Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

YSPEILIO YR AMDDIFAID.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YSPEILIO YR AMDDIFAID. PENNOD III. 44 There are sorrows and there are misfortunes which bow down the spirit beyond the aid of all human comfort.H. K. WHITE. Ar foreu gwlyb, oerllyd, a gwyntog. tua mis cyn Nadolig, yr oedd gweision a morwyn- ion y Llys yn eistedd o amgylch bwrdd llawn o ddanteithion, yr aelwyd yn wresog gan dan, a dau o filgwn v diweddar Edward Lloyd vn. ymsythu o'i flaen, a Nap, ci bach gw, n. a' chrych ei gefn, yn dysgwyl yn daer, fel arfer, am damaid o'r peth goreu ar v bwrdd. Telid parch mawr i'r tri hyn er mwyn y Telid parch mawr i'r tri hyu er mwyn y rhai a, fu; mynych y gwelsant law wèn a thyner Gwen Lloyd yn cael ei thynu dros gefn Nap, yr hwn a fu yn gyfaill iddi pan oedd bron wedi ymwrthod a phob peth. Medr- ai Nap, drwy ei droion cyfrwys a diniwed, dynu Gwen i wenu pan yn ei cbyflwr mwyaf isel, a pharhaodd yn gyfaill iddi hyd y diwedd. Enaid y teulu erbyn hyn, mewn meddwl, gair, a gweithred, ydoedd Mary Morgan. Merch lan dros ben oedd Mary, o bryd a gwedd, o faintiolaeth ganolog, ei gwyneb a'i hedrychiad yn bur swynol, a lliw y rhosynau cochion ar ei gruddiau, ei gwallt yn wineu, a'i dannedd yn wyn. Cafodd Mary, ynnyddiau ei hieuenctyd, ei hachlesuabreintiau crefyddol a dysgeidiaeth, yr hyn a fu yn bur fendithiol iddi i lanw ei chylch fel pen morwyn, yn neillduol felly wedi i holl ofal y Llys syrthio arni. Yr oedd Mary yn un hawddgar, yn gyng- hores synwyrol i'r rhai oedd dani, yn hynod o hynaws, gofalus, a thyner iawn tuag at y tfawil a'r angenus. Mewn gair, yr oedd pob peth yn Mary ag nrae dyn yn ei anrhydeddu mewn mam, ac yn ei hoffi mewn chwaer. Prif destun yr ymddyddan pan yn cyfranogi o fendithion y bwrdd ydoedd y cyfnewidiadau rhyfedd oedd wedi cymmeryd lie yn eu plith mewn byr o dro, ac afiechyd yr hen feistr. Wedi hir ymddyddan, a phob un o'r chwech ddweyd ei farn, cymmerodd dystawrwydd Cyffredinol le. Yn mhen tipyn o amser ar ol edrych trwy y ffenestr, J lawr ac i fyny y mae y byd wedi bod o'r dechreu," meddai Dafydd Robert (nea fel ei gelvvid ef uan y cymmydogion, Dai'r Cwmwl; yr achos gwreiddiol o'i alw felly nis gwaetb ar hyn o bryd). Beth mae Dafydd yn ei feddwl yn awr ?" gofynai Mary Morgan. Pwy a wyr ?" atebai James Ellis. Neb yn y byd, os g\vyr ei hun," meddai Tom Williams. Gwenodd Jane Jones ac Anne Evans. Diareb neu ddarnmeg sydd genych mewn gohvg pan yn dywedyd hynyna?" gofynai Mary i Dafydd. Beth a fynoch," oedd ei ateb, "Nage, Dafydd; maddeuwch i mi, mae genyf barch i henaint bob amser, ac felly i chwithau, ond yr wyf wedi eich clywedlawer gwaith cyn heddyw yn taflu awgrymiadau a hanner geir- iau, ac y mae'n anmhosibl i neb fo yn y lie i'w deall, yr hyn a ystyriwyf sydd yn ddrwg iawn, ac yn niweidiol dros ben. Mae aw- grymiadau, a'r dull dam megol dwl sydd gan rai dynion o siarad am eu gilydd, wedi gwen- wyno llawercymdeithas, ac wedi llwyddo i rewi calonau fu unwaith yn fflamio o wres cariad. Ond nid yw ond gwastraff ar amser i geisio eich argyhoeddi," meddai Mary wrtho. Yr pedd y pethau hyn wedi gorphwys ar feddwl Mary er ys cryn amser, dim ond eisieu cyfte i'w gollwng allan, gan ei bod yn hollol ymwybodol nad oedd y gronyn lleiaf o gyfeill- garwch yn ngbalon Dafydd at neh, ond yr hyn oedd yn tardduoddtar hunan les ac hefyd, gan y credai fod ei awgrym yn cael ei gyfeirio at amgylchiadau torcalonus y Llys. Yr oedd Datydd, o ran y dyn oddiallan, fel pe buasai wedi ei naddu a bwyall haiarn, heb ymarfer ei aelodau pan yn ieuane; yr oedd yn anuniaidd o gymmalau, ei ben yn gulacuchel vn 61, ei dalcen yn isel, a'i wallt aflerw yn ei guddio. Yroedd y dyn oddiallan yn ddarlun perffaith o'r dyij oddimewn. Bu yr hen ddy i hwn yn ngwasanaeth Mr. O. Lioyd ychydig gyda phumtheg mlynedd nid oedd, ac ni fu, yn llawer o weithiwr erioed, ond yr oedd wrth ryw beth bob amser. Doedd gan ond ychydig o ddynion gynnyg i Dafydd, o herwydd ei gulni tuag at bawb, a'i anniolch- garwch yn ngwyneb caredigrwydd. Mynai Dafydd gredu ei fod yn grefyddwr mawr, ac heb erioed ddysgu y wers o fod yn ddiolchgar iDduwamgaredigrwyddDuw tuag ato. A pheth arall, ofnai Mary Morgan, yr hon oedd drylwyr ei chalon, fod tipyn o'r hen Judas yn perthyn i Dafydd. Ofnid fod afiechyd Mr. Lloyd yn myned yn ddyfnach ddyfnach, ac nad oedd y gobaith lleiaf am ei adferiad. lleiaf am ei adferiad. Tua deg o'r gloch, boreu y dydd y cyfeir- iwyd ato yn barod, gwnaeth John Wilson, yr ysgolfeistr, ei ymddangosiad yn y Llys. Byddai Mr.'Wilson yn talu ymweliadau myn- ych a Mr. Lloyd; ei neges wrth wneyd hyny nid oedd neb yn gwybod. John Wilson ydoedd ddyn tal teneu, gwelw ei wend, ond lluoiaidd ei gorfl, prydferth ei gerddediad, trwsiadus ei wisg, glan, ac o ym- ddangosiad boneddigaidd bob amser. Dyn dysgedig iawn oedd Mr. Wils.in, moesol, addfwyn, ac amyneddgar yn ei holl flfyrdd. Bwriadwyd i John Wilson droi mewn cylch uwch yn mysg dynion nd bod yn ysgolfeistr yn Llan y Bryn ond fe'i lluddiwyd ef, fel Ilawer o'i flaen ac ar ei ol, o herwydd i'r arian, duw y hyd hwn, fethu. Yr oedd yn derbyn, fel ysgolfeistr y plwyf, jE40 y flwyddyn, trwy gymunrodd Ieuan Llwyd, yr hon a wnaed yn y flwyddyn 1568. Bu rhai o ddrvvg-ewyllyswyr y Llys yn bygnth dwyn yr ymddiriedolwyr o flaen y Canghell-lys, o berwydd, meddent, nad oedd yr arian yn cael eu defnyddio i'r dyben priodol yn ol meddwl y testamentwr. Ond yn erbyn y dybiaeth yna, yr oedd digon o dystion, gan fod tlodion ac amddifaid y Llan yn derbyn addysg ac elusenau drwyddynt. Yr achos fod John Wilson yn mynychu y Llys ydoedd, am fod Mr. Lloyd yn chwennych iddo edrych dros ei gyssylltiadau efo dynion, a dodi pob ysgrif yn ei lie erbyn y dydd y buasai i'w fab a'i deulu ddychwelvd yn ol. Nid oedd gan yr hen ddyn erbyn hyn fawr 0 ymddiried yn Price, ei gyfreithiwr, a gwyddai o'r goreu nad oedd neb yn y wlad yn fwy; cyfarwydd a gweuadau a chelf-eiriau y gyi- raith na Wilson, er nad yn wr o urdd. Un o hynodion y ddaear ydoedd Wilson; yr oedd plant y Llan i gyd yn hoff o hono, o herwydd ei dawelwch a'i ddiniweidrwvdd, ac am ei fod yn llwyddo i gadw dvsgyblaeth trwy ofn yn hytrach na thrwy guro. Barnai y tadau a'r mamau mai dyn odd ydoedd. Ua odd ydoedd hefyd. Ond os oedd yn odd, yr oeddyn ddyn bob gronyn o bono. Nid dyn pawb oedd, ond dyn dosparth. Yr oedd Mr. Wilson wedi yted. yn rhy helaeth o hanesydd- iaeth a barddoniaeth Groeg, Rhufain, a Lloegr, i fod yn bob peth gyda dynion. Gwell oedd, ganddo ef chwareu &'r gwibedyn, ymhyfrydu n ugogoniant y blodeuyo. a syllu ar y gor- nant yn rhedeg, a thremio liw nos y las, ffurfafen a'i miloedd lanternau dysglaer, ni berwi efo dynion a'u hamgylchiadau. Ond pan y buasai gal wad, fel yn amgylchiadau eio hanes, yr oedd gan Wilson ben, dysg, calon, ac ewyllys i weithio. I ddyn yst\ riol, yr olygfa brydferthaf ellit | ei chanfod ydyw gweled dau gymmeriad urddasol yn cyfarfod a'u gilydd, pany mae un argymmeryd ei aden i. ehedeg ffwrdd i fy4 arall. Mae holl droion a gweithredoedd yf yrfa yn cael en crynhoi i'r meddwl yn y fatb amgylchiad. O 1 y fath athrylith sydd yn Y Uygaid ar v pryd, y gryro sydd yn y geiriaU —mae poh symudiad yn awr yn dal cyssyllt* iad a dan fyd. Yn ystafell wely Mr. Lloyd, yr oedcUdaU ddyn aofnasnnt Dduwyneu bywyd, ac agil* iasant oddiwrth ddrygioni. Edrychai Owaio Lloyd ar angeu fel ei gyfaill. Wedi i Wilson wneyd ei waith, ac ymddy- ddan tipyn yn mhellach mewn cyssylltiad 'i amgylchiadau, pwy a gurodd wrth y dd6r ond Dr. Long. Ar ol eu cyfarch, a myned trwy y moesau fel meadyg, a thipyn tiroq ben, yn" aflodd yn arddwrn Mr. Lloyd i deimlo curiaa y gwaed. Archodd y meddyg i Tom Wil' liams, y gwas, i'w ddilya i'r dref morfuan a# y byddai modd, gan mai Iled araf y rhedai y gwaed. Pan yn disgyn i lawr y grisiau, wedi canu'ø iach i Mr. Lloyd, 'Does dim modd, Dr" codi natur pan yn darfod." meddai Wilson. Beth ydych yn ei feddwl wrth natnr yn darfod ?" gofynai y Dr. sarug a dibris. Fe dybiais fy mod yn ymddyddan A gWr o foes," meddai Wilson.. "Moes neu ddifoes, mae dynion mor byf pan yn ymddyddan a meddygon fel pe byddent yn ymddyddan a phlant," atebai y Dr. yn yr un don sarug. Twymodd gwaed Wilson beth, a dywedodw Nid ydyw eich hanner ond plant; 'dyw tafljj mante 1 o urdd trosoch yn un prawf yn y eich bod yn deall natur y cyfansoddiad dynol.f nac ychwaith, nid ydyw gwybod yr enwa11 estronol sydd ar y costrelau yn inaelfa )'* Apothecary, a chymmysgu gwalianol liwiaU £ j foddion, a'u hanfon i'r claf,! yn profi dim o'cP dealldwriaeth am wneuthuriad dyn. Gwelodd yr hen frawd yn union ei fod yn sefyll yn ymyl gwr ag oedd mor dàl a'i hun#0| felly, tynodd ei gym i mewn. Ofnodd fy rhy wbeth yn y dyn tal, teneu, a gwelw ei wed4" y darfu iddo ymddyddan mor groes ag ef tg

HUNAN-DDIWYLLIANT.