Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
BRAWDLYS SIR BENFRO.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BRAWDLYS SIR BENFRO. Agorwyd brawdlys y sir hon gerbron y Barwn Wylde, dydd Mawrth, y 25ain o Chwefror, a phrof. wyd y carcharorion canlynol :-J.ohn O'Niel a George Dixon, dau filwr, am ledrata arian, te, &c., osiop Jas. Glanville, Penfro,—tair blynedd o lafur cospawl.-Frederick Lyons, morwr, a gyhuddid o frathu Edward Grumble, cadben Hong. Gan na ddaetli y cadben yn mlaen, rhyddhawyd ef.—Dan- iel Picton, a gyhuddid o ledrata defaid, eiddo George Perkins, Trefia, Llandeloy. Cafwyd ef yn euog, a dedfrydwyd ef i 12 mis o galedwaith. Ni ddygwyd yr achos rhwng Mr. Lewis o Hen- Han a'r Bedyddwyr yn nghyleb mynwent Trefangor yn miaen y trohwn fel y bwriadwyd. Y mae wedi cael ei ohirio hyd y nesaf. Nid oedd achos y go. hiriad o du y Bedyddwyr; ni ddarfu Mr. Lewis roddi rhybydd prydlawn o'rprawf.
SIR ABERTEIFI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SIR ABERTEIFI. Agorwyilllirawdlys v sir ûehod yn neuadd y sir, Aberteifi, dyJd Mawrth, Mawrth 4ydd, gerbron y fikrwh Wilde, pryd y profwyd y carcharorion carilynol Mary Williams, gweddw, 40 mlwydd oed, a gy- hudd'wyd o lofruddio ei phlentyn yn wirfoddol, yn mhiwyf Llanfibàngel-ysttad, ar y 22ain o fis Gor- fihenaf, 1861. Cafwyd hi yn euog d ghddio gen- èdigaeth ei phlentyn, a dedfrydwyd hi i garchar am 9 mis. Addefodd Elizabeth Davies, nyddwraig, 40 inlwydd oed, ei bod yn euog o guddio genedigaeth ei phlentyn, a dedfrydwyd hi i garchar am 4 mis. David Jones, gweithiwr, 22, mlwydd oed, a gy. huddwyd o fod yn ei feddiaut wahanol ffug-fath- itidau arianol. Addtifodd ei fod yn euog, a ded- frydwyd ef i dair blynedd o lafur cospawl. George Mire, neu Myers, morwr, 19 oed, a gy. huddwyd o ddwyn par. o flancedau, gwertb 10s., eiddo Thomaa .Williams, Abenteifi, ar y 15fed o Chwefror diweddaf. Cafodd y rheithwyr ef yn euog, a chan fod cospedigaeth flaenorol wedi cael ei phrofi yn ei erbyn, decffrydwyd efi bedair blyriedd 0 lafur cospa,wi., I. David Evans,[teiliwr, 36 oed, am ddwy n un pocket book a phehcil," gwferth Is., a 3 o nodau banc, o werth £ 5 yr un, eiddo Owen Edward Williams, Aberteifi, ar y I7eg o Chwefroi- diweddaf. Cafwyd ef yn euog, a dedfryd wyd ef i garchar am 3 mis. Yr oedd yma hsfyd achos cyfreithiol rhwng Evans v. Evans, er adferu fferm o'r enw Penrhyn- hir, yn mhiwyf Llanfihangel-y-Croiddyn-ucba, yr hir, yn mhiwyf Llanfihangel-y-Croiddyn-ucba, yr hon'a haerai |r achwynwr fod ganddo haw'l iddi fel etifedd iV ddiweddar dadcu Evan Evans. Ar ol i ddau dyst gardeu arholi, daethpwyd a'r pwnc i benderfyniad.
BRAWDLYS SIR GAERFYRtlDIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BRAWDLYS SIR GAERFYRtlDIN. Agorwyd brawdlys i air hon gerbron y Barwn Wytde, yn nhref Caerfyrddin, ar ddydd Gwener, Mawrth 6fed, a phrofwyd y carcharorion canlynol: Rhyddhawyd Jane Evans, a gyhuddid o guddio genedigaeth ei phlentyn, a John Lewis a David Jones,, a gyhuddid o ledrata defaid. Evan Evana ac Evan Davies, am dori i dy Wit- liam Williams, Penarthur, Llangadog, a lledratn pocket-book, yn cynnwys arian, cig, ac amryw bethau ereill, ar yr 28ain o Fedi diweddaf. Cafwyd hwy yn euog. Dedfryd,tri mis o garchariad. Daniel Jones, a gyhuddid o ledrata a lhori ewyllys ei dad, John Jones, Bwlchyctawdd, yn eghvya Llangeler, gyda'r amcan o golledu ei fain, Mary Jones, ar y 17eg-o Hydref diweddaf. Hol. wydamryw dystion ar y mater, a phrofwyd i'r carcharor, pan yr oedd yr ewyllys yn cael ei ddar. lien yu yr eglwys, ar ddvdd yr angla(ld, gydio ynddo, a'i dori yn dipiau man a hyny, fel ycredid, o herwydd ei anfoddlonrwydd i'w gyunwysiad. Cafodd y rheithwyr y carcharor yn euog, a dedfryd- wyd ef i 15 mis o garchar a chaledwaith. William David, a gyhuddid o briodi dwy wraig, ^ryijdjiawyd. Terfynodd hyn weithrediadau y 11111.. iii.
SIR FORGANWG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SIR FORGANWG. Agorwyd brawdlys Morganwg yn Abertawe, gerbron yr un barnwr dysgedig, dydd Llun, Mawrth lOfed, a phrofwyd y carcharorion canlynol:- Frederick Stanley, a gyfaddefodd ei fod yn euog b ledrata hugan, a pbethau ereill, eiddo William Rutherford. Gohiriwyd y ddedfryd. John Jones, alias Kelly, alias Green, a gafwyd yn eujg o dydoriad yn Mhontypridd. Dedfryd,- 15 mlynedd o lafur cospawl. Catherine Lewis a gyfaddefodd ei bod yri euog o ledrata torth o fara yn Nghastellnedd. Gohiriwyd y ddedfryd. Stephen Anderson a gyhuddid a dydoriad, a ryddhawyd. Martin O'Connell a Patrick Quin, a gyhuddid o dder.byn corn o liain, gan wybod mai lledrad oedd. Cafwyd O'Connell yn euog, a dedfrydwyd ef i bedwar mis o garchar. Rhyddhawyd Quin. Cyfaddefodd y personau canlynol eu bod yn euog o'r cyhuddiadau a ddygid i'w herbyn :—Esther Devereux, am niweidio eiddo perthynol i Henry Davies, Abertawe,— dau fas o garchariad.—Edward David, am ledrata hwyad, eiddo tlenry Edwards, Penline, — chwech iriis o garch triad. — Robert Heatley, John Clark, a Wm. Lane, aui ledrata moch, eiddo Llewelyn Wellington,—mis o garchar- iad.— John Powell, am anafu Rebecca Parker, yn Nghaerdydd, — dau fis o garchariad.— Edward Thomas, am ledrata dau ferlad a phedair hwyad, eiddo John Stephens, Abertawe,—dau fis o gar- chariad.— Thotnas Baker, am ledrad,—dau fis o garchariad.— Patrick M'Carthy, am ledrad,-naw mis o garchariud. Dynladdiadyn Aberdar. Thomas Carroll, 38 oed, a gyhuddid o lofruddio un Patrick Brandsfield, yn Aberdar, ar yr 16etr 0 lonawr diweddaf, drwy ei frathu a chyllell. Hol- wyd amryw dystion ar y mater; orid gan fod yr hanes wedi ymddangos yn y SEREN ychydig amser yn ol, ni atebai un dyben i'w osod yma etto. Caf- vvyd ef yn euog, a dedfrydwyd ef i ugain mlyneddo lafur cospawl. John Williams, am ledrata iar, eiddo John Smith, Merthyr Tydfil,-tri mis o garchariad. Johannah Sullivan, am ledrata oriawr, aphethau ereill, oddiar berson John Wilde, mewn t9 drwg yn Nghaerdydd,—tair blynedd o lafur cospawl. Caroline Brown, am ledrata arian oddiar berson Joseph Brown, morwr, yn Nghastellnedd, ar y 9led o Fawrth,—tri mis o garchariad. Patrick Sullivan, John Oborn, a Wm. Brian, a gyhuddid o ledrata arian, eiddo John Hugh. Caf- wyd Sullivan ae Oborn yn euog, a dedfrydwyd y blaenafi 15 mis, a'r olafi 12 mis o garchariad. Aaron Jenkins, a gyhuddid o ledrata astell, a ryddhawyd. Yr oedd yma amryw gwynion cyfreithiol; ond y mwyaf hynod oedd yr un a ddygwyd gan Mr. Lewis Jenkins, Aberaman, yn erbyn Crawshay Bailey, Ysw., A.S., er codi y swin o iJ358 8s. 4c., dyledus, fel y dywedai yr erlynydd, am gwrw a roddodd ef i weithwyr Mr. Bailey. Honai yr amdditfynydd fod y swm wedi myned dros ben ei orchymyn ef, ac, o ganlyniad, nad oedd yn iawn iddo ei datu. Holwyd amryw dystion ar y mater, a dygodd y rhetthwyry farn o blaid yr amddiffynydd.
Y FFRWYDRIAD YN NGWAITH GLO…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y FFRWYDRIAD YN NGWAITH GLO CETHIN. Y mae y trenglioliad ar gyrtF y trueiniaid a gollasant eu bywydau yn y gwaitli hwn, wedi wyth diwrnod o ymholiad, wedi ei ddwyn i der- fyniad. Dygwyd y rlieithfarn o ddynladdiad yn erbyn John Moody. Gosodwn yma y ddedfryd yn ngeiriau llywydd y trengholiad:- "That in the enquiry into the cause of the death of Samuel Jones and others, at the Gethiu Colliery, we find,- 1st.—That the Ventilation of No. 1 Gethin Pit was deficient in quantity, badly arranged, and liable to frequent interruptions; 2ndly.-That the Viewer disregarded the 1st General Rule, and also permitted the Special Rules 16, 18, 24, 26, 31, 34, 37, and 63, to be generally disregarded by his Officers." Gan fod y ddedfryd hon yr un a dynladdiad yn erbyn yr arolygwr John Moody, dedfrydwyd ef i sdfyll ei brawf yn y brawdlys nesaf; ond cafodd ei ryddhau ar feichafon, ei bun mewu jEtOO, a Mr. Laverick a Mr. Kelly mewn R50 yr un. Araf y mae y tanysgrifiadau tnag at gynnor- thwyo y gweddwon a'ra..lIiditaid yn dyfod i mewn. Dywedir y dylid cael £6,000; ond nid oeS etto ond prin £ 3,000 mewn Haw. Gobeithiwn y dan- gosa ein cydwladwyr eu cydymdeimlad yn y mater teilwng hwn, drwy wneyd casgliadan dioed yn etl cymmydogaethan.
COFADAIL Y TYWYSOG ALBERT.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
COFADAIL Y TYWYSOG ALBERT. Ar ddechreu y flwyddyn bresenol, mewn can* lyniad i gyfarfod a gynnaliwyd yn y Mansion House, Llundain, dan lywyddiaeth yr Arglwydd Faer, penderfynwyd ar fod trysorfa i gael el chychwyn er codi Cofadail i'r Tywysog Albert, diweddar gydwedd anwyl ein Brenines, yr hwn ya awrsyddwedicaeiyr enw, Albert the Good." Y mae yn dda genym ganfod fod y d rysorfa eisoe" wedi cyrhaedd y swm o dros ddeugain mil o bunnau. Fodd bynag, gan y bwriedir i'r Gof* adail fod yn deilwng o'r Tywysog Cydweddog, yo deilwng o'i iiriod, ac yn deilwng o deyrnas Pryd- ain Fawr, ymddengys nad ywy swm a nodwyd ond banner digon i ddwyn y draul. OsEnsK, math o adail bon-giaff-brigfain,ywy gofgolofn i fod; a'i man, neu yn agosiawn i'r fan, y safai Palas Crisial 1851, y mae i gael ei chadt. Mae ei Mawrhydi wedi dewis pedwar o bersonau i'w chynnorthwyo, ac i weithredu fel Pwyl|gor ar fater yr Obelisk, sef larn Derby, Iarll Clarendon, Arglwydd Faer Llundain, a Syr Charles Eastlake, llywydd y Royal Academy. Gwaith cyntaf y Pwyllgor hwn oedd gwneyd ymchwiliadau am gareg. Yn ypwyllgor a gynnaliwyd ganddyot ddydd Gwener cyn y diweddaf, hysbyswyd hwy am ddernyno red granite, yn mesur cant a chwe troedfedd, wrth tua deuddeg ysgwar. Y mae'r dernyn hwnw yn un o gloddfeydd granite y Duke of Argyle. yn Mull, un o ynysoedd Ysgotland. Y mae ei arglwyddiaeth wedi cynnyg y dernyn careg, a byddai yn ddiammhen yn falch iawn o'r anrhydedd o'i gyflwyno at y fath wasanaeth an- rhydeddus. Y mae'r Mull Granite Company Quarries, pa rai sydd yn y gymmydogaelh hono, yn cynnyg cloddio y gareg allan, a'i llunio, a'i dwyn i lan y mdr, am bumtheg mil o bnnnau; a'i llyfnhau am ddeg mil o bnnnau yu ychwaneg. Dywed Mr. Marshall, na fydd y gareg wedi ei llyfnhau cyn (liwedd haf 1863.
Y WYDDFA FRENINOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y WYDDFA FRENINOL. Dydd Sadwrn, Mawrth 15fed, gnsododd ei Mawr- hydi y Frenines y gareg gyntaf o Wyddfu yn Ngerddi Fragmore, yn mila un y gosodir gweddilljon ei hanwyl briod, v Tywysog Cydweddog, ac yn y diwedd oi gweddillion hi ei hun. Wrth gyflawnu y weithred garedighon, amgylchynid ei Mawrhydi gan ei phlant sydd yn awr yn Lloegr, Jf" nghyd a'r boneddigion a'r boneddigesau perthynol i'r teulu breninol. Wedi gosod y gareg sylfaen, adroddwyd gweddi gan Deon Windsor, gun ofyn bendith Duw ar y gwaitb. Y mae yr ysgrifen ganlynol ar y gareg The foundation stone of this building, erected by QIleen Victoria in pious rememberance of her great and good husband, was laid by her the 15th of March, A. D., 1862. 4 Blessed are they that sleep in the Lord.' Y mae yr adeilad i gael ei godi dan arolygiaeth Mr A. J. Humbert, a bydd i'r safddelw o'r Tywysog* gael ei gwneyd gan y Barwn Marochetti.