau marchnadol, i ddarllenwyr SKaEN CYMRU. Cymmaint a hyna am y pethau. Nid wyf yn perthyn i unrhyw gwmni neill- duol, sy'n arfer derchafu clod eu gilydd ond yr wyf yn anturio i'r maes wrthyf fy hun. Yr wyf o natur rhy ystyfnig i allu addoli canmol- iaeth neb, ac o duedd rhy esgeulus i fyned i ymdrechu llawer am anrhydedd. Oi barnwch yr yagrif hon, Mr. Golygydd, yn dwyn nodweddau Hyabyslad," yr wyf yn foddlon talu am ei chyhoeddi, pan y byddom yn cau y cyfrifon ar ddtwedd y tymhor. Yr eiddoch hyd hyny, SPINTHRR. i

HUNAN-DDIWYLLIANT.

. EGLWYSIG.