Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
0. ELUSENDOD THOMAS HOWELL,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
0. ELUSENDOD THOMAS HOWELL, 1540. 0 BWYS I YMNEILLDUWYR CYMRU (Parhad.) Peth o'r pwys mwyaf i'r wlad yw fod ysgolion i ferched yn y cylchoedd mwnawl. Y fain, gan mwyaf, raid addysgu pob plant yn eu cartref eu hun-hi, yn gyffredin, sydd yn prynu i'w theulu, ac yn llywyddu trefniadau ei thy. Os bydd farw y tad, gadewir yr holl deulu yn ymddibynol ar y weddw. Os a y merched i wasanaeth, y mae eu llwyddiant yn gyssylltiedig a'u liyfforddiad boreol; ac os arosant gartref, bydd diogelweh eu personau a'u cymmeriadau yn ymddibynol ar eu dygiad i fyny. Trwy gyfundrefn o addysg gwir effeithiol, a gwell na'r hyn a geir yn bresenol i'r radd weithgar, attelir y drygau yr amcenir eu Ilywodi-aethu 'tan sefydliadau sydd yn awr mor boblogaidd gyda'n hedd-ynadon-sefydliadau er byfiorddiad moesol pobl wedi tyfu i fyny. 0 na allem ddywedyd ar ran ein hunain yr hyn a ddywed Miss Bremer o barthed i ymdrechion o blaid addysg gyffredinol yn yr America .—" Gobeithia y byd newydd adiwygio (yr oes), nid yn gymmaint drwy gapcharau.s thrwy ysgolion, ac yn neillduol drwy ddylanwad cartrefi- pan fyddo pob cartref yr hyn a ddylai fod, a'r hyn yw Uawer cartref eisoes, bydd y gwaith mawr o ddiwygiad wedi ei ddwyn i ben." Bydded i firched a chwiorydd gweithgar cldysgu hoffi glanweithdra, taclusrwydd, a sydd yn cad eu dysgu mewn ysgolion, yna daw gwiagedd a njerched dyn- ion yn athrawesau rhinwedd heb eu toail. Dylid canmolpob ymdrech i wneyd daioni, pa fodd bynag ei ttywyddir yr hyn sydd i'w feip ydyw dewis ychydig wrthddrychau manwl a chyfyngpan fwynheir yn ddiammodol y gallu i wneuthur daioni mawr. Pan soniwyd fod ysgolion i ferched i gael eu sefydlu drwy arian elusendod Howell, tybiwyd mn yr amcan oedd sefydlu, mewn gwirionedd, ysgolion i ferehed-y feth sefydliadau ag a gyfriflr yn ysgolion," mewn dull cyffredin o siafnd. Dy- lasai arian cynnyddol yr elusendod, o ddyddiad yr hysbysiad yn 1838, fod, erbyn y flwyddyn fcon—pe na chodasid yr adeiladau anferth a chostfawr hyn— yn fwy nAX40,000, yn annihynol ar log yr arian cynnyddol; ac hefvd, dvlasai y daered blynyddol fod uwchlaw ^62,000; ac heblaw hyn, dylasai fod daered blynyddol o'r arian a dalwydpan brynwyd v tir tra gwerthfawr, ar yr hwn y saif y Draper's Hall, yn nghyd a gerddr y cyfryw, yr hyn a bryn- wyd gan gwmpeini yr elusendod dan gyfraith Sen- eddol 1846, meddinnt oedd yn Bawer mwy n.£120 yn y flwyddyn (gwel rhan flaenorol o'n hysgrif.) Yr oedd yr arian a dalwyd i'r cwmpeini mewn modd arbenig yn gyftalaf (Capital), ac felly y dylesid cyfrif y funds cynnyddol. Gyda y swm orwycha'dd li(in-a ddylasai ddwyn i mewn O leiaf j&3,500 yn y flwyddyn—gallesid adeiladu o ddeg ar hugain i ddeugain o II ysgolion Howell ar hyd a lied yr flsgobaeth ac os buasai y ddysgeidiaeth ynddynt yn gyffelyb i'r hyn sydd yn ysgolion Wile liam Ellis o Lundain, buasent mewn ychydig o tiynvddau, yn tfynnonell dedwyddwçh diderfyn i filoedd o bersoriau. Yr oedd y daered blynyddol yn ddigonot i ganiatau i feistresi y cyfryw ysgolion, nid y tal tlaw{l a roddir i dy-olyges, ond cyflogau da a chymhwys, cydweddol a'rcymhwysderauuchet a chyfaddas a ddylai y cyfryw eu riteddiannu. Pte gwwthredid yn unol ag amcan o'r fath yma, yn fuan arbedid lluaws o wragedd a merched Morganwg a Mynwy rhag y trueni sydd yn syrthio i ran yr an. llythyrenog. PI1 beth sydd genym yn awr? O'r braidd y gellir ymgadw rhag ymadroddion 0 ddiglloneild dwys o berthynas i'r modd y gwariwyd arian yr elusendod. Yn ol y ddeddf Seneddol, darperir fod ysgolion i gael eu sefydlu yn esgobaeth Ltandaf. Esboniwyd y gyfraith fel pe golygai codiad yr adeilad gorwych ac anferth sydd yn yinddyrchafu uwch ucheldir Llandaf. Golyga y gair "ysgolion" fod Ilawer o bersonau i gael eu haddysgu mewn niwy nag un ysgol. Y sefydliad yn Llandaf yw yr unig ysgol o fewn esgobaeth Llandaf, yr esgobaetb yn mha un y gorchymynwyd adeiladu "ysgolitm," ac nid yw hon yn agored ond i nifer gyfyngedig o ferched. Heblaw hyn, esboniwyd yr ymadrodd yn y ddeddf, nad oes ond un ysgol i gael ei sefydlu y tu allan i derfynau yr esgobaeth, fel pe golygai sefydliad adeilad mawr a chostfawr yn N gogledd Cymru, yn gyffelyb i'r hwn yn Llandaf, yr hwn a gymmer hanner gweddill arian yr elusendod idd ei gynnal yn y blaen. Mewn ymarferiad rhenir y daered, pan nas gatlai fod bwriad i'w ranu, ac ym- ddengys i eiriau arbenig y ddeddf Seneddol gael eu hesbonio yn y fath fodd ag i bleidio y casgliadau mwyaf afresymol, a'r gwastraff mwyafdiofal o funds yr elusendod. Ceir esgusawd mewn rhan am yr hyn a wnaed drwy ddefnydd o'r gair in- mates yn y ddeddf, ond rhaid yw estyn y oerydda riodir at y cynllmi a wnaed yn sylfaen y ddeddf, yn o gystal ag at y cynllun sydd, fel yr honir, yn gosod Ymddengys i'r cyssodydd adael allan rbyw air a ddylai fod yn y fan yma.—CYF.
ATHROFEYDDY BEDYDDWYR YN SIR…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Yn y fl. 1752 cawn ef yn Nhrosnant; ac yn fuan ar ol hyn, cawn ef ar annoeaeth a chynnnrthwy ei ben weinidog Mr. Griffith Davies, Abertawe, o dan ofal Foskett ac Evans yn Mrystau, Cafodd alwad i weinidogaethu yn Mhrystau, ond gwrthodndd. Cymmerodd ofal Eglwys Horsley, Glo'ster,yn 1758. Cafodd ei fendithio a'i brofi yno, a bu yno yn llwyddiannus hyd ei farwolaeth. Yr oedd ei glod yn fawr fel pregethwr ae fel bardd—yr enwog Ben- jamin Francis. MR. THOMAS LEWIS. Aelod o Eglwys Beny- garn, a. mab i chwaer Miles Harry, oedd efe. Bed- yddiwyd ef o gylch 1752, adechreuodd bregethu yn fuan iawn a gosodwyd ef yn Athrofa Trosnant Bu ynt&u hefyd yn Mrystau, er mwvn ychwaneg o hvfforddiad a dysg. Bu yn gweinidogaethu yn Tiverton, Devon, ac yn Exeter. Bu farw yn 1774. Dywedir ei fod yn weinidog deallus, doniol, a go- heithiol iawn ond cafodd ei dori i lawr gan angeu yn mlodau ei ddyddiau, wedi bod vn y weinidogaeth 20 tnlvnedd. MR. DL. THOMAS, o Gaerfyrddin. Yr oedd ef o deulu lied gvfrifol; a fagwyd yn mhlith y Meth- odistiaid. ac a fu yn ysgolfeistr ac yn bregethwr perthynol i'r Methodistiaidyn Swydd Fynwy ac yn Ngogledd Cymru am beth amser. Tra yn y Gog- ledd, curwyd.a chlwyfwyd, ac anraherchwyd ef yn fawr un tro gan elyniori croes Crist, a bu yn agos a cbolli ei fywyd. Bu yn afiach dros weddill ei oes yn herwydd hyn. Newidiodd ei farn am yr ordin- had o fedydd; ac yn y fl. 1753, bedyddiwyd ef gan Miles Hairy yn Mhenygarn. Wedi bod yn Athrofa Trosnant am beth amser, ymsefvdlodd ar eglwys Bridgenortb, lie y bu am 8 ml. Wedi hyny, cym- merodd ofal eglwys Moreton, Hampstead, Devon. Yn y fl. 1761, cawn ef yn weinidog ar eglw Hanley, Warwick. Bu farw yno yn y fl. 1769, yn 49 oed. MR. CHARLES HARRIS. Aelod o Benygarn. Bedyddiwyd ef yn y fl. 1755. Wedi treulio tymhor ei etrydiaeth yn Nhrosnant, aeth i Frystau, at Foskett ac Evans. Bu yn gweinidogaethu yn Bridgewater. Ordeiniwyd ef yn 1762; a bu farw yn 1775, yn 59 oed. MR. BENJAMIN MORGAN, | DDAU OSIRBENFRO. MR. SAMUEL GRIFFITHS ) } Daeth y ddau hyn Drosnant yn y,fl 1761, er mwyn cael eu haddysgu a'u parotoi i'r weinidogaeth ond yn fuan iawn wedi bod, ymadawsant i Frystau at Foskett ac Evans. Digalonodd hyn swyddwyr Ysgol Trosnant yn fawr ond ni roddasant eu hamcan i fyny, ond annogasant ereill i gymmeryd lie y ddau wr ieuane uchod. Derbyniodd yr olaf o'r ddau uchod alwad i fugeilio eglwys Caerlleon-ar- wysg, tra yr oedd yn Mrystau. Yr oedd yn wr ieuane o alluoedd meddyliol cryfion, ac yn addaw bod yn ddyn tra defnyddiol; ond cyn bod amser ei efrydiaeth ar ben, bu farw Mr. Thos. Phillips. Efe oedd y nesaf a ddaeth i Athrofa Trosnant. Aelod oedd ef o Benygarn, ac efe fu yn weinidog cyntaf Caerlleon-ar-wvsg. Ordeiniwyd ef yn 1772, ar y 25ain o fis Mawrth. Bu yno yn barchus a def- nyddiol hyd y fl. 1778, pryd y symudodd i gytn- irieryd gofal eglwys Abertawe. Efe ydoedd fugail cyntaf eglwys Abertawe, na fagwyd ynddi a chanddi hi ei hun. Bu farw yn y fl. 1792. MR. GEORGE WATKINS. Yroedd ef yn Ysgol Trosnant ar yr un adeg a Mr. Phillips. Derbyn- iodd ef alwad i cgJwys Capelvffin, a bu yn llafurus, ffyddlawn, a llwyddiannus yno hyd ei farw yn 1823, wedi bod yn y weinidogaeth am 58 mI. Yn y mis- oedd olaf o'i fywyd, dyrnunai ar bobl ei ofal ei gladdu wrth ddrws y capel, fel y byddai iddynt wrth fyned i mewn gofio y cynghorion, y rhybyddion, a'r gwahoddiadau oeddeut wedi gael ganddo ef. MR. DAVID JONES. Ganwyd ef yn y fl. 1741, yn Nghwmaman, Sir Gaerfyrddin. Bedyddiwyd ef gan Miles Harry yn Mhenygarn. Ordeiniwyd ef yn gyd-weinidog a Mr. Miles Harry, ryw 3 mlynedd cyn marw Mr. Harry. Bu yno am 10 ml. Ym. adawodd a Phenygarn, ac aeth i fywyn agos i Gas- tellnewvdd. Bu farw yn 1792, yn 51 oed. "Yr oedd Mr. Jones yn un o'r pregethwyr mwyaf doniol a phoblogaidd yn ei oes, a bu yn un o'r jofferynau mwyaf eyffrous i ddihuno eglwysi y Bedyddwyr c'u cysgadrwydd, ac o'r hen ddull mar- waidd ag oeddynt wedi syrthio iddo yr amser hwnw, a chario yn mlaen y diwygiad eyffredin a dorodd allan yn ei ddyddiau ef." MR. MILES EDWARDS. Mab ydoedd ef i Mr. Thomas Edwards, o Flaenau Gwent. Bedyddiwyd ef pan yn dra ieuanc, a chvmmerodd ei aelodiaeth yn Mhenygarn. Dechreuodd bregethu tua'r fl. 1766. Yr oedd gan Mr. Miles Harry olwg fawr iawn arno fel gwr ieuanc gobeithiol. Wedi bod yn ysgol Trosnant am ryw gymmaint o amser, aeth drosodd i Frystau. Gallasai bregethu yn rliwvdd yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ordeiniwyd ef yn weinidog yn Methesda, Bassaleg, a bu offerynol i gasglu yn nghyd eglwys y Wern yn 1776. MR. SAMUEL EVANS. Aelod oedd ef o eglwys Aberduar, ac a fedyddiwyd yno yn un o 60 yn y fl. 1762. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn gan ynol, ac aeth i Drosnant. Wedi bod yno am ryw nifer o fisoedd, aeth i Frystau at Foskett ac Evans. Bu yno hyd ddechreu 1768, pan y cymmerodd ofal eglwys Croesgwm, yn Ngwlad-yr-haf. Bu wedi hyny yn Romsey, Cirencester, Wantage, a Downton. Bu rhyw ddau yn Nhrosnant ar ol y rhai hyn ond mae'n debyg na ddaethant i fyny i ddysgwyliad cefnogwyr y sefydliad ac. am hyny, rhoddwyd i fyny yn llwyr gynnal yr Athrofa. Cefnogwyr penaf y Sefydliad, gallem feddwl, oedd eglwys barchus Penygarn a'i gweioidog Jlafurus, Mr. Miles Harry. "Gwyn fyd na fyddai i'n gweinidogion a'n heglwysi ddwyn banner cymmaint o setdros egwyddori ac addysgu ein gwyr ieuainc ag eglwys Penygarn, a'i gweinidog gynt. Mae'n dda genyf gael ar ddeall fod Mr. Price, Aberdar, ac Eglwys Calfaria, sydd dan ei ofal, yn gwneyd rhywbeth tebyg. Mewn un balance-sheet a gyhoeddasantyn SEREN CYMRU, canfyddais fod yr eglwys yn casglu arian at ryw gymdeithas yn eu plith a alwent yn "Famaeth y Prophwydi." Rhyw dro yn ol, ymholais a thrys- orydd Eglwys Calfaria, beth a feddylient wrth y peth, pan yrhoddodd ar ddeall i mi eu bod hwy yn Mhen-y-pound yn casglu yn eu plith eu hunain tnag'at helpu bee) gyn ieuainc yn eu heglwysi a ym- roddent i'r gwaith o efengylu. Rhwydd hynt i chwi, frodyr yn Aberdar, a bendith y Nef areich ymdrechion. O.Y. Yn yr ysgrifau hyn, yr wyf wedi ymgyng- hori a'r llyfrau canlyool :-Hengoediana, Hanes y Bedyddwyr, Hanes y Cymmanfaoedd, Pregeth W. Jones i Fvfyrwyr y Fenni, 1830, a Serejt Gomer am y fl. 1856, &c. Yr ysgrif nesaf ar Hanes Athrofa y Fenni.