Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
ATHROFEYDD Y BEDYDDWYR YN…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ATHROFEYDD Y BEDYDDWYR YN SIR FYNWY. GAN RUFUS. Parhad o tud. 83. GAN ein bod wedi cryhwyll yn barod am y teimlad bywiog a fodolai yn Nghymru yn mhlith y fiedyddwyr, er's mwy na 100 ml. yn ol, mewn perthynas i gael math o sefydliad tebyg i Athrofa er budd i bobl ieuainc a ymrodd- ent eu hunain i'r Weinidogaeth; ac wedi cael yr byfrydwch o goffa i ysgol o'r fath gael ei sef- ydlu yn Nhrosnant, yn ymyl Pontypool, ac wedi rhoi ycbydig o banes yr Athrawon a fu yno, bryjiwn yn awr i ddweyd gair yn fyr am FYFYRWYR ATHROFA TROSNANT. Er na fu y sefydliad i fyny ac yn llewyrchus yr oil amser, o'r fl. 1730 (?) hyd y ft. 1770, etto, fe addyagwyd yno ryw 30 neu 40 o fechgyn ieuainc o wahanol bartbau o Gymru, o wahanol ddoojau a galluoedd, Ymsefydlodd amryw o honynt yn weinidugion ar eglwysi yn v Dywysogaeth, ereill yn Hoegr, ereill yn Iwerddon, ac ereill a aethant drosodd i America. Y mddysgleiriodd rhai o honynt fel ser a heuliau yn ffurfafen eglwys Crist a'r byd llenyddol; enwogodd rhai o honynt eu hunain fel haneswyr, ereill fel duwinyddion, ereill fel athrouwyr, ac ereill fel clastic*. Ni a roddwn yma daflen yn dangos enwau rhai o honynt, yn nghyd a'r flwyddyn yr oedd pob un o honynt yn Nhrosnant yn derbyn addysg. Yr ydym yn dweyd rhai o honynt, am ein bod yn methu a dyfod o hyd i enwau yr oil a fuont yno. 1. Mr. Benjamin Vaughan ■ 1736 2. David Evans 1736 3. Joshua Andrews 1736 4. Evan Jenkins 1736 5. Edmund Watkins 1740 6. Jonathan Francis 1740 7. Timothy Thomar, 1740 8. Morgan Edward, M.A 1740 9..1 Morgan Jones, LI.D 1740 10. Thos. Llewellyn, M.A.L1.D. 1740 11. Thomas Williams 1742 12. Henry Phillips.. 1750 13. JamesBrewett 1750 14. Benjamin Francis. 1752 15. Thomas Lewis.. 1753 16. Daniel Thomas 1753 17. Charles Harris 1755 18. Samuel Griffiths 1761 19. Benjamin Morgan 1761 20. Thomas Phillips 17— 21. George Watkins 17— 22. David Jones. 17— 23. Miles Edwards. 17— 24. Samuel Evans 17— Yn ol ein bwriad, an liaddewid ar ddiwedd yr ysgrif o'r blaen, ni a roddwn math 0 fywgraffiad byr o bob un o honynt, fel y caffo darllenwyr y SEREN wybod rhyw ychydig am rai a brofasant yn fendith i Eglwy, Dduw a'r byd yn eu hoes a'u tymhor. MR. BENJ. VAUGHAN. Efe oedd y cyntaf oil a fedyddiodd y Parch. Miles Harry, gweinidog cyntaf a gwir ymdrechol hen Eglwys enwog Peny- garn, Pontypwl. Efe hefyd ydoedd y cyntaf a godwyd ac a fagwyd i'r weinidogaeth yn Eglwys Penygarn. Dyma" Ysgub y blaenffrwyth" o'r gweinidogion a fedyddiwyd gan M. Harry, ac a fagwyd i'r weinidogaeth gan Benygarn. Derbyn- iodd lawer o gynnorthwy mewn amryw ffyrdd oddi. wrth ei fam-eglwys a'i dad-weinidog. Wedi treulio ei amser yn Nhrosnant aeth i Frystau, i gael ei hyfiorddi yn mhellach, gan y Parch. B. Foskett a'r Parch. H. Evans. Yr oedd yno yn y fl. 1737. Der- byniodd alwad i fugeilio eglwys Chessam, Bucks. Bu yno yn wr enwog, ac yn bregethwr poblogaidd, am flynyddau lawer, ac yn cadw Boarding School. MR. DAVID EVANS. Efe, medd Mr. Joshua Thomas, oedd y cyntaf o eglwys arall, sef Molleston, Swydd Benfro, a dderbyniodd addysg a chynnorth- wy yn Mhenygarn a Throsnant. Gwr ieuanc oedd ef wedi bod yn nghymmundeb Eglwys Loegr, gyda'r enwog Mr. Griffith Jones, o Landdowror ond efe a fabwysiadodd olygiadau y Bedyddwyr, ac a fed- yddwyd gan un Mr. Thos. Matthews. Wedi hyn bu yn byw yn Nghastellnedd, ac yn cadw ysgol yno. Ar gais Eglwys Molleston, dychwelodd ac ordein- iwyd ef yn weinidog yno. Yn mhsn yehydig amser, annogwyd ef i fyned i Drosnant, i dderbyn addysg, yr hyn a wnaeth yn y fl. 1736. Aeth yntau i Frystau at Foskett ac Evans. Bu yn weinidog yn Bourton, Gloucester, ac yn Hooknorton, Oxon. Yn y 11..1747, cawn ef yn Cork; wedi hyny yn Dublin, yn yr Iwerddon. Bu hefyd yn gweinidogaethu yn Newport-pagoel, Bucks. Yr oedd ef a Dr. Dod- dridge yn gyfeillion gwresog; ac ar gynghor y Doctor, efe a symudodd at Eglwys 0 Fedyddwyr ag oedd yn Greatgrandson, Hants, tua'r fl. 1749. Nid hir y bu yno, cunys yn y fl. 1751, eawn ef yn Big- glewade, Beds. Treuliodd yn y lie olaf hwn wedd- ill ei oes, a bu yma yn dra chysurus a gwir ddef- nyddiol. Am dano dywedodd un-" Yr oedd yn iach yn y ffydd, ac yn hardd yn ei fywyd." Yr oedd ganddo feddwl uchel iawn a gwir barchus am eglwys weithgar Penygarn a'i gweinidog caredig, Miles Harry. Ystyriai hwynt yn batrwn i holl eglwysi y saint, a gweinidogion yr.eglwvsi, mewn cariad, brawdgarwch, ac undeb. Dyinuna hyd ei farw i hyny gael ei goffa am danynt; a hyny, nid yn unig am eu caredigrwydd iddo ef yn unig, ond i ereill hefyd. MR. JOHN ANOREWS.—Aelod o Benygarn oedd ef, ac a gefnogwyd i bregethu yn y fl. 1736, ac a dderbyniwyd i'r Athrofa yr un amser a'r ddau ereill. Aeth yntau hefyd i Frystau, at Foskett ac Evans. Wedi tymbor ei efrydiaeth yno, dychwelodd i Ben- ygarn, ac a ordeiniwyd yn weinidog ar Eglwys Bryn- biga, cangen y pryd hwnw o eglwys Penygarn. Yn y fl. 1745, cymmerodd ofal Olchon a Chapelvffin. Bu farw yn 1792. Claddwyd ef yn mynwent y Tros lant, lie maecareg ar ei fedd. Yr oedd yn wr da, ac yn bregethwr cymmeradwy. MR. EVAN JENKINS. Aelod gwreiddiol oedd ef oRhydwilyin; ac mor bell ag y gallwn ddysgu, mab ydoedd i'r enwog a'r llafurus Barch. John Jen- kins, o Rhydwilym. Symudodd i gymmydogaeth Pontypwl, a chymmerodd ei aelodiaeth yn Mheny- garn. Yr oedd ef yn ysgol Trosnant yr un amser a'r tri uchod; ac hefyd yn Mrystau, dan ofal Foskett ac EVllns, yr un pryd a hwynt. Yn y fl. 1738, dychwelodd yn ei ol i Benygarn, ac a ordein- iwyd i gyfldwn waith y weinidogaeth. Pa le y bu yn gweinidogaethu, nis gwyddom. Yr oedd ganddo barch neillduol tra y bu byw i enwau y Parch. Miles Harry a Mr. John Griffiths. MR. EDMUND WATKINS. Aelod oedd ef o eg- lwys Blaenau-Gwent. Cawn ef yn Nhrosnant yn y fl. 1740, ac yn Mrystau yn 1744. Ordeiniwyd ef yn weinidog ar ei fam-eglwys yn 1747. MR. TIMOTHY THOMAS, 0 ABBKDUAR. Yr oedd ef yn awdwr amryw lyfrau buddiol. Ar gareg ei fedd mai "Taranwr a Dyddanwr oedd efe." Mae ei enw ef yn ddigon adnabyddus drwy y Dy- wysogaeth, fel nad oes raid i ni yma ddweyd dim am dano. MR. JONATHAN FRANCIS. Aelod gwreiddiol oedd ef o Gastellnedd ond yn Eglwys Penyfai y decbreuodd bregethu, ac oddiyno yr aeth i ysgol Trosnant, yn 1740. Wedi darfod amser ei fyfyriaeth, aeth yn ol i Benyfai, lIe y bu yn gweinidogaethu hyd ei farw, yr hyn a gymmerodd le yn y fl. 1802. Dy- wedir iddo gael llawer 0 flinderau ar ei daith, a llawer o'i wawdio, yn enwedig fel Bedyddiwr, gan elynion croes Crist, a chan Hen Berson Charles o'r Sern," offeiriad Llanflraed- leiaf. Ei ddilynydd yn y weinidogaeth oedd Mr. Thos. Edwards, yr hwn oedd yn aelod ac yn bregethwr yn Ystrad, neu Ystrad-dyfodog, ac a fedyddiwyd yno gan Mr. Francis ei hunan yn fl. 1786. MR. MORGAN EDWARDS, M.A. Aelod oedd ef o eglwys Penygarn. Dechreuodd bregethu pan nad oedd ond 16 ml. oed, tua-r fl. 1738. Bu yn pregethu am flynyddau yn Lloegr, ac yn llafurio yn ddiwyd am ryw 9 ml. yn Iwerddon, lie yr ordeiniwyd ef yn y diwedd, yn y ft. 1767. Yn y ft. 1761, ymfudodd i America; a bu yn enwog iawn fel pregethwr, ac yn llwyddiannus iawn fel gweinidog, ac 0 fendith fawr fel Haneswr. Ysgrifenodd 12 llyfr a Hanes y Bedvddwyr yn y 12 talaeth yn America. Daeth y cyntafattan yn y fl. 1770. Yn yr un flwyddyn ag oedd haul Athrofa'r Bedyddwyr yn machlud yn y Trosnant, yr oedd haul enwogrwydd Edwards yn codi yn America Yr oedd Morgan Edwards yn ddyn gwir ddysgedig ac ar gyirif ei ddysgeidiaeth dry- lwyr, a'i wybodaeth eang, graddiwyd ef ag M.A.
ELUSENDOD THOMAS HOWELL, 1540.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Nid yw y ddarpariaeth sydd yn gadael drws agored i Ymneillduwyr yn ddim amgen enw o beth. Nis ceir yr un Ymneillduwr yn mysg y llywyddion, er fod y llywyddion yn dweyd y gellir cael Y mneill- duwr i fewn. Y gwir yw, ni omeddai braidd yr amddifad ieuanc, plentyn Bedvddiwr er enghraifft, os ymddygid yn garedig tuag ati, ymuno a chyn- nulleidfa y mwyafrif o'i chyfeillesau. Hyd y nod yr Iuddew bach Mortara-a yspeiliwyd mewn dull gip8iaidd gyda chydsyniad Pio Nono-ni byddai yn ol pan gyrhaeddai oedran cyfaddas, o alw ei dad ei hun i gyfrif am ei olygiadau crefydool, er nachym- merid moddion arbenig-y tu hwnt i ddewisiad cyf- eillion iddo-er dwyn oddiamgylch y cyfryw ym- ddygiad. Yn wreiddiot, nid oedd cymmeriad yr elusendod mewn un modd yn gyfyngedig; eithr yn awr, i bob dyben ymarferol, Elusendod er Addysg Grefyddol ydyw, o dan arolygiaeth Esgob Llandaf. Beth bynag yw synwyr y geiriau a ddefnyddir- a phe na buasai Ymneillduaeth mor eang yn Nghymru, ni ddefnyddiasid y fath eiriau o gwbl- nis gellir tybied y gwnaethai Esgob a Deon Llan- daf, a'r Uywyddion ereill, amgen nag ymddwyn yn unol ag argyhoeddiad didwyll o'u credo, pan yn cymmeradwyo un neu arall, gan gadw y sefydliadau newydd er lledaenu yr addysg grefyddol, pa un y gosodwyd y capelwr i'w barolygu. Fod hyn nid yn unig yn debygol, ond yn anocheladwy, sydd sicr oddiwrth gymmeriad, cyfundrefn, a chynllun ar- benig y sefydliad newydd. Nid yw yn ddiclion. adwy cadw, yn meddwl merched ieuaine yn byw yn barhaus o dan yr un to, olygiadau crefyddot fyddo yn amrywiol a gwrthdarawiadol; ac nis ffurfiwvd y fath ddysgwyliad pan y gosodwyd, yn ol y bedwar- edd ddosran o'r gyfraitb Seneddol, y sawl ddyg. wyddai fod yn Esgob Llandaf ar y pryd, yn ben ar y corfi Uywyddol. Os ydym yn achwyn ar y neill- duolrwydd, nid y rhai sydd yn gweinyddu o fewn y cynllun sydd i gael eu condemnio, ond y rhai a'i lluniasant mewn ysbryd mor gul ag addysgu ych- ydig o ferched mewn mynachdy ysblenydd Gellir dywedyd fod Esgobaeth Llandaf yn un orlawn o ferched amddifaid. Mor fynych y elywir llais wylofain gwragedd, ac y canfyddir yr olygfa echrydus o ddinystr bywydau llaweroedd o lowyr yo ddisymmwth, mewn canlyniad i anwybodaeth, ffolineb, esgeutusdod, neu anffawd-nid oes yn un lie fwy o angen ysgolion er addysgu merched. Y mae llawer o ferchaid amddifaid i'w haddysgu, ac y mae llawer o enetbod yn awyddus am addysg ac mewn angen o hono, pa rai nid oes ganddynt yr un ysgol i'r hon y gallant fyned, eithr nid yw y rhai hyn o ddosparth y merched amddifaid sydd i gael dysgu y Francaeg yn Llandaf, (Tw barhau.)