Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Y GEIRIADUR BEIBLAIDD A DUWINYDDOL,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y GEIRIADUR BEIBLAIDD A DUWINYDDOL, I t&C. Pris 6ch. y Rhan. Caerfyrddin: W. M. Evans. MAE Rhifyn 16 newydd ddyfod i'n llaw. Mae yn cynnwys erthyglau da iawn ar y geiriau rhwng y gair Arfaeth a'r gair Arminiaeth. Maeyr ysgrifau yn y Rhifyn hwn yn dyfod i fyny i'n dysgwyliad, yn ol yr hyn ag oeddem yn ei ddysgwyl oddiwrth y Rhifynau blaenorol. Mae yn hyfrydwch mawr genym weled y gwaith pwysig hwn yn dyfod trwy y wasg yn rheolaidd a chysson.
SEREN GOMER. Pris Is. Caerfyrddin:…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SEREN GOMER. Pris Is. Caerfyrddin: W. M. Evans. MAE y Rhifyn am Ionawr o'r Cyhoeddiad Chwarterol hwn wed, ein cyrhaedd. Mae yn hyfrydwch calongenym allu cyhoeddi hwn yn un o'r Chwarterolion goreu vn Nghymru. Mae y Rhifyn am Ionawr gyda y goreu, os nid y goreu, ag sydd wedi dyfod allan yn y ffordd newydd. Mae yr ysgrif ar y Bedydd Cristion- ogol, mewn atebiad i'r ysgrif yn y Beirniad, yn un ag sydd wedi rhoddi i ni fodtllonrwydd mawr. Mae yn foneddigaidd ac yn feistrolgar. Mae boll. wellt a chawn y Beirniad wedi eu chwalu a'u gosod ar dân, ac erbyn hyn mae hyd y nod y llwch wedi cael ei gario ymaith gan wyntyll alluog yr ysgrifenydd. Yr ydym yw awr yn diolch i'r Beirniad am gyhoeddi yr ysgrif ar y Bedydd Cristionogol, ie, diolchwn yn ddauddyblyg iddo, gan ein bod wedi cael yr ysgrif hon mewn atebiad iddi. Mae y parhad o gyfieithad Llyfr y Prophwyd Joel yn llawn ddaii fyny y tneddwl oedd genym am ailuoedd ein brawd Lewis. Mae yn gwneyd gwasanaeth pwysig yn yr ysgrifau galluog hyn. Mae yr erthyglau ereill oil yn deilwng o le yny SEREN Chwarterol, ac yn wir deilwng o ddarlleniad manwi, a sylw difrifol ein lleuorion ieuainc. Ein dymuniad yw, ar i SEREN GOMER yn ei bagwedd newydd gael cylehrediad helaeth iawn, fel y byddo ei dyianwad yn o gyhyd a'i theil. yngdod. i K ■■ 'W
DARLITW AR Y BEDYDD CRISTIONOGOL;…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DARLITW AR Y BEDYDD CRISTIONOGOL; ei Ddull a'i Ddeiliaid, yn ngnya a Cnyfodiad Bedydd Babanod. At yr hon yr ychwaneg- wyd Attodiad. Gan y Parch. H. Jones, Llangollen. BUASAI yn dda dros ben genym pe buasai amser a gofod wrth ein llaw i wneyd adolygiad manwl ar y ddarlith gampus hon, ond nid oes genym ond lie i ddatgan ein barn am dani yn unig. Yr ydym wedi ei darllen yn fanwl a phwvllog, a chredwn yn ddibetrus mai dyma y gwerth chwe eheiniog oreu a ddaeth i'n llaw erioed. Mae yn annichonadwy i gael mwy o wybodaeth o fewn yr un cwmpas nag a geir yma. Mae Mr. Jones wedi bod yn ofalus a doeth yn netholiad ei bethau. Mewn gair, mae yma gryuodeb o dystiolaethau dros Fedydd Crist ag a ddflai fod yn ddigon i argyhoeddi unrhyw ddyn na fyddo wedi ei lwyr ddallu gan ragfarn. Derbynied Mr. Jones ein diolehgar- wch diffuant am ei ddarlith wir werthfawr. Y fendith oreu a allum ddymuno i gannoedd a miloedd o ddarllenwyr Cymru fyddai prynu, darllen, ac ufyddhau i egwyddorion y ddarlith hoa.
TYWALLTIAD DWFR AR FABANOD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TYWALLTIAD DWFR AR FABANOD. Yn ddiweddar, cynnaliwyd cyfarfod yn Ty'r- mynydd, yn agos i Elim, Park, mewn cybsylltiad a'r gorchwyl uchod. Y gweinyddwr oedd y Parch. Evan Evans, Philadelphia. Dechreuodd ei araeth ar Dywalltiad Dwfr ar Blant, trwy ddweyd fod j Bedyddwyr yn cymhell eu gweinidogion i fod yn Ilym ac yn bigog wrth ddweyd ar Fedydd, a chon- demnio pawb na fuasent yn gwneyd yr un fath a hwy. Profai y gosodiad hwn trwy adrodd hanes gweinidog, perthynol i'r Annibynwyr, yn y Gog- ledd—dyn doniol iawn, mor ddoniol, fel y gelwid ef yn Apostol y Gogledd. Ond ar ryw dro, fe ddyg- wyddodd yfed ar y mwyaf mewn rhyw 1fairneu neithior am y weithred hon, dysgyblwyd ef gan yr Annibynwyr; yna trodd at y Bedyddwyr, a dy- wedai pan gyda hwy, mai yr unig beth oedd yn ei flino oedd, ei fod wedi bod &'i fysedd yn y basin, i'r dyben o daenellu dwfr ar fabanod." Ond dyg- wyddodd droseddu drachefn pan gyda'r Bedydd- wyr, ac am hyny, gosodwyd ef ganddynt dan gerydd yna, trodd yn ol at yr Annibynwyr yn Aberteifi, ac ar ol ei ddychweliad, gofynent iddo, pahaID yr oedd yn dweyd pan gyda'r Bedyddwyr mai y peth oedd yn ei flino fwyaf oedd ei fod wedi bod yn tuenellu babanod?" Ei ateb oedd, nas gallasai gael llonydd na byw ganddyntbeb hyny Os bu dyn o'r fath a ddarluniwyd uchod, caniatiier i mi ofyn i Mr. Evans, pa fodd y daeth ef i wybod pa un o'r ddau dro hyn yr oedd y dyn hwn yn dweyd y gwir ? Mae yn amlwg ei fod wedi dweyd anwiredd un o'r ddau dro, os na wnaeth hyny bob tro. A ydyw Mr. Evans yn ddigon galluog i benderfynu hyn ? Gwnaed hyny os gall. Anwyl ddarllenydd, onid ydyw yn syndod fod tjatr iolaeth o enau dyn o'r fath a nodwyd, yn ddigon er peru i Mr. Evans ddweyd, mai dyna fel y mae yr enwad parchus o Fedyddwyr yn ymddwyn tuag at eu gweinidogion ? Fedyddwyr, a oes gwirionedd yn y cyhuddiad hwn ? Nid wyf yn ofni fy mod yn cyfeiliorni wrthateh yn eich lie, Nacoes; maey cybuddiad yn anwiredd bob gair. Yr "yf yn sicr fy mod wedi cael mwy o fanteision i wybod ansawdd yr enwad anrbydeddus o Fedyddwyr n& Mr. Evans, ac ni chefais le i feddwl erieed eu bod yn ymddwyn yn y dull annbeilwng uchod tuag at eu gweinidog- ion. Os oes genych barcb i'r Bedyddwyr, Mr. Evans, fel y dywedwcb ei fod, deawch i'r maes i brofi y gosodiad hwa, neu ynte, alw eich geiriau yn ol. Os na wnewch yr un o'r ddau, bydd hyny ya profi nad yw o bwys mawr genych beth a ddywed- wch, ond i chwi allu dweyd yr hyn a fyddo yn Ooddloni eich plaid eich hun. Dynia nodwedd wael iawn menu gweinidog. Hefvd, dymunol fyddai genyf i chwi roddi enw Apostol y Gogledd, gan na wnaethoch hyny pan yn dweyd am dano. Os oes gwirionedd yn yr hyn a ddywedasoch mewn perthynas iddo, nid wyf yn meddwl fy mod ynceisio gormod genych. Yn nesaf, dywedai Mr. Evans fod y Bedyddwyr yn dweyd, u nad oeddent hwy (y Taenellwyr) yn gydwyoodol gyda'r gwaith o fedyddio plant." Synai yn fawr pa fodd y gallai un dyn wybod meddwl dyn arall, ond cymmaint a allai wybod oddiwrth ei ymddygiad; a chan eu bod hwy yn taenellu, yr oedd eu hymddygiad yn profi eu bod yu gydwybodol. Y pryd hwn yr oeddwn yn cofio am ymddyddana fu rbyngofar y pwnco Fedydd, er ys ychydig fisoedd yn ol, ag un o aelodau blaenaf Philadelphia. Cyfaddefai yr hen aelod parchus hwnw, nad oedd yr un gorchymyn yn y Beibl i fedyddio plant, ond eu bod yn casglu, gan fod plant yn yr eglwys dan yr hen oruchwyliaeth, ac nad oes genym hanes am eu tori allan, felly, y dylent fod yn yr eglwys dan yr oruchwyliaeth newydd.' Yn awr, a ellir meddwl fod y dyn hwn yn gyd- wybodol gyda thaenelliad babanod ? Bu y Parqh. H. G. Guinness am bum mlynedd yn annghyd- wybodol gyda'r gorchwyl o daenellu, a thyipa ydyw tystiolaeth y Uuoedd a ddeuant yn barhaus oddiwrth y Taenellwyr at y Bedyddwyr; a digon tebyg fod llawer yn marw yn y sefyllfa anngbyd. wyoodol hon gyda golwg ar y daenell. FeilY, Mr. Evans, nid yw y Bedyddwyr yn dweyd anWllf" edd wrth ddweyd fod llawer o'r TaeneUwyr yn hollol annghydwybodol gyda'r gorchwyl o daenellll dwfr ar fabanod. Mae deiliaid yr annghydwybod- olrwydd yn cynnyddu bob blwyddyn; a chynnydd- ant yn fuan i'r fath raddau, nes y bydd pawb y° talu ufydd-dod i fedydd yn y drefn a orchymynwy" gan lesu Grist. Gwawrio wnelo y boreu dedwyd^ hwn. Darfu i Mr. Evans gam-gyhuddo y Bedyddwyr o amryw bethau ereill, ond nid »yf yn eu eu hystyr- ied yn werth i mi eu hysgrifenu, nac ychwaith yn
Y Feirniadaeth.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ydd hwn & thros gant o ryfeddnodau yn profi fod y r awdwr dipyn yn annhrugarog, canys y mae gosod gormod o bwn ar yr anifail cryfaf yn sicr o'i ysigo. A chymmeryd y ddau gyfansoddiad o dan sylw trwyddynt, y mae euteilyngdodbarddonolyn hynod gyfartal; o ba berwydd yr ydys yn dyfarnu hanner y wobr i "Dysgybl," a'r gweddill i "Jeremiah." 5. Pryddest ar Grist o'r Oruih-ystafell i'r Groes. Ni dderbyuiwyd ar y testun pwysig hwn ond un cyfansoddiad, sef yr eiddo Cristion." Mae y bryddest hon yn gyfansoddiad dichlyn. Yr hanes ysgrythyrol wedi ei droi yn bennillion o wahanol hydau ydyw. Mae awdwr y bryddest hon yn meddu talent naturiol i brydyddu. Mae llawer o allu des- grifiadol (descriptive) yn ganfyddadwy trwy y cyfan. soddiad; a cheir ynddo yn amI enghreifftiau o'r hedegog. Rhwymo ei hun yn rhy gaeth wrth yr hanes a ddarfu yr awdwr. Bydded hysbys i'r beirdd un ac oil, fod mwy nag ail-adroddiad o banes unrliyw amgylcbiad yn cael ei ddysgwyl mewn caniad ar yr amgylchiad hwnw. Gwir na ddylid anngholio yr lianes, etto dylai bardd esgyn a disgyn ar edyn dychymmyg er gwisgo amgylchiadau a mawrhydi. Mewn caniad ar y testun toddedig hwn, y mae yr elfen gydweddawl (sympathetic) i fod yn Alpha ac yn Omega, megys. Nid yw y bryddest dan sylw yn rhagori yn hyn yma. Mae y cyfansoddiad yn cyf- ranogi o'r arwrol yn hytrach. Os yw y prydydd a wnaeth y bryddest hon yn bresenol, sylwed ar y petbau canlynol fel diffygion arweiniol y cyfansodd- iad-cadw yn rhy gaeth at lythyren y testun ar draul eyfattal ei ysbryd-—ehwch sybyrthol yn awr ac eil- waith, yn lie ehediad naturiol yn awyr dychymmyg —mwy o ryfeddnodau (84) nag o ryfeddodau jn y gwaith—tipyn yn ormod o naws chwyddiaeth (bom. bast), a gormod o absenoldeb teimlad wrth ddilyn camrau gwaedlyd gwrthddrych diofrydedig y testun. Ni buasem yn gwneyd y sylwadan hyn ar waith bardd didalent, canys y mae dynion byr eu doniau yn wastad yn groen-denau iawn ond dengys y bryddest hon fod eibawdwr yn Hawn o gymhwys- derau i farddoni, a bydded wiw ganddo, os yw yn bresenol, dderbyri, yr awgrymion hyn mewn ysbryd cariad. Dymunem iddo hir oes i goledd yr awen, canys nid hydrin mo honi hi oddieithr ei mam- maethu. Mae "Cristioll yn fwy na theilwng o'r wobr. 6. Cyfieithad o On Study" (Enfield Speaker). Dau gyfieithad a dderbyniwyd, sef yr eiddo Britton a" Verutamium. Mae teilyngdod cym. h; harol y ddau gyfieithad hyn bron mor gydbwysa phe buasai y ddau yn eiddo yr un awdwr. Y mae y ddau yn wiryn anacanu yn ddaat syniadau ac ieithweddiad y dernyn gwreiddiol, er y gallasent fod yn fwy hapusyn nghyfieithad amryw frawddegau. Mae teilyngdod y ddau yn hynod gydbwys, ac o blegid hyny, dalied Britton" a Verulamium" eullogellau, a bydded i'r naill heipu'r Hall i garie y wobr adreu. HUGH WM. HUGHES, (Huw Arwystl). Mountpleasant, Dinas, Nadoliy, 1861.