Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

AT EIN. GOHEBWYR A'N DARLLENWYR. EiN DERBYNiADAU.—WiH Oweh—Gwan ei fedd wl-Myntieèr Von Voorst- Meros—James Harris-D. J. D.—T. Jones-Sarah H ugb es- Rubric- M elanethon -Byr ei ddeall, See* PARCH. H. W. HUGHES.—Maeyh wir ddrwg genyro fod y traethawd ar "Ddvn," gyda chynnyrchion ereill o Eisteddfod y Din as, heb ymddangos am gy- hyd o amser. Gallwn eich sicrhan mai diffyg lleyw yr unig achos. Bydd y feirniadaeth yn ein rhifyn nesaf, a'r Traethawd yn ySEHEN ganlyndl. Yrydych chwi yn hollol rhydd o-bob bai, gan i chwi anfon y traethawd a'r feirniadaeth i ni yn ddioed wedi y cyfarfod. a darfu i ni eu cyflwyno i'r Swyddfa. ALFRED FFYDDLON.—1. Mae y cyfarwyddyd angen- rheidiol i'w gael yn y Llithlyfr ag1 sydd newydd ei gyhoeddi gan vr Undeb, ond nid OM genym yr un wrtb law ar hyn o bryd, felly, nis gallwn roddi i chwi ateb pennodol i'ch pen cyntaf. 2. Mae y ihth wedi cael ei fwriadu iddarllen uwchben bedd pcb brawd ymadawedig-pa un ai yn mynwent y plwyf nen mewn rhyw fynwent aratll. 3. Mae yn drosedd i ddarlten y llith yn myriwerit eglwys y plwyf, heb yn gyntafgael caniatad yroffeiriid a fydd yn gwein- yddu ar y pryd. Yna gofelir bob arasef. i ofyn^tft ganiatad, ac os gwrthoda yr offeiriad, gwell gadael y llith heb ei darllen, gan y byddai ei darllen heb ganiatad yn gosod y darllenwr yn ngafael y deddfau eglwysig, a gaIlai y canlyniadau fod yn bwysig iawn. GWAN El FEDDWL.-Mae yr hen arferiad o anfon valentines gan bersonau ateu gilydd wedi dirywio mor fawr, fel ag y mae wedi myned yn warth ac yn ddirmyg. Peth anhardd iawn yw fod tin crefyddwr ya ceisio diraddio y Hall drwy y drefn ffol hon. D. T. JONES AC AMBR!CA.—Yr ydym wedi derbyn amryw lythyrau gyda yr anican i wyngalchu y bach- gen hwn, ac o blith y cyfry w, ac fel ffrwyth darlleniad manwl o honynt, esgorwyd ar ein hysgrifeglwysigyn y rhifyn presenol. Ond y mae y Jlyth ?rau yn para i ddyfod i mewn—dymaddarn o un o'r rhai diweddaf. Mae yr vsgrifenydd yn proffesu rhoddi hanes ymwel- iad a D.T. Jones mewn clefyd trwm iawn. a bod holl America yn teimio yn berwydd afiechyd D. T. Jones, y Welsh Spurgeon, a'r pregethwr mwyaf ag oedd yn America-un ag oedd wedi tana pob pre- gethwr arall i'r cysgodion, i rhyw le o'rgotwg. Yna mae y frawddeg hon air yn ngair" Rhdddaf yeh- ydig o anes y gymanfa yn y wtad hon y moddion cy- hoeddis fel y canlyn dydd Sadwrn 3 o'r gloch Pre- gethodd P. DaTies Carbond a D. T. Jones Spurgeon am chwech Pregethodd B Bo wen Pilston W Mor^ gan Potsfil Sabboth am 10 Pregethodd J. P. Harris Catorgasa D. T. Jones Spurgeon am 2 Pregethodd D Evans Danvil a J. E. Jones Utica am 6 pregeth- odd D T Jones SDurgeon a Dr. Coloc D.D. New York dydd llun am 10 R Edwards Potsfil a D. T. Jones Spurgeon am 2 Pregethodå B. NickolasBlwrti a J P Harris Catorgas am 6 Pregethodd1 D Bo wen New York a D T Jones Spurgeon ac fe Breath odd D T Jones gydar dylanwad mwyaf angyffredm a welwyd erioed a phan oedd ar ddibenu ei bregetn torodd ei waed allan trwy ei enau ac fe syrthiodd yn farw i freichiau ei frodyr ar y Steg ae fei cari wyd ei i dy Boneddwr yn agos i'r fan Bi yn y cyflwr hwnw am bedair awr o amser." A fydd i raj-obobl y Gymmanfa ein hysbysu ni a chyfeillion y D. T. Jones hwn, faint o wir sydd yn yr uchod, mor bel'l ag y mae yn dal perthynas a D. T. Jones? Credwn ein bod wedi gwueyd digon er gosod yr eglwysi at en gwyliadwriaeth rhag y fath gymmerfad ond os deallwn nad yw hyn yn ddigon, bydd i ni roddi banner dwsiii o'r ffuglythyrau hyn, er i bawb gael gweled hyd a lied y lledrith hwn. h IFOB, Gwaenyrmrlwydd.—1. Yr oedd perffaith hawl gan y gytrinta i geisio gan y claf i gymmeryd ei brofi gan unrhyw feddyg ag oedd y gyfrinfa yn ei ddewis. 2. Nid oes hawl gan ddyn a wrthododd ufydtlhau i gais y gyfrinia ddysgwyl y tal claf o dan y cyfrytv amgylchiadau. 3. Cadw llygad go fanwl ar ei ol, ncu byddweh yn debyg o gael gofid oddiwrth y fath gymmeriad.

AT Y CERDDORION.r

TALIADAU-

PYTHEFNOS.