Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
...,,,/Y WASG. ""1 ./ h'"
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y WASG. ""1 h'" THE MEANING AND USE OF BAPTISM, Phi. lologically and Historically Investicated. By T. J. CONNANT, D. D. London: Trubner & Co. MAE y Dr. Connant, o ran dysg a thalent, yn sefyll yn yrhes flaenafyn mhlith enwogion America. aMae ei wyhodaeth ieithyddol a chlasurol yn eang ch a dyfnach nag eiddo nemawr neb o'i gyfoedion. yn yr oes hon. Efe yw Carson y gorllewin. Mae ef yn eymmeryd rhan bwysig gyda'r American Bible Union-cymdeithas a sefydlwyd er rhoddi i'r byd gyfieithiad teg, gonest, cywir, a chyflawn o'r ysgrythyrau yn yr iaith Saes eg. Mae y traethawd sydd yn awr o'n blaen wedi ei gyhoeddi er cyf- iawnhau yr Undeb yn ei waith yn cyfieithu y gair Baptism yn hytrach na'i drosi fel ag y gwnawd gan gyfieithwyr y cyfieithad awdurdodedig. Mae y Dr. dysgedig wedi myned i mewn i'r manyldra mwaf.y Nid oes yr un agwedd o'r cwestiwn wedi ei adael heb y driniaeth fwyaf Ilwyr a chyflawn. Maecyn- llnn yr awdwr yn gyfryw ag sydd yn sicr o roddi y boddhad mwyaf i'r darllenydd Saesneg yn unig, yn gystal a'r ieithwyr mwyaf. dysgedig. Mae yn y lie cyntaf yn rhoddi enw yr awdwr, yna mae yn nodi' y liyfr, y bennod, a'r ddosran yn y bennod ac mewn nodyn, gesyd allan yr amser ag oedd yr awdwr yn ysgrifenu. Er gwneyd y dyfyn. iadau yn fwy dealladwy, mae yn egluro yr am- gylchiad dan ba un yr ysgrifenwyd. Un enghraiflV yn siampl o'r lleill oil; dyma y cyntaf:- Polybius,* History, book I., chap. 51, 6. In his account of the sea-fight at Drepanum, between the Romans and Carthaginians, describing the ad- vantages of the latter in their choice of a position, and in the superior structure and more skilful management of their vessels, he SiiyS, "For, if any were hard pressed by the enemy, they retreated safely, on account of their fast sailing, into the open space and then with reversed course, now sailing round, and now attacking in flank the more advanced of the pursuers, while turning and embarrased on account of the weight of the ships, aiid-the unskillfulness of the crews, they made continued assault,and SUBMERGED (baptized) many of the vessels." Wedi rhoddi yr enghraifft fel yna yn Saesneg, mae ar waelod y ddalen yn rhoddi y dyfyniad yn y wreiddiol, yn mha iaith bynag y bydd yn dyfynu og honi. Fel hyn y mae yr jsgolor aeddfed yn cael poh chwareu teg ifarnu cywirdeb a thegwch y cyfieitliiid ac os tnyn, gull gario ei ymchwil- iad yn mheilach, trwy droi i'r llyfrau ei hunan, er edrych a barnu drosto ei hun am onestrwydd a ffyddlondeb y dylyniadau o weithiau y gwahanol awduron. Mae yr awdwr wedi rTianu y gwaith hwn i naw o ddosraniadau. Mae y cyntaf o'r rhai hyn yn olrhain y gair trwy boll faesydd llenyddol Groeg am ddwy fil o flynyddau, gyda gweithiau awdurol y tadau Cristionogol, pan nad oes yn y cyssylltiad unrhyw gyfeiriad at yr ordinhad Gristionogol. Mae yr enghraifft a gymmer o weithiau awdurol y Groegiaid yn unig yn agos i DDAU CANT. Maent wedi eu cymmeryd o lyfrau ysgrifenwyr yn mhob caugen o lenyddiaeth achelfyddyd; o weithiau aw- I "Born 205 before Christ." durol y beirdd, areithwyr, athronwyr, beirniaid, baneswyr, daearvddwyr o Iyfrau dynion yn ysgrif- enu ar amaethyddiaeth, meddyginiaeth, gramadeg, duwinyddiaeth hefyd o blith pob rhyw flurt o gyfansoddiad, megys ffug-chwedlau, epistolau, ar- eithiau, awdlau, pennillion, pregethau, traethodau mae hefyd wedi cymmeryd yr enghreifftiau o bhth awdwyr o bob gwlad a barn o dan y nef—Pagan- iaid, luddewon, a Christionogion. Ac yn yr holl faes hwn, er rnor eang, ac ar ol yr ymehwiliad mwyaf manwl,nid oes inodd cael un-dim cymmaint ag UN siampl o'r gair yn golygu dim amgen n& thiochi neu suddo y gwrthddrych mewn elfen, neu fod y gwrthddrvch yn cael ei drochi trwy gael ei orchuddio gan jr elfen. Cofier yma,-nid oes un cyteiriad at yr ordinhad felly, nid oedd yma yr un amcan i ddefnyddio y gair i foddio unrhyw blaid yn y byd. Ond mae holl lenyddiaeth Groeg am ddwy 610 flynyddau wedi cael ei chwilio, er mwyn cael gweled pa fodd yr oedd y.Gro^iaid eu hunain yn deall, ac yn defnyddio y gair. A dedfryd holl lenyddion Groeg, heb gymmaint ag uneithriad, yw hI n,-Mae y gair yn gyfryw ag sydd yn golygu gwrthddrych yn cael ei orchuddio mewn elfen a gellir ei gyfieithu i'r Saesneg a'r geiriau immerse, dip, plunye; i'r Gymraeg, trwy y geiriau trochi, suddo; acnas gall, can unrhyw amgylchiadau neu mewn unrhyw gyssylltiad, olygu tywallt, neu daenetlu, puro na ylanhau; ond mor bell ag y bydd y buredigaeth neu y glanhad yn ca el ei etfeithlo trwy drochiad yr holl gorff yn y dwfr. Yn Nost-ai II., mae yr awdwr yn gwneyd ym- chwiliad manwl i arferiad y gair yn y cyfieithiad Groegaidd o'r Hen Destament. Yna cawn ddos- ran ar arteriad y gair yn y geirlyfrau a'r gramad- egau. Yna ei gymhwysiad yn y Testament Newydd. "n nesaf, ei arferiad gan y Tadau Cristionogol. Sylwa yr awdwr yn Nosran VI., ar reolau a gofynion yn Eglwysi Cristionogol yr eg- lwys Roegaidd, Lladinaidd, ac Eghvys Wladol Lli egr. Daw dan sylw yn nesaf y cyfieithiadau a wnawd o'r Testament Newydd, yn cynnwys pedwar dosparth,-yr Hen Gyfieithiadau Lladinaidd, yr hen g\t)t ithiatiau Dwyreiniol, y lliai Teutonaidd, yn gystal a'r rhai diweddar, ag sydd wedi eu gwneyd er mwyn yr ysgolheigion. Mae yn ffaith bwysig fod pob cyfieithiad diweddar a fwriedir i'r dysged- igion yn cyfieithu y gair i air cyfystyr i tro.,hi neu suddo; mae y cyfieithwyr yn gwybod mai sarhad fyddai cynnyg i ysgolor unrhyw gyfieithiad araH ond am danom ni, y werin, gwna Beibl antnher- tfaith ein tro. Cymmerwn yn siamplau y rhai hyn o blith Hawer :—Cyneithad y Testament Newydd i'r Lladin gan Schott, yn 1839 cyfieithiad yr Efengylau gan y Protfessor Campbell o Scotland yr Epistol at y Rhufeiniaid gan Fritzsche a chyf- eithiad o Efengyl Mathew gan Kuinoel. Mae yr awdwr dysgedig yn Nosran VIII. yn galw yn mlaen leng o ddysgyblion o bob oes, o bob euwad, o bob iaith, a phob gwlad, Y. rhai ydynt un ac oil yn tystio ar eu gair gwir mai trochi neu suddo yw ystyr y gair Baptizo. ac nad oes iddo unrhyw ystyr arall ac os oes rhyw Gymro dysgedig (?) yn dywedyd yn amgen, mae yn gwneyd hyny naill ai am nad oes oleuni yn ei ben, neu fod dryg'oni yn ei galon. Y casgliadau a dynir oddiwrth yr oil gan Dr. Connant yw, y dylai y gair Baptisein, fel pob gairarattyn y Beibl, gael ei gyifeithu, er rhoddi Beibl cyfan i'r darllenydd unieithog. Mae y llyfr hwn wedi ei ysgrifenu yo yr ysbryd mwyaf boneddigedd a Christionogol. Nil gellir casglu oddiwrth unrhyw frawddeg ynddo fod y fath beth a gwahanol enwadau yn y byd. Nid oes yma y cyfeiriad pellaf at un enwad yn y byd. Ond mae yr awdwr dysgedig wedi olrhain y gwir yn ei holl dreigliadau, a thuhwnt i unrhyw ammheuaeth wedi selydlu ei feddwl am byth yn marn pob dyn pwyllog ac yniofyngar am y gwir. Mae yr awdwr wedi llwyr ddiyspyddu y pwnc, mor bell ag y mae weddwl y gair yn myned. Nis gallwo wneyd yn well na dymuno ar boll
S TOP Y GOE.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Signed, sealed, and delivered by the said Adda Jones, as chairman of the said meeting, at. and in the presence of the aforesaid meeting, on the day and year aforesaid, in the presence of us, DAVID MORRIS, I STEPHEN EVANS, Witnesses.' Dyna yr ysgrif air a gair fel y mae yma. Mae hon ynddi ei hun yn ddigon o esboniad i unrhyw eglwys a gweinidog pa fodd i weithredu gydagolwg ar adnewyddiad y Trustees ar unrhyw gapel. Nid oes angen am gael cyfreithiwr i ymyraeth yn y mater hwn, gan fod hawl gan y gweinidog a'r eglwys i wneyd y peth eu hunain, heb unrhyw help neb a chredwyf, Capten Simon, pe byddech cystal a dan- fon copi o'r ysgrif hon i SEHEN CYMRU, y gallai fod o wir les. Nid yw y gost i gyd rhwng y stamp a'r parchment ddim uwchlaw X2 o bellaf; a chofier nad oes eisieu enrolle hon os bydd v Trust Deeds gwreiddiol wedi eu enrollo. Cyn tewi, mae arnaf awvdd i ddweyd gair arall. Mae nifer lluosog iawn o Drust Deeds o gapeli ac ysgoldai nad ydynt erioed wedi eu enrollo, ac felly mewn gwirionedd yn hollol ddiwerth. Ond y mae yn dda genyf nad yw cynddrwg ag y gallasai fod, am fod cyfiaith wedi ei phasio yn ddiweddar er symud y dyryswch hwn." "Pa gyfraith yw bono, John ?" meddai Cad- waladr. Cyfraith a ddaeth i weithrediad yn mis Mai, 1861," oedd ateb John. "Amcan neillduol hon yw galluogi dynion ag ydynt hyd yn hyn wedi es- geuluso enrollo eu Deeds, ac felly yn eu gwneyd yn hollol ddiwerth-i wneyd hyny yn awr, a thrwy hvny i sicrhau diogelwch eiddo llawer ag sydd yn awr yn hollol yn meddiant y tirfeddiannwr, pe bai yn arfer ei hawl, neu yn feddiant personol y Trus tees, y rhai a allant wneyd fel y mynont a'r capeli a'r ysgoldai." Dw'i yn pondro fawr ar y men ar beth fel yna, ar nagw," meddai Shon Cadwaladr. Feallai hyny," meddai John, ond mae y peth er hyny yn bwysig. Mae gan y Bedyddwyr k'r Independiaid yn awr, y fynJd hon, werfch dros bedwar ugain mil o bunnau yn Nghymru yn unig nad yw mewn cyflwr o ddiogelwch." "Am di'r dy sbefwn I—am clyw'r bachgen, be ti'n feddwl." gofynai Rosser, a'i ddwylaw a gwyn ei lygaid yn myned i fyny tua, nen yr efail. Gwir bob gair, Rosser," meddai John, acmae yn dda i ni fod modd i ddiogelu pethau yn awr, ond i ni ddeffroi." "Sbwd ma gwneyd ?" meddai Rosser. "Welmiddywedai chwi," meddai John. "I ddechreu, chwi glywsoch am y peth y maeut yn ei alw, The Statute of Mortmain yn mhlith peth- au ereill yr oedd hono yn gofyn am i bob Trust Deed i gael ei enrollo cyn ei tod yn chwe mis oed, neu yr oedd yn ddiwerth. Mae yn awr bedair deddf go bwysig yn dal perthynas a'n capeli ni, ac mae yn gofyn eu darllen efo eu gilydd cynlY deallwn y pwnc yn iawn, am fod un yn esbonio y Hall o byd. Y cyntaf a basiwyd yn y nawfed flwyddyn o deyrnasiad Sior II. Yr ail a ddaeth i weithrediad yn y nawfed flwyddyn o deyrnasiad Sior IV. Y ttydydd yw deddf Syr Samuel Mo:ton Peto er ad- newyddu y Trustees a'r olaf yw yr hon a ddaeth i weithrediad Mai 17, 1861, o dan yr enw, 24 Vic., cap. 9, An Act to amend the law relating to the conveyance of land for charitable purposes. Deddf liawn o ddaioni a thrugaredo i rii yw hon. Mae yn rhoddi yr hawl i ni yn awr i enrollo y Deed, er ei bod dros chwe mis oed. Nidywowahapiaethpe baent hanner can miwydd oed ond cofier mai am dymhor byr iawn y mae hyn yn para. Mae y cyfle yn eia dwylaw hyd Mai 17, 1862, a hyny yn unig. Os esgeulusir ar ol y dydd ucbod, dyna ni wedi taflu o'n dwylaw un o'r cyfleusderau goreu a ro dwyd i ni gan y Senedd erioed. John anwyl, rhaid i ti a'r becbgvn ym Un gair y nhad—un gair, osgwelwch yn dda. Mae yn ddrwg genyf fy mod. wedi cadw yr efail yn segnr cyhyd, ond mae y mater yn wir bwysig. Dyma yr un gair—bydded i swyddogion pob eglwys, pwylUor pob ysgoldy, ar unwaith fynu gweled y y Trust Deed perthynol iddynt, ac os nad ydynt wedi bod yn y Chancery, eu danfon yno yn ddioed. Mi a sicrhaf fod hyn yn dd gon." Ar hyn, taflodd John ei got i lawr, torchodd ei lewis, a dechreuodd ar ei waith gyda chymm^int dlfrifoldeb ag oedd o'r blaen wedi ddangos er achub y capeli.