Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
1Y RHYFEL YN AMERICA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
1 Y RHYFEL YN AMERICA. Nid oes un newydd o bwys mawr wedi ein cyrhaedd o America yn ystod y pyth- efnos diweddaf. Ymddengys fod y ffyrdd yn rhy ddrwg, a'r hin yn hollol anftafriol, i'r fyddin ar y Potomac gyehwyn rhag ei blaen yn bresenol; fodd bynag, y mae rhai o bapyrau Efrog Newydd yn hvsbysu y bydd symudiadau milwraidd yr Undeb y fath na welwyd eu cyifelyb yn JEwrop. Y mfte rhyfeigyrch galluog.. y Cadfridog Burnside wedi cyrhaedd i HatteraS. Cyn- nwysa uwchlaw 128 o lestri. Yroedd cam- syniad yn ffynu yn mhlith yr arweinyddion gyda golwg ar ddyfnder y dwfr yn y mor- gilfach. Aeth yr agerlong City of New York, gyda llwyth gwerth 200,UOO o ddoleri, yn ddrylliau ar y bar. Rhedodd amryw lestri ereill i'r lan, ond ni chollwyd dim ond tri bvwyd. Dywedir fod- y gwrthryfelwyr wedi cyfyngu eu gweithrediadau yn benaf i osod rhwystrau ar ffordd mynediad y rhy- felgyrch i Norfolk. Hysbysa bryslythyr o Richmond fod Beaurcgard wedi gadael Manassas i gym- meryd y llyvvyddiaeth yn Columbus yn Kentucky. Cymmerwyd lie Beauregard gan Gustavus W. Smith. Dywed bryslythyr o Richmond fod y fuddugoliaeth a ennillwydgan yr Undebwyr yn Mill Spring yn fwy pwysig nag yr hys- bysir gan newyddiadurony Gogledd, Derbyniwyd hysbysiad o Augusta fed chwaneg o lestri wedi eu suddb yn sianel Charleston. Y mae newyddiaduron New York yn amddiffyn y cynllun o suddo Jlestri, gan, honi y gellir yn hawdd eu codi ar ol ter- fyntad y rhyfel, a bod sylwadau newydd- .y iaduron Ewrop ar hytlywbriodoliiduedd i ymyrid a'r ymdrechfa Americariaidd. Dywed yr Evening Post fody. gair yn cael ei ledaenu y n Washington fod yr Ys- grifenydd rhyfel wedi cyfarwyddo y Cad- fridog Lane i arfogi y caethion, ac i'w def- nyddio hwynt fel milwyr yn erbyn y gelyn. Yr oedd cyfFro mawr yn ffynu yn New- burn Inewn canlyniad i'r dysgwyliad am ym- osodiad oddiwrth y Cadfridog Burnside. Y mae dwy adran o fyddin yr Undeb ar eu taith tua Springfield. Yr oedd y Gydgynghorfa wedi pasio ysgrifyn awdurdodi,||y Llywydd, o dan am- gylchiadau pennodol i gymmeryd meddiant 0 ffyrdd haiarn a swyddfeydd pellebrau. Fe draddododd Mr. Gurly araeth rymus yn y Gydgynghorfa, yn condemnio segur- dod y fyddin, gan honi ei bod yn anmhosibl i un d\ u lywyddu yn effeithiol fyddin mor fawr ag ydyw byddin bresenol yr Undeb. Dywed y New Orleans Deltafod yr holl drefydd ar y glenydd wedi eu gadael yn annghyfannedd, a bod y trigolion a'u caeth- ion wedi symud i'r canolbarth. Dywed y New York Times, os oes rhyw fasnachwr yn Lloegr wedi prynu y Nash- ville, fod gan ei pherchenogion yn y Gogledd hawl etto ami. Y newyddon diweddaraf o'r wlad hon gan yr agerlong Africa, a'n hysbysant fod yr Undebwyr wedi cymmeryd ynys Roan. oake oddiar y Gwrthryfelwyr, a bod nifer o fagnel-fadau y Deheuwyr wedi eu suddo. Anturiaeth Burnside oedd wedi cyflawnu y pethau hyn. Dywed y Philadelphia In- quirer mai yr unig rwystrau ar ffordd Burn. side a'i anturiaeth yn eu cychwynfa ar Norfolk ydyw y morfeydd ffoslyd ac af- iechyd. Dywed papyr arall fod arswyd yn ffynu yn Norfolk a Portsmouth yn mblith y Gwrthryfelwyr. Y mae y Cadfridog Stone, yr hwn a lyw- yddai y fyddin yn Ball's Bluff, yn awr yn garcharor yn Fort Lafayette. Hanes arall o'r dygwyddiadau uchod a ddywed Darfu i anturiaeth Burnside gymmeryd meddiant o ynys Roanoke, a llwyr ddinys- trio llvnges y Gwrthryfelwyr ar y 9fed. Ymosododd yr anturiaeth ar ddinas Eliza- beth, yr hon a waghawyd gan y trigolion. Llosgwyd y ddinas yn llwyr naill ai gan y trigolion neu y tanbelenio lynges yr Undeb- wyr. Yr oedd y ddinas yn nwylaw yr Undebwyr, ac yr oeddent yn cychwyn ar Eden Town. Bu y frwydr yn un galed rhyngddynt. Dywedir fod mil o bob tu wedi syrthio. 'J.. Y mae papyrau y Deheu yn ystyried colled y safleoedd hyn yn beth pwysig. Mae yr Undebwyr wedi cymmeryd j bont I dros yr afon Tennessee, gan dori ymaith y dramwyfa rhwng Memphis a Cholumbus. Yr oedd y Cadfridog Grant yn bwriadu ymosod ar arnddiffynfa Donnelson gydag wyth battery o tagneiau. | Dywedir fod wyth mil o'r Gwrthryfelwyr yn arnddiffynfa Donnelson. Taenid y gair fod v Gwrthryfelwyr wedi gwaghau Bowling Green. Bydd i'r amddirtyn-bwyllgor yn y Senedd fynegu o blaid ys National Foundry a'r ys. torfeydd artau yn Chicagp ac hefydo blaid v llyngesleoedd ar Lynoedd Michigan, Erie, ac Ontario, ac amddiftynfeydd ar ochr og- leddol y cyffiniau. Dywed y Llywydd Dupont mai yr unig fynedfa yn awr i borthladd Charleston sydd drwy Swash Chantiel a rhan o Maffit's Channel. Dygir ysgrif i mewn yn y Senedd bre- senol er rhoddi awdurdod i'r Llywydd i warafun allforiad unrhyw beth yn ystod y gwrthryfel presenol a fydd yn tueddu i niweidio y cyhoedd. Yn y Senedd, yn ystod y ddadl agodwyd ar Amddiffynfeydd, dywedai Mr. Doolitile nad, oedd yn credu fod un perygl o ryfel ag nnrhyw allu llyngesol, a chyfeiriai at araeth yr Amherawdwr Napoleon fel arwydd o heddwch. Barnai amryw o'r aelodau os byddai iddynt lethu y gwrthryfel, na fuasai eisieu adeiladu amddiffynfeydd o gwbl. Derbynid araeth Amnerawdwr y Ffrari- dod i'r Corps Legislatif gyda liawer o foddlonrwydd yn Efrog Newydd, ac achos. odd effaith ffafriol ar y farchuad arian.
Y .LLIFOGYDD YN HOLLAND.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y LLIFOGYDD YN HOLLAND. Y inae eodiad parhaus yr afonydd yn Holland yn dechreu creu dychryn. Y mae y Rhine yn parhau i ymgodi yn Arnhew, fir Wahal, ger Bommel, lie y gwnaedcryn niwed i'r argaeau. Y mae yr Yssel hefyd yn uchel ger Zutphen, ac y mae rhai o'r pentrefydd cyfagos eisoes o dan y dwfr. Llythyrau o Vienna a roddant yr hanes- ion mwyaf gofidus am y llifQdyfroedd; y mae y dosparth o dan ddwfr yn Vienna ei hun yn cynnwys loblogaeth o 80,000 ober- sonau, ac y maent oil wedi gorfod ffoi o'u tai am eu bywyd ac nid oes ganddynt yn awr ddim i'w wneyd pnd dibynu ar drugar- edd eu cydwiadwyr. Parhaodd i wlawio yn ddychryhllyd am bedwar diwrnod; di- nystriwyd y pontydd a'r ffyrdd haiarn. Y mae y Danube heiyd wedi llifo dros ei glen- ydd, ac wedi gwoeyd dinystr mawr.
CLODDFEYDD AUR COLUMBIA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CLODDFEYDD AUR COLUMBIA. Ymddengys fad Columbia Brydeinig yn dehyg o ymgystadlu a Chalifibrnia mewn cyfoeth euraidd. Yn,, ystod y flwyddyn ddiweddaf, darganfyddwyd meusydd aur cyfoethog mewn dosparth newydd, a elwir Cariboo, yr hwn sydd yu gorwedd rhwng yr afon Frazer, a'r Mynyddoedd Creigiog. Rhwng Mai a Medi, cynnyrchodd y clodd- feydd yn y parth anial hwnvi uwchlaw mil- iwnobunnau i'r anturiaethwyr a aethant yno hyd Y nod o Galiffornia i gvfranogi o'r cynauaf euraidd. Pobtogir Cariboo yn awr gan 5,000 o gloddwyr; a gallai y mwyaf anfedrus o honynt eoaill ;#.2 yn y dydd, tra yr oedd nifer mawr yn ennill symiau br- uthrol. Wr-th gwrs y mae prisiau angen- rheidiau bywyd yn ucbel; ond y mae yr hinsawdd yn iachus, a threfn dda yn ffynu yn mhlith. y cloddwyr.
'..'",FFRAINC. ■' -^ !"..(';"(\;.'..'....
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
FFRAINC. ■' "(\ Y mae Anerchiad y Senedd mewn ateb- iad i araeth yr Amherawdwr wedi ei chy- hoeddi. Mae y cyfeiriad a wneir at aebos yr Uidal yn dra dyddorawl, ac yn dra bodd- haol, ac ystyried o ba le y deilliodd. Can- mola yr Anerchiad wladlywiaeth yr Amher- awdwr gyda golwg ar y cwestiwn Rhufeinig, a galara am nad yw yndrechion el Fawrhydi wedi cyfarfod a mwy o gydymdeimlad a chydweithrediad. Cyfeirir yma yn ddiau at lywodraeth y Pab; ac yn hyn canfyddwn fod cryn gyf-