Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

TRAETHODAU.

CIPDREM AR Y BYD CREFYDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Pwy ond Duw a all ddirnad y fath ddaioni a all y gweddiau hyn gynn rchu Ymae yn dra thebyg na welodd llygad, acnachlywoddclust- iau Duw erioed o'r blaen gynnifer o bechadur- iaid yn curo wrth ei borth ef yr un pryd Bydded i'r Arglwyddgynnorthwyoy rhai oedd yn gweddio y pryd hwnw ibarhau i weddio byd nes y bo eu gweddiau yn ganiadau ym- wared. Tywallted Duw ysbryd gweddi mewn modd neillduol ar ein holl weinidogion, ein holl ddi- aconiaid, a'n boll aelodau. Brysied, hjysied y dydd, pan y byddo yr India eang a'r byd mawr o dan lywodraeth gras y Gwaredwr ben- digedig. 0 boed vr efengyl ac enw Duw Israel, A'r aberth anfeidrol ar ael Calfari; Yn destun pob cerddi o draeth Coromandel, 0 gonglau Bengal hyd i eithaf Tieree. Caniataed yr Arglwydd fod y flwyddyn hon yn flwyddyn gynnyrchiol mewn llafur a llwyddiant, a dyweded yr boll bobl, Amen. Llanllyfni. R. JONES.