Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
HAELIONI CRISTIONOGOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HAELIONI CRISTIONOGOL. Darfu eglwys y Bedyddwyr yn Siloh, Tredegar, ychydig ddyddiau yn ol, anrhegu y brawd John Jones, Siloam, Tafarnau Bach, a phar o ddillad ysblensdd, o'r defnyddiau goreu a ellid gael, gwerth yn agos £8. Bydded i ereill ddilyn ei siampl rinweddol, lie y gwel- out angen a theilyngdod. Tra digoll weis Tredel(ar,-haeddiannol Ddynion elusengar, Mwyneiddgu ac amyneddgar, Deulu gwych, rai duwiol a gwar. Yn Siloh mewn oes hylwydd,—yn ddilys, Addolant eu Harglwydd; Y didwyli wrolion dedwydd, Boed eu lies mewn bywyd a llwydd, JOHN EVAN JONBS.
GOHEBIAETH 0 LUNDAIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GOHEBIAETH 0 LUNDAIN. Heddwch Cyffredinol—Y Nashville a'r Tuscarora- Mexico a'i helbulon-Pri- odasy Dywysoges .Alice-Mileinwaith yn y -Brif-ddinas-Syr Edwin Landseer a'r Teilwriaid. MAE y Senedd wedi ymgyfarfod. Fel y gellid yn rhesymol ddysgwyl, ni agorwyd yr eisteddiad gan ei Mawrhydi yn bersonol. 0 y Darllenwyd yr Araeth Freninol gan yr Ar- glwydcl G-anghellydd. Crybwyllir ynddi fod Llywodraeth ei Mawrhydi mewn hedd- wch a holl alluoedd Ewrop acyn wir gellid dweyd/gydag un eithriad bychan, "â'r holl fyd," canys y mae y rhyfel ag America, yr hon y gwnawd cymmaint i'w ddwyn oddiamgylch gan elynion y Gogledd, a chan y wasg ryfelgar, wedi ei chwalu, a'i gario ymaith gan y gwynt a achoswyd gan y bygythion hyn. Erbyn hyn, y mae yn hysbys i bawb nad ydynt wedi eu dallu gan ragfarn, mai y Morning Star oedd yn cyn- nrychioli gwir deimladau y werin fyfyrgar yn yr achos hwnw. Mae yn hysbys i chwi ddarfod i'r Dirprwywyr Mason a Slidell gyrhaedd Southampton ar y 29ain o fis Ionawr diweddaf. Ni wnawd unrhyw orymdaith na seremoni i'w croesawi; yn unig derbyniwyd hwy fel dau ddyn dyeithr. Derbyniwyd hwy yma, yn y bnf-ddinas, yr un modd. Aeth Slidell oddiyma yn fuan i gyflawnu ei waith yn Paris. Mae'r Nashville wedi dianc o grafangau y Tuscarora wedi'r cwbl. Cof genych ddarfod i'r Nashville ymosod ar yr Harvey Birch, llong berthynol i'r Gogledd, ar y mor, a chan ei bod yn alluog i wneyd hyny, hi a'i llosgodd yn ulw yn y modd mwyaf creulon. Wedi hyny, daeth i mewn i Southampton. Wedi i hysbysiaeth o hyn gyrhaedd y Gogledd, danfonwyd y Tus- carora, agerlong newydd arddercnog, i ym- ddial ar y Nashville, yr hon a gyrhaeddodd borthladd Southampton ychydig wythnosau yn ol. Wedi dysgwyl a herio y Nashville i fyned allan i'r m6r mewn amryw nvrdd, ond yn ofer, y Tcscarora yn awr ac eilwaith j a godai ei hangor ac ymaith a hi, gan feddwl y buasai y Nashville yn canlyn. Wedi bod amryw ddiwrnodau ar y m6r, dychwelodd y Tuscarora ar y 3ydd o Chwefror, pryd y cymmerodd y Nashville fantais o'r amgylch- iad, drwy roddi rhybydd i'r Llyngeslvs ei bod ar gychwyn, yr hyn a wnaeth dan nodded llong ei Mawrhydi y Sprightly. Drwy hyn cafodd y blaen o bedair awr ar hugain ar y Tuscarora, gan fod y ddwy long- wedi gorfod ymrwymo i beldio hwylio dan bedair awi ar hugain wedi rhoddiad y cyf- ryw rybydd gan y naill neu'r Hall. Felly, diangodd y Nashville y tro hwn. Cyn i'r pilot ymadael o'r Nashviliej dywedodd y swyddog wrtho, os gwelai efe rai o swydd- ogion y Tuscarora, am eu hysbysu na fyddai o un dyben iddynt erlid arc! y Nashville, os na allai y Tuscarora hwylio ] 6t knots yr awr. Er hyny, ymddengys fod tipyn o arswyd y Tuscarora ar y Nashville, canys dywedir fod ei pheiriannau wedi eu trefnu yn y fath fodd fel y gallesid chwythu y JIong fyny yn hytrach na gadael iddi syrthio i ddwylaw y Gogledd. Dywedais ar ddechreu fy Hythyr y gall- esid dweyd fod Lloegr mewn heddwch a'r holl fyd, gydag un eithriad. Yr eithriad hwnw yw Mexico. Y mae Lloegr, Ffrainc, a'r Yspaen wedi yrrtgyfammodi i ddwyn Mexico i'w synwyrau, drwy ei gorfodi i wnevd iawn am y camwriaethau a gyflawn- wyd gan bersonau a chan wahanol lywodr- aethau—mae Llywodraeth Mexico yn newid dwy neu dair gwaith bob lleuad, gan mor fawr yw y dyryswch sydd yn ffynu yno-ar ddyeithriaid trigiaonedig o fewn ei chy- ffiniau. Diau y bydd i'r tri gallu cadarn a rhinweddol hyn wneyd gwlad onest o Mex- ico yn erbyn ei hewyllys; a chan eu bod yn ddigon cryf, ac yn gas ganddynt anon- estrwydd o bob rhyw, diau y gwneir i Mexico dalu holl gostau dygwyddiadol y weithred o wneyd gwlad rinweddol o honi hithau. Mae'r cytundeb priodasol rhwng y Dy- wysoges Alice, ail ferch ein Grasusaf Fre. nines, a'r Tywysog Louis o Hesse Darm- Z5 stadt, newydd gael ei gyhueddi. Incwm blynyddol y Tyvysog fydd 40,000,000 o fflorinau, sef oddeutu ^63,500, a'r llog ar waddol y Dywysoges, yr hyn fydd ^630,000, -y cwbl oddeutu ^65,000. Heblaw hyn, y mae ei Mawrhydi wedi sicrhau chwech mil o bunnau i'w merch ar ddydd ei phri- odas. Cafodd y Dywysoges Alice ei geni ar y 25ain o librill, 1843 ac y mae yn awr bron bod yn 19 oed. Cymmerwch y tair enghraifft ganlynol o fileinwaith. Henry Wells Young, cyf- reithiwr, 33 mlwydd oed, a ffugiodd bapyr er codi pum mil o bunnau i wneyd fyny am golledion a ddyoddefodd drwy anturiaethau. —John Quigley, 60 mlwydd oed, adyn sarug, drwg ei wedd, a rwygodd yn agored ymysgaroedd, dyn a bennodwyd i wneyd rhyw adgyweiriadau yn y t^ ag oedd ef yn byw yuddo.- Walter Crane, 22 mlwydd oed, a. ymdrechodd lofruddio ei frawd, drwy ei guro er ei ben a life-preserver mewn man unig, yn agos i'r New River, i'r hwn le yr oedd wedi ei ddenu i'r perwyl.—Dedfryd- wyd hwy oil i'r un gosp-y ffugiwr, y Ilof- rudd, -a'r Ilofrudd bwriadol !-ugain mlyn- edd o lafur cospawl i bob un o honynt. Un o'r pethau mwyaf drgrif a welais er ys llawer dydd oedd yr un canlynol r—Y Meistriaid Haldane, o Bond-street, ydynt deilwriaid. Cymmeradwywyd hwy rr ar- liwydd enwog, Syr E. Laudseer, fel gwneu-
HANESION CREFYDDOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Fawrtn, y 4ydd o Chwefror. Parhaodd y darlithydd doniol ddwy awr a hanner, a'r gynnulleidfa mewn hwyliau lleimeiriol yr boll amser. Mae y ddarlith hon yw hynod ddifyrus ac addysgiadot. Dywed y rhai a tlywsant y diweddar a'r enwog Christmas Evans. ei bod bron credu fod yr hen frawd ei hun gerbron pan oedd Mr. Roberts yn adrodd darnau o'i bregethau, megys Trugaredd yn croesawu yr afradlon, y doethion yn holi am y Mab bychan, &c., pa rai fu yn ysgwyd ac yn gwefreiddio cannoedd a miloedd Cymru yn nyddiau ein tadau. Yr oedd y capel vn orlawn. Y Parch. J. Joseph (A.), oedd yn y gadair. Yr elw i anrhegu ein hen frawd anwyl D. Jones.—UN o'a BR MM. RHUTHIN.—Gwhdd De, Darlith, a Chyfarfod Ysffol.—Dydd Mercher y 29ain o Ioriawr, cynnal- lodd y Bedyddwyr yn y drefhon eu gwledd de flyn- Jddol; arferid ei gynnal ar ddydd Calan, a bwri*d- d gwneyd hyny y flwyddtn lion ond o herwydd yr amgylchiad galarus o farwolaeth y Parch. Hugh J.tnes, gohiriwyd ef hyd y dydd a nodwyd Tua thri o'r gloch, prydnawo y dydd hwn, ymgasglodd tua chant o blant jr Ysgol Sul i'r capel, lie yr oedd te wedi ei ddarpar'u iddynt, yn rhad ac am ddim. Wedi i'r plant gael eu digoni a'r pethau daagoedft wedi cael eu darparu ar eu cyfer, ymadawsant yn llawen ac wrth eu bodd. gan roddi eu lie i'w rhi- ienialucyfeillion (dull teuluoeddyn gyffredin ydyw, eadw'r plant beb eu te, nes y byddo y rhieni ac ereill wedi darfbd &g ef, oi.d ein dull ni at blant ein hysgol ydoedd, rhoddi te iddynt hwy yn gyntaf, ac yna i ereill), pa rai oedd i dalu s-vilt am eu te; ond er eu bod yn gor/od talu, neu yn liytracli yn ewyllysio talu, etto daeth llawer yn ngbyd. Yn ystod y prydnawn, cyfranogodd o ddau cant a han- ner i dri chant o'r te, y bara brith, &c. Wedi i fcawb wneuthnr cyfiawnder ir pethau da hyn. cliriwyA y byrddau, ac ailgynnullodd y bobl i'r capel, nes erbyn saith o'r gloch yr oedd yr adeilad eang yn orlawn o bobl. Cymmerwyd y gadair gan y Parch. R. E. Williams, gweinidog yr Annibynwyr. Yr oedd yn bresenol hefyd, amryw o weinidogion ereill, perthynol i walianol enwadau'r dref. Wedi i'r Cadeirydd wneyd ycbydig o sylwadau pwrpasol i'r amgylchiad, ac i'r c6r i ganu (cor unol o Inde- endiaid a Bedyddwyr), yr hwn oedd wedi rhoddi ei wasanaeth i ni am y noswaith, galwodd ar y Parch. Evan Jones, gweinidog y lie, i draddodi darlith ar Andrew Fuller." Dymayddarlith gyn- tat i Mr. Jones draddodi i ni, ond gobeithio nad hi ydyw y diweddaf; gwnelai darlithoedd o fath lion les mawr i'n cynnulleidfaoedd. Wedi talu diolch- garwch i'r darlitnydd, y cadeirydd, y cor, &c.; yaaadawodd pawb yn ymddangos fel rhai wedi can! eu boddloni yn fawr gan broceedings y dydd. Y Sabboth canlynol i'r wyl de, sef yr '2il o Chwefror, cynnaliwyd cyfarfod ysgel genyrn. Treuliwyd cy- fartod y boreu mewn holi y plant yn Holwyddoreg Dr. Prichard; mewn holi dau o'r bechgyn yn hanes Eliseus, ac mewn adrodd Salmau, a darnau o bryd- yddiaeth, &c., yr oedd yn gyfarfod difyrus iawn. Ein gwraith yn cyfarfod y nos oedd adrodd pwnc, yn yr hwn y mae sylwedd llyfr Esther yn cael eiosod allan ar gan, gan y Parch. L. Jones, Brynh) fryd. Mae y pwnc liwo yn dlws a dyddorol, ac yr oedd yr adroddiad o hono yn neillduol o dda; y gwa- haiml gymmeriadau a ddygir i'n sylw yn y llyfr yn dda iawn. Ar ddiwedd y cyfarfod, cawsom ddwy araetb neillduol o dda, un gan Mr. John Roberts, a'r llall gan Mr. J. Evans. Terfynwyd y cyfarfod trwy weddi gan y llywydd, sef, y Parch. Evan Jones