Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
"Y DDWY FIL."—CYFARFOD !
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"Y DDWY FIL."—CYFARFOD MERTHYR. YR ydvm yn awr yn Merthyr, gyda llawer o frodyr da o bell ac agos, y rhai ydynt mewn cynnadledd yn ystyried y llwybr gor' u i osod ar gof a chadw goffawdwriaeth ymddygiad hunan-ymwadol y DDWY FIL yn gwrthod aros yn offeiriaid yn yr Eglwys Sefydledig, ar y telerau a gynnygid iddynt gan v Brenin a'i gyfarwyddwyr. Dwy FIL o weinidogion yn dewis ymdaflu ar drugar- edd Duw a dynion yn hytrach na phlygu i ddeddf ormesol yr U nffurfiaeth Mae yn wybodus i'n darllenwyr i nifer o weinidogion a lleygwyr gyfarfod yn Nghaer- dydd ar y 3ydd o'r mis hwn, i ystyried pa beth i wneyd. Wedi cyduno ar nifer o ben- derfyniadau i'w cynnyg i sylw yr en wad o Fedyddwyr trwy Gymru, gohiriwvd y cyf- arfod hwn er rhoddi cvfle i holl eglwysi Bedyddiedig Cymru i ddatgan eu barn ar y mater. Pennodwyd fod y cyfarfod gohir- iedig i gael ei gynnal yn Merthyr Tydfil, ar ddydd Mercher, Chwefror 26ain, 1862. Dyma y diwrnod wedi dyfod, a lluaws o frodyr o bob cyfeiriad 'wedi ymgynnull i'r G-ynnadledd. Cvfarfyddwyd erbyn un ar ddeg o'r gloch yn nghapel eang Heol Fawr, pryd y gwelsorn, yn mhlith ereill, y brodyr canlynol:—Dr. Prichard, Llangollen J. Robinson, Rhydwyn Dr. Davies, Aber- afon Lewis, Rumni Evans, etta Wil- liams, etto Ellis, Sirhowy Jones, Aber- tawy Lloyd, Merthyr; Griffiths, etto Humphreys, etto; Evans, etto; Lewis, etto; Jones, Castellnedd; Evans, etto; James, Glyn Nedd; Jones, Caerdydd; Thomas, etto Morgan, Llanelli Williams, Hengoed Davies, Glandwr; Davies, Waen- trodau; Thomas, Llansawel; Williams, Ystrad; Roberts, Rhydfelen; Roberts, Pontypridd; Jenkins, Troedyrhiw; Phil-j lips, TreRbrest; Owen, Aberdar; Price, etto; Thomas, Castellnewydd Emlyn; Tho- mas, Berthlwyd; Jenkins, Paran Nick- olas, Aberaman; Davies, Beulah; Harris, Heolyfelin; Evans, Llangynidr Lewis, Dowlais; Evans, etto; Roberts, etto; Evans, etto; Jones, Pentyrch; Griffiths, Risca; Davies, Clydach; Jones, Tongwyn- las Morgan, Blaenafon Rowlands, Owm- afon; Williams, Y stalyfera Edwards, etto; Williams, St. Clears; Morris, Cefn- coedycymmer; Williams, Canton; Jones, Brynhyfrvd; Davies, Ynysyfelin; Johns, Llanwenarth Roberts, Bethel; Griffiths, Penderyu Roberts, Blaenau; Rees, Blaen- afon; Roberts, Merthyr; Hughes, Blaen- afon; Morgans, Abersychan; Hughes, Pisga Jones, Abercarn Davies, Spelters, gydag amryw frodyr gweinidogaethol ereill na chawsom eu henwau. Yr oedd yn dda genym hefyd i weled amryw o'n Myfyrwyr da yn y Gynnadledd, ac yn teimlo dyddor- deb yn y gweithrediadau. Yr oedd yno hefyd nifer luosog iawn o'n lleygwyr goreu, o wahanol barthau o'r wlad. Yr oedd hyn yn nodwedd ag oedd yn ein boddloni yn fawr iawn, ac yn dangos teimlad byw ein heglwysi yn y mudiad. Yn herwydd amgylchiadau anorfod, nid oedd ein brawd anwyl, y Dr. Thomas, yn wyddfodol; ac yn ei absenoldeb ef, dewis- wvd, gyda Lawenydd, y Dr. Prichard, Llan- zn gollen, yn llywydd y Gynnadledd. Yna dewiswyd Edward Gilbert Price, Yswain, West of England Bank, Aberdar, yn dry- sorydd i'r Gynnadledd.. Y pwnc oedd dar- lien y llythyron. Darllenodd ein brawd Lleurwg luaws mawr o lythyron, oddiwrth gyfarfodydd chwarterol, eglwysi, a bonedd- igion unigol. Mae y rhai hyn yn llawer rhy luosog i ni allu eu nodi yma yn un ac un. Bu llawer iawn o ymddyddan pwysig ar faterion perthynol i'r pwnc dan sylw. Ar ddechreu y Gynnadledd yn y prydnawn, cynnvgiwyd y seithfed penderfyniad o eiddo Cynnadledd Caerdydd ond wedi lIawer o ddwys ystyriaeth ar amryw gynnygion ereill, o'r diwedd, cydunwyd ar y prif ben- derfyniad,yr hwnoedd i'rperwyl canlynol:- Fod ymdrech yn caelei wneyd i godi trysorfa o ddim llai na £ 2,000, i'w cydranu rhwng y ddau beth canlynol :Y n laf, cyhoeddi llyfrau at wasanaetn yr enwad ac yn 2il, ffurfio trysorfa er cynnorthwyo eglwysi i gael arian at eu dyledion, heb dalu llog, ar yr un egwyddor a'r Baptist Build- ing Fund yn Llundain" Cymmeradwywyd hefyd y mudiad pwysig o gael Athrofa yn y Gogledd." Cydun- wyd yn unfrydol i gydymdeimlo, yn nghyd a chynnortlxwyo ein brodyr yn y Gogledd gyda y symudiad hwn. Cafodd amryw bethau ereill o bwys sylw y Gynnadiedd, ond nis gallwn yn awr eu nodi. Yr ydym yn gorfod gwneyd y nodion byrion hyn yn nghanol siarad ein brodyr da yn y cyfarfod. Mae Pwyllgor lluosog a dylanwadol wedi ei benodi er dwyn arncanion y Gynnadledd i weithrediad. Yn awr, niaddymunwn o'n calonbob llwydd i'r mudiad, a bendith Duw y Nef ar yr ymdrech, i fod er clod i enw yr Ion, ac er lledaeniad crefydd bur.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GENEDIGAETH. Chwef. 19, Mrs. Williams, Dolegleision, ger Llandilo, ar fab. PRIODASAU. Chwef; 13, yn Nebo, Hirwaun, Mr. D. Rosser, Aberdar, â. Gwladys, unig ferch D. Williams, Ysw. (Alaw Goch), Ynys- cynon. Chwef. 14, yn eglwys St. Michael, Aberystwyth, Mr. Edw. Edward; (Ab Myrddin), 4 Miss Mary Anne Nelson, Queen-st., y ddau o Aberystwyth. Chwef. 18, yn eglwys Llanycefn, John Rositer, A Miss Martha Rees, merch Wm. Rees, Penybont, Llandilo-ddyfed. Chwef. 20, yn Tiverton, Devon, Mr. Wm. Phillips, New Mill, Five Roads, Llanelli, &g jEllen, mereh hynaf Mr. John Pratt, Brampton-street, Tiverton. Chwef. 22, yn nghapel y Bedyddwyr, Cwmavon. gan y Parch. John Rowlands, Mr. Thomas Morgans, ft Miss M. Davies, y ddau o'r lie uchod. MARWOLAETHAU. Chwef- 19, yn 58 mlwydd oed, Mr. Rees Davies, Pistyll- gwyn, Tanllychau. Yr oedd yn aelod parchus iawn yn eglwys Fedyddiedig y Cwmdu, a theimlir colled mawr ar ei ol. Gadawodd weddw ac mi ferch i alaru ei golled. ,Jo; (hwef. 14, yn 78 mlwydd oed, Mr. R. Evans, Brynbanc (diweddar o Cresswell). Bu yr ymadawedig yn aolod def. nyddiol am flynvddau lawer gyda'r Bedyddwyr yn y Bwlch- newydd, a theimlir colled mawr ar ei ol.
GOHEBIAETH O'R GOGLEDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GOHEBIAETH O'R GOGLEDD. Nid o ogieddhartg America, na gogleddbarth yr Eidal, ond gohebiaeth o ogleddbarth Cymru. Mae pethau pwysig iawn yn cymmeryd lie hyd y nod yn ngogledd Cymru, a diau y bydd eu gwybod yn bleaer gan eich miloedd darllenwyr, Mr. Gol. Cawn ddechreu yn Mon. Ar yr ochr ogledd- ddwyreiniol o'r ynys hon y saif y lie poblogaidd hwnw Pensarn, gerllaw mynydd Peris. Hynod- rwydd Pensarn gynt oedd mynydd Peris, a'i wyth- ienau toreithiog, ond yn ddiweddar y mae Pensarn wedi dy fod yn enwog fel maes brwydr rhwng y Methodistiaid a'r Bedyddwyr. Yrnosodwyd ar Fedydd y Testament Newydd gan y Parch. John Prichard, Amlwch, mewn pregeth a draddodwyd ganddo ar Fedyddiad Lydia a'i theulu," yn nghapel Nebo. Gweinidog parchus efo y Method, istiaid yw y dywededig J. Prichard. Amddiffyn- wyd y Bedydd Cristionogol gan y Parch. Thomas Hughes, gweinidog y Bedyddwyr yn Mbensarn. Adolygodd J. P. amddiiFyniad T. H., ac adolygodd T. H. adolygiad J. P. drachefn, ac felly y parhant hyd etto. J. P. un nos Sadwrn, a T. H. noa Sadwrn arall yn dymchwelyd ei osodiadau. Ar- g atfodd J. P. ei bregeth, a deallwn fod Hughes yn myned i argraffu adolygiad arni. Gwelsom bre. geth J. P., ac nid ydym yn cofio i ni erioed weled ei gwaelach. Pe buasem yn aelod o'r cortt, buasai arnoiu gywilydd o honi, a thosturi dros ei hawdwr ond ymddengys fod y corff yn barnu fel arall, canys derbynir hi ganddo fel oracl Duw, yn mheU ac agos. Llwyddiant i wirionedd yn Mhensarn, a dvweded y darllenydd, Amen. Bellach, y mae Athrofai Fedyddwyr y Gogledd yn matter of fact er cyfarfod mawr Bangor. Y pwynt wedi ei settlo, y cynllun wedi ei dynti, alr athrawon wedi eu dewis, (el nad oes ond aros hyd Awst, er cael dydd Bartholomew i'w sefydlu. Diau y tyr hyn gyfnod newydd yn haries Bedvdd- wyr y Gogledd a gobeithio y ceir cydweithrediad cyfFredinol yn nygiad y mater yn miaen. Y mae geaym bob hyder ynngweithgarwcb y brodyr da sydd a' u llaw gyda'r mudiad. Cpleg Bartholomew yw yr enw a roddir i'r coleg newydd. ac y mae wedi ein synu dipyn. Gwyddem fod gan Eglwys, Loegr Goleg lesu a Choleg y Drindod, acnid oeddem yn synu dim, canys cydweddol yw hyny a'u hegwyddorion ond tarawwyd ni a syndod 4 welfd Bedyddwyr Cymru yn enwi eu cotegyn Goleg Bartholomew. Diau fod gan y brodyr ea rbesymau dros hyu, ond ymddengys i mi fod sawr Rhufain arnynt oil. Ond cawn ddweyd ein barn etto ar v mater. Hyd hyny, dywedwn, eled y mudiad rhagddo, canys cofio yr ydym yr hyn a ddywedodd ein, hathraw wrthym er ys taJwui bell. ach,- Great men differ. Mae seren ddysglaer ar godi yn <furfa!5eailen- yddol y dywysogaeth etto, namyn Cyhoeddiad Chwarterol newydd, dan olygiaeih rliai o brff ddynion Venedotia. Ei olygwyr ydynt Dr. Prich- ard a H. Jones, Llangollen; A. J. Parry, Cefn- mawr; a Jones, Glynceiriog. Y mae enwSu'y cewti uchod yn ddigon o sicrwydd am ei gynnwys- iad, pe na hyddai i neb ond hwy eu hunain fod yn ohebwyr iddo; a gwerthir ef am y pris isel o DDIMAI Tebyg mai y ffordd i gyfrif am y pris isel yna yw diddymiad y dreth ar bapyr y llynedd. Dyma ddau liyhoeddiad Chwarterol i'r Bedyddwyr yn awr, os buont heb un—un am. swllt a'r Hall am ddimai. Yr oeddem rii yn barnu mai llvfr i blant oedd yr Athraw, er nad yw yn cyflawnu ei swydd yn dda; ond tebyg yw fod yr Athraw yn teimlo ei hun ynrhyheni fyned At blant bellach, a bod angen gwas arno at hyny. Rhagor ar y mater pan ymddangoso. Cewch y pethau pwysig ereill y tro nesaf. GOHEBYOD.