Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

CWMAMMAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CWMAMMAN. Dywedir mai Uyfrau ydyw tymherau a bywydau dynion, y rhai y gall pawb eu darllen, pa un bynag ai cyfoethogion ai tlodion a fyddont, ac y bydd i rai fod yn sier o'u darllen, er na ddarllenant ddim arall. Mae yn y cwm bwn foneddiges, gwraig W. Perkins, Ysw., ag y gellir darllen wrth ei thym- berau, yn nghyd a'i bywyd gwastadol, ei bod yn Un o'r gwragedd mwyaf haelionus a charedig ag sydd vn y dywysogaeth a'i hamcan bob amser, !newn gair a gweithred, ydyw llesoli y tlawd, y Weddw, a'r amddifaid." Er ys blynyddau yn ol, darfu iddi sefydlu trysorfa yn ei tb)) ei hun, i gynnorthwyo y dosparth crybwylledig i brynu dillad iddynt eu hunain, er eu cadw rhag oerfel y gauaf, a gerwindeb y tywydd ac y mae y drysorfa erbyn hyn yn gryf a llwydd- iannus, a'i deiliaid yn ychwanegu bob wythnos. Boreu dydd Llun, bob wythnos, daw y tlodion yn mlaen â'u ceiniogau, ac ereill a'u dwy geiniogau, tra bydd rhai yn rhoi mwy, y rhai a gedwir gandd: am flwyddyn, pryd y bydd iddi eu dychwelyd hwynt yn ol iddynt, ayda rhoddion gwerthfawr ereill. Dydd Sadwrn, Chwefror 1, ymgynnullodd pawb o honynt at eu gilvdd i ystafell ty y farchnad, i dderbyn yr arian, neu eu gwerth hwynt; a chyn iddynt ymadaet daifu iddi eu hanrhegu hwynt un ac oil a phryd da iawn o de a theisen traith flasus yn rhad, a dymunai ar iddynt fwynhau iechyd a chyaur yn y flwyddyn bresenol yna ymadawsant, gyda gwgn siriol a chalon lawen, gan fendithio y fortedliiges haelionus o eigion enaid, a dymuno iddi hiroes i wneyd daioni. Pteser penaf ei bywyd ydyw yinweled a'r tlodion yn eu cystuddiau a'n cyfyngderau, ac agor ei llaw yn belaeth iddynt er sychu eu dagrau a'u dedwyddoli. fel y gallant oU gyhoeddi, Yr hyn a attodd hon, hi a'i uwnaeth." Y mdaenodd y gair trwy y Cwm er ys ychydig yn ol, ei bod hi a'i theulu parchus yn bwriadu symud oddiyma i fyw ger Llanelli, yr hyn a barodd alar cyffredinol trwy y lie; ond deallwn erbyn hyn, nad ydynt yn meddwl ymadaetattt rhywgymmaint o amser etto. Er cymmaint ydyw y wasgfa a'r caledu presenol yn y Cwm hwn, mentraf ddweyd, pe buasai yma rhyw banner dwsin o foneddige$au cyffelyb i Iron, mewn calon a iheimlad, y buasai tlodion y He beddyw uwehlaw tlodi ac angen. 0 mor werthfawr yw cael un yn meddu ar galon i deimlo, a llaw i gyfranu. Bendith Preswylydd mawr y berth a'i diiyno byth. J. EVAUS.

Y PARCH. JOHN JONES, AC EGLWYSI…

CWRDD CHWARTER SIR FYNWYi'…

RUMNI A'I HELYNTION.

GOHEBIAETH 0 LUNDAIN.