Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

TY Y CYFFREDIN. °

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TY Y CYFFREDIN. ° Dydd Mawrtb, Chwefror 1 leg. Cynnygiodd Mr White y penderfyniad canlynol r—" Cyn gynted ag y bydd yr amcangytrifon yn barod, fod i un noson o bob w) tbnas gael ei rhoddi IW hystyried, ac ha bydd" iddynt oddef cynnygion i ymffurflo yn bwyll- gor cyflenwad ar y diwrnod hwnw, oddieithr trwy ganiatad pendanty tt." Dadleuai y rhwyddhai y cwrs liwn weithrediadau y gorchwylion cyhoeddus, hebsathru at- freintiau aelodau anngbyboedd i ddwyn owegtiytv"i mewix. Cefnogodd Mr. Ewart y cynnygiad. Wedi peth ymddyddan ar y mater, tynodd Mr. White ei gvnnygiad yn ol. Dygodd Arglwydd Castlerose atebiad ei Mawr- hydi i anerchiad y Ty i fyny, yr liwn oedd fel y canlyn :—" Yr wyf yn diolch yn ddiffuant i chwi am eich anerchiad teyrngarol ac ufvdd, yn enwedig am eich cydymdeimlad serchog a mi yn fy nhrallod mawr." Rhoddwyd caniatad i Mr. Monckton Milnes ddwyn ysgrif i mewn i wneyd priodasa pherthynas- au neillduol yn gyfreithlawn. Amlygodd Mr. Walpole ei wrthwynebiad i'r ysgrif. Rhoddwvd caniatad i Syr John Trelawney ddwyn ysgrifi mewn i ddileu y dreth eglwys. Dywedodd Mr. S. Estcourt v byddai iddo wrth- wynebu yr ysgrif trwy gyfarfod yr ail ddarlleniad a phenderfyniad yn dadgan yr egwyddorion ar ba rai y byddai i'r Ty drafod y cwestiwn hwn. Rhoddwyd caniatad i Mr. Newdegate i ddwyn ys- grif i mewn i sefydlu tal yn lie treth eglwys, ac 1 ddarparu trysorfeydd ereill at yr un dybenion.; Dydd Mercher, Chwefror 12fed. Dygwyd amryw ysgrifau annghyhoedd i mewn, a darllenwyd hwynt y waith gyntaf. Gosodwyd amcangyfrifon chwanegol y Ilynges ar y bwrdd gan Arglwydd C. Paget. Dydd Iau. Chwefror 13eg. Cyflwynwyd nifer mawr o ddeisebau yn erbyn y Code newydd. Y" Code" Newydd. Mr. Lowe, wrth gynnyg fod ibapyrauperthynol i'T Code newydd orwedd ar y bwrdd, a ddywedodd eu bod yn cynnwys gwelliadau yn y Code newydd y rhai oeddynt yn ffrwyth chwe mis o ymgynghori. Yr oedd wedi talu sylw mawr i'r ardriangosiadau a wnaetbid yn ystod y tymbor hwnwgan gyfeillion addysg. ac yr oedd yn awyddus i wneyd defnydd priodol o'r hysbysrwydd a'r opiniynau oeddynt yn gorwedd ger ei fron. Efe a eglurodd amean sef- ydliad y cynghor addysg, a natur helaethrwydd y rhoddion seneddol at addysg. Y bai cyntaf a weiodd efe yn y gyfundrefn bresenotoedd ei phleid- garwch, gan ei bod yn ymddangos oddiwrth ad- roddiad diweddaf y dirprwywyr nad oedd dim ond 6,897 o ysgolion yn derbyn cymhorth gan y cynghor addysg, tra yr oedd mwy na chymmaint arall, 15,982, heb dderbyn un cymhorth. Hyd yma, ni fyddent ond yn uuig yn derbyn adroddiad ar gym- hwysderau y mestriaid tra mai yr hyn oedd arnynt eisieu oedd adroddiad ar ansawdd yr addysg a gyf- renid. Eu dyledswydd hefyd oedd goclielyd gwas- tratf. Yr oedd y dirprwywyr o'r farn mai y swm ddylid ei chaniatau oedd 10s. y pen ond ymddan- gosasai oddiwrth yr adroddiadau, yn He 10s., y pen, fod un ysgol wedi bod yn derbyn yn ol je4 3s. 4c. y pen ysgol arall £17s. 6c.; trydydd £1 5s.; tra yr oedd y lleiaf yn derbyn 19s. y pen, neu agos gymmaint arall ag y barnai y dirprwywyr a ddylid ei roddi. Ar yr un pryd, yr oedd presenoldeb y plant yn yr ysgolion yn llawer Uai nag y dylai fod, acymddangosai ei fod yn graddol waethygu. Honai na weinyddid y bleidlais addysg byth yn dfg a diogel hyd nesy ceid gwaredigaeth oddiwrth y Ilu- aws bawliau breiniol oedd yn bodoli yn yr ysgolion. Yr oedd mawredd y rhoddion a gyfrenid bron wedi lUvyr attal pob ymdrechion gwirfoddol gydag add- ysg. Mewn rhai o'r colegau athrawol, cyfrenid o 80 i 90 y cant o'u boll gvllid gan y llywodraeth. Yr oedd efe yn meddwl fod y dirprwywyr yn eu lie, wrth ystyried pob peth, wrth gynnyg fod i ryw ymgais gael ei gwneyd i attal y drygau aruthrnl Oeddynt wedi ymlusgo i'r gyfundrefn ond ni buasai cynnygiad y dirprwywyr i osod treth sirol yn darparu un feddyginiaeth wirioneddol, a theimlid nad oedd dim i'w wneyd ond parhau y capitation grant. Modd bynag, rhaid cael rhyw ddull i brofi addysg, gan mai amcan y cynghor addysg oedd cef- nogi addysg, ac am hyny hwy a gynnvgiasant fod i'r ysgol gaelhawli geiniog am bob daliad y bydd pob plentyn yn bresenol ynddi ar ol y cant cyntaf, ond, modd bynag, lleiheid y drydedd ran yn y rhodd hon os byddai adroddiad yr arolygwyr yn anffafriol ar ddarlleniad yr ysgol, y drydedd ran gyda ge,Iwg ar ysgrifeuu, a'r drydedd ran gyda golwg ar rlfo. Yr oedd y trefniant hwn yn sicrhau na cliyfr-hid y rhoddion i ysgolion gwael. Ynaaeth v boneddwr gwir anrhydeddils yn mlaen i adrodd v dull yn mha un y cynnygiai y cynghor addysg wneyd cyfnewid- iadau yn y Code newydd. Yn y lleeYTltaf ni chym- mhwysid y Code at Ysgotlond, yr hon nid oedd er- ioed wedi derbyn y capitation grant. Gyda golwg ar Loegiyyr oeddynt wedi cynnyg yn y lie blaenaf, na byddai i'r ysgolion dderbyn dim o'r 'captiation grant i fabanod heb arholiad ond gan eu hod wedi derbyn llawer o wrthdystiadau ar y mater, yr oedd- ynt ya bwriadu rhoddi hawl i fabanod o dan chwe mlwydd oed i'r rhodd heb arholiad. Y taliad fydd- ai Ie. y pen ar gyfer y plant yn yr ysgol ar ol y ddau cant daliad cyntaf y byddant yn bresenol ynddi. 'Yr oedd ycyfllewidiad nesaf yn dal perthynas a cholegau athrawol, yn erbyn y rhai yr oedd y cynghor addysg yn meddwl fod ganddynt achos eg- lur, gan etf bod wedi peidio a bod yn sefydliadau gwirfoddol, ae wedl dyfod yn ysgolion y llywodraeth. Bwriedid tynu yn ot hefyd y ddarpariaeth sydd yn gofyn i blant roddi eu presenoldeb un ar bumtheg o ddyddiiiu yn y mis olaf cyn arhoUad yr ysgol; a newidid y fforifettadgydagotwgarddysgybt athraw- on. Yn breseniol ffortfetid ^10 am bob 30 o blant heb ddysgybi-albravv, ac am bob 60 heb athraw cyn- northwyol. Cynnygid yn awr na fforffetid diin oddi- eithr fod 40 o blant heb ddysgybl-athraw, a 70 heb athraw cynnorthwyol, Yn y lie nesaf, newidtd yr oed yn mha un y goddefid i blant fyned i ysgolion nosawl o 13 i 12. Gyda golwg ar hawliau yr ath- rawon trwyddedog* ymddangosai fod rhai o'r farn y dvtid ymgynghori a phob un oedd wedi dlrbyn eyfran o arian y Ilywodraeth cyn gwneyd un cyf- newidiad. Yr oedd efe yn meddwl, modd bynag, nas geli-id beio y llywodraeth, os rhoddent yr holl fanteision hyn ar sylfaen deg. Gyda golwg ar ys- golfeistriaid, nid oedd yn rbyfedd, wrth ystyried eu bod yn cwyno yn erbyn yr hen gode, eu bod yn gwrthdystio yn erbyn yr un newydd. Yr oedd ganddynt ddyledswydd bwysig i'w chyflawnu; ond dylent gofiomai y wlad oedd yn talu am, a rhoddi iddynt eu rhagoriaeth. Ni fwriedid rhoddi un cym- mhorth pellach i ysgolion rarpiog. U nig amean y Cynghor AddySg oedd rhoddi i blant tlodion yr addysg hono a'u cyfaddasa hwynt i'w sefyllfa yn y byd, ac yr oedd yn honi eu bod wedi defnyddio y moddion goreu o fewn eu gallu i gyrhaedd yr amcan hwnw. Tybiai Mr. Disraeli fod adroddiad y boneddwr gwir anrhydeddus yn un a ddylassi gael ei wneyd cyn dygiad y Code Newydd i mewn. Wadi rhai sylwadau gan Mr. Newdegate: Mr. Kinnaird, a Mr. Caird. Atebodd Mr. Lowe yn. fyr i sylwadau Mr. Disraeli, gan ddwyn ar gof i'r Ty ei bod yn anmhosibl rboddi y Code Newydd mewn gweithrediad cyn Gorphenaf 1862, ac fellv, cai y senedd ddigon o amser i ystyried ei ddarpar- iaethau. Wedi peth ymddyddan pellach ar y mater, cytun- wyd a'r cynnygiad. Dydd Gwener, Chwefror 14.—Rhoddodd Mr. Cox rybydd, yn ngbano) chwerthiniad cyffredinol, y byddni iddo ddydd Mawrth nesaf otyn i'r Prif- weinidog, a oedd efe yu bwriadu dwyn ysgrif ar ddiwygiad seneddol i mewn i'r eisteddiad presenol. Dygodd Arglwydd G. Paget amcangyfrifon y llynges i fyny, a gorcbymynwyd eu rhoddi ar y bwrdd. Mewn atebiad i Mr. Dillwyn, dywedodd Syr G. C. Lewis fod y llywodraeth yn bwriadu adeiladu amddifFynfeydd i gadw Bristol a'r glenydd cyfagos. Mewn atebiad i Mr. W. Foster, dywedodd Ar- glwydd Palmerston fod ymdrafodueth wedi cych. wyn i wneyd cytundeb masnachol rhwng Lloegr a Belgium ar y telerau mwyaf manteisiol i'r naili wlad a'r Hall.

TY YR AltGLWYDDI.